Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC.' -I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BOBL IEUAINC.' DAN OLYGIAETH DYFNALLT. Anfoner cynhyrchion ar gyfer y Golofn hon i Dyfnallt, Caerfyrddin. ISLWYN. I (Can J. Lloyd Thomas, Caerfyrddin.) I Gwlad i feirdd a bro barddas fu Cymru wen erioed. Nis gall neb dorri y cysylltiad agos sydd rhwng y bardd a Gwalia, gwlad y gan. Pan syllwn dros hanes gorffennol ein gwlad gwelwn gad- wyn hir ddidor o feirdd yn ymestyn o gyfnodau ymhell cyn amser Taliesin Ben Beirdd i'n dyddiau ni. Y mae cymaint llu o Gymry wedi eu hanrhydeddu a gwenau hawddgaraf yr awen fel nad oes angen imi eu henwi yn awr. Mewn gwirionedd nid ar gopaon uchel Parnas- sus y trig y Dduwies Awen, ond ar fan- nau beilch Eryri wen. Ac ymhlith y fath nifer liosog o gewri y gan y mae Islwyn yn y rheng flaenaf. Yn un o'i ganeuon ysgrifenna un o'n beirdd pres- ennol mai nid gwlad y cryf arfog fydd y wlad a berchir pan ddaw Cyf- iawnder i'w orsedd, ond Gwlad Ceiriog, gwlad Islwyn, Gwlad Dafydd fydd hi." Yr oedd Islwyn yn wir deilwng o fod yn fab i wlad y gan. Ond nid gwlad y bardd yn unig yw Cymru. Gwlad crefydd, bro y gymanfa a chartrefle pregethiad yr Efengyl yw hi yn ogystal. Darlunia Islwyn ei wlad annwyl fel Gwlad cysegrfaoedd y Goruchaf Dduw Ddedwyddaf oror! Ym mha wlad y cawn Y ffordd i'r nef mor oleu ac mor llawn 0 bererinion! Hen ac ieuainc sy' A'u hwyneb tua'r Ddinas Nefol fry. Pan ledo'r hwyr dros hon ei gaddug llwyd Arolgldarth mawl o'i mil aneddau gwyd. Dyna fagwrfa cewri y pulpud. Y mhlith ei meibion cadarnaf cyfrifwn Christmas Evans, John Elias o Fon, Williams o'r Wern, Dr. Herbert Evans ac ereill, ardderchog lu a aberthasant o'i gwirfodd eu bywydau ar allor gwas- anaeth yng Nghrist. Nid y lleiaf ymhlith y rhai yma oedd Islwyn y pre- gethwr tlws tyner dwys a'r gweinidog tirion ffyddlawn. Nid tua'r digrif yd- oedd tueddiadau ei bregethau, ond braidd tua'r prudd. Er hynny drwy ymroddiad llwyr i'w weinidogaeth cyr- haeddodd safle uchel neilltuol fel pre- gethwr, a mynnai rhai fod y Parch. Wm. Thomas fel gweinidog yn fwy hyd yn oed nag Islwyn fel Jbardd. Heb un amheu- aeth yr oedd Islwyn y pregethwr a'r bardd yn neilltuol ei allu. Cysylltir enw ein gwlad yn feunyddiol ag emfati gwiadgärwyr dirif. Ni freint- iwyd gwlad arall erioed mor helaeth a thrigolion yn mynwseu gorffennol eu gwlad a'r fath anwylder ac yn caru ei dolydd a'i bryniau a chariad mor fawr. Dros hon bu miloedd o gewri farw ac erddi y bu llaweroedd fyw. Gwladgar- wr i'r eithaf oedd Islwyn. Ni rodiodd yr un .Cymro ar hyd llechweddau ei Bryniau, a dolydd ei gwastadedd gan -ei charu a serch mwy angherddol. Gwrandewch arno yn ei moliannu: 0 Gymru! 'rwy'n caru cysgodion dy fryniau Fel edn tragwyddol amrywiog eu lluniau, .Mi dybiwn fod engyl i'w gweld yn dy wybrau, Ac ol eu hymweliad yn gwynnu dy lwybrau, Mae adsain cref anthem yr hen ddiwyg- iadau Hyd heddyw yn nofio hyd froydd fy nhadau, Ar lan ei^hafonydd y treuliais heb loes Mewn swyn awenyddol foreuddydd fy oes. .o! bydded fy henaint yn gwywo yn llonydd Fel derwen lawn oed ar lan ei hafonydd, A bydded im yno pan wywo y wedd Ar lan ei hafonydd, 0 bydded fy medd. Boddlonaf ar fwthyn ar ymyl y bryn Ond imi gael gweled dy raiadr gwyn. Tylodi a phrinder sydd well gyda, Chymru Na llawnder y byd a'i ogoniant oil hebddi. Dyna deimladau cynnes calon orlawn y gwir wladgarwr Islwyn. Am ychydig