Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Ar Lannau Tawe.
Ar Lannau Tawe. Claddwyd y ddiweddar chwaer Mrs. Diana Williams, priod Mr. William T. Williams, o Heol Beth- ania, Clydach, ym Mynwent Beth- ania, prynhawn Iau diweddaf. Chwaer adnabyddus oedd hi, a blin calon ydyw meddwl na welwn ei hwyneb mwy. Mam oedd i'r pre- gethwr swynol y Parch. John W. Williams, o Gaergybi. Daeth cyn- hulliad Iluosog o dylwyth, gweini- dogion, a chyfeillion ynghyd, a chafodd angladd tra pharchus. Gwasanaethodd y Parchedigion T. Valentine Evans, Calfaria, a D. Eiddig Jones, Hebron, yn y capel, a'r Parch. W. R. Watkin, M.A. ar lan y bedd. Sylwais fod y Parch- edigion J. Tywi Jones, j Glais; Thomas Thomas, Y nysta we, a Rhys Lewis, Craigcefnparc, hefyd yn bresennol. Cydymdeimlwn o galon a'r hen frawd a'r teulu yn eu trallod. Agorwyd Neuadd Newydd i'r Eglwys Wladol yng Nghlydach prynhawn y Mercher diweddaf gan y fones Elaine Jenkins, merch i frodor o'r lie, sef Arglwydd Glan- tawe. Costiodd yr adeilad newydd 14,520, ond casglwyd eisoes tuag at y draul £ 3,270. Cynhaliwyd heblaw, Nodachfa (bazaar) yn y Neuadd am ddau ddiwrnod, pan ddaeth tyrfa ynghyd. Agorwyd ef ddydd Iau gan Mrs. H. N. Miers, o Ynyspenllwch. Derbyniwyd drwy werthu yn unig y swm o f-385. Disgwylir derbyn dros £"00, pan ddaw'r holl gyfrifon i law. Clywaf siomi y Clydach R.A.O.B. yr wythnos ddiweddaf. Disgwyl- ient i Arglwydd Glantawe ymweled a hwy er mwyn ei wneuthur yn aelod o'r Buffs." Ond ni ddi- gwyddodd fel y gobeithid. Digwyddodd damwain dost i Mr. Elias Williams, o Nantymilwr, ddechreu'r v ythnos ddiweddaf Clywaf i ryw ddyn ymosod arno pan ar ei ffordd adre o Langyfelach, a'r canlyniad fu i Mr. Williams golli un o'i lygaid, ac y mae ar hyn o bryd yn gorwedd yn yr Ysbyty. Cynhaliwyd cyfarfod amryw- iaethol dymunol iawn yn Ysgoldy Cangen Hebron, Ynystawe, pry- nhawn y Sul o'r blaen. I lywydd- odd y Parch. D. Eiddig Jones, ac aed trwy raglen ddiddorol iawn. LLEW. I
Eisteddfod Gadeiriol Neuadd…
Eisteddfod Gadeiriol Neuadd Gyhoeddus Pontardawe. Dymuna ysgrifenyddion Eisteddfod Gadeiriol Neuadd Gyhoeddus arnom 1 hysbysu fod y cyfansoddiadau canlynol wedi dyfod i law:— Pryddest: Bugail y Mynydd, Wrth y Ser, Pleiades, Egwan, Siluriad, Eco'r Dyfnder, Seren Fore, Llais o'r Myn- ydd, Gobaith Da-9. Cywydd Arthur, Hen Fardd, Alltyd, Dyn Gwlad, Y Dryw Bach, Hen Wr Cloff, Rhwng Lluniau'r Clawdd, Hen Gloddiwr, Awel Lon, Llywel, Macwy'r Maes, Cloddiwr, Y Gwas Bach-12. Telynegion: Meudwy'r Maes, Awel Awst, Tant yr Awel, Garth Gwyn, Mehefin Gwyn, Dan y Ddarren, Se- same, Delfryn—8. Englynion: Y Dryw Bach, Cunedda, Glan y Mor, Ap Craig, Hu Gadarn, Pwy Wyr ei Lam, Gellygron, Y Pren Derw, Cysgod y Graig, Ap Ceridwen, Mab y Wawr, Y Craig Gref, Twrch a Tawe, Creigiwr, Simeon, Cloddiwr, Pwy a'm Gwared, Ephraim, Ai dyma fe, Epaphras-20. Drama: Cardi, Cwm y Lien, Aes- chylus, Huwco, Peradur, Mab y Myn- ydd, Ednyfed-7. Dadl: Pyrr, Hogyn Penlwyd, Dyled- wr i'r Ysgol Sul, Glana y Don, Abra- ham, Dan, Idwal Dafydd, Aden Lesg, Llywarch, Dorcas, Awel o'r Bryn, Gelyn Die Shon Dafydd, Cymro, Jon :f. Huw. Caswallon, Sypyn Cyfeiliog-17. Part Song composiflon: Lochinvar, Tudwr, Glyndwr, Dulciana, Mab y Llan, Nil Desperandum, Esthonia, Ap Thomas, Giraldus, Silurian Marcus, Mab y Mynydd, Raff, Martin, Mari Mor, Mansel, D. T.J., Fuga—18. Miss M. J. Francis ("Llaethferch"), Ynismeudwy, fydd yn cloriannu yr adroddwyr, ac nid Mr J. Elias Hughes, Llanelli. Nis gallai y pwyllgor ddewis neb yn fwy teilwng. oblegid os gwyr rhyw un beth yw adrodd, Miss Francis yw hono. Y Sadwrn nesaf (Mehefin 20fed) y bydd eisteddfod fawr perthynol i'r Neu- add Gyhoeddus. Mae argoelion am eisteddfod gampus eleni eto. Mae naw o bryddestau, deuddeg cywydd, wyth telyneg, ugain o englynion, saith drama, dwy-ar-bymtheg o ddadleuon, a deunaw o gyfansoddiadau cerddorol mewn Haw. Basgeded go dda o gyf- ansoddiadau i'r beirniaid fyned trwy- ddynt. Pwy gadeirir, tybed 1 Mae yr ysgrifenyddion wedi bod wrthi yn brysur gyda cheisio cael corau 1 gystadlu yn yr eisteddfod y Sadwrn nesaf. Deallwn ei fod wedi llwyddo tu hwnt i'r disgwyliad, a sicrheir ni y bydd yna gystadleuaeth frwd rhwng y gwahanol gorau.
[No title]
Mr W. W. Samuel, Castellnedd, gaf- odd y medal aur a gynhygir gan Syr W. J. Thomas am surveyo yn yr un dos- barthiadau, y nesaf ato oedd Mr Arthur Mansel Morgin.
IEisteddfod Caerffili, Llungwyn,…
I Eisteddfod Caerffili, Llun- gwyn, 1914. I PRYDDEST: "MURMUR Y I MOR" (33). Cystadleuaeth ardderchog. Tri-ar- ddeg-ar-hugain yn cynnyg. Bai y mwyafrif mawr yw eistedd i lawr i sgrifennu can llinell heb fod dim neill- duol iawn ar eu meddwl iiau calon. Mae y llinellau yn darllen yn ddigon rhwydd gyda'u "glasfor," "cyfaredd," "rhamant," "cymanfa," "encilfeydd," ac felly yn y blaen, ond llinellau braidd yn ddigenadwri ydynt wedi'r cyfan. Rhyfedd mor debyg i'w gilydd y mae 11awer o'r pryddestau O'r braidd y mae yma un bardd nad yw wedi gosod cragen wrth ei glust. Efallai y dis- gwylir gair am bob pryddest. Sylwn arnynt yn ol y drefn y daethant i law. Ballantrae." His double rhymes are very skillfully introduced. Each verse ends with "The Murmur of the Sea." Perhaps it is slightly tautologi- cal to speak of the "whisper of the murmur and the harmony of sound. "Cragen Unig."—Da. "Nodau'r gan yn rhodio ar y mor." "a'r d6n Ar dro yn taflu cawod wen 0 flodau oerion ar ei fedd." Nid da son am "lenni llaith ei wely mawr mae yn rhy debyg i "damp sheets Ambell wall yma ac acw. Macwy'r Mor. "-N i welais y ffurf "hamddenaf" o'r blaen. Ysgrifenna "ynwyf" am ynof." Braidd yn gym- ysgedig ar brydiau, ond pryddest ddar- llenadwy iawn. Cor y Mor i Mi. "-Yn dechreu- "Af yng nghwmni'r lloefwen firain Hyd y traeth bron fel pe bai'r lloer ar daith gydag ef. Tlws iawn wrth son am y cregyn megis perlau yn serchamod rhwng y mor a'r lloer." "Nid oes drai ar draeth ei gwyno." Brawddegau rhy hir. Canai yn well 'rwy'n siwr ar fesur arall. "Cragen y Traeth." Dim yn ddigon pendant. Cymysgu ffigiwr yw son am "ddistaw glust y lan." Nid drwg. Bardd y Traeth." —Canu wrth ei fodd. Ysgrifennu'n llac ambell dro, e.g.