Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE BEST II ADVERTISING MEDIUM IN 0 SOUTH WALES.
Advertising
W. Williams I Co. JEWELLERS, Ac.. 29 Castle St., Swansea. SPeolatitMe l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEPDINO RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS. GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewoh at y Cymro Os am beirdd lodrwyau auf, Oriaduron ac awrleiaiau, Gemau a chadwynau claer: Yspeetol gelfydd, hin-fynegydd, (iwres-fesarydd, Cwmpnwd mdr Geir gan Williams, Heol y CasteU Trowch i mewn i weild ei atdr.
Advertising
Mwyn yw dwr yn mynd i waered,-a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned."—AP HEFIN. CEIR MWVNHAD DYBLIG WRTH YFED DIM OND LEMWNED Bryniau Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANOEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFAOL. J
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. r ————— n S fnprW Y Diwe ar Joseph ChamberlaIn" 1 Y Stori 2 Pontygwaith 2 Difyrrwch y Beirdd 2 Colofn y Bobl leuainc 3 Am dro Or Neuaddlwyd 3 Llith y Gol 4 Colofn y Llyfrau 4 Nodiadau Brutus 4 Colofn Llafur 5 Mr W. Jenkins, Y. H 5 Colofn y Plant 6 0 Wy i Dywi 6 Eisteddfod Tir Iarll 6 Beirniadaeth Aberaman 6 Dyngarwch a'r Weinidogaeth 7 Colofn y Beirdd 7 Hunangofiant y Parch. R. J. Jones, M.A. 7 0 Bontardawe i Gaerdydd 8 Gohebiaethau 8
GWLAD A SENEDD.
GWLAD A SENEDD. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. Y Fyddin Wyddelig Genedlaethol. Cychwynodd hon yn annibynnol ar y Blaid Seneddol Wyddelig, ond, yn ffodus, erbyn hyn symudant mewn cyt- ? gord a dealltwriaeth lawn. Y peth goreu fedrwn wneud i gael golwg ar ys- tyr fewnol y mudiad yw darllen y frys- neges ddanfonwyd gan Mr J. Redmond, A.S., at Mr M. J. Ryan, Philadelphia, Llywydd Cyngrir Undebol Gwyddelod America. Rhoddwn yma rvdd-gyfieithiad ohono Galwyd y Gwirfoddolwyr Gwyddel- 4 ig i fod gan fudiad herfeiddiol Toriaid Pryden Fawr ac Orangemen Ulster i ar- swydo, trwy nerth milwrol, ewyllys y Senedd a'r gwerinoedd Prydeinig a s Gwyddelig. Y mae y mudiad Orang- aidd wedi ei gyflenwi ag arian gan holl elynion cyfoethog ac ucheldras breint- < iau y bobl. Y mae wedi ei nawddogi gan rai o brif Gadfridogion y Fyddin, ac yn gydfynedol ag ef gwnawd ymgais C gref ac effeithiol i raddau i gynhyrchu y ( fath deimlad yii. y fyddin, fel ag i sicr- hau y gallasai unrhyw gwmni o wrth- if ryfelwyr gyfrif ar wrthodiad y fyddin i gynnal cyfraith y tir. Y mae y corff i hwn o Wirfoddolwyr Orangaidd wedi f llwyddo i arfogi en canlynwyr. Felly, gwelir fod trigolion Iwerddon wedi eu I- gwyne,bu a byddin arfog, yr hon a fy- f gythia sefyll rhwng yr Iwerddon a phen- | derfyniad y Senedd i roddi iddi ei rhyddhad, ac sydd ar yr un pryd yn berygl difrifol i fywydau ac eiddo ein pobl. I Gwna y fath fudiad hi yn hanfodol angenrheldiol i bob! Iwerddon osod eu f- hunain yn y fath safle fel ag i amddiffyn eu gwlad ac i emddiffyn eu hunain. jGwyddoch fod pwyllgor y Gwirfoddol- ■wyr Gwyddelig yn awr wedi derbyn fy awgrym i dderbyn i'w plith gynrychiol- aeth ddigonol '0'1' Blaid Wyddelig. a'u bod felly w-edi erinill ymddiriedafth L, I Cenedlaetholwyr Gwyddelig yn gyffred- inol. Ceisiaf