Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I TO LET I
Advertising
W. Williams & Co. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. Specialities l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22Ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS. GOLD AND SILVER WATCHES. Gymryhoa,dewoh a' Y Cymro baMnhelrddtodrwyMMr, OriaduroD ac awrleisiau. Gemau a chad? rlu,  Yspec'<>l gelfyd4lI GwreB-fesuiydd, Cwmpawd mto Geir gan Willfamfl, Heof Trowch i mewn i we] d ei
Y CYNNWYS.I
Y CYNNWYS. I Gwlad a Senedd Tud. 1 Colofn Llafur „ 1 Y Stori: Nanno 2 Eisteddfod Treorchy: Beirniad- aeth Brynfab 2 Hanes Coelbren 2 Cwmni Drama Pontycymer (dar- lun) » 3 Cwmogwr 3 Pontygwaith .oo. »> 3 0 Wy i Dywi 3 Molchfeydd pfen Pwll 4 Colofn y Pwlpud. 4 Colofn y Bobl leuainc 5 Am Dro i'r Neuaddlwyd 5 0 Bontardawe i Gaerdydd. „ 5 Beirniadaeth Bargoed gan Bethel" 5 Nodion o'r Gogledd 6 Y Proffwyd a Chrefydd Israel. 6 Colofn y Llyfrau 1 7 Diwrnod yn Rhydychen 7 Eisteddfod Caerffili 7 Eisteddfod Llanharran 7 Colofn y Beirdd 7 Colofn y Ddrama 8 Y Cor Mawr 8 Araith Dr. Harries, Treherbert 8
.GWLAD A SENEDD. I
GWLAD A SENEDD. I GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. Y mae ein I Seneddwyr Ynghanol eu Gwaith, I a thyf eu rhaglen fel yr a y dyddiau heibio. Dal eu hanadl wna y wlad ynglyn a phwnc yr Iwerddon, oblegid gobeithir gweled ffordd yn agor allan o'r dyryswch mawr. Deil y Llywodr- ,aeth y drws yn agored gan geisio cyd- ddealltwriaeth a heddwch. Ceir ereill o bob plaid yn yi- un yspryd; ond am Mr Bonar Law, yn ei areithiau, yr wythnos Odiweddaf yn yr Alfcan y mae mor anghymodlawn ag erioed. Ar yr un pryrl. tyfu wna y fyddin genedlaeth- iamr ? yn gy8ym..Os.oedji S?byddin o'r bobl i'w ffur?o yn yr Iwerddon gresyn na fuasai y blaid Genedlaethol fel gwyr Ulster wedi symud ynghynt. Y mae yn barod wedi newid ton rhai pobl. Nid yn ymffrost Ulster yn unig y ceir gwladgarwch a dewrder. Gwyr y byd beth yw y Gwyddel mewn rhyfel. Ond, a all y ,ddwyblaid fyw dan arfau yn hir heb wrthdaro. Ofnwn nad oes dim am dani, ond i Mr Asquith ddwyn i fewn "ei Fesur i gwrdd achos Ulster, Y mae hyn ynddi wedyn': Bydd yn rhaid i'r Ar- ,glwyddi draethu eu barn arno. Os mynnant gallant ei wrthod, ei gyf- newid, neu ei gymeryd fel ac y mae, A pheth bynnag wnant, ar eu hysgwydd- au hwy y bydd y eyfrifoldeb. Bygythir heddwch pethau ynglyn a'r Budget hefyd. Ceisia mintai gref o aelodau Rhyddfrydol effelthio cyfnewidiadau pwysig yn y Gyllideb. Ymwelasant a Mr. Asquith i'r diben hynny, ond ni .chawsant fawr ffafr ganddo. Honnant ina ddylasai Mr Lloyd George godi mwy o arian nag sydd yn ofynnol yn union- gyrchol. Fel y nodasom dro yn ol, y mae darpariadau y Gyllideb eleni yn lestyn ymlaen ymhell. Ysgafnhant