Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

.. I I I .L.- I? - Y StorL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I L I? Y StorL NANNO. BYWYD PENTREFOL YM MOX. Can J. Tywi Jones. PENNOD V. Neges yr Heddgeidwaid. Be ma'r plismyn yma'n geisio, dywad? Wyt ti wedi gneud rhyw ddrwg, Matho?" gofynnai Mari Martin. Nag ydw, am wn i, ond y dryga fydda i yn neud ar hyd foes; a ma rheiny yn y teulu er's oesoedd. Fydd gynyn nhw waith cynddeiriog i 'nghosbi fi am y cwbwl," meddai Mathew. "'Taid, tybad ydi Jac wedi gneud rhwbath?" meddai Mari yn bryderus. Choelia i fawr; hwyrach mai dod i wel'd y lie ma nhw," meddai Mathew. Daeth yr heddgeidwaid ymlaen i'r buarth, a gofynnodd Huw Roberts, o Benmorfa, Ydi John Martin o gwm- pas?" Nag ydi, ond 'tydi o ddim ymhell; mi galwa i fo. Ydi o wedi gneud dryga, deudwch?" gofynnai Mathew. Fedrwn ni ddim deud yn iawn nes gwelwn ni fo'i hun. 'Y marn i ydi na 'naeth o ddim," meddai Huw Roberts. Gwelir ar unwaith oddiwrth yr ateb- iad nad oedd Huw Roberts yn un a ddringai risiau dyrchafiad yn ei swydd. Aeth Mathew i ben y Ion, a gwelodd rai o hogiau y pentref, a cheisiodd ganddynt alw Jac. Arhosodd yntau wrth y giat hyd oni ddaeth ei fab i fyny. Holai yn awr yn bryderus a wnaethai Jac ryw ddrwg. Tystiai yn- tau na wnaethai ddim a alwai am ym- weliad o eiddo un heddgeidwad, heb son am ddau. Wrth gwrs," meddai Jac, does gin i mo'r help, os cyman nhw fi ar false pretences." Pan ddaeth Jac ymlaen a gweled Huw Roberts yn parotoi i ddyweyd ei stori, a chan ofni i "false pretences," fel y galwai hwynt, beri blinder di-alw- am-dano i'w fam, torrodd ar ei draws— Rhoswch funud, Mr Robaits," meddai, this inqueiary must be pri- vate." Chwarddodd swyddogion y gyfraith. "Lie cefist ti rheina, Jac?" gofynai Huw Roberts. Mi cefis i nhw pan fuo nhw'n crogi'r dyn hwnnw yng Nghynarfon. Dowch hefo mi," meddai Jac, ac ufuddhaodd y swyddogion drwy fyned gydag ef i ben y bone. Fuost ti yn Mangor bythefnos yn ol, Jac?" gofynnai Huw Roberts. Do." Pwy oedd hefo chdi?" 'Roedd 11 ond dau gar mewn un yn mynd yno fel penwaig ar bennau'i gil- ydd. Pwy oedd hefo chdi ar ol i ti fynd o'r car?" "Huw Morus." "Fuoch chi'n cael diod yn rhwla?" Do'n cael dau lasiad yn y Sparklin Ffowntan. Dau lasiad yfsoch chi?" Dau yfas i, a dau yfodd Huw tra fu'm i hefo fo. That's all I'm responsi- ble for, Mistar Robaits. 'Rydw i'n meddwl iddo fo gael rhagor hefo chaps erill ar 01 i mi 'i adal o." "Sul gwyddost ti?" "Mi gwelis i o'n dwad allan o'r Sparklin wedi'n." O. wyddost ti 'i fod o wedi colli i dop cot?" Mi wn i na chollodd o moni. 