Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
COLOFN Y PLANT. I
COLOFN Y PLANT. I DAN OLYGIAETH MOELONA. I Hen Benillion o Cymru Fu." Pan es i i fyw yn gy-nnil, gynnil, Fe aeth un ddafad imi'n ddwyfil, Pan as i i fyw yn afrad, afrad, Fe aeth y ddwyfil yn un ddafad. Chwi fedrwch droi coronau crynion I fynd yn gan ddimeuau cochion Ond mawr na fedrwch yrru'r ddimai Gwana' gwaith yn geiniog weithiau. Clywais ddadwrdd, clywais ddwndro, Clywais bart o'r byd yn beio, Ond ni chlywais neb yn datgan Fawr o'i hynod feiau'i hunan. Sawl a feio arnaf, beied, Heb fai arno, nac arbeded; Sawl sy dan eu beiau beunydd Fe eill rheiny fod yn llonydd. Dyn a garo grwth a thelyn Sain cynghanedd, can, ac englyn, A gir y pethau mwyaf tirion Sy'n y nef ymhlith angylion. Gwyn eu byd yr adar gwylltion Hwy gant fynd i'r fan a fynon'— Weithiau i'r mor ac weithiau i'r myn- ydd, A dod adref yn ddigerydd. Bu'n edifar fil o weithiau Am lefaru gormod geiriau; Ond ni bu gymaint o helyntion 0 lefaru llai na digon. Ni welodd neb o fewn fy safn Erioed 'run dafn o gwrw, A thra bo'r fran yn gwneud ei nyth Ni'm gwelir byth yn feddw. 0 gwyn fyd na fedrwn hedeg Bryn a phant, a goriwaered, Mynnwn wybod er ei gwaetha' Ble mae'r gog yn cysgu'r gaea'. Yn y coed y mae hi'n cysgu, Yn yr eithin mae hi'n nythu, Yn y llwyn tan ddail y bedw, Dyna'r fan y bydd hi farw. Mari lan, a Mari Ion. A Mari dirion doriad, Mari ydyw'r fwyna'n fyw, A Mari yw fy nghariad, Ac onid ydyw Mari'n lan 1 Ni wiw i Sian mo'r siarad. Mae yn y Bala glawd ar werth, A Mawddwy berth i lechu; Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro A gefail go i bedoli; Ac yng Nghastell Dinas Bran Ddwy ffynnon lan i 'molchi. I ba beth y byddaf brudd¡ A throi llawenydd heibio, Tra bwyf ieuanc ac yn lion, Rhof hwb i'r galon eto. Hwh i'r galon, doed a ddel, Mae rhai na welant ddigon; Ni waeth punt na chant mewn cod, Os medrir bod yn foddlon. Mi rois fy llaw mewn cwlwn dyrus, Deliais fodrwy rhwng fy neufys; Dywedais wers ar ol y person,— Y mae'n edifar gan fy nghalon. Mi rois goron am briodi, Ni rof ffyrling byth ond hynny, Mi rown lawer i ryw berson Pe cawn i'm traed a'm dwylaw'n rhyddion Canu wnaf, a bod yn llawen. Fel y gog ar frig y gangen, A pheth bynnag ddaw i'm blino, Canu wnaf a gadael iddo. =
Penderyn.I
Penderyn. I Nos Fawrth, Mehefin 16eg, yng Nghapel Siloa (B.), cafwyd darlith- gyngerdd gan Mr. J. Jenkins, Hir- waun, ar Mendelssohn a'i weithiau." Rhoddodd fyr hanes o fywyd boreuol y cerddor enwog. Ganesid ef yn 1809 yn Germany. Gan ei fam y derbyn- iodd ei wersi cyntaf, yr hon oedd ger- ddores fedrus. Rhyfedd yw dylanwad y fam ar ei phlant! Pan yn 20 oed, daeth Mendelssohn drosodd i Loegr, ac i Lundain, a mawr y sylw dynodd a'r dylanwad gafodd ar y Saeson a'r Cymry. Meddai ar bersonoliaeth gref ac atyniadol. Buddiol oedd sylwadau Mr. Jenkins ar ei weithiau cerddorol, a datganodd rai unawdau o'i waith. Galwodd ar Mr. Tom Beynon, Hir- waun, ymlaen i ganu yr unawd cyn- hyrfus "Is not His word like a fire," allan o'r Elijah, ac yr oedd y datgan- iad yn hynod a chwaethus. Cafwyd hefyd It is enough yn bur efFeithiol gan Mr. Beynon. Cawsom ddethol- iadau o'i weithiau hefyd ar y piano gan Mr. Tom Richards, L.L.C.M., Hirwaun, ac yr oedd yr Andante yn gwefreiddio y gynulleidfa. Hefyd, diddorwyd ni mhellach gan Mr. Whit- combe, Aberdar, trwy ei ganu medrus ar y crwth. Cawsom ganddo "Chant Sans Paroles," a Solut Damour o waith Edward Elgar. Wrth ddi- weddu, cawsom un darn ar y piano o waith Beethoven gan Mr. Richards yn fendigedig. Profiad Mr. T. Jones, Y.H., Bronwydd, Hirwaun, Ilywydd y cyfarfod, oedd mai dyna'r wledd flaenaf a gafwyd ym Mhenderyn yn ei g6f ef, a gwyddys mai brodor o'r lie yw y boneddwr hwn. Terfynwyd, wedi talu y diolchiadau arferol, trwy i Mr. Jenkins ganu Hen Wlad fy Nhadau," a'r gynulleidfa uno yn y cydgan. D.C.
