Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Ar Lannau Tawe.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ar Lannau Tawe. Claddwyd y ddiweddar chwaer Mrs. Diana Williams, priod Mr. William T. Williams, o Heol Beth- ania, Clydach, ym Mynwent Beth- ania, prynhawn Iau diweddaf. Chwaer adnabyddus oedd hi, a blin calon ydyw meddwl na welwn ei hwyneb mwy. Mam oedd i'r pre- gethwr swynol y Parch. John W. Williams, o Gaergybi. Daeth cyn- hulliad Iluosog o dylwyth, gweini- dogion, a chyfeillion ynghyd, a chafodd angladd tra pharchus. Gwasanaethodd y Parchedigion T. Valentine Evans, Calfaria, a D. Eiddig Jones, Hebron, yn y capel, a'r Parch. W. R. Watkin, M.A. ar lan y bedd. Sylwais fod y Parch- edigion J. Tywi Jones, j Glais; Thomas Thomas, Y nysta we, a Rhys Lewis, Craigcefnparc, hefyd yn bresennol. Cydymdeimlwn o galon a'r hen frawd a'r teulu yn eu trallod. Agorwyd Neuadd Newydd i'r Eglwys Wladol yng Nghlydach prynhawn y Mercher diweddaf gan y fones Elaine Jenkins, merch i frodor o'r lie, sef Arglwydd Glan- tawe. Costiodd yr adeilad newydd 14,520, ond casglwyd eisoes tuag at y draul £ 3,270. Cynhaliwyd heblaw, Nodachfa (bazaar) yn y Neuadd am ddau ddiwrnod, pan ddaeth tyrfa ynghyd. Agorwyd ef ddydd Iau gan Mrs. H. N. Miers, o Ynyspenllwch. Derbyniwyd drwy werthu yn unig y swm o f-385. Disgwylir derbyn dros £"00, pan ddaw'r holl gyfrifon i law. Clywaf siomi y Clydach R.A.O.B. yr wythnos ddiweddaf. Disgwyl- ient i Arglwydd Glantawe ymweled a hwy er mwyn ei wneuthur yn aelod o'r Buffs." Ond ni ddi- gwyddodd fel y gobeithid. Digwyddodd damwain dost i Mr. Elias Williams, o Nantymilwr, ddechreu'r v ythnos ddiweddaf Clywaf i ryw ddyn ymosod arno pan ar ei ffordd adre o Langyfelach, a'r canlyniad fu i Mr. Williams golli un o'i lygaid, ac y mae ar hyn o bryd yn gorwedd yn yr Ysbyty. Cynhaliwyd cyfarfod amryw- iaethol dymunol iawn yn Ysgoldy Cangen Hebron, Ynystawe, pry- nhawn y Sul o'r blaen. I lywydd- odd y Parch. D. Eiddig Jones, ac aed trwy raglen ddiddorol iawn. LLEW. I

Eisteddfod Gadeiriol Neuadd…

[No title]

IEisteddfod Caerffili, Llungwyn,…

Bwrdd y Golygydd. I

Hysbysiad.

[No title]

0 Bant I Bentan.I

Colofn y Gohebiaethau. I

ISefydlu y Parch W. R. I Jones…

Nodion o'r Maerdy.

I Barddoniaeth. !

- 1 ' I Airwann.

Gofynnwch f-eh Cymdogion.