ceisiwn efrydu bywyd ac athrylith y Cymro hwn y ceir tair prif nodwedd trigolion ein gwlad, sef y bardd, y pregethwr a'r gwladgarwr yn gyfunedig mor hyfryd ynddo. Ger yr Ynysddu, pentref bychain tua :hanner ffordd rhwng Tredegar a Chas- newydd, y ganwyd y bardd, ar y tryd- ydd o Ebrill, 1832. Efe oedd yr ieuaf o naw. Dygwyd ef i fyny ar aelwyd gref- yddol. Yr oedd ei rieni yn Fethodist- iaid selog dros ben mewn materion .crefydd. Felly tyfodd i fyny mewn awyrgylch yn gwbl fanteisiol tuag at feithrin cyineriad cadarn. Yr oedd y bachgen Islwyn yn gydnaws a'r awyr- gylch yma a chynhyddodd yn amlwg mewn daioni. Tystiolaeth gweinidog o'i gydnabod am y gwr ieuanc oedd Y mae mwy o grefydd yn y bachgen bach nag sydd ynom ni gyd." Ond ysywaeth Saesneg oedd yr iaith a siaredid gan y teulu gartref, ac onibai am ymdrechion celyd y Parch. Daniel Jenkins, brawd yng nghyfraith Islwyn, ac Aneurin Fardd, hwyrach mai Saesneg fyddai unig iaith y bardd. Ond diolch i lafur egniol y ddau frawd hyn daeth Islwyn yn Gymro, ac siarad Cymraeg pur a dilediaith. Diddorol yma yw sylwi mai Aneurin Fardd hefyd oedd hyfforddwr Islwyn mewn barddoniaeth. Cafodd Islwyn addysg dda. Bu mewn ysgolion yn N-hredegar, Casnewydd a'r Bontfaen, ac yn olaf aeth i Abertawe, i Athrofa y diweddar Dr. Evan Davies. Anogodd Dr. Davies ef i fyned i Glas- gow er mwyn graddio, ond nid oedd yr amgylchiadau yn caniatau, ac felly yn Abertawe y gorffennodd ei addysg. Tra yr oedd yn myfyrio yn Abertawe ffurf- iodd gyfeillgarwch a merch ieuanc o'r enw Miss Bowen. Daeth y bardd yn hoff iawn ohoni, ac mewn amser cytun- wyd rhyngddynt i briodi. Ar ol cwbl- hau holl drefniadau y briodas, a'r dydd yn ymyl, Jbu farw y foneddiges ieuanc yn ddisymwth. Clwyfwyd calon y bardd mor ddwfn fel yr ofnid y dihoenai yntau hefyd a marw, gan gymaint ei hiraeth. Hon oedd profedigaeth gyntaf ei fywyd, ac yn wir dyma ei brofedigaeth chwerwaf. Gadawodd argraff ddofn arno ar hyd ei oes a gwelir dylanwad yr amgylchiad yn amlwg yn ei gyfansodd- iadau. Dywed mewn geiriau galarus Y dodrefn wedi'u trefnu, Hefyd a'r gain fodrwy gu, Rhwymyn ein borau amod, A'r ysblennydd ddydd ar ddod, Ond yr angau'n mynd rhyngom, A'm heinioes i mwy yn siom, Yn siom oil fy einioes mwy, Yn fedd imi tra fyddwy' Pan yn y gofid Ilethol hwn trodd ei feddwl at gyfansoddi ei bryddest enwog Y Storm," i ddiddyfnu ei feddwl oddi- wrth dristwch ac i roddi y ffrwyn i'w deimladau yng ngwylltineb y dymestl. Yno y mae yn darlunio byd heb ystorm, ac yn nyfnder y dymhestl sydd yn ei lethu ar bob tu y mae yn hiraethu am y ddedwydd adeg, pan y rhodiai dyn A'i Grewr law yn Haw, drwy Eden wiw, Fel plentyn gyda'i Dad. Dyna swyn sydd iddo ef mewn byd heb storm, ond y mae yn drist pan yn co fio yr cofio yr Erchyll awr A ddug y storom farnol rhyngddynt hwy, A'r cwmwl sydd yn duo tynged dyn Gylch ei anfarwol fod, gan godi'r ser, Ddwyfolion rai, i mewn i Dduw i gyd, Nes oedd y nos ar hyd yr enaid oil,— Derfysglyd aber o'r anfarwol for, Heb ynddo ond delw y gorhongiol greig, Mynyddoedd tywyll, gwaeau, beddau, barn Yn disgyn fyth, a byth yn ymddyfnhau. Y mae fel pe yn gwneud y gymhar- iaeth o fywyd yn Eden, y byd heb dym- estl gyferbyn a'r bywyd ar ol i bechod ddyfod a chymylau yr ystorm yn ei esgyll i ateb i'w gyflwr cyn i'w ffurfafen dduo wrth ei fywyd ar ol i'r brofedig- aeth ei ddal. Ychydig amser cyn hyn cystadleuodd am y tro cyntaf ac enillodd y gamp am y bryddest oreu av Abraham yn aberthu Isaac." 