— "Daw i'm cof am fyrdd o ser." "Cofiaf am fyrdd neu "Daw myrdd i'm cof heb yr "am." Amryw linell- au cryf. Rhyfedd bod cystal bardd yn gallu son am "lasdon laith." "Myrddin." —Dim yn ddigon pen- dant eto. Peth mawr yw teimlo fod gan fardd neges y tu ol i bob brawdd- eg dlos. "Y Cyfnos sy'n gywir. Ambell ddarn swynol. "Crafnant." Llawysgrif anodd iawn i'w deall. Collwyd llawer gair. "Hwel y Cychwr."—A ydyw Hwel yn siwr ei fod yn deall Ilinell fel hon ?— "A hud anweledig yn miwsig ei gam." And an invisible charm in the music of his step." Y mae cynifer yn y gystadleuaeth yma yn ysgrifennu pethau tebyg. Y mae yn demtasiwn i bawb ohonom i gael ein twyllo gan swn" gair a brawddeg. Pryddest felys. Plentyn y D6n. Rhiangerddi" am "rhieingerddi." Efe yw'r unig un sy'n diweddu ei gerdd ar Galfaria. "Christopher Columbus writes beautiful English. What strikes one first of all is the classic turn of his every phrase and his command over the intricate metre that he has chosen. But even more beautiful than his beautiful language is the true poetic sentiment that pervades the whole. Hearts break like waves-to make their music heard!" Very fine, although one hears in it a faint echo of Wilde's :— "Well, if my heart must break Dear love, for your sake, It will break in music I know, Poets' hearts break so!" "Min y Mor." —Cyfres o delynegion swynol iawn. "loan Wyn?"—Nid yw dechreu fel yma yn farddoniaeth uchel- "Nid yw y mor yn bod Ond yn fy yspryd byw, A phan yn canu'i glod Hunan-ganmoliaeth yw!" Yn sicr nid dyna ffordd bardd o alw sylw at "For ei Fod." Mae loan Wyn yn feddyliwr cryf. Rhwydd i For ei Ddiferyn." —Yr ydym yn mawr hoffi newydd-deb y bryddest yma. "The Boy."—His sense of rhyme and rythm rather weak. "Llatai'r Don.-Nid cywir dweyd Yng nghyfathrach Enid dawel." Gair gwneyd yw "ewyl." Y sill olaf I biau acen y gair canfum. "Morwig."—Torri mesur ambell j waith. Diofal am y gystrawen, e.g., • "wedi osod am "wedi'i osod." Swn y Gragen. "Mae murmurori y pellderau Yn 'gymanfa ynddi hi." Onid yw "cymanfa" braidd yn gryf? Yn disgyn i ryddiaeth mewn ambell f iLn. Myfyriwr: "Dwysig" am "dwys." Uchelgeisiaeth" am "uchelgais. Yn newydd wrth son am y Ddinas a'r Mor. Qyda'r Wawr: Begins with a bad grammatical blunder:— Ah, murmur of the Boundless Sea, What is the message that ye bearf After 'murmur' we should of course have "that thou bearest." A very pleasing English style on the whole. Perhaps he takes too much liberty even with the comparatively free rhyming of English poetry in "hymn re- quiem." Glanmor: Yn rhy hir. Novalis: A strong and intensely new poem. We like his daring imagery al- though we confess that to us the meaning is not always clear. Columus Fel plentyn yn pi hun Teganau'r dydd ollyngaf." Tlws a naturiol iawn. Ffarwel Ffwdan: Yn rhagori am ei fod yn gallu dweyd beth sydd ar ei feddwl yn glir. Mewn gwirionedd stori fer sydd ganddo a murmur y mor i'w chlywed drwyddi. Mordwywr: Telynegion eto. Mor- dwywr" a "Min y Mor" yn feirdd telynegol rhagorol. Y Gwymon Crin: Cri calon wrth adael Cymru. Mae yma ddagrau Chwerwed a dagrau'r mamau Wedi'r geni yng Ngalili." Gobeithio y cyhoeddir y gan yn fuan. Ei hunig fai mewn cystadleuaeth fel hon