Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
PUMP 0 GANEUON NEWYDD. HEN FWTHYN FY NHAD (My Father's Old Home). Can i Contralto neu Baritone. Pris 6c. MAE LLONG FY HARRI'N DOD YN OL (My Harry's Ship is coming back). Can i Soprano. Pris 60. BLODAU AC ADAR I MI (Birds and Blossoms). Pris Is. Y Tair uohod gan D. JENKINS. DYFFRYN HIRAETH (The Valley of Rest). CAn i Contralto peu Baritone gan Bryceson Treharne. Pris lB. (Wedi ei dethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1915). GWENFRON. CAn i Baritone gan Mr. Lloyd Edwards, Llundain. Pria Is. Geiriau Saesneg a Chymraeg, Solffa a'r Hen Nodiant i'r pum' Can. Cyhoeddedig gan D. Jenkins, Mus. Bac. (Cantab)., Aberystwyth. ATTODIAD I "GEM AU MAWL," SEF CASGLIAD 0 DONAU, SALMAU AC YMDEITHGAN. Pris, H.N., 8c. Solffa, 6c. Nid oes braidd un Gymanfa Ganu gyda'r Methodistiaid nad oes rhai Tonau o'r uchod yn cael eu canu ynddynt. Gwneir gostyngiad mawr yn y pris am 100 ac uobod. WORKMEN'S HALL, FERNDALE CYNHELIR CYSTADLEUAETH MEWN PEBFFOBMIO Dramodau Gymreig yn y Neuadd uchod yn ystod yr wythnos a ddechreua NOS LUN, TACHWEDD 25ain, 1914 (Chwe Noswalth). Taer ddymuna Pwyllgor y Neuadd ar i'r Cymdeithasau dramayddol a fwriadant cystadlu anfon eu henwau i'r Ysgrifennydd, W. JAMES, 14 Pine Street, erbyn lleg o Orflennaf, ynghyd a theitl y Drama. BHODDIR GWOBBAU ANBHYDEDDUS I'B CYNTAF AB AIL. Eisteddfod y Ddrama. Cynhelir Cystadleuaeth mewn chwarea DRAMODAU CYMRAEG TNY NEUADD COFFA, ABERDAR Yn ystod yr Ail Wythnos yn Nhachwedd yn dechreu ar y 9fed. Rhoddir gwobrau o 12p; 6p. a 2b. i gwmniodd mown oed, a 2b., 30a., a 20s. i'r plant* Am Delerau y gystadleuaeth anfoner at yr Ysgrifennydd, AFANYDD MORGAN, 18 Glanant Street, Aberdar. Ceisiadan am le yn y gystadlenaeth i fod mewn Uaw erbyn Awst lOfed. FORGE FACH, CLYDACH, Ger ABERTAWE. CYNHELIR Y NAWFED Eisteddfod Flynyddol yn y lie uchod, Sadwrn, Gonphenaf 11, 1914. GORAU MEIBION, Castella (Dr. Protheroe) Gwobr O OORAU CYMYSG, "My Love is like the red, red Rose (D. Emlyn Evans) „ elo AIL-GORAU MEIBION, In the Sweet bye and bye (Dr. Protheroe) ,£6 PBIF FniikNIAD Dr. DAN PROTHEROE, Chicago. Bhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael oddiwrth D. CLYDACH THOMAS, yr Ysgrifenydd am y pris arferol. 00 YOU SUFFER FROr4 EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH BABE AND COMFORT;AN D> ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. I C. F. WALTERS, F.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 43a, I Commercial Street, Aberdare. FKICE8 MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially lov rates: One week 4 wki. is wk. I. d. d. j. d. to words 0 6 1 < 1 18 „ 0 9 « a I M 1 0 » 0 7 « These charges apply only to the follow ing classes of advertisements :-Apart ments, Situations (Vacant or Wanted) To be Let or Sold, Lost or Found, and Miscellaneous Wante. Remittances may be made by Postal Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b- charged. Advertising and Publishing OAeet, Cardiff Street. Aberdare. Yn awr yn barod I Telyn Awen (laaao Eunfin Benjamin). Telynegion Serch, Gwladgarwch, a Chrefydd, Fryddestau Cadeiriol, a A Ar 91 o wahanol doetynau, 18 yaeu myge yn ddarnan buddagol. Pris 1/ wedi eu rhwymo yn hardd 1/6 Cyhoeddedig