Cymdeithas Dafydd apI Gwilym,…
Cymdeithas Dafydd ap I Gwilym, Rhydychen. Cynhaliwyd cyfarfod olaf tymor yr haf nos Sadwrn, Mehefin 13, yn Nhry- sordy Coleg yr lesu, pan groesawyd y Gymdeithas gan ei Llywydd, Syr John Rhys. Methai rhai o'r aelodau fod yn bresennol yn y cwrdd olaf hwn o'r flwyddyn am eu bod yng nghanol gwewyr yr arholiadau, ond yr oedd nifer go lew yno ag ystyried. Tra fu- wyd yn peri i'r pethau a baratoisai'r llywydd yn ol ei haelioni arferol ddi- flannu, difyrrwyd ni ag ambell stori ddigrif gan y Ilywydd am Rydychen yn y dyddiau gynt. Wedi hynny ychwan- egwyd un at nifer y rhai cadwedig, sef Robert Roberts, o Goleg Balliol, a chynt o Ysgol Rugby (majb y Prifathro T. F. Roberts, Aberystwyth). Yna darllenodd y llywydd bapur. Disgrif- iodd hen faen coffa a gafwyd yng Ngog- ledd yr Eidal ac sydd yn awr yn Am- gueddfa Dinas Genoa. Rhyw hen Gelt a'i codasai; ar ddelw dyn yr ^pedd y maen, ac arno torasid enw'r neb y ced- wid ei got y mae'n bur debig, sef Mezunemusus. Dangosodd fod y llythyren z yn y gair yn lie d, neu hwyr- ach dd, ac y gellid rhoi'r enw fel hyn —Medunemesus. Gair cyfansodd ydyw hwn, ac ymranna'n Medu-nemesus. Y mae gair arall o'r un gwraidd a nemesus ar un o'r hen feini hyn, sef nemeton, a'i ystyr ydyw "llwyn," neu "lwyn cysegredig," yna "cysegr." Y ffurf Gymraeg ddiweddar ar nemet- ydyw nyfed a welir yn yr enw Ednyfed. Perthyna Medu,—neu Meddu,—i'r un gwraidd a'r Hen Wyddeleg mess, 'barn,' a midiur, 'barnaf,' a gwelir yr un gair yn Gymraeg—modfedd, troed- fedd, meddwl. Felly ystyr yr enw Medunemesus ydyw "un a gynnorthwy- a'r cysegr a'i gyngor." Cyffyrddodd Syr John ag un hen enw diddorol arall, sef Vercondaridubnos. 0 "dubnos" y daw'n "dwfn" ni, ac felly "un dwfn yn y rhan arall o'r enw" yw ystyr enw'r gwr hwn. Ymranna Vercondari fel hyn, Ver-con-dari. Blaenddod yw ver, cyfystyr a gor. Gellid ffurfio ansodd- air o "condari," megis y gwrywaidd "condariios," a'r ffurf fenywaidd "con- dariia," ac o'r olaf y daw'r gair Cym- raeg "cynddaredd." Felly fe welir yn hawdd ystyr yr enw hir hwn. (Hwyrach bod rhyw fardd neu Jbregethwr heb ail enw!) Esboniodd Syr John mai'r un 'dar' sydd yma ag a geir yn y gair dar- fod (yn yr ystyr "nychu," ac nid "wedi digwydd"), a bod 'con' yn dod o'r un gwraidd a "ewn," ac felly mai ystyr wreiddiol cynddaredd ydyw "clefyd y cwn." Hwyrach y goddefir cyfeirio at enwau priod Cymraeg y digwydd y gair "ewn" ynddynt. Esboniodd Syr John yr enw Maelgwn yn un o'r papurau a gyhoedd- odd rai blynyddoedd yn ol. Y mae maen yn Nanhyfer, Sir Benfro, ac arno'r gair Maglocuni. Y mae dwy elfen yn y gair hwn, sef "Maglo," a "cuni." Ystyr "Maglo" yw "tywysog, arwr, a'r ffurf Gymraeg ydyw Mael. Yr hen esjboniad ar 'euni,' neu 'cunos' oedd mai ansoddair yn golygu uchel yd- oedd. Ond dangosodd Syr John fod ffurf Wyddeleg yr enw ar hen feini yn profi nad cywir yr esboniad hwn, eithr mai'r un gair ydyw 'cuni' a'r gair y tarddodd ein 'cwn' ni ohono. I'r hen Wyddyl gynt golyga'r gair ci nid yn unig y creadur ei hun, ond hefyd war- cheidwad, neu wyliwr, neu amddiffyn- nydd. Felly ystyr Maelgwn ydyw "tywysog neu arwr sydd yn amddiffyn- nydd." Yr un elfennau sydd yn yr enw Cynfael, a golyga hwnnw "amddi- ffynnydd tywysogaidd neu arwrol." Dyry hyn olyg i ni ar gryfder yr