gennych felly wneud apel (gat. eiii cydgendl a'n^ cyleillioji..yn Xr r Unol Dalaethai atti gyinhorthwy i sicr- hau trysorfa ddigonol i gryfhau y Gwir- foddolwyr Gwyddelig a' u galluogi i wrthwynebu fel y mae yn ofynnol yr ymgais haerllug hon o eiddo uchelwyr Prydeinig a lleiafrif Gwyddelig i osod i lawr trwy rym ryddid trigolion yr Iwerddon." Yn nhy y Cyffredin gwnawd Ymosodiad Ffyrnig ar Mr. Lloyd George I unwaith eto. Ychydig o ddisgwyl oedd am y fath beth, oblegid y mater dan sylw oedd costiau a ehyfiogau gweision y Trysorlys. Cynhygiodd Mr J. F. Hope, yr aelod Toriaidd dros Sheffield, fod zel,ooo yn cael eu tynnu oddiwrth gyflog y Prif Weinidog, fel pen swydd- og y Trysorlys. Paham? Am na fu- asai yn rhwystro ei gydswyddogion i brynu a gwerthu "stocks Mewn geir- iau eraill, eu hystryw oedd defnyddio pleidlais y Trysorlys i wneuthur ymos- odiad personal maleisus a ffyrnig ar y Canghellor. Efe o hyd yw y bwgan sydd yn aflonyddu ar yspryd Toriaeth. Pe gellid cael ei ben ef i lawr byddai popeth yn iawn. "Deddfwriaeth Lloyd George" yw y pla sydd yn difa 'breint- iau' llygrol segurwyr cyfoethog, ac yn rhwystro cwsg y gwyr hyn. Pa wahan- iaeth pa ystryw ddefnyddir, neu pa isel- waith a wneir i'w symud ef oddiar y ffordd? GoJbeithiant felly allu llesteir- io ymdaith y werin a diogelu eu gallu i dreisio a gorthrymu gwlad, am ysbaid yn hwy. Cefnogwyd Mr Hope gan Major Archer-Shee a'r ddau Cecil, Robert a Hugh. Gwnaeth y Cadeirydd ei oreu i rwystro yr ymosodwyr, trwy ddal i fyny reolau y Ty. Er hyn oil llwyddasant trwy ergydion Haw chwith, ensyniadau ac awgrymiadau i gyflawni eu bwriad i raddau. Yr hyn oedd yn hynod yw fod yn anihosibl i Mr Lloyd George, oherwydd y rheolau a nodwyd, ateb, yr ymosodwyr. Yr oedd y Hew wedi ei rwymo a'i boenydwyr yn gwybod hynny. Ond diameu gennym y cant eu tal eto gyda llog. Nid yw y "Hew" a nodwyd yn arfer bod yn nyled neb yn hir iawn yn y pethau uchod. Pan ddaeth Siarl II. i orsedd Pryden, ac yr ail-osodwyd y frenhiniaeth ar ei thraed, cyfodwyd corff Oliver Cromwell o'i fedd a gosodwyd ei ben ar drostan. Ie," ebai merch Cromwell pan glywodd am y tro, ond yr oedd nhad yn farw pan wnaethant hyn ag ef" Awgrymiadol ddigon, onite 1 Fel swyddogion ereill y Llywodraeth, gwelwyd Syr Edward Grey o flaen ei Feirniaid I yn y Senedd nos Lun. Fel rheol, amheuthyn Seneddol yw gwrando yr Ysgrifennydd Tremor pan ar ei brawf. Efe, heddyw, yw yr unig aelod o'r Llywodraeth sydd yn parhau yn y swydd a roddwyd iddo gan y diweddar Syr H. Campbell-Bannerman, yn Rhagfyr, 1905. Yn areithiau y beirniaid ymdrinid a threfniant ein Llywodraeth i gael olew o Persia, a'r trefniadau milwrol ar gyfer hynny; ag helynt y gwrthryfel yn Al- bania, y deyrnas fechan honno osodwyd i fyny ar ol rhyfel y Balkans, a chamlas fawr Panama a threfniadau yr Unol Dalaethau ynglyn a'r tollau ar y llongau a'i defnyddiant; a Rheilffordd Bagdad; a threfniadau Ewrop i amddiffyn trigol- ion Armenia rhag Hid y Twrc, ac a thraf- nidiaeth yr opium, o dan nawdd y wlad hon, cydrhwng India a China. Mewn gair, adolygid holl waith yr Ysgrifen- nydd Tramor yn ystod y flwyddyn, ac felly ceid cyfle i gadw y wlad yn hysbys o'i chysylltiadau