y trethi lleol a chyfnewidiant beth ar y Ddeddf Yswirol, a gelwir am bedwar neu bump o fesurau Seneddol i'w cario allan. Os na chyduna Senedd i'r mesurau hyn, yna bydd yr arian yn gor- wedd yn segur am yr adeg. Cawn weled sut y try. Ergyd drom fydd siomi ein trethdalwyr, a gwae y gwyr trwy y thai y cant eu siomi. Ond arfer Canghellydd y Trysorlys yw cael ,ei ffordd a chyflawni ei addewidion. Masnach Gydweithiol. Mudiad sydd wedi ennill nerth a phoblogrwydd synfawr yn ddiweddar yw y Co-operative Society. Ar y cyn- taf yr oedd anawsderau mawrion ar ei ffordd. Cofus gennym yn agos i ddeu- gain mlynedd yn ol weled glowyr a • labrwyr, seiri a. gofiaid ac ereill yn ym- balfalu ar bwyllgorau i geisio gwybod llwybrau masnach y wlad. Ymdrin- ient ag ansawdd a phrisoedd nwyddau y lleoedd goreu i brynu trefniadau y banc; cyflogi a rheoli gwasanaethydd- ion; gwerth cymharol arian parod ac hen gownt; gosod i fyny adeiladau eyf addas perthynas y gymdeithas unigol a'i changhennau, ac a'r Whole- sale Department; lie y felin, y ffactri, a'r fferm yn y mudiad, a nifer o weddau .ereill. Cafwyd ami i godwm, ac aeth llawer cymdeithas yn chwilfriw. Lie ceid athrylith onest wrth y llyw yr oedd popeth yn dda, ond gwae y cwmni farchogid gan y ffals a'r drwg. Erbyn heddyw, yr ydys wedi ymlwybro trwy y lleoedd gelrwon, a wyneba "Cyd- weithrediad Masnachol," mewn cryfder a nerth mawr, ar ddyfodol croesawgar. Medda ein pwyll-gorau, brofiad. Gall- i ant fforddio talu cyflogau teilwng i'w blaenoriaid. Er hyn oil, ceir amlygion o or-gynhildeb ac yspryd crintachlyd eto, hyd yn oed yn yr uchel-leoedd. Cynhygir codi cyflogau cyfarwyddwyr adran yr Wholesale o £350 i 9450 y flwyddyn, ond yn Llunden, Newcastle, a lleoedd ereill gwrthodir hynny gyda mwyafrif llethol. Cynhygid hefyd delerau gwell i'r sawl deithiant i wled- ydd tramor ac hinsoddau poethion ar ran y Gymdeithas, ond troir hynny hefyd yn ol. Os nad yw y dynion goreu i gael eu denu i'r mudiad a'u cadw yno, rhaid fydd iddo syrthio i ddwylo ail-raddol, yr hyn fyddai resyn- vs ac er colled. J Y Plant a Hanner-Amser. I Dydd Gwener diweddaf, ceisiodd Mr Denman, yr f Aelod Rhyddfrydol dros Carlisle, hyrwyddo trwy Dy y Cyffredin ei Fesur i osod terfyn ar gyflogi plant mewn ffactrioedd pan yn ddeuddeg oed. Ceisiai eu cau allan yn yr oedran tyner hwn, a chodi yr oed i bymtheg, gan drefnu "ysgolion parhaol" ar eu cyfer. Yn anffodus, tarawai hynny ar draws arferion a buddiannau gweith- feydd gwydr a chotwm Lancashire, ac unodd Rhyddfrydwyr, Toriaid a Llafur- wyr i lethu y mesur. Yn y gweithfeydd uchod dygir plant deuddeg oed i roddi hanner eu hamser yn y gwaith a'r han- ner arall yn yr ysgol. Ail-adroddwyd yr hen ddadleuon a glywsom gynt: Fod eisieu ar y teulu, ac nas