en- wau priod a arferai'r hen Geltiaid gynt. Dywedodd Syr John lawer o bethau diddorol ereill yn ystod ei bapur, a hyfryd oedd glywed meistr yn s6n am ei gelfyddyd. Diolchwyd yn gynnes iawn i Syr John am ei garedigrwydd yn croesawu'r Gymdeithas dan ei nen- bren a hefyd am ei bapur. Nid bychan o anrhydedd i'r Dafydd yw bod ysgol- haig Celtaidd blaenaf yr oes yn llyw- ydd iddi. Etholwyd y swyddogion canlynol am y flwyddyn nesaf: Caplan, Henry Morris, Coleg Corff Crist (gynt Ysgol Rugby) ysgrifennydd, W. L. Hoskins, Coleg y Trwyn Pres (gynt Ysgol Sir Ystalyfera a Choleg Crist, Aberhonddu) trysorydd, D. M. Evans, Coleg yr lesu (gynt Ysgol Llanym- ddyfri). Atgyfodwyd hen swydd, a dewiswyd Henry Lewis (gynt o Goleg y De, Caerdydd, ac Ysgol Sir Ystaly- fera) yn archarogldarthydd am y flwyddyn nesaf. Terfynwyd drwy ganu "Hen Wlad fy N hadau," a Syr John yn dywedyd wrth wyr Deheubarth am fynnu canu 'gwad' fel y dylai fod (i odli a mid), a bod gwyr y Gogledd yn llurgunio emynau Pantycelyn wrth geisio gwneuthur 1 "maes" odli a "gras," etc., yn lie "mas" fel y dylai fod.
Advertising
ALWAYS WELCOME j The Housewife who has j BLANCH'S Cream Puddings is never at » loss about the sweets course. A dainty and delicious dish-looks and tastes like erenm. A penny packet makes a pint. ANY GROCER WILL SUPPLY xk Camberwell, London, J st. Peter's Street, Cardiff. J Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r "Darian," IS Cardiff Street. Aberdar.
Ysgrapiau o'm Hysgrepan.
Ysgrapiau o'm Hysgrepan. (Gan AP HEFIN, ABERDAR). I Yn ystod cyfarfod taleithiol fy en- wad, a gynhaliwyd yn Nhon Pentre, daeth i'm rhan i letya gyda Mr. Daniel Davies, 7, Church-road. Cofir mai trwy ei gymorth ef i fesur mawr y cy- hoeddwyd cyfrol drwchus cyfansodd- iadau Islwyn, yr hyn a gydnabyddir gan y cyhoeddwr, Mr. O. M. Edwards, M. A., yn ei ragymadrodd. Ar ddech- reu y gyfrol ceir hanes bywyd a des- grifiad manwl o bersonoliaeth y bardd aruchel, wedi ei ysgrifennu gan Mr. Daniel Davies. Y mae Mr. Davies mewn gwth o oedran, ac yn bur drwm ei glyw. Y mae yn gymeriad arbennig, a haeddai darluniad o waith rhai a gawsant ragor o gyfle i'w adnabod na mi. Ni raid ond myned i'w dy i weled ei fod yn llyfrbryf. Y mae pob ystafell yno yn llawn llyfrau. Dau neu dri o gy- pyrddau yn orlawn, a sillfoedd a whatnots a chadeiriau yn gridd- fan dan faich doethineb yr oesoedd. Ni raid hysbysu o neb chwi mai Meth- odistiad Calfinaidd sydd yn byw yn y ty hwn, canys addurnir y parwydydd gan ddarluniau mawr o'r Parchedigion Williams, Pantycelyn, Edward Mor- gan y Dyffryn, Henry Rees, Owen Thomas, etc. Son am lyfrau, gwelais ar unwaith fod fy lletywr yn wr llydan iawn. Ar fwrdd y parlwr wrth y tin y roedd gyfrol ddrudfawr-un o'r ar- graffiadau diweddaf o Ddyddiadur John Wesley. A rhag ofn i neb fedd- wt mai wedi eu dwyn yno i blesio'r gwr dieithr yr oedd, dywedai Mr. Davies wrthyf, ddarfod iddo eu dar- llen lawer gwaith yn ei oes mewn hen argraiffadau, a daliai y dylai pob pre- gethwr o bob enwad eu darllen, ac y dylent fod yn wers-lyfrau ymhob coleg lie codir pregethwyr. Braint nid bychan oedd cael cysgu y noson honno yn yr un ystafell ag y bu Islwyn ac Owen Thomas, etc., yn aros; ac yn sicr,. yr oedd y broffwydol- iaeth-" Efe a orchymyn i'w angylion am