'I gadal hi ar ol yn y Sparklin ddaru o." Wyddost ti rywbeth am dani 9rwan 7" "A raid i mi ddeud, Mistar Robaits 1" Rhaid, ma arna i ofn, Jac." Rhaid i chi deud y ewbwl, a deud gwir bydd gora i chi," meddai Sergeant Ketchum. "How unfortunate!" meddai Jac, ac edrychodd Sergeant Ketchum yn llawen. a Huw Roberts yn ofidus. "Lie ma hi?" gofynnai Huw Roberts. "Ma hi gin 'i young lady o, os nad ydi hi wedi 'i gyrru hi ar 'i ol o i'r South," meddai Jac, ac edrychai Huw R(>J>erts yn Ilonnach, a Mr Ketchum yn fwy siomedig. Sut cafodd hi hyd iddi, dywad?" Fel hyn buo hi, Mistar Robaits; mi welis i Huw Morus yn 'i gloefi hi i ddal y tren, a'r chaps rheiny hefo fo, ond 'toedd 'i dop cot ddim gyno fo. Ddaru mina ofni 'i fod o wedi 'i gadal hi ar ol, a mi eis i mewn i'r Sparklin, a 'roedd y got ar gefn un o'r cadeiria, lie 'roedd o wedi 'i gadal hi. Mi gymis i ofol ohoni, a mi ddois a hi gartra hefo mi, mi neis barsal reit ,ddel ohoni, a mi rwymis lebal a enw Huw arni wrth y parsal. Wyddwn i mo'r drecsiwn, a 'doedd gin i ddim i 'neud ond myn'd a'r I parsal idd 'i gariad o, a deud wrthi am I roi'r drecsiwn arno fo a'i yru fo i Huw pan gawsa hi love letter. A mi ddeu- dis wrthi. 'Ax no questions, ).; anno, about the contents sy' yno fo.' 'Toedd arno i ddim isio iddi wybod i Huw neud slip raor fuan ar ol 'i gadal hi, rhag iddi boeni. Ddyliodd hi'n siwr ma rhai o ffesants y plas oedd yno fo-beg par- don, gentlemen, 'tydw i ddim wedi ys- gwyd Haw ag un o rheiny 'stalwm— nearly put my foot into it now. Ond mi ofynnodd Nanno i mi os oedd ynddo rywbeth i ogleuo. Ddeudis ina wrthi 'toedd yno fo ddim-nothing at all to ax questions about." Why didn't you take the coat to his parents?" gofynnai Sergeant Ketchum. You see, sir," meddai Jac, "be- tween me and you and Huw Robaits here, I did not like to make a mess about it. They would not like the idea that Huw went to South Wales without his top coat. I take it to Nanno, and ax her-wel, i neud cymwynas, cogio, —and tell her to ax no questions. That's my case, gentlemen of the jury. What's my verdik?" Hela gwydd wyllt eto, myn cebyst! Dyma dda!" meddai Huw Roberts dan chwerthin. A very sensible edition," meddai Jac, "reit in accordance with the evi- dence. Thank you, gentlemen." "Aros di funud, Jac. Be oedd yn 'i phocedi hil" gofynnai Huw Roberts. "Didn't look and can't say; packed as it was without note or comment," meddai Jac. Nid oedd y Sergeant mor ddedwydd a Huw Roberts yng wyneb ffrwyth ym- chwiliad a gostiodd iddo ef gryn lawer o lafur. Efe ofynnodd nesaf: Lie ma cariad fo byw?" Ma hi'n gweini yn Rhoseithin," meddai Jac. Rhaid i chi dwad hefo ni i gweld trw cwbwl," meddai'r Sergeant. Dof 'n taid; at your service. Ond rhoswch i mi gael deud wrth yr hen bobol yma, rhag iddyn nhw feddwl na welan nhw 'mono i until the next assize. (I barhau.) ■ f

Marwolaeth Hy. Williams, Bonymaen,…

[No title]

I Eisteddfod Treorchy. 1

I Hanes Coelbren. j

Ferndale.1

Advertising