gan yr Awdwr, ac ar werth gan ISAAC EURFIN BENJAMIN, Bronheulog, Woodfield, Penrbiwceiber. ARQRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaith I ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r "Darian," iig Cardiff Street; Aberdar. ARGRAFFWAITH DA, 6LAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Cyf., 12 qEOl CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddyag yn y gelfyddyd. On* anfon Llytbyr-gerdyn ceir Esiamplauo Adroddiadau Eglwyeig, iestynau a Rbagleni Eisteddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, &c. Pellseinydd Central 161. Coflwch yr evw- THOMAS a PARRY, Cyf.. ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymra yn ei hot; ein hawydd ni yw gyrru'r Hen Wlad yn ei blaen. I I'r amcan hwn yr ydjm yn cyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y gelfyddyd o A rgraff a. ANFONWCH AM SAMPLAU. SYLWCH Dymunwn ddiolch i ddarllenwyr y "Darian" ac ereill, ac eu cefnogaeth yn y gorffennol, ac am ei gwneud yn angenrheidiol i ni helaethu ein ter- fynau. Er gwneud y cyfnewidiad mae'n rhaid gwerthu miloeda o'n llyfrau, ac yr ydym wedi penderfynu eu cynnyg yn rhad am dymor arbennig. Wele ychydig yn y golofn isod:— Pris gostyngol. Post Paid. £ s. c. Testament y Miloedd (pris gwreiddiol 10/-) 0 4 9 Y Cymry, gan T. Stephens, 2/6 0 1 11 Hanes Bywyd Iesu Grist (Hughes), 3/- 0 2 3 Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin, gan James Morris, 3/6 net 0 2 9 Cofiant Edward Morgan, Dyffryn (Griffith Ellis), 6/ 0 3 0 Dilyn Crist (Kempis), J. Owen Jones, 2/- 0 1 3 Pregethau W. Morris (Cilger- ran), 6/- 0 3 9 Athroniaeth Anfarwoldeb Dr. D. M. Phillips, 3/6 0 1 6 Gweithiau Barddonol Twyn- og, 1/- 0 0 7 Cyfrol Goffa Twynog, gan Dyfed, 2/6 0 1 11 Geiriadur Saesneg a Chym- raeg y Miloedd, 3/ 0 2 6 English-Welsh Pronouncing Dictionary Prys, 5/- 0 4 2 Hanes Bywyd H. M. Stanley, 2/6 0 1 11 Chwedlau Pabyddol gan yr Hybarch Llywarch Llwyd, 3/6 0 2 11 Homilian, Emrys ab Iwan, 3/6 0 2 9 Hanes y Merthyron, 2 gyfrol, pris gwreiddiol, 16/ 0 7 9 Colofn Alun (sef Pregethau Alun Roberts), 2/6. 0 1 11 Hanes Bywyd Roger Edwards, 5/- 0 4 0 Pulpud Noddfa, Dr. W. Mor- ris, Treorci, 3/6 0 2 6 Evan Roberts a'i Waith, gan Dr. Phillips, 3/6 0 2 6 Esboniad ar Efengyl Matthew, gan Dr. D. M. Phillips, 3/6. 0 1 6 Pregethau Gwilym Hiraethog, 3/6 0 2 3 Anerchiadau Moody gyda Hanesion am Sankey a Moody, 3/6 0 2b Trysorfa'r Adroddwr, Y Deg- fed Llyfr, 2/6 net 0 2 Yr Apocrypha yn Gymraeg 2/6 0 •? Griffith John, gan Thompson, yn cynwys mwy na'r argraff- iad cyntaf, 7/6 net 0 2 3 The Statutes of Wales, by Ivor Bowen, 21/- net 0 7 6 South Wales, by Baring Gould, 6/- 0 2 4 North Wales, by Baring Gould, 6/- 0 2 4 The Tribal System in Wales (Frederick Seebohm), 12/6 0 4 6 Hanes Annibyniaeth o Ddydd- iau'r Apostolion hyd Farw- olaeth Cromwell, y Parch. John Davies, 1/- (llian), 0 0 9 Key and Guide to Wales (Pedr Hir), 4/ net 0 3 6 Esboniad y Philippiaid a'r Colossiaid, gan Dr. D. M., Phillips, 3/- net 0 1 6 Esboniad ar Epistolau loan, Dr. D. M. Phillips, 2/6 net 0 1 6 Egwyddor Foesol Cynghan- edd, sef Esboniad ar y Ddeddf a'r Deg Gorchymyn, Dr. D. M. Phillips, 3/6 0 1 6 Cofiant Darluniadol Williams o'r Wern, gan Parch. D. S. Jones, Chwilog, 7/6 0 6 