Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TO LE T I
Advertising
W. Williams & Co. JEWELLERS. &40.. 29 Castle St., Swansea. Specialities l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, I Bet. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry boff, d'wh &t y CyMO G I Mn heirdd fodrwyM aar, Oriadaron ac awrleisiau. Gemau a chad'm'' olaer ^• YSS!? Je!fydd?!n.fyMgydd. Gwr68-fesdd, Cwmpawd m6r Geir gan Wilhams, Heoty OMteU Tr<wch i mewn i wel d ei OOr-
Advertising
"Mwyn yw dwr yn mynd i waered, a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned." AP HEFIN. CEIR MWYNHAD DYBUG WRTH YFED DIM OND LEMWNED Bryniau Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANOEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD OLOFAOL.
Y CYNNWYS.|
Y CYNNWYS. Gwlad a Senedd Tud. 1 Ymgyrch Purdeb a Moes 1 Nanno »• I "? Ooroni Ap HeRn ?:? B  Beirniada?th?u 2 Colofn y Ddrama 3 f Y Barri 3 I Twm o'r Nant « 3 I Llith y Gol 41, Colofn Llafur 5 Arglwydd Howard De Walden yn Abertawe 5 j Colofn y Plant. 6 Ysgrapiau Ap Hefin 6 Heol y Cyw 6 Llith Talnant 6 Gwyl y Cnawd ym Mountain Ash 7 Dewi Aur yng Nghydweli. „ 7 Colofn y Beirdd ?? 8
GWLAD A SENEDD. j I
GWLAD A SENEDD. j GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. Gan Ein Gohebydd Arbennig. Brwydro caled a beunyddiol yw hanes y Senedd y dyddiau hyn etc. ac, fel arfer, er's llawer blwyddyn bellach, try y frwydr boethaf o gylch Y Bachgen o Griccieth." Lie cyhwfana ei faner ef y rhed y mwyaf beiddgar o'r gelynion. Ar hyn o bryd, nod y brwydro mewn enw yw y gyllidefc, ond mewn gwirionedd pen y Canghellor a bywyd y llywodraeth ydyw. Wythnos yn ol ceid mintai o feirniaid Rhyddfrydol, y rhai a alwent am gyfnewidiadau pwysig yn nhrefn- iadau ariannol y Llywodraeth. Cefn- ogid hwy yn aiddgar a gwenog gan y Toriaid. Edrychai pethau yn ddu a bygythiol. Atebodd Mr Herbert Samuel ar ran y Llywodraeth y byddis yn tynnu ceiniog i lawr oddiar dreth yr Incwm i'r sawl a dalent swllt-a-grot y bunt. Golygai hyn golled am y flwyddyn o £ 2,576,000. Cynhyrfodd hyn eto lid Plaid Llafur, y rhai a wrth- odent gefnogi y Llywodraeth. Beth, oedd i'w wneud? Bu cryn aros wrth Mr Lloyd George, a nos Fercher, ar drydedd noson y ddadl, cododd ar ei draed i amddiffyn ei hun. Daeth tro ar bethau yn bur fuan, a gwisgai yr olygfa Seneddol wedd newydd. Ni fu ein cydwladwr erioed yn fwy hapus a meistrolgar. Chwareuai. trywanai ac ergydiai ei wrthwynebwyr gyda'r hawddineb mwyaf. Danghosai eu twyll a'u dichell: honent awydd am gael help i'r trethi lleol, ac eto unent i atal y Llywodraeth i estyn yr help hwnnw. Cododd y ddadl i dir uchel a phrofodd ei hun yn gawr ynghanol cor- achod. Ond beth yw Anawsterau y Budget ar hyn o bryd ? Mewn gair, ymgeis- j