Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Ar Lannau Tawe.

Eisteddfod Gadeiriol Neuadd…

[No title]

IEisteddfod Caerffili, Llungwyn,…

Bwrdd y Golygydd. I

Hysbysiad.

[No title]

0 Bant I Bentan.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Bant I Bentan. Enillodd Mr Arthur Mansel Morgan y medal aur a gynhygir gan Syr W. J Thomas i'r efrydydd mwyaf llwydd- iannus yn nosbarthiadau glofaol Cyngor Morgannwg. Yr oedd yn uchaf o 79. Arolygwr Cynorthwyol yw efe'n bresennol ym Mhwll y Llety Shenkin, Atberdar, Torrwyd tywarchen gyntaf y pwll newydd a agorir yn y Rhigos yr wyth- nos ddiweddaf gan Rhys Llewelyn, mab bychan Mr D. R. Llewelyn, ac wyr R. Llewelyn, Ysw., U.H., a'r Dr. Harris (Afanwy). Dywedai Mr J. Lewis, U.H., Rhyd- aman, yng Nghymanfa Pontrhydfen- digaid, fod y Cinema i aros ac y dylai'r eglwysi ei llywodraethu, fel ag. i'w gwneud yn addysgol a dyrchafol. Claddwyd Theodore Watts, Dunton, awdur y nofel Aylwin, ddydd Gwener diweddaf yn Lerpwl. Y mae ei fedd yn ymyl eiddo Douglas Jerrold. Peth lied anghyffredin yw streics ymysg gwyr mewn urddau santaidd. Dyna hanes tri churad yn Durham yr wythnos ddiweddaf oherwydd i'r Rheithior gwr o'r tuallan i fywoliaeth Birtley. Cyfrannodd Syr W. J. Thomas 1,000 o guineas yr wythnos diweddaf i Ys- byty'r Morwyr, Caerdydd, er ychwan- egi gwely newydd yno. Y mae'r marchog hwn yn dywysog o gyfrannwr. Ymwelodd y llong fwyaf fu yng Nghaerdydd a'i phorthladd yr wyth- nos ddiweddaf, sef yr Euripedes. Ym- adawodd bore'r Sadwrn a 4,509 tunnell o lo am Llundain. Y mae Rhyddfrydwyr Gwyr o'r farn y gellir ennill y sedd oddiar Mr John Williams, A.S., ond cael ymgeisydd poblogaidd. Bwriedir ymladd am dani yn yr etholiad nesaf. Gadawodd Syr F. F. Besley, Llyw- ydd Undeb yr Ysgol Sul, yn ei ewyllys, £ 2,000 i Undeb Ysgolion Sul Llundain; JE3,000 i Ysgol Sul Vines, Rochester a zel,ooo i gant o weddwon Rochester. Da iawn.

Colofn y Gohebiaethau. I

ISefydlu y Parch W. R. I Jones…

Nodion o'r Maerdy.

I Barddoniaeth. !

- 1 ' I Airwann.

Gofynnwch f-eh Cymdogion.