tramoraidd ac i gadw ein swyddogion mewn Haw. Llwyddodd Syr Edward Grey i roddi atebiad boddhaol bron ar bob pwynt a godwyd. Un o'r ysmotiau duon ar wisg y Llywodraeth Brydeinig yw ei gwaith yn Gwthio yr Opium ar China. I Yn wir, anodd yw credu fod y deyrnas hon wedi gallu ymostwng mor isel, ac wedi gallu parhau am ugeiniau o flyn- yddoedd yn y cwrs dirmygedig a gymer- odd yn y peth hwn. Gorfododd China, trwy fin y cledd a difrod y magnel i agor ei phyrth i'r gwenwyn marwol hwn. Gwelai China yn ei dagrau filiynnau o'i phlant yn cael eu dinystrio gorff ac enaid trwy yr opium, a gwnai bopeth yn ei gallu i gael gan Bryden ei rhyddhau | oddiwrtho, ond y cyfan yn ofer. Os codai y dyn melyn arf mewn hunan-am- ddiffyniad, symudai Lloegr ei llynges a'i byddin, a chydag arfau gwell, daros- tyngai bob gwrthwynebiad. Os ceisiai China ymresymu, neu grefu neu weddio am ymwared troai Lloegr y glust fyddar yn ddieithriad. Hyn fu ymddygiad y wlad Gristionogol hon" at "baganiaid China," nes dysgu y Chineaid lu o hon- ynt i'n dirmygu ni a'n crefydd. Teim- lem yn llawen fod gan Syr Edward Grey ateb boddhaol i'w roddi ar y pen poenus hwn. Cyfeiriodd at y cytundeb wnawd rhwng y wlad hon a China ryw wyth mlynedd yn ol, pan oedd Arglwydd Morley yn Ysgrifennydd dros India. Cynnwys hwnnw yw y buasai Lloegr yn atal opiwn i fyned o India i China yn gyfangwbl mewn deng mlynedd, os peid- iai China ei hun a thyfu opiwm erbyn hynny. Derbyniodd yr olaf y cynnyg, fel, erbyn hyn, yn ol Syr Edward Grey, nid oes ond tair o holl dalaethau China yn tyfu y nwydd hwn ar hyn o bryd. Teimlwn yn falch fod y Llywodraeth bresennol wedi trefnu i symud y gwarth- nod llygrol hwn oddiar enw Prydain Fawr unwaith am byth. I Yr un modd gydag achos Camlas Panama. I Ceisia llawer dynnu drwg rhwng y wlad hon ac Unol Dalaethau America, trwy ddweud fod yna rhyw fargen ddirgel- aidd wedi ei gwneud ganddynt. Cyd- nabyddir fod agor ffordd fawr i ager- longau y byd forio o For y Werydd i'r Mor Tawelog yn un o orchestion mwyaf y byd, ac fod anrhydedd nid bychan yn ddyledus i'r America a'r gwroniaid fu yn ei harwain a'i gwasanaethu yn y peth hwn; hefyd, fod ganddi hawl i fanteisio yn helaeth ar ei goruchafiaeth. Flyn- yddoedd yn ol, er hyny, addawodd y Llywodraeth Americanaidd na wahan- ieuthid yn y tollau am ddefnyddio y gamlas, cydrhwng llongau y gwahanol wledydd. Yn groes i yspryd y cytun- deb hwn gwelodd Seneddwyr America ffordd trwy y llythyren i ffafrio llongau eu gwlad eu hunain. Yn naturiol gol- ygai hyn fod Pryden Fawr, sydd a'i myrddiynnau llongau yn heigio yr holl foroedd, yn cael ei tharo yn drwm. Ond diwedd y peth fu, i Arlywydd new- ydd yr Unol Dalaethau edrych i fewn i'r achos a defnyddio ei ddylanwad yn ffafr gosod pob gwlad yn hollol ar yr un tirs Tystiai Syr Edward Grey nad oedd un fargen wedi ei gwneud, ond fod yna ohebu wedi bod a'r America cyn es- gyniad Dr. Wilson i'r gadair Lywyddol. Xid oedd un ohehiaeth wedi bod rhyng- om a'r olaf o gwbl, ond teimlai yr Ar- lywydd fod yn bwysig i'r byd allu gosodv gwerth ar air Llywodraeth yr Unol Dalaethau. Ar y tir anrhydeddus hwn yn unig, ac heb ymyriad na chymhelliad oddiwrthym ni, y gwnaeth efe hyn.