iodd y Canghellor wneud gormod ar unwaith. Pe buasai y Toriaid yn cyd- uno, byddai popeth yn iawn, a chaw- sai y trethi Ileol fantais aruthrol, heb oedi dim yn hwy. Ond rhaid yw i drefniadau ariannol y Llywodraeth basio erbyn Awst 6ed, jajs gellir bytb hwylio y mesurau gofynnol trwy Dy y Cyffredin yn y cyfamser, yn wyneb gwrthwynebiadau y Toriaid. Dyna gnewyllyn yr helynt. Yr esgusodion godir yw: fod yn amhosibl i'r wlad ddod i fyny a thelerau y Budget fel ag i fod yn barod eleni i fanteisio ar y rhoddion at y trethi Ileol. Cyn daw yr arian o Lunden at rai achosion lleol rhaid fydd ad-drefnu y safon ar ba un y codir ein trethi. Ar hyn o bryd nid oes gennym safon o gwbl, ond gweithredir yn fynych ar fympwy noeth dynion anwybodus. Wrth bender- fynu gwerth ardrethol y palasdy byddis yn fynych yn ymddibynu llawer ar un o denantiaid yr yswain. W rth ben- derfynnu gwerth ardrethol y gwaith glo neu haearn neu y ffactri, ymddi- bynnir yn fynych ar un o swyddogion neu o weithwyr y gwaith hwnnw. Y canlyniad anocheladwy yw: camsyniad- au a ehamwri a musgrellni a chymysg- fa. Hawlia y Canghellor safon unol, deg i'r holl wlad. Peth arall ddygir i fewn yw Trethu Tir yn ol ei Werth. I Ar hyn o bryd ceir eiddo mawr yn y wlad, nad yw yn talu ond y nesaf peth i ddim. Os bydd gan ddyn werth mil neu ddwy o bunnoedd o dir mewn tre, neu yn ymyl un o'n trefydd' neu ein dinasoedd mawrion, ychydig sylltau godir arno. Os adeilada dy, neu siop, neu swyddfa arno, teflir treth drom arno yn ddiaros. Golyga hyn faich ar bob anturiaeth a masnach ac ymdrech gymdeithasol ond gwobr a chefnog- aeth i seguryd ac atalfa ar gynnydd a diwydrwydd. Bwriedir cyfnewid hyn oil. Dygir y cyfQeth enfawr sydd yn gorwedd yn segur a didreth yn y wlad i ddwyn ei gyfran o'r beichiau cym- deithasol. Tal y ffordd i ddyn yn awr brynu tir a'i gadw yn segur, mewn cylch poblog, -oblegid trwy ymdrech y bobl a chynnydd y boblogaeth ych- wanegir ei werth. Gwyddom am ddarn o dir werthwyd ychydig flyn- yddau yn ol am I- 70 sydd yn werth 2500. Ceisia corff cyhoeddus ychydig flynyddavi yn ol dir i adeiladu swydd- feydd a chynhygiwyd darn iddo yn ol 22 10s. y llathen ysgwar. O'r awr hono hyd heddyw trethir y tir hwnnw fel tir amaethyddol, ac ni chyfranna ei berchennog ond ychydig sylltau y flwyddyn at y trethi Ileol. Y chwaneg- wyd at werth y tir ar draul trethdalwyr ere ill. Beth i'w Wneud a'r £ 2,576,000? I yw'r cwestiwn gafodd gryn le yn y I ddadl. Yn ol trefniadau cyntaf y Gyllideb.yr oedd y swm hwn i fyned at achosion Ileol, ond bellach a yn ol i'r sawl sydd a'i treth yn swllt-a-grot yn y bunt. Y mae Plaid Llafur yn anfodd- Ion iawn i hyn: hawliant hwy y dylid defnyddio y swm uchod i wneud i ffwrdd a threth y siwgr, ac ant mor