Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y DDRAMA. i -I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y DDRAMA. i I Y Ddrama Gymraeg. i Mae Pwyllgor Hyrwyddo'r Ddrama yn Abertawe" wedi bod wrthi yn ddyfal yn paratoi ar gyfer dyfodiad y Cwmni Dramodol yma Meh. 29ain a'r dyddiau dilynol. Prynhawn dydd Gwener, Meh. 1ge9, cynhaliwyd cyfarfod pwysig yn Neuadd y Guild Hall o foneddigesau Cymraeg, a rhai Cymreig eu teimladau o blith y Saeson er hyrwyddo y mudiad. Cynhullydd y cyfarfod oedd Mrs. Aeron Thomas, boneddiges flaenllaw gyda phob mudiad lie sol i gymdeithas yn y dref. Yr oedd y neuadd wedi ei llen- wi gan y gwahoddedigion, ac yn eu plith nifer o wir blaenllaw yn y dref. Cadeir- iwyd gan yr Henadur David Davies (Golygydd y South Wales Daily Post). Darllenwyd nifer o lythyrau gan D. Rhys Phillips, F.L.A., cyd-ysgrifennydd a D. Spurrell Davies, oddiwrth fonedd- igion a boneddigesau oedd yn methu bod yn bresennol, ac yn eu plith oddi- wrth y Prif Athro T. F. Roberts, yr Athro Lloyd, M.A. (Bangor), Syr Grif- fith Thomas, Lady St. Davids, Lady Stafford Howard, etc., yr oil yn dy- muno pob llwyddiant i'r mudiad. Anerchwyd y cyfarfod gan Mrs. Aeron Thomas, "Owen Rhoscomyl," y Fon- esig Cecile Barclay, Mrs. (Capt.) Vaughan, Syr D. Brynmor Jones, a'r Maer. Wedi diolch i'r cadeirydd am lywyddu ffurfiodd y boneddigesau eu hunain yn bwyllgor i ystyried y ffordd oreu i wneud wythnos y Ddrama yn Abertawe yn llwyddiant. Nos Lun bydd y Maer yn cynnal cwrdd croeso i gyfarfod Arglwydd Howard de Walden a Granville. Barker, Ysw., yn Neuadd Albert, pan ddisgwyl- ir dros fil o wahoddedigion. Ceir hanes y cyfarfod hwn yn ein nodion yr wythnos nesaf. Isod gwelir apel y "pwyllgor" am nodded Cymry'r dref a'r cylch i'r mudiad pwysig yma. Mae yn cae l ei ddosbarthu ar ffurf cylch- lythyr yn Gymraeg a Saesoneg Apel at Genedlgarwyr. I Yn ystod yr wythnos sy'n dechreu ar y 29ain o Fehefin, ceir gweled yn y Chwareudy Mawr, Abertawe, gyfleuad o ddramau gwreiddiol wedi eu hysgrifen- nu gan Gymry, a'u dehongli gan actwyr Cymreig. Dylai hyn ennyn diddordeb trigolion Abertawe, y mwyaf cymreig ei hanian o drefydd mawr cymru. Rhan yw'r wythnos ddrama o antur- iaeth, genedlaethol ei nodwedd, sydd a'i hamcan i gyfleu drama gartrefol a'i dwyn i boblogrwydd. Dengys hon, mewn drych, fywyd fel y mae yng Nghymru; amlyga ddelfrydau a phrof- iadau ei phobl, a rhydd fynegiad dra- matig i'w meddyliau a'u coelion. Nid. dynion a'u bryd ar wneud arian yw ei hyrwyddwyr, ond Cymry blaenilaw a dynion yn cydymdeimlo a dyhea laur genedl, sy'n argyhoeddedig y jielhr. drwy ddrama o'r fath, fywhau prysur- deb deall y Cymry a chodi safon gwr- taith yn y wlad. Gan ein bod yn sylweddoli'r gwirion- edd hwn, ac yn credu fod mudiad y ddrama genedlaethol wedi ei gychwyn gan Gymry sydd a'u bryd ar lesoli eu gwlad, apeliwn am yngynhulliad cyffredinol a haelfrydig dan y faner sydd wedi ei chodi ganddynt, ac at yr achos gwladgarol yr ymegniant gymaint drosto. Llawer o siarad ac ysgrifennu sydd yn bresennol am y ddrama, a gobeith- iwn na lesteirir hi gan ragfarn. Mae y ddrama wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd cenedloedd ereill, ac wedi gwneyd lies. Cof gennyf pan oeddwn yn Hyde Park, America, i Miss Mary Anderson a'i Chwmni ddod am noson i Opera House, Scranton. Yr oedd hynny 30 mlynedd i'r mis diweddaf. Perrform- ient y ddrama enwog East Lyne. Yr oeddwn wedi ei gweled o'r blaen, a'i darllen fel nofel, ond nid a'n angof y noson honno tra fyddaf yr ochr hon. Ni welais gymaint o golli dagrau gan gynulleidfa erioed. Dywedais nad aethwn byth i weled East Lyne mwy, ac nid aethum ychwaith. Bu East Lyne fel goleudy i filoedd ar for bywyd, ac yn help i lestri prydferth gyrraedd yr hafan yn ddiogel ar ol ymladd eu ffordd trwy y "Pirates," a ymrithiant fel engyl gwynion. Perfformiodd y foneddiges hon East Lyne rhai miloedd o weithiau hyn nes i'w hiechyd dorri i lawr. Priododd a gwr cyfoethog o'r enw Antonio de Navarro bum mlyn- edd wedi hyn, yn 1889. Maent yn byw yn awr mewn palas yn y wlad yn Kent. Cymerant ddiddordeb yn y tylodion sydd o'i hamgylch. Mae gan y sawl a welodd Syr Forbes Robinson yn y ddrama, Passing of the Third Floor Back," atgofion melus am gymhorth a gafwyd i fyw yn well. Y mae y dramodau Cymraeg a welais ar linellau iawn mor bell, ac yn sicr o wneyd lies. Mae y dydd wedi myned heibio i'r gair 'theatre' fod yn dram- gwydd. Pan oeddwn yn hogyn bydd- ai son am theatre yn creu braw, fel pe byddai y drws nesaf i'r lie poeth. Cyffroid fy nhad gan y gair fel y cyffroir tarw gan gochni. Er hynny mae gan grots Aberdar atgofion melys am Johnny Noakes—gwr digrif y cwmni, a Mrs. Julia Jennings arferai wisgo dillad morwr. Arhosent chwe mis yn ymyl Ty'r Farchnad. Dyma ein arwyr pan yn ieuainc. Mae y Garw yn weddol iach ar y cwestiwn, a Chwmni. Drama'r Cymrodorion wedi penderfynu agor y tymor nesaf gyda drama, a chael drama fel arfer ar Wyl Ddewi. Maent yn gwmni galluog. Gwel y sawl a fyddo byw ddeng mlynedd eto lawer o gyfnewidiadau. BERDAR BACH. Y DDRAMA GYMREIG. I Syr,—Boed anrhydedd fyth i'r hen DARIAN, estynedig fel y mae; yn erbyn gelynion ein Drama fech- an yn nyddiau ei babandod. Mae y DARIAN yn cymeryd heddyw y safbwynt a gymerais i-yn gyntaf mewn erthygl yn Wales, Rhagfyr diweddaf, at y testyn "Cymru a'r Chwareufa," ac hefyd mewn llythyr i'r South Wales Daily News ar y 9fed o'r mis presennol-pan roddais, gan ei gyfieithu, rai o'r sylwadau oedd yn y DARIAN yr 28ain o Fai. Ond mae'n deg, yn ol fy meddwl i, i ddywedyd nad yw pob un o'r professional actors Cymreig i'w fell- dithio yn ddiarbed. Y mae yn eu mysg rywrai sydd yn ffyddlawn i Gymru a'i harferion a'i chrefydd; mae eu henwau ar fy nhafod a'u cymeriadau o -flaen fy llygaid. Amlhaer y nifer o honynt, felly megir ysgol uchel a fydd yn deil- wng o'n gwlad ni. Pa un o'r efengylwyr enwog a arferai aw- grymu Pa hawl sydd i'r Diafol i fod yn bercbennog ar bawb o'r tonau tlysion ? Yreiddoch, Syr, yn ddiffuant, J. TANAD POWELL. Merthyr Tydfil, Mehefin 16eg. [NODIAD.-Ceir ysgrif yn y golofn hon yr wythnos nesaf ar Ble ma fa?"]

Y -Cor Mawr.-I

ITipyn o Bopeth oI IBontardawy.

Arbollad Ysgolion Sui U.B.C.

Y Barri.I

I Colofn y Gohebiaethau. '

Araith Dr. Harris, Treherbert…