ydyw nad ydyw'n union ar y tes- tun. Ardderchog. (Buasai o ddi- ddordeb i'r beirniad pe gallai gael enw priodol "Y Gwymon Crin.") Tywodyn: Yn newydd a melys. Mae ganddo Gymraeg da. Neptunus: Mixing metaphors, 2, 9. "Prancing steeds rush, leap and roar." Mab yr Ogof: Dim yn feistr ar ei fesur. Talddu: Dechreu yn dda yn y mesur caeth. Nid yw cystal wedi ennill ei "ryddid. Penybryn: Hynod o naturiol. Yn dod yn union o'r galon. Adsain hiraeth sy'n dy furmur, Dwed ai dagrau wyt i gyd? Ai tydi yw'r mor sy'n derbyn Ffrydiau heillt y byd? Yn dy acen leddf ddiorffwys Clywaf oesau'n ddweyd eu cwyn, Mae fy nghalon innau yno, Murmur ef fy mwyn. Dwed, a wyddost tithau ddyfnder Beth yw caru calon oer 1 Beth yw'r sibrwd sy'n yr awel Am dy serch a'r Iloer 7 Ond, gwaetha'r modd, mae 'Penybryn' yn disgyn i ddireidi cyn gorffen ei bett. nill: Gofid, wedi caru'r lleuad, Yw cusnau'r traeth." Dulse: Brawddegau rhy hir. Teithiwr Blin: Yn dweyd pethau da iawn. Wel, dyna'r tri ar ddeg ar hugain. Ynglyn a phob un bron, nodi beia,u ydym wedi wneyd ond na feddylitd neb mai beiau sy'n fwyaf amlwg yn y pryddestau. Mae yna ddarnau rhagor- ol bron yn ddieithriad. Efallai-mai y beirdd fu fwyaf llwyddiannus yn y gys- tadleuaeth yw (a'r enwau yn nhrefn yr A, B, C) Christopher Columbus, Ffar- wel Ffwdan, Min y Mor, Mordwywr, Novalis, Penybryn, Rhydd i For ei Ddi- feryn, Tywodyn, Y Gwymon Crin. j Dyma'r naw goreu. Bum mewn hir bryder uwch eu pen. r Christopher Columbus has a charm of his own, but possibly there is more heart-poetry in Penybryn's ode then in any other ode in the competition. Mae yn canu yn hollol ddiymdrech, ac y mae rhyw naws yn y gan o'r dechreu i'r diwedd. Efe biau'r wobr. Penybont. W. EVANS. (Y buddugol yw y Parch. R. Beynon, gweinidog y M.C., Abercrave.) (I barhau.)
Bwrdd y Golygydd. I
Bwrdd y Golygydd. I William o'r De: Eich llawysgrif yn unig sydd yn cyfrif am gadw yn ol eich gohebiaethau chwi. Y mae ceisio ei darllen yn flinder i'r llygad. Y Telynor: Amhosibl oedd cael yr eiddoch i fewn yr wythnos hon. Daw yn y rhifyn nesaf, a llawer o ddiolch i chwi. Hyderwn y bydd llawer o ddar- llen arno yn y cylch yna. Brutus: Diolch i chwithau am eich ffyddlondeb. Ai ni allech anfon erbyn boreu Llun? Parth. T. Valentine Evans: Y mae efe wedi bod yn Rhydychen (am ddiwrnod), a cheir hanes ei ymweliad a'r lie yn y rhifyn nesaf. J. James: Diolch am yr eiddoch chwithau. Gohebwyr Lleol: Drwg gennym or- fod cadw yn ol amryw o'r rhai hyn, oherwydd prinder dwylaw yn y Swydd- fa, a ninnau yn methu cadw yn ol beth- au ereill a gysodwyd i wneud lie iddynt.
Hysbysiad.
Hysbysiad. Ceir yn y Darian nesaf y cyntaf o gyfres o ysgrifau ar Ein Sefydliadau Cenedlaethol," sef ein Colegau, y Llyfr- gell, yr Amgueddfa, etc., gan lenor medrus. Dylasai yr ysgrifau hyn fod o ddiddordeb arbennig i bob Cymro.
[No title]
Derbyniodd Miss Davies, Caer- fyrddin, stad werth 274,807 ar ol ei brawd rhai wythnosau'n ol. Erbyn hyn y mae Jiithau wedi marw. Bwriad Miss Davies wedi derbyn yr eiddo oedd myned i Rufain i weled t Pab, ond y mae wedi myned at ei Barnwr heb weled y tad hybarch hwnnw.