bell a gwrthod pleidleisio dros ail ddar- lleniad y Gyllideb. Dadl Mr Lloyd George yw y carasai yntau cystal a neb symud y treth uchod ond y byddai yn ofynnol cael dwbl y swm uchod i'r di- ben hwnnw. Heblaw hynny rhaid fydd cael yr un arian a nodwyd i gynorthwyo cyrff lleol i gario allan ddeddfau iechyd yn eu gwahanol gylchoedd. Nid yw y Y,2,576,000 yn cael eu troi yn ol ond am eleni yn unig. Ond beth am y Trethi Lleol? t Crea y cyfnewidiad a amlinellwyd hyn o wahaniaeth yn ol y Canghellor, y byddant yn cael eu gohirio am bedwar mis. Bwriadwyd iddynt ddod i rym ar y cyntaf o Ragfyr, ond yn awr ni ddeu- ant hyd Ebrill ef. Cofier, er hyny, nad yw hyn i'w gymhwyso at y rhoddion at Addysg; daw y cyfryw i weithred- iad eleni, a gwnant swm lied sylwedd- ol. Yr un modd y miliwn punnoedd at Yswiriaeth, rhoddir hono eleni. Cyd- rhwng y cyfrannau at Addysg, Yswir- iaeth, ymgyrch y darfodedigaeth, bwydo plant a phethau ereill bydd Cyllideb 1914 wedi'r cwbl yn un i'w chofio gyda diolch. Cadwodd Araith y Prif Weinidog I y ddadl ar dir uchel iawn. Ynddi danghosid y cyfnewidiad aruthrol sydd wedi cymeryd lie yn y fantolen genedl- aethol. Yn 1905-6 gwariwyd y swm o £ 150,000,000 tra yr amcangyfrifir cosst- iau, y flwyddyn bresennol yn 2207,000,000. Ond, beth sydd yn cyfrif am y cynnydd? Aeth cost y llynges i fyny 218,000,000, a chost diwygiadan cymdeithasol dros £ 30,000,000. O'r swm olaf cymhwysir Y,20,000,000 at flwydd-daliadau hen bobl ac yswiriaeth a £ 2,500,000 at addysg. Wedi'r cyfan nid yw pethau yn edrych yn ddrwg o aafle y gweithiwr- Ond sut y cadir yr arian heddyw o gymharu a ddyddiau y Toriaid? Dyma un ffaith ddylid gadw mewn eof; nid oes ond 27 o bob gloo o gostiau y wlad yn dod oddiwrth drethi ar anghenrheidiau y bobl. Codir y swm hon ar dê, a siwgr, coco a I bwydydd ereill. Daw 293 allan o bob ZCIOO allan o logellau y cyfoethogion ac oddiwrth bethau y gellir gwneud heb- ddynt fel diodydd meddwol a myglys. Wrth feirniadu y Llywodraeth da fydd ystyried y pethau hyn yn fanwl. Con- demnia Mr Asquith dfreth y siwgr fel un niweidiol, a da fydd ganddo weled ei symud, ond tystia fod mwy o angen ar hyn o bryd am y geiniog oddiwrth dreth yr Incwm at helpu y trethi Ileol nag at ddiddymu treth y siwgr. Profodd nos Iau yn Noson Beryglus i'r Llywodraeth. j Tynnwyd ei mwyafrif i lawr i 38 ar ail ddarlleniad y Mesur Ariannol. Pleid- leisiodd wyth o ganlynwyr y Gwyddel, W. O'Brien, yn erbyn y Llywodraeth. Gwrthododd Plaid Llafur, ag eithrio dau aelod, bleidleisio o gwbl. Aeth Mr Luke White, Rhyddfrydwr, drosodd at yr wrthblaid, ond profodd y Blaid Wyddelig yn hynod ffyddlon. Am- lygwyd cryn deimlad gan gefnogwyr y Llywodraeth yn erbyn y Rhyddfryd- wyr hynny a wrthryfelasant, ac a lwyddasant