[No title]
Ystyrrid Joseff Chamberlain yn un o ddadleuwyr mwyaf athrylithgar Ty'r Cyffredin. Yr oedd ei arddull yn syml ac effeithiol, a phriodolir hynny i'w efrydiaeth Ysgrythyrol. Yr oedd yn ddarllenwr mawr o'r Beibl. Ffaith deilwng o sylw yw fod rHai o areithwyr gore'r wlad, megis John Bright, Glad- stone, Chamberlain, a'n cydwladwr en- wog ninnau yn bresennol, sef Mr Lloyd George, yn efrydwyr Beiblaidd cyson.
Y Diweddar Wir Anrh. Joseph…
Y Diweddar Wir Anrh. Joseph Chamberlain. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. Nos Iau diweddaf aeth o'n golwg un o gymeriadau cyhoeddus hynotaf yr oes; un a lanwodd le pwysig yn mywyd y wlad ac a fu yn destun siarad ac yn ffynnonhell o ddylanwad am tua deugain mlynedd. Ymdrodd ymhlith cewri fel Gladstone, Bright, Dizraeli, Balfour, Asquith a Lloyd George, ac eto, yr I oedd i'w weled yn amlwg yn y twser j llachar hwn. Dyn cydnabyddedig gryf I' ydoedd, ac un fedrai anelu at drwch y blewyn ydoedd ar faes y frwydr. Ond, rhywfodd, gwisga ei fywyd weddau trist I o fethiant amlwg. Ganwyd ef yn Llundain Gorffennaf 8, 1836., i deulu o fasnachwyr cyffredin. Bu yn bur lwyddiannus yn y rysgol, yr hon a adawodd pan yn un-ar-bymtheg oed i fyned i fusnes at ei dad. Pan tua deu- naw oed symudodd i fasnach y screws yn Birmingham. Ymdaflodd i'w waith newydd gydag asbri a sel, a gwnaeth ddigon o gyfoeth i allu byw ar ei arian, ac ymroddi i fywyd cyhoeddus yn hollol. Yn 1869 etholwyd ef yn aelod o Gynghor Trefol Birmingham, a daeth yn fuan yn brif arweinydd y ddinas. Yn 1873,4,5 etholwyd ef yn Faer Birmingham deir- gwaith yn olynol, ac yn ystod tymor ei faeroliaeth chwildrowyd y dref drwyddi draw. Anawdd cae l chwedl mwy rha- mantus nag hanes y diwygiadau dinesig hynny. Trwyddynt hwy aeth Chamber- lain yn eilun yr holl ddinas, a gallodd am ddeugain mlynedd ei throi fel edau am ei fys. Nis gwyddom am achos tebyg yn yr holl wlad. Pan yingymerodd efe a gwaith cy- hoed iusj yr oed,d Birmingham mewn cy ilwr gresynus: ffynnai heintiau per- yglus mewn rhai ystrydoedd yn ddi- baid; nid oedd y ffyrdd wedi eu pal- mantu na'u goleuo yn weddus. Tridiau yr wythnos yn unig y gellid cael dwfr costiai y nwy bum swllt y fil o droed- feddi, a llygrid bywyd y lie gan gan- noedd o dai nad oeddynt ond cutiau isel ac afiach. Ymhen ychydig amser cliriwyd y slums, ac adeiladwyd ystryd- oedd ardderchog o fasnachdai yn eu lie, y rhai ydynt yn eiddo y ddinas ei hun. Prynwyd i fyny y gwaith nwy. yr hwn a ddwg i fewn elw o £ 30,000 i 240,000 y flwyddyn. Prynwyd y gwaith dwfr hefyd yn ogystal a ffermydd at ofynion iechydol pwysig. Yn ddiwedd- arach sefydlwyd yno Brifysgol, llywydd yr hon yw y Gwyddonydd enwog, Syr Oliver Lodge, ac at yr hon y casglodd Mr Chamberlain chwarter miliwn o bunnoedd. Mewn gair cododd dref oedd gynt yn ddigon isel a llwyd ei chyflwr i fod yn un o ddinasoedd gloew- af a mwyaf byw yr Ymerodraeth. Nid rhyfedd i drigolion Birmingham edrych arno fel yr edrychai yr Ephesiaid ar "Diana" gynt. Pan symudodd Mr Chamberlain i gynrychioli