0 Bant I Bentan.I
0 Bant I Bentan. Enillodd Mr Arthur Mansel Morgan y medal aur a gynhygir gan Syr W. J Thomas i'r efrydydd mwyaf llwydd- iannus yn nosbarthiadau glofaol Cyngor Morgannwg. Yr oedd yn uchaf o 79. Arolygwr Cynorthwyol yw efe'n bresennol ym Mhwll y Llety Shenkin, Atberdar, Torrwyd tywarchen gyntaf y pwll newydd a agorir yn y Rhigos yr wyth- nos ddiweddaf gan Rhys Llewelyn, mab bychan Mr D. R. Llewelyn, ac wyr R. Llewelyn, Ysw., U.H., a'r Dr. Harris (Afanwy). Dywedai Mr J. Lewis, U.H., Rhyd- aman, yng Nghymanfa Pontrhydfen- digaid, fod y Cinema i aros ac y dylai'r eglwysi ei llywodraethu, fel ag. i'w gwneud yn addysgol a dyrchafol. Claddwyd Theodore Watts, Dunton, awdur y nofel Aylwin, ddydd Gwener diweddaf yn Lerpwl. Y mae ei fedd yn ymyl eiddo Douglas Jerrold. Peth lied anghyffredin yw streics ymysg gwyr mewn urddau santaidd. Dyna hanes tri churad yn Durham yr wythnos ddiweddaf oherwydd i'r Rheithior gwr o'r tuallan i fywoliaeth Birtley. Cyfrannodd Syr W. J. Thomas 1,000 o guineas yr wythnos diweddaf i Ys- byty'r Morwyr, Caerdydd, er ychwan- egi gwely newydd yno. Y mae'r marchog hwn yn dywysog o gyfrannwr. Ymwelodd y llong fwyaf fu yng Nghaerdydd a'i phorthladd yr wyth- nos ddiweddaf, sef yr Euripedes. Ym- adawodd bore'r Sadwrn a 4,509 tunnell o lo am Llundain. Y mae Rhyddfrydwyr Gwyr o'r farn y gellir ennill y sedd oddiar Mr John Williams, A.S., ond cael ymgeisydd poblogaidd. Bwriedir ymladd am dani yn yr etholiad nesaf. Gadawodd Syr F. F. Besley, Llyw- ydd Undeb yr Ysgol Sul, yn ei ewyllys, £ 2,000 i Undeb Ysgolion Sul Llundain; JE3,000 i Ysgol Sul Vines, Rochester a zel,ooo i gant o weddwon Rochester. Da iawn.
Colofn y Gohebiaethau. I
Colofn y Gohebiaethau. I HIRAETHGAN AR OL MR. J. H. JONES, SENGHENYDD. Mr. Gol.,—Yn y "Darian" ddiwedd- af gwelais Hiraethgan ar ol Mr. J 11. Jones, Senghennydd, gan Enid Hughes, Senghennydd. Dichon fod lILt vs c'r un enw yn arfer barddoni, ond gan fy mod i wedi cyhoeddi rhai darnau yn y newyddiaduron, ofnaf y gall rhywrai roddi i mi y clod am y pe^.ll'.on hyn. Y mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn ei haeddu. Byd3ai yn dda gennyf gael cyfle i ymgydnabyddu a'r awdures sydd yn gyfenw a mi.—Yr eiddoch yn w ladgar, ENID HUGHES. Ysgol y Cyngor, Abertridwr. EISTEDDFOD CYMRU A'I I DYFODOL. Mr. Gol.Diau gennyf fod aincan yr un ysgrifennodd ar y mater uchod i'r Darian ddiweddaf, fel y gweddill o honom yn ddigon teilwng, ond y mae'r modd y ceisia gyrraedd yr amcan hwnnw ymhell o fod yn deilwng. Teifl dirmyg ar y pregethwr, druan, yn ol yr arfer. Gresyn na allai ysgriblwyr ieu- ainc y cymoedd ddweud, ie, a gwneud tipyn weithiau heb daflu anfri ar ar- weinwyr crefydd. Ond, ysywaeth, dyna 'short cut' hogiau difarf i enwog- rwydd. Cwyna fod pwyllgorau eistedd- fodau yn dewis pregethwyr yn feirniaid adrodd. Amheuaf yn fawr a gellid cael un dosbarth mwy cymhwys, a'u cymeryd at eu gilydd, na'n pregethwyr. Wedi condemnio'r pregethwyr, aw- gryma'r brawd i ni restr o feirniaid adrodd, wrth fodd ei galon ei hunan, mae'n ymddangos. Enwa naw, ac er syndod i ni, mae chwech o'r naw hynny yn bregethwyr! Wel, dyma ddiwygiwr onide I Nid yn ami y deuwn ar draws y fath ymresymiad a hwn. Pwy glyw- odd son am Ryddfrydwr pan wedi blino ar ormes Doriaidd yn awgrymu rhoddi Balfour a'r Cecils mewn swydd, neu pa Dori a awgrymai ddiwygiad drwy ddychwelyd Asquith a Lloyd George i awdurdod ? Ond, hawyr bach, dyna wna'r gohebydd hwn. Swn siom sydd i'w glywed yn yr ys- grif, ac ni raid darllen yn hir rhwng y llinellau nes canfod arni ddelw y eystadleuydd siomedig. Ceisio feio pobpeth ond efe ei hun. Awgryma fod y beirniaid mewn eisteddfod neill- duol yn rhoddi ffafriaeth i'r Saesneg. Nid ydym yn foddlawn rhoddi fyny a neb pwy bynnag am sel tros Gymru a Chymraeg, ond yr ydym wedi hen ffi- eiddio ar y cenedlaetholdeb rhact yma a roddir yn gochl dros J)ob siom a chen- figen. Nid yw llawer o'r ffug wladgar- wch bregethir i ni heddyw yn ddim ond "sentiment" gwag a diystyr. Y bobl grochlefant fwyaf dros y Gymraeg yn y wasg ae ar y llwyfan yn ami ydyw'r rhai parotaf i faldorddi eu Saesneg clogyrnaidd-Saesneg o'r trydydd ddosbarth eofier-bob tro y cant eyfle. Dos ymlaen, frawd, i ddiwygio yr Eisteddfod, ond ceisia wneud hyny heb ddifrio goreugwyr y genedl. Na cheis- ia gyrraedd dy amcanion ar draul di- lorni hen bulpud Cymru. Pregethwyr Cymru wedi bod ydyw halen y genedl. Hwy oleuodd Gwalia pan oedd tywyll- weh yn ei gordoi,—pan oedd person ac yswain yn cyd-redeg i bob rhysedd. Meddyliweh am eich blaenoriaid." } CYMRO.