0 hyn allan daeth yn enwog fel cystadleuwr ac fel ysgrifen- nwr cyson i'r Cylchgrawn. (I barhau.) Ymladdfa Ddychrynllyd Rhwng Dau Ddyn!! Yn y papurau Saesneg dyddiol, ddydd Mercher diweddaf, rhoed lie amlwg i hanes ymladdfa greulon a drefnwyd y noson flaenorol yn Neuadd Olympia, yn Llundain. Yr ymladdwyr oeddynt Bombardier Wells a Colin Bell. Y Llun blaenorol ceid hanes ymladdfa arall yn Ffrainc rhwng Jac Johnson a Moran, a darluniau o'r ddau yn paffio ei gilydd ar wahanol adegau yn ystod yr ymladdfa. Cefnogir y papurau hyn gan grefydd- wyr, a phregethwyr. Ceisiwn alw sylw at yr hanes ddydd Mercher er mwyn i'r dosbarth hwn holi eu hunain a ydynt yn gwneud yn iawn yn eu prynu. Gallwn nodi rhesymau eraill os bydd galw am hynny, a ddengys mai ofer fydd yr ym- gyrch ymhlaid purdeb a moes tra'r wasg yn amhuro'r awyrgylch a manylion aflan digwyddiadau o'r fath trwy eu gwneud yn amlwg a pharchus. Er mwyn darllenwyr Cymraeg, rhodd- wn ychydig o'r disgrifiad gaed o'r yrn- laddfa a nodwyd. Caiff y Cymro farnu sut yr ymddengys newyddion felly yn ei iaith ei hun. Yr oedd y cynhulliad yn yr Olympia yn rhagorol. Cofier fod lie yno i 12,000 o bobl. Cynrychiolid pob dosbarth o bobl yn y dorf honno, a nifer mawr o foneddigesau, ac enwir un offeiriad a wasanaethai fel swyddog. Wele'r olyg- fa:— Dechreuodd Bell ar unwaith trwy yrti- osod ar gorff Wells, a chan gadw ei ben yn isel ergydiai a'i ddyrnau ar ei asennau. Ymdrechai Wells yn galed am amser i osgoi'r ergydion hyn, ond o'r diwedd llwyddodd, a chyda chyflymder mellten gollyngodd ergyd dychrynllyd ar en Bell. Aeth y ddau ynghyd drachefn, a dyrnai Bell ei wrthwyneb- ydd yn greulon ar ei arennau. Edrychai Wells yn anfoddlon wrth geisio rhwys- tro'r ergydion hyn ar rannau peryglus ei gorff. Felly y daeth y tro cyntaf i ben yn lied gynhyrfus oherwydd angerdd ffyrnig y ddau ymladdwr. Gynted ag y canodd y gloch i'r ail dro, wele Bell yn amcanu a'i chwith i roi ergyd greulon i'r llall, ond methodd. Llwyddodd Wells i roi ergyd a'i chwith i Bell ar ei en. Ymosodai Bell yn ben- derfynol yn awr, a dyrnai Wells ar ei ar- ennau gan wneud ol ar ei gefn. Yna, aeth y ddau ynghyd, ond yn sydyn tyn- nodd Wells ei hun yn rhydd, ac a'i ddwrn de gollyngodd ergyd a'i holl nerth ar en Bell nes ei barlysu. Disgyn- nodd Bell ar fynwes ei wrthwynebydd, ac yna syrthiodd yn ddiymadferth i'r llawr. Yr oedd yr ergyd yn effeithiol, ac yn un o'r rhai cryfaf a roed erioed. Gwaeddai'r dorf nes crygu mewn cymer- adwyaeth tra y ceisiai Bell godi ar ei luniau yn araf mewn poen dirfawr ac wedi ei syfrdanu. Dywedir am yr ergyd hwn yr a i lawr mewn hanes fel un o'r ergydion trymaf erioed, a dywedir am y dorf iddi fwynhau ci hun wrth edrych ar yr ymladdfa. Os nad oes gan yr oes hon rywbeth gwell na hyn i drosglwyddo i hanes gwell yw iddi fod hebddo. 0 ddifrif, onid yw ysbleddach fwyst- filaidd felly yn sarhad ar ddynoliaeth. Dryced oedd ymladd ceiliogod yn y gor- ffennol, ac ymladd teirw Spaen, nid yd- ynt i'w cymharu a'r difyrrwch presen- nol o ymladd dynion. Os yw'r wasg yn ymwerthu i beth fel hyn y mae'n ddyled- swydd ar genhedloedd gwareiddiedig heb son am Gristionogion i ymwrthod a'i hysbwrial trwy ei hanghefnogi. Apel- iwn at yr enwadau crefyddol i uno eu nerth a myned allan yn llu banerog yn erbyn yr ymladdfeydd hyn a'u cefnog- wyr. LLEF UN YX LLEFAIN. I

Am Dro i'r Neuaddlwyd.I

Advertising