gallant fforddio bod heb hanner coron yr wythnos oddi- wrth y plant Joychain hyn, yn fechgyn ac yn enethod; fod gwaith yn addysg, ac fod cyfnewid gorfodol ar bethau yn orthrwm ac yn ymyriad a rhyddid per- sonol. Dyma rhai o'r hen ysbrydion ddefnyddiwyd lawer tro o'r blaen i ddychrynu y bobl oddiwrth Iwybr cyn- nydd a diwylliant. Bedwar ugain mlyn- edd yn ol yr oedd yn ofynnol i'r tad a'r fam a'r holl blant, hyd saith, a chwech mlwydd oed droi allan i weithio er mwyn cael bwyd a chartref. Heddyw disgwyliwn fod enillion y tad yn ddi- gonol i'w holl deulu, a chyfrifwn fod • pedair-ar-dde# oed yn llawn digon cynnar i ddechreu gweithio. Hefyd, os gall Morgannwg a Swydd York ffordd- io hyn, beth sydd yn rhwystro Swydd Lancaster? Ond meddylier am Mr. Stephen Walsh, yr Aelod LIafur dros Ince, yn gwrthwynebu mesur fel hwn! Tai Gweithwyr. I Gwnaeth nifer o feirniaid Toriaidd ymosodiad cryf ar waith swyddogion Bwrdd Llywodraeth Leol yn Nhy y Cyffredin dydd Iau. Eu harweinydd oedd Syr A. G. Boscawen, yr hwn a gy- huddai y Llywodraeth o wneud dim i ddiwygio ac adeiladu tai cyfaddas i weithwyr. Tystiai fod Budget 1909 wedi difetha y Fasnach Adeiladu ac fod prinder enbyd o dai wedi ei ddwyn oddiamgylch mewn canlyniad. Yn ei atebiad meistrolgar dug Llywydd y Bwrdd, Mr Herbert Samuel, nifer o ffeithiau diddorol i'r golwg. Nid oes ond pum mis er pan aeth i'r swydd, yn olynydd i Mr John Burns, a. rhoddodd syniad am y diwygiadau y mae wedi eu cychwyn eisoes. 0 dan Ddeddf y Tai, 1909, y mae y Llywodraeth wedi gorfodi perchenogion 130,000 o dai anghyfaddas i fyw ynddynt o osod trefn ar y cyfryw. Eleni, mewn pum mis a hanner, y mae y Llywodraeth wedi caniatau benthyc- ion o 2997,000 at adeiladu tai. Beia y Toriaid y Rhyddfrydwyr, ond beth yw y gwir o gymharu pethau ? 0 1890 hyd 1910 ni wariwyd ar dai newyddion o dan Adran III. o Ddeddf 1890 ond zC2,000,000 neu £ 100,000 y flwyddyn. Ar gyfartal- edd gwaria y Llywodraeth zC2,000,000 mewn blwyddyn.' Dywed Mr Samuel ei fod eisoes wedi trefnu i gael gwybod- aeth lawn ar gyflwr tai yr holl wlad ac fo' ganddo swyddogion wedi eu hethol i ymweled ac archwilio pob rhan o'r wlad gan ddwyn eu mynegiadau i Swyddfa Bwrdd Llywodraeth Leol. Cynllunio Trefi. I Yn ychwanegol at ddiwygio ac adeil- adu tai cyfrifa Mr. Samuel fod yn eithr- iadol bwysig i weled fod tai ac ystryd- oedd yn cael eu cyfleu ynbriodol. Ceir prawfion digonol o aflereiddiwch, ac yn wir o ynfydrwydd yn Ne a Gogledd Cymru yng nghyflwr ein trefi a'n pen- trefi mawrion gweithfaol. Naill, ai codir tai mewn brys gwyllt heb unrhyw syniad am drefn, gan eu taflu i'w lle- oedd yn mhob llun a modd, neu ynte codir hwy yn gannoedd, mewn rhesi hirion, hollol ddiaddurn. Collir golwg ar gysur, iechyd a