ISefydlu y Parch W. R. I Jones…
I Sefydlu y Parch W. R. Jones (Pelldros). Ddydd Iau, Meh. lleg., cynhaliwyd cyfarfod i gydnabod Pelidros yn wein- idog Eglwys y Bedyddwyr, Cymer, Porth. Cadeiriwyd gan y Parch. J. Edwards, Porth. Wedi i'r Parch. C. Jones, Watts- town, weddio, ac i'r cadeirydd egluro amcan y cyfarfod, galwyd ar Mr Dl. Jones i roddi hanes yr alwad, a cha- darnhawyd hi gan Mri. Prys ac Ed- wards, diaconiaid yn yr eglwys. Der- byniwyd nifer o lythyrau oddiwrth frodyr yn dymuno'n dda i'r gweinidog newydd. Atebodd Pelidros yr alwad yn ffurfiol, a gweddiodd y Parch. D. C. Jones, Penygraig, am fendith ar yr undeb. Siaradwyd ymhellach gan frodyr o Godreaman, sef Mri. J. Griffiths a Dl. Davies. Yna daeth Mrs. Phillips ag anrhegion i Mr Jones, ei briod, a'i ddwy ferch. Wedi diolch am yr amlygiadau hyn o deimladau da tuag ato a'i deulu, gal- wyd ar y Parch. D. Price, Abertawe, ymlaen. 0 dan ei weinidogaeth ef y dechreuodd Pelidros bregethu, a chol- eddai syniadau uchel iawn am dano. Dilynwyd Mr Price gan Dr. Morris, Treorchy; Parchn. D. Davies (A.); Owens (A.), Caersalem; B. V. Davies, Abergwynfi, a diweddwyd gan y Pareir. R. Griffiths, Seion. Heblaw y brodyr uchod, yr oedd y canlynol yn bresennol: Parchn. H. Williams, Gilfach Goch D. Phillips, ac R. Morgans, Penrhiwfer; T. T. Jones, Blaenclydach E. W. Davies, Ton; J. Nicholas, Tonypandy; D. D. Hopkins, Pontygwaith; DI. Jones, T. Thomas, ac Azariah Griffiths, Tonyrefail; J. Frimston, Trehafod; T. Davies, Tre- fforest, ac R. B. Jones. Cynhaliwyd gwasanaeth yn yr hwyr pan bregethwyd gan y Parch. J. Grif- fiths, Calfaria, Aberdar, a D. Price, Abertawe. Cafodd y gweinidog new- ydd groeso cynnes i'r cylch, ac y mae argoelion y bydd yr undeb rhyngddo a'r eglwys yn un dedwydd a thra llwyddiannus. CYFAILL JOHN.
Nodion o'r Maerdy.