0 Nid yw yr uchod ond ychydig o'n stoc enfawr. Cedwir yr oil o'r Llyfrau Cym- raeg sydd mewn argraff. Rhoatlir telerau arbenig yn ystod y tymor hwn. Tal gyda'r Archeb. Darperir Lluniaeth Uwchlaw'r Siop am Delerau Rhesymol. Morgan a Higgs, Llyfrwerthwyr, &c.. 18 Heathfield St., Swansea. TURKEY EGGS, Lord Rothschild Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6s., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list free. GOODWIN, Stratford, Essex. c YWION! CywionH Chickens, fin- est Strains laying, 30s. dozen; two months old, 10s. three months, 15s. dozen. List free live deliverv. -Good- win, Stratford, Essex. YMHOLIAD AM DAFYDD REES | MORGAN (neu WILLIAMS). OS OES RHYWUN all roddi hysbys- rwydd am ddyn o'r enw uchod a fu'n gweithio am dymor yr haf diwedd- af mewn fferm o'r enw Dyffryn Nedd, Ystradfellte, bydd yn dda gan Ben Jones, o'r lie hwnnw, glywed oddi- wrtho, neu oddiwrth D. Rees Morgan ei hun. Rhoddir 10s. i unrhyw un a roddo'r hysbysrwydd am dano, neu iddo ef ei hun os geilw yn ei hen le. Dymunwn wneud yn eglur mai nid o herwydd unrhyw ddrwg y ceisir ef. Dyn tua 64 oed ydyw, yn cadw barf a mwstash, ac yn hoff o siarad am lys- iau. Y mae ganddo fare glas ar ei dalcen. Ganwyd ef yn Llannon, Sir Gaerfyrddin. Y DARIAN. Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf. Cyfeirier pob Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— COLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i'r Golygydd. D.S.-Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am lic. yr wythnos, Is. 7!c. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner blwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen d&l yn unig yr anfonir hi trwy'r post.
DYDD IAU, GORFFENNAF 9, 1914.…
DYDD IAU, GORFFENNAF 9, 1914. i LUth y Golygydd. Mater sydd wedi cael cryn sylw mewn | rhai papurau yn ddiweddar yw perthyn- as Cristionogaeth a rhyfel. Nid rhyfedd yw fod baich anferth treuliau byddin a Ilynges Prydain Fawr yn dechreu gwth- io'r cwestiwn i sylw. Wrth gwrs y mae'r arweinwyr enwog sydd yn yr eg- lwysi yn derbyn elw mawr oddiwrth arfau rhyfel yn chwerthin yn ddirmygus am ben yr ymadrodd hwnnw o eiddo'r Saer o Nazareth, Na wrtliwynebirell ddrwg." Ceir gan y dosbarth hwn ddis- grifiadau alaethus o'r hyn a ddigwyddai pe mabwysiedid y non-resistance theory, fel y gelwir hi. Nid yw y rhai a ddad- leuant ar yr ochr arall fel rheol yn gwneud cyfiawnder a dysgeidiaeth Crist nac a hwy eu hunain. Boddlonant ar y non-resistance theory fel petae peidio gwrthwynebu drwg yn cyfla-wnu cyfraith Crist. Y camgymeriad barnol yw tybied o gwbl fod lesu a Nazareth yn dysgu yr athrawiaeth o "ddim gwrthwynebiad." Yn wir, gallern dybied oddiwrth draeth- iadau ar y mater a ddarllenasom yn ddi- weddar ar y naill du a'r Hall mai'r Cristion yw'r creadur mwyaf diymad- ferth yn holl lywodraeth Duw, ac mai anfantais fawr yw bod yn greadur new- ydd yng Xghrist. A gwendid y rhai a bleidiant athrawiaeth y "dim gwrth- wynebiad" yw cyfiawnhad y rhai a dyb- iant fod yn rhaid wrth lynges a byddin a gostiant gannoedd o filynnau i am- ddiffyn gwlad. Rhyfedd na welai'r doethion mai'r casgliad natnriol oddi- wrth y gwario gwallgof ar arfau yw nad oes yn y wlad nemor ddim sy'n werth ei amddiffyn. Y gwir yw nid