i wanychu y Llywodraeth yng ngolwg eu gelynion. Y Toriaid a'r Tlodion. I Os dygwydd un peth mwy na'u gilydd i'r amlwg yn y ddadl uchod, Toriaeth galed y Toriaid yw hwnnw. Clodfor- ant y fyddin a'r llynges ac y maent yn foddlon gwario unrhyw arian ar y cyfryw. Ond am ddeddfwriaeth gym- deithasol a chysur y werin a'r tlawd y maent yn rheg ac yn felldith yn en golwg. Yn hyn y maent yn holl gyson a hwy eu hunain. Pwy wrthwynebodd Ddeddf y Blwyddiadau gyda ffyrnig- rwydd eithafol? Onid Mr Henry Chap-1 lin sydd yn derbyn dwy fil o bunnoedd y flwyddyn o flwydd-dal gan y Llyw- i odraeth yn gyson? Onid Arglwydd: Cromer gafodd rodd o JB40,000 gan y Llywodraeth pan roddodd i fyny ei swydd fel Llywydd yr Aipht, ac y cod- wyd ef i Dy yr Arglwydtfi 1 Onid Ar- glwydd Halsbury, yr hwn fel Arglwydd Ganghellydd fu yn derbyn cyflog o 910,000 y flwyddyn am tua ugain mlyn- edd? Onid Ardalydd Lansdowne y dy- wedir fod ei incwm yn JEl20,000 y flwyddyn? Dyma'r dynion wrthwyneb- ant bum swllt yr wythnos i hen weith- wyr trigain-a-deg oed! Ffei, Ffei! Ond atolwg, onid yw Toriaid Ty y Cyffredin heddyw o ddosbarth gwell na'r rhai hyn ? Gresynwn ddweud nad ydynt. Yr un yw Toriaiaeth ymhob oes, ac ni cheir ond dagrau ar rudd- iau aelodau Toriaidd Ty y Cyffredin am yr £ 20,000,000 sydd wedi eu rhoddi yn flwydd-daliadau ac at yswiriaeth a phethau cyffelyb gan y Llywodraeth Ryddfrydol bresennol. Ei casbeth yw yr hyn a alwant yil "Lloyd George Fin- ance. Geiriau Toriaid ar y Pwnc. I Fel hyn y dywed Mr M. Hicks-Beach, yr aelod Toriaidd dros Tewkesbury, a mab Arglwydd St. Aldwyn: "Nid oes fawr obaith am ostwng costiau y wlad ties i'r bobl sydd yn derbyn elw oddi- wrthynt gael arddeall fod yn rhaid iddynt dalu eu cyfran tuag atynt, ac er y gall fod yn iawn i osod treth YCh--1 wanegol ar incwm y cyfoethog, credai I y dylid go sod baich ychwanegol ar y { dosbarth tlotach hefyd mewn ffordd o I dreth anuniongyrchol." Meddwl syml hyn yw, y dylid rhoi treth ar fwyd y dosbarth gweithiol. Dywed Mr S. Baldwin, yr aelod Tori- aidd dros Bewdley: Ni ddylai Cang- hellydd y dyfodol ychwaith, gychwyn a thywys i fewn ddeddfwriaeth gym- deithasol yr hon a gyfyd gostiau y wlad." Yn ei araith nos Fercher pan yn delio a'r cynnydd yn yr hyn a werir gan y Llywodraeth, ebai Mr Austen Chamber- lain, y Cyn-Ganghellor Toriaidd, a mab Joseph Chamberlain: Os myn- nant gynhilo, nid ym maes arfau ryfel y mae ganddynt reoleiddiad llawn. Yn hytrach, yn nhiriogaeth bywyd cartref- ol y deyrnas, y gall y Ty, pan fydd yn ddigon gwrol ac yn ddigon cryf, effeith- io cynhildeb fel yr ewyllysia." Ie cynhildeb tuag at ofynion trymion y tlawd, ond haelioni tuagat wane an- niwall y cyfoethog a'r rhai sydd dda ganddynt ryfel Darllener y geiriau uchod