phrydferthwch, ac, yn y fargen, dinystrir golwg rhai o lecynnau prydferthaf Cymru. Nid lie i fwytta a chysgu yn unig sydd eisieu ar weithiwr, ond hawlia gartref lie y gall fyw ac ymserchu ynddo. I hyn da yw cael cronglwyd ddiddos, aelwyd glyd, gardd o darn o laswellt o flaen y ty. Ychwanegir tua 400,000 at boblogaeth y Deyrnas hon bob blwyddyn, ac y mae o'r pwys mwyaf felly, meddai Mr Samuel, na choller amser heb osod trefn derfynol ar bethau. Gallwn ddis- gwyl fod y boneddwr uchod a'i fryd ar wneud gwaith. Y mae eipoes 90 o gyn- lluniau, yn delio a tua 20(rinilltir ysgwar o dir, wedi eu pasio, a disgwylir 142 yn ychwanegol yri fuan yn Llunden. Gresyn na fuasai hyn wedi ei wneud gan' mlynedd yn ol. r Cyngres Fawr Byddin yr iachawdwr- iaeth. { Y mae y byd yn myned yn llai bob dydd; o'r hyn lleiaf cilia ei ddieithrwch, daw ei bobloedd yn nes at eu gilydd a thynir i lawr hen ganol-furiau gwahan- iaeth ar bob Haw. Cydweithia llu o ddylanwadau i'r perwyl hwn. Trwy wifrau a heb wifrau, sieryd trigolion gwahanol gyfandiroedd a'u gilydd gan ddiystyru pellder, moroedd a mynydd- oedd. Ymgyfathrachant trwy fasnach, a gwyddoniaeth; pleser-deithiau a ¡, chelf. Daw Undebau Llafur i gyd- weithrediad a chyd-ddealltwriaeth hapus, yn Ffrancod, Germaniaid, Saeson ac Awstriaid, Cymry ac Ital- iaid. Y gallu pennaf a blaenaf er hynny yn y mudiad gogoneddus hwn yw eiddo crefydd. Onid yw brawdoliaecu dyn yn un o erthyglau cyntaf Crisr->n- ogaeth. Y mae Esgobolion a Phal»y^ri ion, Presbyteriaid- a Bedyddwyr y byd wedi cyfarfod yn eu Byd Gynghrair o'r blaen, a'r wythnos ddiweddaf un o brif atyniadau Llun oedd cyfarfod hynod o orymdeithau hynotach Byddin yr lachawdwriaeth. Ni welwyd erioed olygfa harddach a mwy tarawiadol na'r Orymdaith Fawreddog I dydd Sadwrn o Victoria Embankment i Hyde Park. Dywedir fod deng mil wedi cymeryd rhan ynddi, ac ymestynai dros ddwy filldir o hyd. Cerddai yn- ddi drigain o seindyrf, ac yn y pare ceid deuddeg o lwyfannau o gwmpas y rhai y tyrrau y bobl i wrando ar y siaradwyri Cesglid y o 54 O genhedloedd, a cheid yn eu plith drigol- ion o'r holl dalaethau Prydeinig. Cerddai y Zulu a'r Chinead, yr Ameri- canwr a'r Indiad, y Japanead a'r Ffrancwr trigolion Rwssia a Germani, Sais ac Yspaenwr, bawb yn un cwmni cariadus a phob un yn ngwisg ei wlad ei hun. Anawdd fyddai dyfalu am olyg- fa mwy diddorol a swynol. Weithiau edrychai fel gardd symudol; bryd arall gwelem ynddi ddrama o fywyd amryw- iol, isel ac uchel y ddynoliaeth. Yn nesaf gwelem'ynddi y delfryd wedi ei sylweddoli a'r holl genhedloedd wedi dyfod yn un teulu hapus dan arwydd ac yn enw y Groes. Adran a dynnai sylw mawr oedd yr hon a ddanghosai wahan- ol ffurfiau gwaith Byddin yr Iachawdwr- iaeth. Danghoswyd darlun sylweddol o gartref