y ddinas yn Nhy y Cyffredin aeth a'r enw mawr a enillodd fel diwyg- iwr dinesig gydag ef. Heblaw hynny yr oedd wedi gwneud enw cenedlaethol iddo ef ei hun fel Anghydffurfiwr ac fel arweinydd Radicalaidd. Fel Anghyd- ffurfiwr, ymladdodd ac arweiniodd yn y frwydr dros gydraddoldeb crefyddol yn ein hysgolion dyddiol. Ym mrwydrau yr adeg honno, ei gymdeithion oeddynt Dr. H. W. Dale, Dr. Crosskey, George Dixon, Henry Richard ae ereill. Gwisg- ai ei Radicaliaeth ef fel eiddo Syr Chas. Dilke weddau beiddgar a chwildroadol. Dysgent a pharatoent y ffordd i gael gweriniaeth i Bryden yn lie y frenhin- iaeth. Dysgent athrawiaeth newydd hefyd am eiddo, yn arbennig eiddo mewn tiroedd. Yr oeddynt mor eith-' afol fel ag i beru dychryn i'r hen Rydd- frydwyr. Pan ddaeth etholiad cyffred- inol 1880 er hynny, rhaid oedd cynnwys Chamberlain a Dilke yn y Llywodraeth ac yn y Cyfringyngor. Synnai llawer at eu gwaith yn derbyn swydd mewn Llywodraeth Ryddfrydol. Synnid hefyd fod y Frenhines Victoria yn cania- tai lie i ddau mor eithafol a gwrth-fren- hinol. Gosodwyd Mr Chamberlain yn Llywydd Bwrdd Masnach, hen swydd Mr Lloyd George ar ol hynny. Crewyd diwygiadau mawrion yn y Swyddfa, ac ni welwyd y fath fywyd a chynnwrf yn- ddi cynt na chwedyn, hyd nes i Gang- hellydd y Trysorlys fyned iddi yn Rhag- fyr, 1905. Daeth Mr Chamberlain yn. fuan yn allu mawr yn y wlad, ac yn arweinydd cydnabyddedig yr adran Radicalaidd. Tyrrai y werin at ei faner o bob cyf- eiriad, ac yr oedd yntau yn llawn cyn- lluniau i ddwyn oddiamgylch ddiwygiad- au cymdeithasol pellgyrhaeddol. Ar ei raglen ceid Addysg rad; Datgysylltiad Dymchweliad Ty yr Arglwyddi, Pwnc y Tir, Tai gwell i weithwyr, Seneddau i wahanol wledydd y Deyrnas Gyfunol, a phethau cyffelyb. Pwy byth allasai ddychmygu yr adeg honno y deuai Mr. Chamberlain yn fuan wedyn yn brif arwr y:* wrthblaid, ac yn brif wrthwynebydd yr holl fudiadau hyn ? Yn ystod ei ddyddiau Radicalaidd, Gladstone oedd blaenor y Fyddin Rhyddfrydol, ac nid oedd Chamberlain erioed wedi arfer dilyn neb. Nid oedd Gladstone ychwaith' wedi arfer gwneud fawr o ddim ond teyrnasu. Nid oedd dim am dani ond oerfelgarwch a gwrth- aarawiad rhwng y ddau bab gwleidydd- ol. Ond ceid fod gafael Gladstone ar y wlad yn rhy ddiogel, ac nid oedd dim am dani i Mr Chamberlain ond anialwch a chwmni y Philistiaid yr arferai ymosod mor ffyrnig a gyda'r fath ddirmyg ar- nynt. Ar gwestiwn Ymreolaeth Iwer- ddon y daeth yr ymraniad, a gwyddys erbyn hyn mai teimlad personol ac nid gwahaniaeth barn yn gymaint gynhyrch- odd y rhwyg anffodus hwnnw. Nis gall- odd yr hen werinwr Radicalaidd ymuno ar unwaith a'r Toriaid, ond dyna fu y diwedd. Am flynyddoedd wedyn efe oedd y dylanwad grymusaf yng ngwein- yddiaeth Mr. Balfour. Yn ystod y tymor hwnnw cawn Mr Chamberlain wrthi a'i holl egni yn dadwneud gwaith ei flynyddoedd boreuach. Y n lie gweithio dros heddwch, efe ddygodd ryfel De Affrica i fod. Yn lie dirymu Ty yr Arglwyddi, gwnaeth ei oreu i'w gadarnhau a'i gynnal yn erbyn y werin. Yn lie Masnach Rydd, arweiniodd