danat"—yn cael ei chyflawni yn effeithiol pan gofir fod cynifer a thri chant, a rhagor o weinidogion y Gair yn edrych arnaf o'u ty gwydr ar y mur, heb gau eu llygaid. Bore drannoeth, tua naw o'r gloch, yr oeddwn yn cychwyn i'r Seiat Fawr, gyda Miss Davies, chwaer Mr. Daniel Davies. Yr oedd yntau ar ei gych- wyn at ei orchwyl fel cashier" i Gwmni Glo yn yr ardal. Yr oedd llwyth o lo newydd gael ei daflu wrth y drws. Pan ddaeth Mr. Davies i'r drws, dyma'r ceffyl yn troi ei bwynt ac ar draws y glo tuag at wr y ty, i ddis- gwyl ei dafell arferol o fara menyn. Mae'r ceffyl yn nabod Mr. Davies ymhob man, meddai dyn y glo wrthyf. Galwodd y forwyn-merch o Bwllheli —fy sylw ato yn myned ac yn taflu bara i'r adar bach. Dyna'r olwg olaf gef ais arno. Mae'r adar o gylch ei swyddfa yn disgyn ar gantal ei het feddal, meddai'r forwyn, yn disgwyl am eu bara beun- yddiol o'i law. Rhaid fod y forwyn yn cael wrth ei bod yno hefyd, gallwn feddwl, canys y mae yno er's naw mlynedd. Pan aethum i'r ty o'r cwrdd, yr oedd ol rhywun wedi bod yn cario'r glo i fewn i'w le, ac yn y gegin gwel- ais y dyn hwnnw, pwy bynnag ydoedd, yn cael ei wala a'i weddill o fwyd, heblaw y tAl a gawsai am ei waith. Yr oedd hynny gystal a'r Seiat Fawr i mi. Y roedd yn brawf o grefydd yn rhywle heblaw ar dafod. Ni bydd marw rhinwedd tra byddo bvw Daniel Davies a'i chwaer.
Aberteifi a'r Cylch. I
Aberteifi a'r Cylch. I Cymanfaoedd Canu. I Cynhaliwyd cymanfa ganu yn y Tabernacl gan gantorion Eglwysi Meth- odistiaid rhan uchaf Sir Benfro dydd Mercher diweddaf. Yr arweinydd eleni ydoedd Proffeswr D. Evans, Caerdydd, organyddes, Mrs. D. B. Davies, Man- chester House, Aberteifi. Dechreu- wyd y cyfarfodydd gan y Parchn. T. Esger James a Jenkins, Aberporth. Canwyd yr anthemau Teyrnasa Iesu Mawr," Buddugoliaeth," a Bendi- gedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," ac arweiniwyd yr olaf gan yr awdwr. Mr J. Thomas, Llanwrtyd. Cododd y canu i dir uchel, a chafwyd gwleddoedd breision yn ystod y dydd. Cafwyd Cymanfa dda hefyd gan Eg- lwyswyr y dref a'r cylch yn eglwys hen- afol y Santes Fair. Yr arweinydd eleni ydoedd Mr. James Williams, Cil- gerran. Cafwyd tair pregeth hefyd yn ystod y dydd. Arwainydd canu yn Nghymanfa y Bedyddwyr ym Mlaenffos eleni ydoedd Mr Emlyn Davies. Clywsom gamol- iaeth uchel i'r canu. Tysteb. I Bwriedir cyflwyn oyr arian gasglwyd i'r Parch. John Williams, Bethania, yn fuan, ac os carai rhai o bobl y dref sydd ar wasgar gyfrannu, danfoned i mi neu i Mr D. Williams, B.Sc., Ynys Aber- teifi. Ymwelydd 0 America. I Lion oedd gweled Mr Isaac Smith, 1160 Sadie Place, Scranton, Pennsyl- vania, America, yn dychwel yn ol am dro i'r hen wlad, wedi bod yn absennol am 26ain o flynyddoedd. Cyrhaedd- odd Mr Smith Abergwaun bore dydd Mawrth diweddaf yn yr Aquitani" y llestr mwyaf sydd heddyw yn nofio ar yr eigion. Dywedir fod crew hon yn fil o nifer. Yr oedd ganddi 3,500 o deithwyr yn dod i wahanol rannau o'r wlad. Dyma balas nofiedig. Argreffir papur yn ddyddiol o newyddion geid drwy y Marconi oddiwrth longau ereill ar y mor. Aeth Mr Smith i wlad y gor- llewin o Woodland Terrace, Aberaman, ac y mae wedi cadw ei gymeriad yn ddi- lychwin. Mae yn flaenor yn Scranton gyda'r M.C. Brawd ydyw i Mrs. John Llewelyn, gweddw y diweddar Barch. John