Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Ar Lannau Tawe.

Eisteddfod Gadeiriol Neuadd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Gadeiriol Neuadd Gyhoeddus Pontardawe. Dymuna ysgrifenyddion Eisteddfod Gadeiriol Neuadd Gyhoeddus arnom 1 hysbysu fod y cyfansoddiadau canlynol wedi dyfod i law:— Pryddest: Bugail y Mynydd, Wrth y Ser, Pleiades, Egwan, Siluriad, Eco'r Dyfnder, Seren Fore, Llais o'r Myn- ydd, Gobaith Da-9. Cywydd Arthur, Hen Fardd, Alltyd, Dyn Gwlad, Y Dryw Bach, Hen Wr Cloff, Rhwng Lluniau'r Clawdd, Hen Gloddiwr, Awel Lon, Llywel, Macwy'r Maes, Cloddiwr, Y Gwas Bach-12. Telynegion: Meudwy'r Maes, Awel Awst, Tant yr Awel, Garth Gwyn, Mehefin Gwyn, Dan y Ddarren, Se- same, Delfryn—8. Englynion: Y Dryw Bach, Cunedda, Glan y Mor, Ap Craig, Hu Gadarn, Pwy Wyr ei Lam, Gellygron, Y Pren Derw, Cysgod y Graig, Ap Ceridwen, Mab y Wawr, Y Craig Gref, Twrch a Tawe, Creigiwr, Simeon, Cloddiwr, Pwy a'm Gwared, Ephraim, Ai dyma fe, Epaphras-20. Drama: Cardi, Cwm y Lien, Aes- chylus, Huwco, Peradur, Mab y Myn- ydd, Ednyfed-7. Dadl: Pyrr, Hogyn Penlwyd, Dyled- wr i'r Ysgol Sul, Glana y Don, Abra- ham, Dan, Idwal Dafydd, Aden Lesg, Llywarch, Dorcas, Awel o'r Bryn, Gelyn Die Shon Dafydd, Cymro, Jon :f. Huw. Caswallon, Sypyn Cyfeiliog-17. Part Song composiflon: Lochinvar, Tudwr, Glyndwr, Dulciana, Mab y Llan, Nil Desperandum, Esthonia, Ap Thomas, Giraldus, Silurian Marcus, Mab y Mynydd, Raff, Martin, Mari Mor, Mansel, D. T.J., Fuga—18. Miss M. J. Francis ("Llaethferch"), Ynismeudwy, fydd yn cloriannu yr adroddwyr, ac nid Mr J. Elias Hughes, Llanelli. Nis gallai y pwyllgor ddewis neb yn fwy teilwng. oblegid os gwyr rhyw un beth yw adrodd, Miss Francis yw hono. Y Sadwrn nesaf (Mehefin 20fed) y bydd eisteddfod fawr perthynol i'r Neu- add Gyhoeddus. Mae argoelion am eisteddfod gampus eleni eto. Mae naw o bryddestau, deuddeg cywydd, wyth telyneg, ugain o englynion, saith drama, dwy-ar-bymtheg o ddadleuon, a deunaw o gyfansoddiadau cerddorol mewn Haw. Basgeded go dda o gyf- ansoddiadau i'r beirniaid fyned trwy- ddynt. Pwy gadeirir, tybed 1 Mae yr ysgrifenyddion wedi bod wrthi yn brysur gyda cheisio cael corau 1 gystadlu yn yr eisteddfod y Sadwrn nesaf. Deallwn ei fod wedi llwyddo tu hwnt i'r disgwyliad, a sicrheir ni y bydd yna gystadleuaeth frwd rhwng y gwahanol gorau.

[No title]

IEisteddfod Caerffili, Llungwyn,…

Bwrdd y Golygydd. I

Hysbysiad.

[No title]

0 Bant I Bentan.I

Colofn y Gohebiaethau. I

ISefydlu y Parch W. R. I Jones…

Nodion o'r Maerdy.

I Barddoniaeth. !

- 1 ' I Airwann.

Gofynnwch f-eh Cymdogion.