gad- gyrch beiddgar grymus i drethi bwyd y bobl. Mewn gair, trodd o fod yn werin- wr Radicalaidd poblogaidd i fod yn Dori o'r Toriaid ymhob dim. Rhoddodd  flynyddoedd i ddadlu yn aiddgar dros nifer o fudiadau mawrion poblogaidd, a blynyddoedd ar ol hynny i ddadlu a gweithio yr un mor aiddgar a hynny yn eu herbyn. Y canlyniad yw y gellir I cael dyfyniadau clasurol o'i areithiau grymus dros ac hefyd yn erbyn bron yr oil o'r diwygiadau sydd wedi medd- iannu sylw y wlad y chwarter canrif di- weddaf. Fel areithiwr, yr oedd yn gaboledig a llyfn ei ddull, ond nid felly o ran ei eir- iau a'i frawddegau. Dyn o fusnes yd- oedd ymhob man. Busnes geid yn ei areithiau. Ergydiai fel cawr, heb roddi pardwn i neb. Rhaid oedd dymchwelyd pob gwrthwynebiad os oes modd. Bu ami i Amagedon rhwng y ddeulu ar- weinid ganddo ef a Gladstone. Yr adeg honno, yr oedd Chamberlain yn ei an- .terth, a'r hen wron o Benarlag yn hen- eiddio yn gyflym, ei lygaid yn pylu a'i glyw yn trymhau. Ami i omest fu rhyngddo ar lawr Ty y Cyffredin a Syr William Harcourt, Syr H. Campbell- Bannerman, Mr Asquith, a Mr Lloyd George. Y cyntaf o'r genhedlaeth bres- ennol i'w lorio yn fynych oedd Mr As- quith, un o'r rhai mwyaf peryglus erioed mewn dadl. Pan ddaeth Mr Lloyd George i fri yr oedd Chamberlain yn gwanhau, a theimlid ei fod yn fynych yn cael y gwaethaf gan ei wrthwynebydd ieuanc athrylithgar. Yr ymgyrch fawr olaf yr ymgymerodd y gwladweinydd ag ef oedd yr hwn oedd a'i nod i drethi y nwyddau a ddeu- ent dros y dwfr i'r wlad hon. Parodd ei waith syndod cyffredinol, a bu yn foddion, gyda rhyfel Affrica, i hyrddio y Llywodraeth Doriaidd oddiar ei gor- sedd, ac i'w chadw o awdurdod am o! leiaf naw mlynedd, faint bynnag yn hwy. Dywedir mai Chamberlain oedd prif achos dinystr y fyddin Ryddfrydol yn 1886. Fodd bynnag, cymerodd ugain I mlynedd i'r Ryddfrydwyr adennill eu nerth, ac ni lwyddasant yn hynny, hyd j nes i'r un gwr chwalu Toriaeth yn j ddeilchion, trwy geisio cael trethi ar II fwydydd y bobl drachefn. | Anawdd cael cysylltiadau teuluol dy- munolach nag a geid yn Highbury, y cartref ger Birmingham sydd dan lenni galar heddyw. Yr oedd Joseph Cham- berlain a'i fab hynaf Austen, yn ffrind- iau mynwesol trwy y blynyddoedd, ac yn fwy tebyg i ddau efaill nag i dad a, mab. Ffynnai y cariad a'r tynerwch anwylaf cydrhwng holl aelodau y teulu. Rhaid wrth hyn fod yna elfennau swynol yng nghymeriad yr hen ryfelwr na ddeu- ent i'r golwg pan fflachiai y cledd yn ei law, a phan orchuddid pob man gan lwch tew yr ornest. I Er ei fod wedi ei droi allan o'r rheng- oedd, fel milwr clwyfedig, er's tua wyth mlynedd, teimlwn fod Ty y Cyffredin yn llawer tlotach a'r holl wlad yn wacach wedi iddo ef gadw noswyl. Yn ystod ei gystudd maith eyfrifid ef yn un o feddyl- iau meistrolaidd ein Senedd, a holid fceth oedd ei farn ar ami i bwnc. Heddwch i'w lwch. Gweithiodd yn galed. Bu fyw yn ddigon unplyg a gonest, a gadawodd ei ol ar y wlad mewn ami i gyfeiriad y bydd yn dda gan oesau i ddod gyfeirio ato gyda pharch a mawrhad.