yw lesu a Nazareth yn dysgu'r athrawiaeth o ddim gwrth- wynebiad. Rhywbeth hollol wahanol a ddysg efe. Paham y gadewir brawddeg bwysig fel hon o'i eiddo ar ei hanner. Darllener hi trwodd ae y mae fel hyn Na wrthwynejbwch ddrwg; ond pwy bynnag a'th darawo ar dy. rudd ddeheu, tro'r llall iddo hefyd." Nid gwendid a goddefgarwch a. gymhella'r Iesu eu meithrin ond y nerth a orchfyga trwy ddioddef, y nerth a wyneba ar ddioddef- aint yn wrol ac yn ewyllvsgar. Y mae geiriau lesu o Nazareth fel arfer yn ddigon syml a chlir i bobl o feddwl syml a diragfarn, er nad ydynt felly yn awr, mwy na chynt i rai y dall- odd Dduw y byd hwn eu deall. Ei fedd- wl ef yw nad ydym i ymladd a'r byd a'i arfau ei hun; nid ydym i gymeryd cleddyf i ymladd a'r cleddyf. Ni cheir heddwch na thangnefedd na lly wodraeth sicr byth trwy rym cledd. Y mae llwch Ymerodraethau yn dyst o hyn, a bydd llwch ereill o honynt eto yn tystio i'r un peth. Ni ddylasai'r cleddyf fod wedi ei dynnu yn Enw Iesu o Nazareth er pan orchmynnwyd ef i'r wain yng Ngethsemane. A'r peth i'w gofio yw i'r lesu roddi rhagorach arf i'w ddis- gyblion. Yr arf hwnnw yw daioni: Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorehfyga di ddrygioni trwy ddaioni. Paul. Y mae daioni yn allu anfeidrol fwy na holl lynghesoedd a byddinoedd y byd gyda'u gilydd. Nodweddion y gwir ddaioni yw y gallu i ddioddef, i droi'r rudd arall, i gario'r groes, ac i farw ami. Mewn hunan-aberth y ca'i fudd- ugoliaeth. Meddylier ain y Deuddeg aethant allan i'r byd gelyniaethus yn enw'r lesu heb gleddyf na grym ar- fau!" Y fath fu eu dylanwad! Tyri- asant ymerodraethau i'r llawr. Ond beth yw hanes crefydd er pan aeth i ymddiried mewn "braich o gnawd Y fath esboniad erchyll ar Gristionogaeth Prydain heddyw yw maint ei llynges a'i byddinoedd. Gellid tybied oddiwrth y draul ar y pethau hyn a'r pryder a'r gofal yn eu cylch nad oes ronyn o ddai- oni yn y tir! Nid ydym yn ymddiheuro am alw sylw difrifol darllenwyr y Dar- ian at y mater hwn. Yn sicr nid oes heddyw fater pwysicach i'n gwlad. Yn sicr nid o'r tu ol i fagnelau y datblygar bywyd goreu. A thybed nad ydym yn cyflym golli'n ffydd ymhob rhith ar rin- wedd a daioni ?
- -■ INodion o'r Onllwyn a'rj…
■ Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch. Dydd Sadwrn diweddaf, wedi hir nychdod, bu farw Mari Williams, priod Sephaniah William, Coelbren, yn 60 mlwydd oed. Claddwyd hi y Mawrth canlynol ym Mynwent yr Onllwyn. Gwasanaethwyd gan y Parch. A. D. Thomas. Dydd Sul a Llun cynhaliodd Eglwys Noddfa, M. C., Dyffryn, ei chyfarfodydd blynyddol. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Morgan Jones, Rhydyfen, a Dd. Hughes, Glyn Nedd. Yn Siloh, Pantyffordd, yr wythnos hon, bu y Parch. R. B. Jones, Porth, yn traddodi yr hen hen hanes am bedair j noson. Yr oedd y lie yn orlawn Bob nos, a phawb yn teimlo grym y gen- adwri. Y mae R.B. wedi gadael argraff ddofn ar y lie. I Y mae Ceidwadwyr Canolbarth Mor- gannwg wrthi yn ddiwyd. Nos Lun di- weddaf bu un Arthur Hughes o Lanrwst I yn siarad ar wleidyddiaeth. Cafodd le twym iawn, ac amlwg oedd na fynnai i trigolion yr Onllwyn mo'i Geidwadaeth benfoel. Teimlwn yn flin nas gallwn fod yng nghwrdd coroni Ap Hefin. GLAN PYRDDIN. j ——————————
i Nodion o Frynaman. !
