Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I All ^A ■EST for V ■EDS an d CAKOIFF (2)^ H RCWPORT PoamrrooL PONTYPRIDD H BWAN8EA llakelly^F Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at 9.5 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan & Co., Ld., Wales' Largest Furnishers are now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low pricel Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Cheat with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top and Tile Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered 111 Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
.. I I I .L.- I? - Y StorL
I L I? Y StorL NANNO. BYWYD PENTREFOL YM MOX. Can J. Tywi Jones. PENNOD V. Neges yr Heddgeidwaid. Be ma'r plismyn yma'n geisio, dywad? Wyt ti wedi gneud rhyw ddrwg, Matho?" gofynnai Mari Martin. Nag ydw, am wn i, ond y dryga fydda i yn neud ar hyd foes; a ma rheiny yn y teulu er's oesoedd. Fydd gynyn nhw waith cynddeiriog i 'nghosbi fi am y cwbwl," meddai Mathew. "'Taid, tybad ydi Jac wedi gneud rhwbath?" meddai Mari yn bryderus. Choelia i fawr; hwyrach mai dod i wel'd y lie ma nhw," meddai Mathew. Daeth yr heddgeidwaid ymlaen i'r buarth, a gofynnodd Huw Roberts, o Benmorfa, Ydi John Martin o gwm- pas?" Nag ydi, ond 'tydi o ddim ymhell; mi galwa i fo. Ydi o wedi gneud dryga, deudwch?" gofynnai Mathew. Fedrwn ni ddim deud yn iawn nes gwelwn ni fo'i hun. 'Y marn i ydi na 'naeth o ddim," meddai Huw Roberts. Gwelir ar unwaith oddiwrth yr ateb- iad nad oedd Huw Roberts yn un a ddringai risiau dyrchafiad yn ei swydd. Aeth Mathew i ben y Ion, a gwelodd rai o hogiau y pentref, a cheisiodd ganddynt alw Jac. Arhosodd yntau wrth y giat hyd oni ddaeth ei fab i fyny. Holai yn awr yn bryderus a wnaethai Jac ryw ddrwg. Tystiai yn- tau na wnaethai ddim a alwai am ym- weliad o eiddo un heddgeidwad, heb son am ddau. Wrth gwrs," meddai Jac, does gin i mo'r help, os cyman nhw fi ar false pretences." Pan ddaeth Jac ymlaen a gweled Huw Roberts yn parotoi i ddyweyd ei stori, a chan ofni i "false pretences," fel y galwai hwynt, beri blinder di-alw- am-dano i'w fam, torrodd ar ei draws— Rhoswch funud, Mr Robaits," meddai, this inqueiary must be pri- vate." Chwarddodd swyddogion y gyfraith. "Lie cefist ti rheina, Jac?" gofynai Huw Roberts. Mi cefis i nhw pan fuo nhw'n crogi'r dyn hwnnw yng Nghynarfon. Dowch hefo mi," meddai Jac, ac ufuddhaodd y swyddogion drwy fyned gydag ef i ben y bone. Fuost ti yn Mangor bythefnos yn ol, Jac?" gofynnai Huw Roberts. Do." Pwy oedd hefo chdi?" 'Roedd 11 ond dau gar mewn un yn mynd yno fel penwaig ar bennau'i gil- ydd. Pwy oedd hefo chdi ar ol i ti fynd o'r car?" "Huw Morus." "Fuoch chi'n cael diod yn rhwla?" Do'n cael dau lasiad yn y Sparklin Ffowntan. Dau lasiad yfsoch chi?" Dau yfas i, a dau yfodd Huw tra fu'm i hefo fo. That's all I'm responsi- ble for, Mistar Robaits. 'Rydw i'n meddwl iddo fo gael rhagor hefo chaps erill ar 01 i mi 'i adal o." "Sul gwyddost ti?" "Mi gwelis i o'n dwad allan o'r Sparklin wedi'n." O. wyddost ti 'i fod o wedi colli i dop cot?" Mi wn i na chollodd o moni. 