y meddwyn; ac yna, dacw wely mewn ysbyty yn pasio a'r nurse yn gweini ar y babariod bychain. Cyn- rychiolid y fferm, a'r ardd, a'r bywyd- fad a Ilu o bethau ereill. Y mae y Fyddin wedi dod erbyn hyn yn un o alluoedd pwysicaf y byd, ac anawdd cael tystiolaeth gryfach i werth uprhyw sefydliad nag a geir gan Rider Haggard yn ei lyfr hynod, Regeneration i waith gwaredigol Byddin yr lach- awdwriaeth. Aml-Bleidleisiau. I Pasiodd y Mesur hwn yr ail waith trwy Dy y Cyffredin gyda mwyafrif syl- weddol o 78. Bellach y mae ganacto yn- tau dro arall drwy y Ty hwn, oblegid gwyddys hyd sicrwydd beth fydd ei dynged gyda'r arglwyddi. Iddynt hwy y mae yn rheg ac yn felldith, a da fuasai ganddynt gael terfyn arno trwy ryw foddion. Dyma'r mesur sydd yn myn- ed i gadw y Llywodraeth mewn swydd am flwyddyn gyfan eto. Oblegid y drydedd waith yw'r goel. Blwyddyn yn awr y daw i'w oed, ac y gellir man- teisio ar ei ganlyniadau. Hwn hefyd yw un o'r mesurau amlycaf sydd yn debyg o effeithio i roddi tymor o bum mlynedd arall i Mri. Asquith, Lloyd George a'i cwmni. Ar hyn o bryd daw cannoedd o wyr cyfoethog i bob ethol- aeth bron, yn rhinwedd eu haml- bleidleisiau o throant y fantol ymhlaid y Tori ac yn er,byn barn y trigolion mewn llu o achosion. Cyfrifir y bydd y Mesur uchod, o'i basio yn Ddeddf, yn werth o 40 i 60 o seddau i'r Rhyddfryd- wyr. Y Merched Mewn Llys a Charchar. I Mehefin lOed, cymerwyd Miss Sylvia ) Pankhurst i garchar tra yn arwain gor- ymdaith yn erbyn Ty y Cyffredin, ond I gwrthododd fwyta a gollyngwyd hi allan brynhawn dydd Iau, Mehetin 18, mewn cyflwr isel iawn. Erbyn "hanner awr wedi naw nos Iau yr oedd wedi ei dwyn mewn gwely-gerbyd at Dy y Cyffredin etc, a thystiai nad ai oddiyno os na fyddai I'r Prif-weinidog ganiatau dirprwyaeth ar ran cael y bleidlais i ferched. Ceisiodd Mr J. Keir Hardie, A.S., ei pherswadio i ymadael, ond yn hollol ofer. Yn ddiweddar hysbyswyd hi gan Mr George Lansbury fod Mr. As- quith wedi addo derbyn dirprwyaeth, ac yna ymfoddlonodd fyne gartref. Qeir y manylion erbyn hyh hefyd ar hanes y ddwy Miss Blomfield a dorasant ar reolau y llys, ac a apeliasant at y Brenin yn bersonol ar iddo roddi terfyn ar orfodi merched i fwyta. Y maent ill dwy o deulu urddasol, ac yn wyresau i'r diweddar Esgob Blomfield. Yr oedd fu mham wedi gwrthod iddynt fyned gyda hi i'r llys, ac wedi ceisio eu dar- bwyllo i beidio aflonyddu y Brenin. Jnd gwrthod a wnaethant. a llwyddas- ant trwy ystryw gael ffordd i ystafell yr Orsedd. Tra yn moesymgrymu ac yn myned ar eu gliniau o flaen ei Fawr- hydi y Hefodd un o honynt allan:— Eich Mawrhydi, yn enw Duw, stop- iwch fwydo gorfodol." Nid cynt y cod- asant eu llais nag yr oeddent yn rhedeg yn nwylo swyddogion cryfion chwimwth allan o'r ystafell.