a'u cyffelyb a chymharer hwy a deddfwriaeth gymdeithasol y naw mlynedd diweddaf ac a Chyllidebau Mr Lloyd George, a cheir rhyw syniad am y gwahaniaeth sydd rhwng Toriaeth a Rhyddfrydiaeth. •' Datgysylltiad yn Nhy yr Arglwyddi; f O'r diwedd teimlodd y Ty uchod Ir ei galon roddi ychydig sylw i Fesur Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru a'r hyn a wnaethant yw ethol pwyllgor. Ar un olwg gwisga y fath beth wedd dra digrifol. Pa le y buont a'u pwyIl- god hyd yn awr 1 Y gwir yw. gobeith- iasent y digwyddai daeargryn neu storm wleidyddol i osod terfyn ar y Mesur cyn iddo, o dan Ddeddf y Sen- edd ddod yn gyfraith. Darfu eu go- beithion fel niwl. Ond wele Arglwydd St. Aldwyn, ac Esgojbion Llanelwy a Thyddewi yn ei gefnogi, yn cynnyg cael Pwyllgor i edrych i fewn i ddau beth: 1, Perthynas yr Eglwys Ddad-sefydl- edig a:r Confocasiwn Seisnig; ac, yn ail, a oes gyfnewidiad yn meddwl Anghydffurfwyr Cymru ar y pwnc 1 Am y cyntaf, teimlwn yn hollol ddi- fater. Nid yw yn ddim i ni. Os myn yr Eglwys yng Nghymru uno a'r Eglwys yn Lloegr popeth yn iawn. Yn unig, bydd yqg Nghymru ar yr un tir a rhyw enwad arall yn hollol. Bus- nes i Eglwys Loegr fydd cyfreithlon- rwydd cynrychiolwyr o Gymru yn y Confocasiwn Seisnig. Am yr ail bwynt teimlwn gryn ddiddordeb ynddo, a/n gobaith yw y ceir cyfle trwyddo i chwilio y "protest" rhyfedd hwnnw yrrwyd at y Prif-weinidog yn enw Anghydffurfwyr Cymru. Wrth weithio hwnnw i fyny cymerwyd gofal i'w osod mewn ffordd nas gellid rhoi prawf arno, ac nid mewn anwybodaeth y gwnawd < hyn, ond yn hollol o fwriad. Cwynodd Mr. Asquith am y peth pan oeth dir- prwyaeth o Esgobaeth Llanelwy i fyny ato a chynnig codi protest y tair esgob- aeth arall. Er hyn oil gwrthodwyd mabwysiadu ffurf deiseb i Dy y Cy- ffredin, er mwyn cadw o olwg llygaid treiddgar Pwyllgor Ymchwiliadol y Deisebau. Gyda gofid y darllenasom eiriau Esgob Llanelwy yn Nhy yr Ar- glwyddi, oblegid amhosibl yw i ni gredu nad oedd yn traethu yr hyn y gwyddai nad oedd yn wir. Tystiodd fod y "protest" a nodwyd wedi ei ar- wyddo gan gan' mil o Anghydffurfwyr. Cymreig, sef gan un o bob pump o'r cyfryw. Gwyr holl Gymru fod hyn yn hollol gamarweiniol, a'n gobaith yw y ceir ymchwiliad manwl i'r holl fusnes annheilwng. Gwyddom natur y can- lyniadau. Gwnaeth Iarll Crewe yn dda ar ran y Llywodraeth beidio gwrth- wynebu y cynnyg i ethol pwyllgor. Y cwestiwn nesaf yw Pwy fydd y Rhydd- frydwyr a etholir arno 1
[No title]
Lladdwyd Michael Raddatz, ceidwad I cynorthwyol Gerddi'r Bwystfilod yn Toledo, Ohio, gan eliffant. Flwyddyn yn ol rhoddasai ddwfr a sebon ynddo i'r eliffant i'w yfed, a bernir fod yr ani- Eail yn cofio ac yn disgwyl cyfle i ddial.
[No title]
AP HEFIN, Bardd Coronog Aberdar.
Purdeb a Moes.