Nodion o'r Maerdy. Dymunwn longyfarch Cor Undeb- ol y Maerdy am gipio o hono y wobr ar y brif gystadleuaeth yn Eisteddfod Aberaman. Er nad oedd ond dau gor yn cystadlu, yr oedd digon o wahaniaeth rhyng- ddynt. Dyfarnwyd y wobroddeu- gain punt yn ddibetrus i gor y Maerdy. Yr arweinydd yw Mr. W. D. Evans. ——— I Ddydd Sul a Llun, Mehefin y 7fed a'r 8fed, cynhaliodd Annibyn- wyr y Maerdy eu Cymanfa Ganu flynyddol. Yr arweinydd ydoedd Mr. Gwilym Lewis, Prif Athro Ysgol y Cyngor, Llwynypia. Cvn- orthwyid y cantorion gan gerddorfa. Cyfeiliwyd gan Mr. Joseph Griffiths, M.E., a'r Organydd Mr. W. D. I Evans. Prynhawn Sul datganwyd Salm Gobaith gan y cor, a chanwyd yr unawdau gan Madam Tegwen Lewis, soprano; a'r Misses Annie Hope-Evans a Beatrice Howells, contralto; a Mr. David Harris, tenor. Datganwyd ef yn Saesneg yn y prynhawn, ac yn Gymraeg yn yr hwyr a nos Lun. Hefyd pry-1 nhawn Sul cyflwynwyd anerchiad hardd i'r Arweinydd gan aelodau: Siloa ar ei ymadawiad o'r lie. Cyf- lwynwyd yr anerchiad gan yr hen i frawd Dyfydd Isaac, gan mai ef; ydyw yr aelod hynaf yn yr eglwys. Cafwyd gair gan ysgrifennydd yr eglwys, Mr. W. L. Edwards, ar waith Mr. Lewis fel arweinydd Y I gan ac aelod o Siloa. Cafwyd Cymanfa dda ymhob ystyr. Yr oedd y plant fel arfer yn tra rhagori. I Dymunwn longyfarch Eglwys Bethesda, Merthyr, ar ei gwaith yn sicrhau y brawd anwyl Eos Dar yn arweinydd y gan. Bu yn arwein- ydd yn Siloa, Maerdy, am tua deng mlynedd ar hugain. Gobeithio y bydd yr uniad yno yn un mor llwyddianus ag oedd yma, ac y caiff yr Eos flynyddoedd lawer i wasan- aethu crefydd a chymdeithas yn ei gylch newydd, I MEIRIONA. I
I Barddoniaeth. !
I Barddoniaeth. CWYN YR HEN WEITHIWR. ( Alaw-" Breuddw:yd y Bardd." Rwyf heddyw yn I Iesg a methiedig, Yn wargrwm ac hii-drwm fy ngham, Yn llusgo fy hun yn grynedig l'i- Ilannerch lie gorwedd fy mam; Heb gyfaill, na chymar, Na neb ar y ddaear, I ystyr fy nghwynion mewn cystudd a loes, O! ehwprwed fy nghynged, a thrymed fy nghoes. Mi gollais o'm braich a fy Ilygad, Bob gallu, by wiogrwydd a nerth; Gostyngwyd fy mhris yn y faiehnad, 'Rwy heddyw yn adyn (iiii-erth; Mi dreuliais fy nyddiau Afewn 'chydig flynyddau Mown ohwys a chaledwaith o J'oi-eii hyd liii-yr, A inynych gystuddiau y nefoedd a wyr. Gofalwn yr hwyr am (frfl'wyso, A'r horeu am gychwyn dtaehofn; Ymdrechais mewn ymdrech ddiflino Ymostwng i'm tynged a'r drefn; • Yn dal am y ryfan Derbyniaf yn fuan Sartigrwydd swvddogion y Tlotv yn rhan, A dwy lath o ddaear ym Mynwent y LIan T. TAWENOC YORATH. I Hafod y Gan.
- 1 ' I Airwann.
1 I Airwann. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Bedydd wyr Hirwaun a Phenderyn ddydd Llun diweddaf; y bore i'r plant yn Siloa Pompren, pan lywyddwyd gan Mr Wm. Cadlan Jones (Gwilym Cadlan). Caf- wyd canu swynol gan y plant, yn neill- tuol ar y tonau, lesu Byw," "I'r Ys- gol Sul," a'r anthem, Gadewch i blant bychain (A. Watkins, G. and L.T.S.C.). Llywyddion y prynhawn a'r hwyr oedd Mr Thos. Jones, Siloa, a'r Parch. E. Cefni Jones. Cafwyd canu ardderchog ar amryw o'r tonau, sef Liverpool, Bethania, Sardis, Ra- moth, Rhad Ras, a'r chorus, Magni- fy, Glorify," a'r anthem, "Deuwch, canwn i'r Arglwydd." Nid yw'r gy- manfa hon ond tair blwydd oed, a graenuso y mae pethau o hyd. Ar- weinydd y dydd oedd Mr Wm. Thomas, Treorci, a theimlwn nad oes eislau ei ganmol. Bu'r brodyr Mri. Rees Jones, David Davies a Tom Young yn ddyfal am fisoedd yn perffeithio pethau; diolch iddynt. Y cyfeilwyr oedd Mr. W. Edwards, L.L.C.M., Miss M. Thomas a Miss Eleanor Harris. Llon- gyfarchwn y pwyllgor ar lwyddiant y gymanfa, yn enwedig yr ysgrifennyd a'r trysorydd, Mr H. B. Jones a Mr. Thos. Jones, Pompren. Gofidus gennym gofnodi marw a chladdu Mrs. Winter yr wythnos ddi- weddaf. Gedy ar ei hoi amryw blant i alaru ar ei cholli, er ei llesgedd a'i chystudd blin. Bu'r ymadawedig yn gwasanaethu fel bydwraig yr ardal am flynyddau. Gwnaeth y Parch. E. Cefni Jones awgrym priodol iawn o blaid cael Cy- manfa Ganu leol o'r holl enwadau Ym- neilltuol. Symudiad buddiol a fyddai hynny er lies cyffredinol yr eglwysi. Pwy a eilw bwyllgor? Pwy a a dros- om ? Llongyfarchwn Miss M. A. Jones a Mr H. B. Jones ar eu llwyddiant yn ar- holiad Y.S.B.C. Miss Jones yn cipio'r wobr gyntaf, a'r brawd H.B. yr ail wobr yng Nghymanfa Dwyrain Mor- gannwg. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus nos Lun o flaen gwesty'r Cardiff Arms tan nawdd yr Eglwys Sefydledig i wrth- dystio yn erbyn y mesur presennol o Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad." Cafwyd areithiau cryf yn Gymraeg a Saesneg. a chymhellwyd gofyniadau, ond ni chaed neb i ofyn.