'I gadal hi ar ol yn y Sparklin ddaru o." Wyddost ti rywbeth am dani 9rwan 7" "A raid i mi ddeud, Mistar Robaits 1" Rhaid, ma arna i ofn, Jac." Rhaid i chi deud y ewbwl, a deud gwir bydd gora i chi," meddai Sergeant Ketchum. "How unfortunate!" meddai Jac, ac edrychodd Sergeant Ketchum yn llawen. a Huw Roberts yn ofidus. "Lie ma hi?" gofynnai Huw Roberts. "Ma hi gin 'i young lady o, os nad ydi hi wedi 'i gyrru hi ar 'i ol o i'r South," meddai Jac, ac edrychai Huw R(>J>erts yn Ilonnach, a Mr Ketchum yn fwy siomedig. Sut cafodd hi hyd iddi, dywad?" Fel hyn buo hi, Mistar Robaits; mi welis i Huw Morus yn 'i gloefi hi i ddal y tren, a'r chaps rheiny hefo fo, ond 'toedd 'i dop cot ddim gyno fo. Ddaru mina ofni 'i fod o wedi 'i gadal hi ar ol, a mi eis i mewn i'r Sparklin, a 'roedd y got ar gefn un o'r cadeiria, lie 'roedd o wedi 'i gadal hi. Mi gymis i ofol ohoni, a mi ddois a hi gartra hefo mi, mi neis barsal reit ,ddel ohoni, a mi rwymis lebal a enw Huw arni wrth y parsal. Wyddwn i mo'r drecsiwn, a 'doedd gin i ddim i 'neud ond myn'd a'r I parsal idd 'i gariad o, a deud wrthi am I roi'r drecsiwn arno fo a'i yru fo i Huw pan gawsa hi love letter. A mi ddeu- dis wrthi. 'Ax no questions, ).; anno, about the contents sy' yno fo.' 'Toedd arno i ddim isio iddi wybod i Huw neud slip raor fuan ar ol 'i gadal hi, rhag iddi boeni. Ddyliodd hi'n siwr ma rhai o ffesants y plas oedd yno fo-beg par- don, gentlemen, 'tydw i ddim wedi ys- gwyd Haw ag un o rheiny 'stalwm— nearly put my foot into it now. Ond mi ofynnodd Nanno i mi os oedd ynddo rywbeth i ogleuo. Ddeudis ina wrthi 'toedd yno fo ddim-nothing at all to ax questions about." Why didn't you take the coat to his parents?" gofynnai Sergeant Ketchum. You see, sir," meddai Jac, "be- tween me and you and Huw Robaits here, I did not like to make a mess about it. They would not like the idea that Huw went to South Wales without his top coat. I take it to Nanno, and ax her-wel, i neud cymwynas, cogio, —and tell her to ax no questions. That's my case, gentlemen of the jury. What's my verdik?" Hela gwydd wyllt eto, myn cebyst! Dyma dda!" meddai Huw Roberts dan chwerthin. A very sensible edition," meddai Jac, "reit in accordance with the evi- dence. Thank you, gentlemen." "Aros di funud, Jac. Be oedd yn 'i phocedi hil" gofynnai Huw Roberts. "Didn't look and can't say; packed as it was without note or comment," meddai Jac. Nid oedd y Sergeant mor ddedwydd a Huw Roberts yng wyneb ffrwyth ym- chwiliad a gostiodd iddo ef gryn lawer o lafur. Efe ofynnodd nesaf: Lie ma cariad fo byw?" Ma hi'n gweini yn Rhoseithin," meddai Jac. Rhaid i chi dwad hefo ni i gweld trw cwbwl," meddai'r Sergeant. Dof 'n taid; at your service. Ond rhoswch i mi gael deud wrth yr hen bobol yma, rhag iddyn nhw feddwl na welan nhw 'mono i until the next assize. (I barhau.) ■ f
Marwolaeth Hy. Williams, Bonymaen,…
Marwolaeth Hy. Williams, Bonymaen, Llansamlet. Bu farw Henry Williams, Mehefin 11, yn 76 mlwydd oed, wedi bod o gwmpas blwyddyn mewn llesgedd. Brodor o'r rhanbarth oedd efe, ac yn lowr yn ngweithfeydd y plwyf o'i ieuenctyd. Bu am dymor byr, tua chanol oed, yn America. Claddodd yno ei wraig. Chwaer oedd hi i Mr John R. Williams (loan Bach), y bardd, sydd yn cyfan- eddu ar Fonymaen. Yr oedd Henry Williams yn ieuengaf o saith o frodhr. Enwau ei rieni oedd William Williams a Sarah Williams, gweddillion y rhai sydd mewn bedd yn ymyl clochdy yr hen eglwys blwyfol a dynnwyd i lawr er ys rhai blynyddoedd. Y mae hiliog- aeth William a Sarah Williams yn llu- osog, a bu iddynt saith mab, saith o feibion yn dwyn yr enw William. Mab William yr hynaf yw y Parch. W. Sam- let Williams (William o'r De); Mab Rees yw Mr W. R. Williams, sydd yn ddiacon ac yn arwain y canu er's llawer blwyddyn yng Nghapel-y-Cwm. Mab John o Benygraig, Cwm Rhondda, yw Mr W. Williams, sydd mewn glofa yng Nglyncorrwg. Mab Thomas yw Mr. W. Williams sydd yn cyfaneddu yn y