[No title]
Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" m'r "OariaD." 1A Cardiff Street. Aberdar.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID COFALU AM V RHAF MYN. Eageulusdod o unrhyw niwatf I rbot hyn drwy ddamwain was Rlafytf mM aeliaei Blood Poisoning a Marwclaeth. Meddyginiaeth .1.111.1. Er mwyn yagoi Parygl rhaid al yanrlir mewn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANUS A SIOR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn aaal ai gydnahart J gan filoedd fel y maddyglin mwy at sior a diogel a ddarganfyddwyd erioed at iaahaH Clwyfau, Atcholllon, Tardd- lantau y Cnawd, Craoh a N a d d yn Mhenau Plant, Liosgiad. au, Yessi. d a n a u Sou, v I Plant, Benywod a I Babanod, fn*/ Tarwden, Gymalau Rheumat- los, Poen Yr oedd pea fy mlen- Cefn, Piles, tyn mewn mtst eenryllog. Hynod a Gwellhaodd Gomw'i B.I. effeithiol hi yn bur fn. at CL WYFAU ar COESAU. Miloodd yn tyatio llw Effeithiau RhyfotidoL RHODDWCH BRAWF ARNO Gwellhad sydd a/or Ar werth gan bob Chemist a StorM an 1/11. Gofyner am Comer's Saim. Mjm- weh weled enw Jacob Hughai ar bob blwch. Heb hyn nid yw gywir. Now danfoner ei gwerth (P.O. neu Stampa) at "aoob Hughas, Manufaaturlng Cham- lit, M.P.S., L.D.S., Panarth, Cardie. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL.
Ferndale.
Ferndale. GAN IOAN. $ Mehefin 27, 28, 29, cynhaliodd Eglwys Salem Newydd (B.), ei chyfarferdydd blynyddol. Pregethwyd gan y Parchn. D. D. Hopkins, Pontygwaith, ac E. Llwchwr Jones, Bedwas. Sylwodd y brawd David Davies, un o ddiaconiaid yr eglwys, i'w diweddar weinidog-y Parch. Isaac Jones, fod yn bresenol mewn 33ain o gyfarfodydd blynyddol yn Salem, ac yr oedd yn chwith gweled ei le yn wag. Bu Eglwys Salem Newydd yn garedig i'w gweinidog, a bwriada fod felly eto i'w weddw. Gorffennaf 4ydd gorymdeithiodd Cyfrinfa'r Plant o Urdd Leol y Rechab- iaid trwy brif strydoedd y lie. Golygfa brydferth oedd gweled dros 300 o filwyr ieuainc dirwest yn talu gwarogaeth i lwyrymwrthodiad. Blaenorid yr orym- daith gan Seindorf Bres Sherwood, Llwynypia, aelodau yr hon sydd yn ddir- westwjr bob un. Ar ol yr orymdaith cafwyd lluniaeth yn Festri'r Tabernacl. Gorffennaf laf, yn y Tabernacl (A.), cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan aelodau y Gymdeithas Gydweithredol. Llywyddodd Mr Tom Morgan. Galwyd ar Mr Robathan, archwiliwr o Gaer- dydd, i rhoi adroddiad o gyfrifon a safle ariannol y Gymdeithas am y tri mis yn diweddu Mai 26ain, 1914. Yr oedd y gwerthiadau am y tri mis yn zC51,141 17s. 4c., yr elw yn YCI,606 2s. 2!C., i w rannu yn ol y cyfartaledd a ganlyn: 4s. y bunt yn siopau bwyd a dillad; 2s. 2c. yn y siopau cig. Cyfanswm yr aelodau yw 3.029. Etholwyd y rhai canlyno l ar y pwyllgor am y flwyddyn Mr William Gwyn dros Bontygwaith Mri. Arthur Cadwgan, Taliesin Jones, a David Mor- gan dros adran Ferndale.