Llewelyn, Dyffryn, Caerau, Maes- teg. Bu efe farw Medi diweddaf yn sydyn, ac ynghanol ei boblogrwydd a'i barch. Daeth y weddw i gyfarfod a Mr Smith i Aberteifi, a George Llew- elyn, y mab, gyda hi. Wrth weled y brawd a'r chwaer yn cyfarfod, adgof- wyd ni o gyfarfyddiad Joseph a'i fro- dyr yn yr Aipht, gan mor fyw oedd eu llawenydd. Gallai Mrs. Llewelyn ddy- weud, Fy mrawd, yr hwn a fu farw, sydd eto' nfyw." Gwn y ca Mr. Smith dderbyniad croesawgar gan y cym- deithion sydd heddyw yn fyw yn Aber- dar, er nad ydynt ond ychydig iawn. Treuliasom ychydig oriau melus yn ei gwmni, a theimlasom yn well o hynny. Hyderwn y ca amser dedwydd yn y wlad hon, a phan yn dychwelyd dymun- wn iddo fordaith ddymunol eto, ac y gwel y plant yn iach a chysurus. I Priodas. Ymunodd Mr Daniel Morris, Cilger- ran, a Miss Mary Rees, Abercych, mewn priodas dydd lau diweddaf ym Mhenuel, Penybryn. Gweinyddwyd gan y Parch. John Thomas, Cilgerran, a Mr. Griff H. Mathias, y cofrestrydd. Cafwyd gwledd ganddynt yn y Central Tea Rooms, Aberteifi. Wedi'r wledd aethant mewn modur i Tenby am y dydd. Darllenwyd y canlynol wedi mwyn- hau y danteithion:- Mae ffasiynau'n newid, Amlach na'r tymorau, Newid mae arferion, Credo a chrefyddau; Aros mae priodi, Byth er dyddiau Adda, Fel yr oedd yn Eden, Felly heddyw yma. Dau fu lios y moroedd, Draw yng ngwlad yr Ianci, Methodd gyrdd a meinwen A foddlonai'i ffansi; Daeth o bellder daear 'Nol i Aberteifi, Cafodd gymar tellwng. Yn ei anwyl Fari. n_ D. JONES..
iNodion o Frynaman. I
Nodion o Frynaman. I GAN WALCH HYDREF. I Dydd Mawrth, Meh. 16, ymgasglodd iiyrfa luosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'r hen frawd Wm. Isaac. Cladd- wyd ei weddillion yng Ngibea, pan was- anaethwyd gan y Parchn. W. D. Thomas, Gibea; H. O. Jones, Eben- ezer; John Llewelyn, Bethania; L. Rhystyd Davies, Moriah; D. Jeremy Jones, Cwmllynf ell; R. Jenkin Davies, B.A., Ficer St. Catherine. Gadawodd weddw oedranus ynghyd a saith o blanfc ac wyrion a pherthynasau lluosog. Eto, dydd Mercher, claddwyd gwedd- illion Mrs. Enoch Isaac, Glyn Road. Gadawodd hithau i alaru ar ei hoi bump o blant. Dydd Mawrth, Meh. 16, bu farw hen gymeriad adnabyddus iawn yn y lie, sef Mr Thomas J. Howells, Llandilo Road, 'Thomas Howells, y Parliament,' fel y gelwid ef. Crydd oedd wrth ei al- wedigaeth, ac yr oedd ganddo siop hel- aeth yn heol Cwmgarw, ac yma y cyrch- ai ein prif feirdd a'n llenorion i drin materion y dydd, ac o dan ei lywydd- iaeth ef y byddai popeth yn cael ei chwalu. Dyma y rheswm am alw y He yn "Barliament." Maeln debyg taw gerllaw i Bantarllechau y ganwyd ef tua tri hugain a naw o flynyddoedd yn ol; sefydlasai ,yn y lie hwn er's blyn- yddoedd. Meddai ar gymeriad ar- dderchog. Rhyddfrydwr i'r earn yd- oedd, a bu hefyd yn aelod o Gyngor y Chwarter Bach am bymtheg mlynedd yn olynol. Yr oedd hefyd yn aelod yn Eglwys Gibea, ac yn hyddysg yn yr Ysgrythyrrau. Dydd Gwener canlynol claddwyd ei weddillion 3-111 Mynwent Gibea. Gwasanaethwyd gan y Parchn. W. D. Thomas, ei weinidog; John Llewelyn, Bethania; H. O. Jones. Ebenezer; L. Rhystyd Davies, Moriah, ac ereill. Gadawodd weddw ynghyd a wyth o blant. Dyddiau Sul a Llun, Meh. 14, 15, yn ] y gymanfa gerddorol a gynhaliwyd yng Nwynfe, cynnorthwywyd gan Gerddor- fa Linynnol