Trallwm, ger Pentredwr. Bu farw William, mab Benjamin, a William, mab Dafydd, ychydig flynyddoedd yn ol. Y mae i Henry fab o'r enw W. H. Williams, yr hwn sydd ddiacon yng Nghapel-y-Cwm. Bu yr ymadawedig yn aelod crefyddol am lawer o flynydd: oedd yn Eglwys Capel-y-Cwm, ac yn athraw llafurus. Ymbriododd yr ail waith ag Ann Bodycombe, o'r Bane. John a'i rhagflaenodd i'r byd ysbryd- ol. Gadawodd mewn galafr ac hiraeth ei fab, Mr Hopkin H. Williams, under- ground surveyor dan Gwmni y Main, Skewen, a'i deulu. John sydd yn dra gwasanaethgar gyda'r Forward Move- ment yng Nghastellnedd a'r cylchoedd. Y mae yn llefarwr gwresog yn y ddwy iaith, a gwna waith effeithiol yn y cyn- ulleidfaoedd. Gadawodd yr ymadaw- edig hefyd fab a merch gartref mewn hiraeth dwys. Treuliodd yr ymadaw- edig fywyd moesol a chrefyddol, a bu farw mewn tangnefedd. Cafodd angladd Iluosog dydd Llun, Mehefin 15. Claddwyd ei weddillion y tu cefn i Gapel-y-Cwm (yr hen gapel). Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. T. H. Jones, W. Samlet Wil- liams, a O. C. Morgan. GOH. I
[No title]
Am ax:: math o Argr&ffwaith I yaM?ymer yn Swyddfa'r "Leader" ?'f uDarian." 1Q Cardiff Street. Aberdar.
I Eisteddfod Treorchy. 1
I Eisteddfod Treorchy. BEIRNIADAETH BRYNFAB. i Cinema ali Ddylattwad. I Traethawd-Y CineR,'la a'i Ddytanwad. Daeth 8 traethawd i law-5 yn Gym- raeg a 3 yn Saesneg. Bum yn pryderu a oedd hawl gan ymgeisydd i ysgrif- ennu yn Seisneg pan nad yw y Raglen yn nodi yr hawl honno. Ni chawsai Cymro ysgrifennu yn ei iaith ei hun i gystadleuaeth Seisnig. Felly, nid ar fy nghyfrifoldeb fy hun yr wyf wedi gollwng y ddor yn agored yn y gystad- leuaeth hon. Gwnaed y nodiadau ar y traethodau fel y dallenwyd hwy gennyf, felly hid ydym wedi eu rhestru yma yn ol eu teilyngdod. Junior.—Traethawd cymharol fyr. Mae yn gynnyrch ysgrifennydd medrus. Ceir ynddo ffrwd o ymresymiadau, a hynny mewn iaith eglur, a digon o "fynd" ynddi. Ond ceir ar y gwaith lawer brycheuyn, oherwydd brys ac esgeulusdra, megys gadael geiriau allan, a llithro bryd arall rhwng yr ei unigol a'r eu luosog. Cymeryd yr olwg nacaol ar y testyn a wneir yma, ac mae y rhesymau a nodir i gadarnhau hynny yn hollol glir o ragfarn. Rhy fyrr yw y traethawd, pan gymerir i ys- tyriaeth y tir a dramwyir gan rai o'i gyd-gystadleuwyr. Ar y Balconi.-Traethawd rhagorol. Traethir ar y testyn o wahanol gyfeir- iadau, a hynny yn y modd grymusef. Mae y syniadau wedi eu gwisgo mewn iaith firain. Ceir y ddwy ochr i'r dar- lun yma-y drwg a'r da cysylltiedig a'r Cinema, ac nid oes yma swn I rhagfarn wrth ameu dylanwad y Cinema i addysgu a moesoli y mynychwyr. Gwyliedydd. Traethawd cymharol fyrr eto, ond nid oes ynddo ddim gwas- traff amser na gofod ar bethau amherthnasol. Pwysir a mesurir dy- lanwad y Cinema yn eglur ac hwylus. Nodir y drwg cysylltiedig ag ef, ac awgrymir y modd i'w wneud yn fwy o ddylanwad er daioni cyffredinol. Ond ffydd wan sydd gan yr awdur y medrir ei wneud yn werth y poblogrwydd sydd i'r ddyfais ymhob man. Cyn belled ag y mae traethawd Gwyliedydd yn mynd nis gellid dymuno gwell celf lenyddol, na thecach ymdriniad o'r testyn. Swynol.-Traethawd gwych, ar lawer ystyr. Cymerir golwg ar y Cinema yma o lawer cyfeiriad; ond, rywfodd, teimlir nad oes ynddo ddigon o fywyd —symud yn drwm ac araf y mae meddwl yr awdur ynddo. Nid oes bai ar yr iaith, ond gallasai y brawddegau fod yn fyrrach, a thrwy hynny, fod yn fwy effeithiol. Trinir y testyn yn ei ddwy agwedd ?y drwg a'r da; ond teimlir nad oes yma yr un pendant- rwydd ar ddaioni y Cinema ag sydd ar ei ddrwg. Ond wedi y cwbl, y diffyg hoenusrwydd llenyddol a nod- wyd ar y dechreu sydd yn tynnu ych- ydig yn ol oddiwrth werth y traeth- Ceir yma hefyd olion diffyg gofal gyda'r atalnodi; ond feallai mai bai bychan yw hynny, er nas gellir ei anwybyddu mewn cystadleuaeth. Giraldus.