Treherbert.I
Treherbert. I CYMDEITHAS YR IAITH I GYMRAEG. Y mae'n llawenydd gennyf hysbysu fod Cymdeithas yr laith Gymraeg mor fyw ag erioed, ac fe fydd y ddeuddeg- fed Y sgbl Haf Gymraeg Flynyddol 1914, yn cyfarfod eleni yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, ym Mis Awst. Llywydd, Syr Marchant Williams, B.A., Y.H., Caerdydd; Is-Lywydd, Syr Isambard Owen, M.A., D.C.L., Bryste; Trysorydd, Proff. J. E. Lloyd, M.A., Bangor; Ysgrifennydd, Mr. D. James (Defynnog), Treherbert. Nid rhaid i'r boneddigion hyn wrth gan- moliaeth. Y darlithwyr fydd yr en- wogion canlynol: Syr E. Anwyl, M.A., Athraw Cymraeg ym Mhrifathrofa Qvmru, Aberystwyth; Mr. J. Rowland, YM., !\I.V.O., Caerdydd; Mr. J. A. Bradnfey, Y.S.W., Y.H., Talycoed, Mynwy; Proff. J. E. Lloyd, M.A., Athraw Hanesyddiaeth ym Mhrif Ath- rofa'r Gogledd, Bangor Mr. S. J. Evans, M.A., Prif Athraw Ysgol Sir, Llangefni.; y Parch. Elvet Lewis, M.A., Llundain; Mr. D. Samuel, M.A., Prif- athraw Ysgol Sir, Aberystwyth Mr. H. Howells, Prifathraw Treorithy; Mr. Howell T. Evans, M.A., Caerdydd; Mr. W. J. Griffiths, B.Sc., Caernarfon; Mr. Ifor Williams, M. A., Athraw Cym raeg ym Mhrif Athrofa Bangor; Mr. Morgan Watkins, M. A. (gynt Cym- rawd a Darlithydd ym Mhrif Ysgol Paris); Mr. T. W. Berry, Arolygydd Addysg, Rhondda; Mr. John Griffiths, B.Sc., Prifathraw Dolgellau; y Parch. Jos. Jones, B.A., B.D., Aberhonddu; y Parch. T. Lewis, M.A., Aberhonddu. Dyna i chwi, Mr. Gol., res o golofnau cedyrn ein Hen laith. Pwy na ddywed hir oes i'r laith Gymraeg? Y mae Syr W. J. Thomas yn myn'd i roi t6 a bara brith i holl blant yr Ysgol Ddyddiol, a bathodyn arian i bob plen- tyn. Fe fydd mwy o swanks bach yn Nhreherbcrt nng erioed ar ol hvn. Da iawn, ynte Gwelsom olygydd y Dar;:i-i a Defynnog yn mynd yn hwylus iawn tua'r Opera House i weld p.r"(priiii-id yn ystod wythnos y Ddrama Genedl- aethol. Yr hon, meddent, oedd yn rhagorol. Y mae llwyddiant mawr yn Libanus -18 yn disgwyl eu bedyddio. Os erys Dr. Harries flwyddyn arall, bydd wedi ennill y gynulleidfa i gyd yn aelodau o'r eglwys. Er ei fod yn 81 oed y mae yn ieuanc ei ysbryd, ac yn pregethu fel dyn yn ei lawn nerth. Bu farw Benjamin Davies, aelod yn Libanus, yn 75 oed. Daeth i'r winllan ar yr unfed-awr-ar-ddeg, ond bu ffydd- Ion hyd angau. Heddwch i'w Iwch. Treherbert. J. Duncan. I
AT EIN GOHEBWYR. I
AT EIN GOHEBWYR. I Drwg gennym orfod cadw yn ol oheb- iaethau amryw o honoch yr wythnos hon eto, ond anghenraid a osodwyd arnom, ond bydd yn well o hyn allan.