Morgans, o dan arweimad Mr Tom Morgans, Rose Cottage, a chefais ar ddeall eu bod wedi gwneud marc. [Gofynna'r gohebydd hwn ein rheswm dros ddefnyddio "F" yn lie "B" ar ddechreu enw'r lie ym mhennawd ei nodiadau. Ymddengys fod llawer o ddynion pwysig, aelodau o'r "Parlia- ment," o bosibl, yn disgwyl am eglur- had. Wel, dyma fe: Mae'r "B" yn meddalu i "F" ar ol y llafariad "o." Mae emyn yn adnabyddus mewn rhai cylchoedd yn Nghymru sydd yn dech- reu fel hyn: 0 Fryniau Caersalem, etc. nid 0 Bryniau, etc." Ceir llinell mewn emyn arall: "0 Fryn Caersalem Newydd, nid "0 Bryn." Ceir rheol treigliad y cydseiniaid ymhoj) gramadeg Cymraeg. Ai nid ydych wedi sylwi ar gyfnewidiad arall a wnawn yn yr enw, sef gadael allan un o'r ddwy "m." Ni ddylid dyblu'r "m" byth yn y Gymraeg.—Gol.]
i Colofn y Gohebiaethau. I
Colofn y Gohebiaethau. I ENGLYN BUDDUGOL EISTEDD- I FOD CAERFFILI. Mr. Gol.,—Gwelais yn y 'Darian' am yr wythnos ddiweddaf feirniadaeth ar yr englyn yn yr Eisteddfod uchod. Disgwyliais, gan ei fod y goreu o ddeu- gain, weled camp o englyn; ond, ys- ywaeth, yn fy marn i nid oedd ynddo ond un linell hollol gywir. Ceir yn y llinell gyntaf y gwall "Rhy debyg," a'i hyd yn lladd effeithiol- rwydd y glee yn ychwanegol at nynny. Yn y cyrch ceir h a ddilynir .gan a gydag acen hir, tra yr hawlia h i'w hateb. Sylwer gymaint gwell fyddai "fwynhâ-fin hwyr." Yn y ddwy linell olaf ceir gwall ar- bennig arall, sef y llythyren w yn cy- meryd ei sain fer yn y geiriau "gwig" ac "ewig," yr hyn bob amser sydd yn gofyn w i'w hateb. Dichon fod rhai o'r uchod yn "wall- au goddefol," ond meddylier am y goreu allan o ddeugain, a phob llinell yn cynnwys y cyfryw. Oni ellir cyhoeddi rhai o'r gweddill i ni weled ai tybed fod yr oil yn salach na'r "goreu hwn."—Yr eiddoch, GWOBR I'R GWIW. AT OLYGYDD Y "DARIAN." I Syr,-Sylwais chwi'n ysgrifennu "Yr oeddem ar ofyn ysgrifennu" yn y "Darian" yn ddiweddar. Ni chofiaf i mi weled yr ymadrodd yn unman arall na'i glywed chwaith. Carwn wybod a oes sail iddo. Credwn wrth ei ddarllen yn frysiog mai llygriad ydoedd o'r gair "arofun" a ddefnyddir o hyd ar lafar gwlad yn y ffurf fyrrach "rofun": 'Rown i'n rofun mynd i sbio'i hynt e." Byddai'n naturiol i rywun na wyr y gair geisio'i esbonio, a gwneuthur "ar ofyn" ohono. Eithr y mae "arofun" yn burion gair, yn gol- ygu "bwriadu." Perthnasau iddo ydyw'r hen air "damuned," a'r geiriau 'dymuno,' 'dymuniad.' Gwelir 'mun' hefyd yn "Awdl y Gofuned" Goronwy, ac yn yr enw "Eluned" am "Elfuned" ("much desired"). Hwyrach y gellwch roi goleuni inni ar yr ymadrodd a ddi- fynnais uchod. Caniatewch imi'ch llongyfarch ar lwyddiant y Darian." Dyry ddio- gelwch i'r Gymraeg yn y De, a dymun- af iddi gynhyddu fel yr haedda.—Yr eiddoch yn rhwymau'r iaith, HENRY LEWIS. Nodiad.—Y mae'n bur debig mai llygriad oedd y ffurf a ddefnyddias- om. Diolch i H.L. am ei help.GoI. J EISTEDDFOD CYMRU A'I I DYFODOL. Air. Gol. Darllenais lythyr y "Cymro" yn y "Darian" yr wythnos hon. Dywed yn y lie cyntaf fod yr hyn a ysgrifennais yn deilwng, ond fod y modd y ceisiwn ymlwybro ymhell o fod yn iawn. Pell oeddwn o geisio difrio y pregethwyr, fel y dywed efe, gan eu bod hwy yn uchel iawn yn fy syniadau; ond dywedaf eto nad yw pawb ohonynt yn meddu ar y cymwys- derau i feirniadu adroddiad. Gwir