Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

COLOFN LLAFUR.I

I Aberaman.

[No title]

Y Ddrama yn Abertawe. I

Cwmsarnddu, ger LlanymddyfrL

- - -- - - - -Ar Lannau Tawe.…

Ferndale. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ferndale. I Anrydeddwyd ni ag ymweliad cen- hades enwog o Fryniau Cassia, sef Miss Wiliams, sydd ar ymweliad a Chymru hyd fis Medi nesaf. Mae wedi treulio 25 o flynyddoedd fel cenhades yn Sylhet, a mannau ereill yn India, ac felly yn meddu ar brofiad helaeth o'r gwaith. Mehefin 24, ym Mhenuel (M.C.), cynhaliwyd cyfarfod cenhadol. pan gawd cyfleustra i wrando ami. Cafwyd anerchiad byw gan deimlad, diddordeb a chrefyddolder. Danghos- odd yr hyn wneir gan y cenhadon a'r cenhadesau yn y cylch meddygol, add- ysgiadol, a chrefyddol. Tra yng Ngymru ar ei gwyliau, y 'mae Miss Williams yn dathlu ei 25 mlwydd fel cenhades drwy gasglu at godi Ysbyty Newydd yn y maes y mae hi yn llafurio. Da gennym ddeall ei bod wedi derbyn dros ^400 at hyn, a chasglwyd yn syl- weddol yn y cyfarfod hwn at yr un amcan. Llawenydd mawr oedd gennym weled enwau dau o drigolion parchus y Ile hwn ar lechres newydd ynadon heddwch, sef y Cynghorwr Dl. Evans, aelod llafur a chyn-lywydd ar Gyngor Dosbarth y Rhondda. Edmygir ef fel un ffyddlawn, pwyllog, a gofalus am fuddiannau y llafurwyr a'r treth- idalwyr yn gyffredinol. Yn mae yn foneddigaidd fel dinesydd, ac yn ddi- acon blaenllaw a gwasanaethgar yn y Tabernacl (A.) Y llall ydyw Mr. Mor- ris Morris, adeiladydd. Un o blant y werin yw Mr. Morris, ac wedi adeiladu llawer yn y lie hwn, yn enwedig ysgol- ion. Gwasanaethodd yntau flynydd- oedd ar Hen Fwrdd Lleol, cyn dyddiau y Cyngor Dosbarth. Y mae Mr. Mor- ris yn aelod o'r Rhondda Labour a Liberal Association, ac wedi bod yn 1 llywydd i'r gymdeithas. Y mae yn I ddinesydd parchus, ac yn ddiacon blaen < Haw yn Eglwys North Road (A.) < IOAN. ==__ I

[No title]

Advertising

Llythyr Agored at y Parch.…