Advertising
The Welshman's Favourite. I The Welshman's Favourite. I NIABON Sauce I JW As good as its Name. £ I DON'T FAIL TO GET IT. X tore NCH'S, St. Peter St., Cardiff. I 0 I My Moil's Sauce j I Large Bottie 2d..  Delightful Sauce and lots of !t for m 8 the money. <?<t//c???<"???M. ■ ? J? ?<A??—BLAMCM't, SL Ptcr SL, C-. t
COLOFN LLAFUR. II
COLOFN LLAFUR. II GAN PEREDUR. II Cadw Llygad ar Lloyd George. II Gwelaf fod Gohebydd o'r enw "Sos- ialydd Cymreig yn y "Darian" di- weddaf, yn crybwyll yn garedig ei werthfawrogiad o'r golofn hon, yn ar- bennig y driniaeth o faterion llafur. Amheua i raddau, er hynny, y safle wleidyddol a gymerir ynddi. Ofna fod tuedd i lethu Cymru yn enw Llafur, ac fod Mr Lloyd George yn cael ei ddi- raddio a'i gondemnio yn ddiachos gan ddosbarth o'r gweithwyr. Mewn ateb- iad, ac hunan-gyifawnhad, dywedaf fy mod wedi ymdrechu hyd y mae ynnof, i fod yn barchus tuag at bawb a gry- gwyllir yn y nodiadau hyn, ac wrth wneyd nodiadau ar ymddygiadau neu ddywediadau neb pwy bynnag, ceisir gwneyd hyny oddiar safbwynt egwydd- orion sylfaenol, ac anwybyddir hyd y gellir y personau cysylltiedig. Y mae gennyf gymaint jo serch a pharch tuag at gydwladwr a neb, ac nid oes un dyn yn barotach i ymfalchio yn llwyddiant y Cymro mewn unrhyw gylch o fywyd, na fy hunan. Ond nid yw hynny i gau fy llygaid rhag gweled gwendidau a diffygion hyd yn oed Mr Lloyd George ei hunan. Cofier, taw safle y llafurwr sydd gan y golofn hon i'w gwylied a'i ddiogelu yn bennaf peth. Fel mae gwaethaf y modd, nid yw Mr Lloyd George wedi profi ei hunan yn ddoeth, nac yn ffyddlawn i'r gweithwr mor ami ag y gallai. A phe y bernid ei ymddyg- iadau a'i gysylltiadau o safbwynt y Bregeth ar y Mynydd, nid wyf y sicr y cymeradwyid ef. Nid wyf am godi dadl ar y mater hwn, ond yr wyf yn barod i gydnabod hawl Sosialydd Cymreig" i gredu a fynno yn y ddelfryd Gymreig. Hyd nes y cyfnewidia yr Ethiop cyfalaf- ol ei groen, a'r llewpart hunangar ac ar- iannog ei frychin, nid yw yn ddiogel i weithwyr ddilyn Mr Lloyd George i bob man. '??*?'?'?*?*?*??  ?' B
Abercraf a'r Cylch.
Abercraf a'r Cylch. Nos Sadwrn a Sul, Mehefin 6ed a'r 7fed, cynhaliwyd cyfarfodydd pregethu yng Nghapel y Bedyddwyr, pan was- anaethwyd gan y Parch. Iorwerth Jones, Maesteg. Llongyfarchwn yn galonnog y brawd ieuanc E. Ryland Jones; Paris House, Abercraf, ar ei waith yn cipio gwobr flaenaf y Gymanfa yn yr ail radd yn Arholiad Ysgolion Sul y Bedyddwyr. Nid dyma'r waith gyntaf iddo ennill y safle hon; na fydded iddo foddloni ar hyn, ond gwnaed ei oreu i gipio gwobr flaenaf yr Undeb. Mae un o hen drigolion yr ardal hon eto wedi huno yn yr angeu, sef y brawd Daniel Davies, Pentwynelen. Yr oedd yn garcharor yn ei dy ers rhai misoedd oherwydd henaint a methiant. Pe cai fyw ychydig yn hwy cyraeddasai ei go oed. Yr oedd yn hynod barchus gan ei gydnabod, a cheid gair da