i mi awgrymu enwau chwech o bregeth- wyr yn fy rhestr yn deall y gelfyddyd o adrodd, ond ni phrawf hynny eu bod i gyd felly. Dywed i mi enwi rhai oedd wrth fy modd ond mentraf ddweyd na chefais y fraint o gystadlu o danynt oil, er fy mod yn hen gystad- leuydd. Teimlai hefyd fod swn siom yn fy ysgrif flaenorol, ond dywedaf wrtho ei fod yn camgymeryd. Dysg- ais golli yn ogystal ag ennill; ond pan yn teimlo nad yw y Gymraeg yn cael ei safle briodol yn ein heisteddfodau, y mae'n bryd codi llef drosti. Awgryma "Cymro" i mi fyned ym- laen i ddiwygio yr eisteddfod. Nid oes angen iddo fy annog i hynny, gan fy mod, cyn darllen ei lythyr, yn credu fod angen ei diwygio, a gallaf ei sicrhau y bydd i mi wneud yr hyn sydd yn fy ngallu dros yr eisteddfod a'r Gymraeg. Darllened yr ysgrif eto, a gwel nad oedd gennyf amcan i ddifrio y pre- gethwyr. Carwn iddo deall mai car- iad at yr eisteddfod a barodd i mi ys- grifennu fel y gwneuthum, ac nid siom colli, oherwydd byddaf bob amser yn synied fod pob cystadleuydd ar ei "ennill" er "colli." UN A GAR LWYDDIANT YR EISTEDDFOD. HEULYCYW. I Mr. Gol.Yn Nharian Meh. 25 cwyd Mr J. L. Morgan (Creuddyn) ei wrychyn yn enbyd am i mi, meddai ef, "ei gyhuddo o gyhoeddi anwireddau ynglyn a chychwyn achos Methodist- aidd yn Heolycyw." Eglur yw hwn ai na wyr fod gorchymyn, "N a ddwg gam- dystiolaeth yn erbyn dy inydog," neu nad yw wiw ganddo ufuddhau iddo. Ni soniwyd am anwireddau yn y Gla- morgan Gazette" o gwbl; dweyd yn unig ddarfu i ni fod Creuddyn yn anghywir pan ddywedai fis neu bum' wythnos yn ol yn y "Darian" y buasai Capel y Trefnyddion Unedig yn eiddo'r Hen Gorph cyn y gwelsai ei linellau ef oleuni dydd. O'i enau ei hun yr wyth- nos ddiweddaf profir cywirdeb ein gos- odiad yn y Gazette; nid yn unig ni ddaeth yr adeilad bychan yn eiddo'r Hen Gorph cyn gweled o'i linellau ef oleuni dydd. ond nid yw felly hyd heddyw, ac hyderaf na lesmeiria'n cyf- &ill pan ddywedwn nad yw'n debyg iawn y daw byth felly. Ofer i mi a Creuddyn, fodd bynnag, ymddadleu am hyn; byddwn amyneddgar, canys y dydd a'i dengys. Yn y cyfamser hy- derwn fod y manylion roddodd eich gohebydd yr wythnos ddiweddaf yn fwy cywir na'r rhai roddasai wythnos- au'n ol am drosglwyddiad uniongyrchol eiddo sydd heb gymeryd lie hyd y dydd hwn. Ni honnais i mai myfi sydd i bender- fynu yr adeg i gychwyn achosion i'r Methodistiaid, a dichon y caniata'n cyfaill i ni awgrymu'n gynnil mai fel mae goreu'r modd i'r Trefnyddion Cal- finaidd parchus, nid iddo yntau y perthyn hynny chwaith. Pe felly, bu- asai yma ryw lun o achos Methodist- aidd, fel llin yn mygu, yn faich ar yr enwad a'r ardal, er ys blynyddau. Gwnawd ymchwiliad manol a gonest gan weinidog cymwys ac awdurdodeg, a'i adroddiad ef i'w Gyfarfod Misol yd- oedd nad oedd ar hyny o bryd yr ad- noddau angenrheidiol a chymwys i ffurfio eglwys a wnai unrhyw ddaioni yn Heolycyw. Dyna sylwedd yr adrodd- iad yn svml. Bron, os nid yn hollol, yr un yw sefyllfa y lie heddyw, ac erys i'w weled beth wna'r Hen Gorph, sydd fynychaf yn bur sicr a doeth ei symud- iadau, o'r ail gais hwn i sefydlu achos mewn lie y mae eisioes ynddo un eglwys Ymneillduol, chwech neu saith mlwydd oed, o ddeuddeg neu bymtheg o aelod- au, na lwyddodd hyd yma yn ei gyrfa i ennill namyn dau o ganlynwyr