Purdeb a Moes. Cynhaliwyd cyfarfod dan nawdd Eg- lwysi Rhydd Trecynon a'r Gadlys nos Fawrth, y 23aiii, yn Noddfa, Tre- cynon. Yr oedd y cynhulliad yn rhag- orol, ac yn siomi disgwyliad o'r ochr ore. Amlwg yw fod teimlad cryf yn y cylch dros burdeb a gwella moesau. Y siaradwyr oedd y Dr. Arthur T. Jones (Aberpennar), Parch. R. H. Davies, B.A. (Cwmba), a'r l'arch. H. T. Stephens (Carmel). Purdeb oedd pwnc y Dr. Jones. Siaradodd yn ddifrifol ac argyhoedd- 4adol ar yr angen am ddeffro cydwybod y wlad yn y cyfeiriad hwn. Pwysiced ydoedd fel yr oedd y Llywodraeth yn chwilio i'r ffeithiau a ellid eu casglu ar y mater. Rhoddai bwys mawr ar gyf- rifoldeb rhieni. Beiai hwynt am gan- iatau i'w plant aros allan yn oriau hwyr y nos. Condemniai'r Wasg o fod yn euog o feithrin amhurdeb wrth gy- hoeddi manylion achosion aflan yn ein Hysoedd gwladol. Siaradodd y Parch. R. H. Davies ar "Gadwraeth y Sabbath." Credai. mewn ennill dynion trwy resymau i barchu'r dydd, yn hytrach na thrwy fygwth. Apeliai at gyfeillion llafur am gynhorthwy i ddiogelu'r dydd. Traethodd y Parch. H. T. Stephens ar "Y Teulu. Anogai rieni i gysegru eu haèlwydydd i'r Arglwydd, a meith- rin eu plant yn Ei ofn. Caed cyfarfod bendithiol. Llywydd- wyd y cyfarfod gan y yweinidog. Ar- weiniwyd mewn gweddi gan y Parch. Sulgwyn Davies, Siloh. Cynhygiwyd diolch gan y Parch. J. Morgan (Bryn Seion), a'r Parch. Grawys Jones (Ebenezer).
Marwolaetb Mrs W Ivander Griffiths.
Marwolaetb Mrs W Ivander Griffiths. Gwelaf fod Mrs. Ivander Griffiths wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Y tro cyntaf y darfu i mi ei gweled oedd ar fynydd Gellionnen, ger Pontardawe, hi a'i phriod talentog, Mr. Griffiths, mewn Gwyl Ddirwestol ar ddiwrnod o Fedi, 186-diwrnod ffair Castellnedd. Cynhaliwyd yr wyl i wrthweithio yr at- yniad i'r ffair, a hynny yn bennaf trwy offerynoliaeth Mr. Griffiths, ac efe yn wr ieuanc, 30 oed. Symudodd o Aber- afan i Bontardawe rhai blynyddoedd cyn hyn, yn "cashier" i'r gwaith alcan dan Mr. Parsons. Gwnaeth Mr. Grif- fiths enw iddo ei hun erbyn i860, fel cerddor gweithgar. Buddugoliaethai ei gor ymhobman bron y cystadleuai. Yr oedd ganddo obeithlu lluosog yn Nhrebannos a Phontardawe. Gwr ymdrechgar iawn oedd, ac efe oedd yn arwain y canu ar ddydd mawr yr wvl hon. Daethai rhai miloedd o bobl ynghyd, a lliaws o weinidogion a gor- eugwyr y cylch: Parchn. John Wal- ters (tad-yng-nghyfraith Mr. Griffiths), Philip Griffiths, AHtwen; Archddiacon Griffiths, Castellnedd; Robin Ddu, ac eraill. Gwelais Mrs. Griffiths lawer gwaith yn dyfod gyda'i phriod i "rehearsals" adran Llansamlet, perthynol i'r Cor Undebol, i ddysgu y "Messiah," pan oeddwn yn canu yr alto. Y tro di- weddaf y gwelais hi oedd yn y Re- ■ jfii* jK.J* < union" ym Mhontardawe Gorff. 