iddo gan bawb a'i f hadwaenai. Claddwyd ef prynhawn dydd Sadwrn yng Nghladdfa Tynycoed. Gwasanaeth- wyd yn yr angladd gan y Parch. I. Hughes, curad Abercraf. Y Parch. Gwilym Isaac, Cadoxton, Barri, oedd yn gwasanaethu yng Nghapel Colbren y ddau Sul diweddaf, oherwydd afiechyd y Ficer, y Pareb. John Williams. Gwerthfawrogwyd ei wasanaeth yn fawr. Berw mawr sydd yma y dyddiau hyn gyda chwestiwn y meddyg. Nid rhyw ddymunol iawn yw safle pethau. Go- beithiwn er hynny y try y cwbl yn ffafriol o bob'tu, fel na byddo helynt poenus vmlaen. Mae anrhydedd mawr wedi ei ddwyn i'r ardal hon, ac i enwad parchus yr Annibynwyr, yn appwyntiad y Parch. Lewis Jones, Tynycoed, i gadair yr Undeb. Nid yw hon yn anrhydedd heb ei haeddu, oblegid y mae wedi I gwasanaethu ei enwad yn ffyddlbn ac I yn ddiwyd am flynyddoedd lawer. Yma yr ordeiniwyd ef 47 o flynyddoedd yn ol. Dymunwn iddo flwyddyn dded- wydd, ac y bydd yn alluog i ddwyn Trysorfa'r Weinidogaeth i olwg Canaan wlad. CAFNANT. I
Advertising
FOR PRICE ■ LIST. (n MENDING BELTS and N'RNESS I USE BIFURCATED RIVETS. d to punch holes.. Simpb Ri,,ets. and bend bac), rol,gs. Neat ard s t rc, mongers, or send I B' ated and Tubular ¡I Rivet Co.. Ltd. CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID QOFALU AM V RHAI HYN. Esgeuluadod 0 unrhyw Piwed I rbot hyn drwy ddamwltin mom glofyd a* atff Blood Poisoning a Marwolaoth. Meddyg;?" .I.IUII. Er mwyn yagol Pwryt'?' ?'? Mwn?y'' 'DOEII DIM molt LLWYODIANUO A 81011 A GOM EROS BALM. Mae Hwn yn awr y" .1,11' gjfnwya a: a diesel .1" arioad at imehou Clwyfau, AToHolllon, Tardd- .antau y lantau^y ?MM? Craoh a Nodd y Mhenau p I a n. t Liosgiad. Y qal. d a n a u sourvy, Llugrad Plant, Benywod a jm Babanod, Tarwden, Cout, Cymalau Poenus, ( Qheumat. ?r??  Cafn, tYD mew a .tat eoy.IG". Hynod Gwellhaodd Oom,r]Balm •nelthlo! bi YD bur foa. »« CLWYFAU ar COE AU. Mlloodd yn tystIO I'W EfTelthlau nhyUMtL RHODDWCH BRAWF ARMO Gwell had sydd slot Ar werth gan bob Clh jet a Stores aim 1/H. Gofyner.mC.??y- Mym- wch weled enw ?"" | ar M wch weled enw oTwir NM blwch. Heb hyn n'd T ?eu 8t.mp? danfoner e! ???°? Chm- m? m?p.5"W. £ 1 ,<M?ftn< ChMM- ^wbthodwcwTb OWRTHODWCH BOB PITH ARALL. F. Welch lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed tc. Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Tren prynwyr yma 8.0 ynon iddynt enwi Taeian y Gwbithiwk.
Cymdeithas Gymraeg LlaDsawel…
Cymdeithas Gymraeg LlaD- sawel (Briton Ferry). V?aea?auyGy?? yn ?mddarparu ar gy {^ y^cr nesaf. Heblaw anerchiadau ja? datentau llepl, sonir am cWrdd i pdrama. Ceisia aelodau y Gymdeitbas eu goreu i enill sel at 7 Gymraeg yeu cyd. ardatwyr. LIaweroesgeuJ.uso??y?ddwedibodyn a'r rhai hyny yn y He hwn gan rieni-a'r rhai hyny yn Gymry-o'r G??? ? yr aehvyd. Ysywaeth y mae yr S eulusdod yma ?Ty yn  yniadau an- ??ol &Is!r dcM yr ardalwyr weled Mnebyrarfenadgwrthrun.