-A very short essay, but very well written. The author wasted too much time in treating on matters not closely related to the Cinema, such as invention and the drama. It seems to me that the essay was reeled out on the spur of the moment. The nest rare bit in the essay is the follow- ing:—" The mission of the Cinema, if ever it had one, will never be realized as a factor to educate and elevate." Afanydd.—A rather short essay in comparison with some of his English co-competitors. It displays plenty of knowledge, such as can be obtained from books and newspapers. The sub- ject is not grasped firmly enough. The author treats it too mechanically. But the essay is not without its merits. Blodwen.-A very, very short essay, just a page and a half of foolscap. It is very compact and neatly written, but it has no chance amongst the able writers in this competition. Ap Tegrin.—A very comprehensive essay. Ap Tegrin takes a wider view of his subject than any of his co-com- petitors. He does not compare the good and the evil influence of the Cinema, like most of the other competi- tors, but he touches on almost every phase of its influence, and leaves the reader to draw his own conclusions. He sees more possibilities in the Cine- ma than any of the others, and prophe- sies great things as to the value of the "livipg pictures in all branches of learning, and to all classes, from the child in school to the highest in the world of knowledge. Wedi pwyso a mesur y traethodau yn ofalus, mae yn flin gennyf orfod dy- farnu y wobr am draethawd Saesneg. Mae pob un o'r traethodau yn Hawn werth y wobr. Ond mae Ap Tegrin wedi ysgrifennu yn llawer helaethach na'r oil o'i gydymgeiswyr, a hynny yn feistrolgar dros ben. Mae hefyd wedi cyffwrdd a llawer o ddylanwadau y I Cinema, na fy traethodwyr eraill yn I agos i'w cyffimau. Yn ddios, Ap Tegrin bia y wobr, ac nid yw ond cydnabyddiaeth fechan am ei lafur. I'
I Hanes Coelbren. j
I Hanes Coelbren. j (Gwobrwywyd yn Eisteddfod Gadeir- iol y Coelbren, Awst 5ed, 1912). (Parhad.) Mewn ystyr grefyddol gellir dweyd I fod Coelbren yn nodedig am hyn; a theg yw cydnabod gwaith yr Eglwys. Hi yw yr hynaf, a gallaf ddweyd yn ddi- j betrus fod mwy o sel yn perthyn i ael- odau hon nag sydd i'r Eglwys Wladol mewn llawer man yng Nghymru ¡ heddyw. Y mae yn ddiameu wedi gwneud llawer o ddaioni. Un tro pan oedd y Parch. Foster Jones, o Ystrad- I gynlais, yn Gurad yno, ni ddaethai ond I John James, y Ffactri, a Beto Jones i'r gwasanaeth un noson. Wedi hir aros I dyma John James yn dweyd wrth y Parch. Foster Jones: Mae'n well i ni fynd, dyw hi ddim gwerth cynnal gwas- anaeth heno; dim ond ni'n dau sydd yma." ?0, na!" ebai Jones, "mae un arall yma hefyd." Pwy yw e ta?" gofynnai John James. Atebodd y parchedig ef, Mae gen i ddigon o j waith i dy drin di Jack; y mae'r hen I fachgen yn gryf gyda ti." Ond i'r Bedyddwyr y rhoddir y llaw- ? ryf am egni a dyfalbarhad gyda achos y Gwaredwr. Dechreuwyd yr achos Bedyddiol flynyddoedd yn ol, a chod- wyd capel haearn i gychwyn. Cangen ydoedd o eglwys henafol Nantyflin. Llafuriasant yn y galed nes fod y babell wedi myned yn rhy fach, a rheidrwydd amynt i ymhelaethu y cortynnau; ac yn