18, 1902, o n?n aelodau Cor Undebol Dyff- rvn Tawe. Cafwyd gwleddoedd o fwynhad. Symudasant o r Glais yn 1866 i Drefforest, ac oddiyno yn 1869 i Workington, Cumberland. Treul- i wyd bywyd Uawn o waith ganddynt gyda phethau dyrchafot a chrefyddol. Bu Mr. Griffiths farw-Mawrth, 1910, a daearwyd ei weddilhon yng Nghladdfa Eglwys St. John, Workington. Bu farw Mrs. Griffiths mis Mai diweddaf, gosodwyd gwddillion hithau yn yr un bedd a' i phnod. Cydymdeimlwn yn ddwfn a'r plant. I WILLIAM O'R DE.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID OOPAIU^ ? Y ?' HYN. Eagouluedod 0 un'hyw-jw.dlrfcjl hyn drwy ddomwain "? '? sebegi Blood Poisoning a Marwolaeth.  Ey mwyn yagol Ptrygi ,h. ymar1w mew" pry. 'DOE8 DIM MO?WV.B?MM A Blom GOMER'S BALM. MM Hwn ? w ,II   Maddyglin Owyof. sior a e)riMd*t?""S'? lier a diOle.. ddarganfyddwy# erioed It !••■■■ Clwyfau, Atchollion, Tardd- lantau y Cnawd, Eoztma, I Craoh a Nidi yn Mhenia Plant, Llosglad. au, Ysgal. d a n a u Scurvy, L I ugr ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, I Cout, Cymalau Poenus, Rhoumat- los, Poen Cefn, Piles. Hynod a offelthiol at CLWYFAU ar COESAU. tyn mewn .tat. 41 laws. &lhsodd ?'°?' B.t. hi yn bur t'M* Miloodcl yn tystlo "W Effeithlau RhyfeddoL rhqddwch brawf arno Gwellhatljydd Stop. Ar werth gan bob Chemi't & StorM a. "'h'. Gofyner am (.omer's Saim. Mys. weh wel^ Heb jaob Hughes ar bob blwch.  hyD nid '1w awn. N.. danfoner ei gworth (P.O. Den Stamp.) At f JHUUgS Mif Manufaaturlm ChM- 1st, M. P .8., L.0-B., Ponarth, Cardln. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL.
[No title]
Dvwedai Dr. Mary Williams 0 flaen Cymrodorion Llundain fod glanweith- dra yn un o nodweddion y genedl yn 'y C?oeso?abod?ybwy?? vchvny Mabmogion ar Cyfreithiau am Faddonau. Bu r dd1'ama hithau dan nawdd yr eglwys ?y? y  oedd, ac ymddengys rlywbeth yn deby_ vn bresennol. Pwy wad nad1 jw .d a'r eglwys yn troi mewn cylch.  ?cy v?redlnol yn Mae B1'ynaman Yn gyffredinol Yn llawenhau yn Uwyddiant y hrdd awen- gar Mr William Jones (Gwllym Bryn- aman), ar ei fuddugoliath diweddaraf yn Eiatedd? ?d Cadeiriol Pontardawe. ?? tri gim Efe enhillodd ;yo gadair a'r tri gini am y bryddest oreu ar Bach dy lwyth wrth y ser," allan 0 9 0 Ymgels- ?y.. Enhdlod d hanner y wobr am y ddrama oreU. Cafodd ganmol- am y ddrama oreu. am y ddram ? pri? fardd Sarnicol, I Nid dyma y gadair gyntaf I?'r ? bar? dd u?ch??d Cyrhaedded y goron ??s'y?,?? EnhHIodd Mr "r Jones yn Llanfynydd ar yr englyn digrif-i™ (cartoon) .Ilan o amryw o gystadleuwyr. Dymunwn longytarch y ddau ar eu llwyddiant.