newydd- ion, a'r ddau hynny yn broselytiaid hyd nes yr elo'r cymylau heibio yn unig. Da gennym weled fod arweinwyr a goreugwyr y gwahanol enwadau Cym- reig yn cydnabod bellach mai ofer, a gwaeth nag ofer, yw lluosogi achosion gweiniaid mewn mila bentrefi. Gwna hynny gardota tragwyddol yn angen- rheidiol, ac unwaith y cred y byd mai cardota yw prif waith eglwys, derfydd ei dylanwad daionus arno. Geiriau gwirionedd a sobrwydd draethwn pan ddywedwn yn ddifloesgni fod tair o bob pedair o eglwysi gweiniaid, di-alw-am- danynt Cymru heddyw yn llawer mwy nodedig em eu heiddigedd o'u cyd- eglwysi mwy llewyrchus a llwyddian- nus, nag am ddim wnant i hyrwyddo teyrnas nefoedd ar y ddaear. Pan feddyliwn, nas gall yn ol natur pethau fod yn wahanol, canys prawf ymchwil- iad fod eglwysi di-alw-am-danynt braidd yn ddieithriad wedi eu ffurfio yn y cychwyn gan ddynion anfoddog a swydd-geisiol. Mid wyf yn dweud y bydd felly, os sefydlir achos Method- istaidd yn Heolycyw, ond dywedaf yn ddibetrus mai achos di-alw-am-dano fydd. Od oes yma Drefnydd mor gul neu rywbeth arall fel na fedr gartrefu'n gysurus yn un o'r pedair eglwys sydd yma eisioes yn gwasanaethu tua mil neu lai o drigolion, yna, yn bendifadd- eu, dylai ymlwybro i Bencoed, neu Rhiwceiliog, neu at ddeadell fechan Bryncethin. Mae'r tri lie enwyd o fewn rhyw ddwy filldir i Heolycyw, a gwell o lawer fyddai i unrhyw rai na allent gael lie esmwyth i roi eu pennau i lawr yn Heolycyw fyned i un o honynt, yn hytrach na gwanychu mwy ar reng- au Ymneillduaeth yn Heolycyw. Mae Dadgysylltlad yn yr ymyl, ac fel y dy- wedodd fy nghyfaill parchus, Mr. T. James, Porthcawl, yng nghyfarfod misol Gorllewin Morgannwg ym Mhen- ybont ar y 24ain cynfisol, mae'n angen- rheidiol i ni edrych ati, a chyfannu ein rhengau, os ydym, fel Ymneillduwyr, i ddal ein tir yn y dyfodol; rhaid i Un- dejo fyn'd yn gryfach, ac enwadaeth a rhaniadau yn wanach. Gresyn na allasai eich gohebydd ddwyn ei gwyn disail yn erbyn y Gazette mewn gwell ysbryd. Wrth derfynu hyn o linellau cyntaf i'r "Darian" dan ei goruchwyliaeth newydd, caniatewch i mi, Mr Gol., eich llongyfarch yn galonnog ar ragoroldeb ei chynnwys. Mae eich cynhyrchion chwi eich hunan, yn ogystal ag eiddo Brynfab, Gwyddonwy, Dyfnallt, Mr Lewis Davies, Moelona, 'Berdar Bach, ac ereill, yn flasus fwyd o'r fath a gar- wn. Ni charem eu colli am iawer. Rhagor o'r cyfryw, a llai fyth o hanes- ion man gyfarfodydd dibwys, a wna'r "Darian" yn wythnosolyn delfrydol, anhepgor i bob Cymro llengar. Os na fedrwch hawlio llwyddiant-nid yw mewn meidrolion i wneyd hynny-yr ydych yn gwneutehur mwy-yr ydych yn teilyngu'r llwyddiant eiddunaf i chwi o eigion calon gynnes.—Yr eidd- och, etc., GOHEBYDD.
Advertising
Mae'r Cyllideb a'r Trethi Newyddion wedi poeni llawer, ond y mae Diffyg Traul, Bustl, Cur Pen, neu Flinderau'r Afu yn llawer gwaeth. Mater o lawenydd yw y gellir naill ai lleddfu neu iachau y rhai hyn gyda dogn prydlon ar ychydig o draul o BELENI LLYSIEUOL KERNICK. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blyehau 7 £ c., 13Vc., a 2s. 9c., gan yr holl fferyllwyr. TURKEY EGGS, Lord Rothschild JL Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6b., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list free. GOODWIN, Stratford, Essex.