Awst, 1910, wele Deml ardderchog i'r Goruchaf o'r defnyddiau goreu, a'r cyfan yn ffrwyth ymdrech a dyfal-bar- had gyda'r gwaith da. Y mae y Bed- yddwyr yn nodedig am glirio'r ddyled sydd arnynt. Mae eu heisteddfod wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn ystyr ariannol a dyrchafol. Y mae Festri hefyd gan yr Annibyn- wyr gerllaw Capel y Bedyddwyr. Adeil- adwyd hon yn 1910; cangen ydyw o Eglwys Annibynnol Tyncoed. Gellir dweyd fod yr Eglwys Wladol, y Bedyddwyr, a'r Annibynwyr yn cyd- weithio yn gamoladwy. Nid yw en- wadaeth yn cael y lie blaenaf mewn crefydd ar y Coelbren; hyrwyddo Teyrnas yr Efengyl sydd mewn golwg yma. Nid yw Coelbren eto ond megis yn dechreu datblygu, a diau fod dyfodol disglaer i'r lie. CASWALLON. I
Ferndale.1
Ferndale.1 GAN IOAN. I Derbyniol iawn oedd y darlun o Eos Hafod a'r braslun o'i hanes gan y cyfaill Devonald. Da gennym ddeall fod yr Eos yn parhau i wella. Dis- gwyliwn am ei Nodion yn y "Darian" yn fuan. Dymunwn adferiad llwyr iddo. Blin gennym gofnodi marwolaeth a chladdu un o garedigion y lie, sef Mr Rosser Rosser, cigydd, High Street. Byr fu ei gystudd, ond blin. Tua chwech wythnos cyn ei farw parlyswyd ef, ac er pob ymgeledd o eiddo ei deulu a phob dyfais feddygol hunodd yn dawel Mehefin 2il, yn 49 oed. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod o eglwys Penu- el, yn athraw ffyddlon yn yr Ysgol Sul, ac yn aoled amlwg yn yr Ysgol Gan. Teiinlai ddiddordeb mawr ym mhlant yr eglwys. Claddwyd ei weddillion Mehefin 5ed, ym Mynwent Caersalem Newydd, Tre- boeth, Abertawe. Gwasanaethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan ei weinidog, y Parch. B. Watkins, Penuel, a'r Parch. Mr. Owens (B.), gweinidog Caersalem Newydd (gynt o Watts- town). Dymunwn nodded Duw i'r ddwy ferch fechan amddifad sydd heb dad na mam erbyn hyn, ac i'r teulu a'r perthynasau oil.
Advertising
TURKEY EGGS, Lord Rothschild I i. Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6a., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list free. GOODWIN, Stratford, Essex. >0 Gadewch 1ml slarad a chwl mm -A, Ludded Pan y Hethir eich cyfansoddiad M gan bryder neu or-waith-pan y f mae eich ynni yn brin pan y "rywsut"—panymae'eh k. ????' B?t?' nerfau yn Hinedig-pan y bUnir B!? chwi gan yrymdrech leiaf-yr ydych N? ?? ?<? mewn cynwr o ludded. Mae'ch ???? J?! cyfansoddiad fel y blodeuyn JD gwywo gan brinder dwr. Ac yn yjfiH union fel yr adnewydda'r dwr y W | N blodeuyn gwywedig-felly y rhydd ,>■ 'Wincamis' fywyd newydd i gyfan- [ f t <—. | fl BQddiad lluddedlg. Gallwch ei k N mrimlo yn llanw eich holl gorff gydad y lechyd ?My<M—nerth WM??—ynnt onrydd a bywydd Hewydd-hyd yn ??????t? ? ??? oed oddiwrth y glasaid cyntaf. ttttttN ?? Dechrenwch fodymiach HW ?" YN RHAD Anfonwch am brawf-gostrel yn rbad o Win" earnis'—nid yn unig cael el flas, ond digoo I wneud lles i chwi. Amgauer tri stamp cetniag (I dalu'r cludlad). COLEMAN a; CO., LTD.. W. 140, Wincarnis World. Norwich. Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon.  tj! ILE GRAVEL PILLS MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w ohael mewo tri ffurf. No. I.-George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3.3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd giodoa hyn yn mhob man, mewn Blvohau 11., a 2/0 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. t Go-ohalwoh.Dwyllwyr I-Gofynwoh yn eglur am "[George's fiJls," a gwelweb eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, II. ft. P.S., HIRWAIN, ABERDARE. <