Gofynnwch f-eh Cymdogion.
Gofynnwch f-eh Cymdogion. GALL CANNOEDD 0 BOBL ABERDAR DDWEYD WRTHYCH Y CWBL AM DANO. Dylai cadarnhad gartref a mynegiad cyhoeddus pobl Aberdar fod yn dystiolaeth ddigonol i bob darllenydd o Aberdar. Yn sicr y mae profiad ffrindiau a chymdogion, pan wedi eu rhoi yn llawen, o fwy gwerth na dat- ganiadau estroniaid fo'n byw mewn lleoedd pell. Darllenwch y canlynol: Mawrth i8fed, 1913, dywedai Mrs. M. Copner, 8 Harriet Street, gerllaw'r Neuadd Gyhoeddus, Trecynon, Aber- dar :—" Er fy mod yn agos i 76 oed y mae'n dda genyf ddweyd fy mod o hyd yn mwynhau iechyd pur dda. Yr wyf, er hynny, wedi cael ymosod- iadau achlysurol o ddolur yr arennau ynghyd a chyffyrddiadau o wynegon. Yr oedd y poen yn fy nghefn mor llym fel mai prin y gallwn ar rai adeg- au droi yn y gwely. "Teimlwn yn flinedig iawn yn y boreuau, fel pe na chawswn ddim gorffwys. Yr oedd fy mhen yn boenus; yr oeddwn hefyd yn cael adegau o syfrdandod. Rhoddai'r dwfr gryn ofid i mi hefyd ar adegau. Ond yr wyf bob amser wedi cael peleni poen cefn ac arennau Doan yn ardderchog at y dolur. Yr wyf wedi eu cymeryd yn awr ac yn y man ers blynyddoedd, ac y maent bob amser wedi gwneud i mi lawer o les trwy symud y poenau, fy llonni, a chywiro'r annrhefn dyfrol. Rhoddaf bob amser air da i beteni Doan am eu bod yn teilyngu yr holl glod ellir. roddi iddynt. (Llofnodwyd) M. Copner." Ebrill 2iain. 1914—dros ddeuddeg mis yn ddiweddarach-dywedai Mrs. Copner: "Byddaf yn 77 oed y mis nesaf, ac yr wyf yn mwynhau iechyd da iawn. Cymeraf beleni Doan yn awr ac eilwaith a chaf hwynt yn llesio) iawn, ac yr wyf yn cymeradwyo'r pel- eni i eraill." Anghysur gwaethaf hen-oed yw'r gwynegon, cefn crwm, yn gwynegu, ac yn gorfod codi lawer gwaith yn ystod y nos i esmwythau'r bledren, cryndod yn yr aelodau, a'r golwg yn methu'n raddol. Y mae peleni poen cefn ac arennau Doan wedi gwneud rhyfeddodau ar hen bobl trwy gadw'r arennau mewn cyflwr iach a bywiog. Pris 2s. gc. 'r blwch, chwe blwch, 135 gc., gan yr holl fasnachwyr neu oddiwrth Foster McClellan Co., 8 Wells Street, Oxford Street, London, W. Na ofynnwch am beleni poen cefn neu beleni arennau-gofynnwch yn eglur am beleni poen cefn ac arennau Doan yr un fath ag a gafodd Mrs. .opner. Printed and Published for the Propr ietors. The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street. Aberdare, in the Galunty of GlamorgaD