i Nodion o Frynaman. GAN WALCH HYDREF. Blin gennyf gofnodi marwolaeth sydyn ac annisgwyiadwy Mr Joseph Evans, Cwmgarw Road, yn 33 mlwydd oed. Bu farw boreu Llun, Meh. 29, o ddolur sydd yn blino miloedd, sef y gwynegon ar y galon. Brodor ydoedd o Lanwrda, mab Mr Evans, Blaenycwm, ond yn awr yn Esger Llaethdy, plwyf Llanwrda. Bu yn gweithio yng Nglofa Pencraig am hir amser, ond aeth oddi- yno i weithio dan Gwmni L. W.R. Bach- gen tawel, addfwyn iawn bob amser yd- oedd. Mae colled fawr i'r teulu, yr eghvys lie bu yn aelod ffyddlon, ac i'r ardal ar ei 01. Dydd Iau canlynol daearwyd ei weddillion yn mynwent newydd Gibea, pan wasanaethwyd gan y Parchn. W. D. Thomas, Gibea John Llewelyn, Bethania H. O. Jones, Eben- ezer, ac ereill. Gadawodd weddw ac un plentyn bach i alaru ar ei ol. Dydd Iau, Gorff: 2, ym Mhontardawe, unwyd mewn glan- briodas Mr Tom Jones, mab Mr a Mrs. Jones, Neuadd Terrace, a Miss Thomas, merch Mr a Mrs Dd. Thomas. Cefnbrynbrain, Cwm- llynfell. Eto, yn yr un lie, unwyd Mr. Tommy Owen, Cannon St., brodor o Lanbedr, a Miss Polly Roberts, merch Mrs. Roberts. Penstag. Priodas dda iddynt oil.
[No title]
7 ■— J Siaradai Mr Lloyd George yng Nghapel Heol y Castell nos Sul wythnos i'r diweddaf ar ol y bregeth, a dywedai mai neges y pregethwr yn ei ddehongl- iad o'r berth yn llosgi oedd rhybudd Duw i gyflogwyr rhag gorweithio o hon- ynt eu gweithwyr. Cyfeiriodd at Amos a Hosea fel llyfrau a darawent yn erbyn gorthrwm mewn geiriau ellid gymhwyso at y sefyllfa heddyw. Wrth son am y TetaIllnt X ewydd dywedai ped anfon- id Epistol lago i rai o'r papurau Tori- aiddd y gwrthodid ef ganddynt, gan ei fod yn waeth o lawer na dim a ddywed- asid yn Limehouse.
Colofn y Llyfrau.
Colofn y Llyfrau. At Wyddonwy. Annwyl Syr,—A ellwch ddweyd wrth- yf lie i brynu The Handbook on the Marriage Act, 1898, with Forms of Ser- vice," gan M. R. Jones, Ysw., a'r Dr. Edwards, Caerdydd. Byddaf yn ddi- olchgar i chwi am fy nghyfarwyddo neu sicrhau copi ohono imi trwy Lyfrfa y "Darian. CHWILOTWR. At Wyddonwy. Annwyl Syr,—Y mae gennyf gopi o Eiriadur T. Richards, Llangrallo, ar- graffiad cyntaf, sef 1761. yn fy meddiant. Carwn wybod ei werth, ac os gellwch fy nghynorthwyo byddaf yn ddiolchgar. Feallai fod gan eraill o ddarllenwyr y "Darian" gopi cyffelyb, ac y byddai'n fantais iddynt hwythau wybod eich barn. j MORGAXXWG.
I ¡Tipyn o Bopeth o :Bontardawy.
Tipyn o Bopeth o Bontardawy. Dydd Sadwrn, Mehefin 27ain, bu cynrychiolaeth dda o ganwyr y lie yma yn Eisteddfod y Rhiwfawr. Cynhyg- iodd amryw bartion ar yr wythawd, Y Blodeuyn Bach," daeth un o honynt yn ail o un ar bymtheg, a chwyrnai ereiU dan eu dannedd. Yr un dydd, cafodd un o beirianwyr y trydan yngwaith alcan Mr. Gilbert- son niweidiau mawrion, awd ag ef i Ysbyty Abertawy, lie y bu farw mewn canlyniad i'r niweidiau. Dydd Mercher, Gorffennaf taf, ym mynwent henafol Eglwys Cilybebyll, claddwyd yr YSwain Herbert Lloyd, Y.H., o Bias Cilybebyll, yn ei 76 mlwydd oed. Cafodd angladd barchus. Cludwyd ei gorff tua'r gladdfa gan ei weithwyr ac amaethwyr ei ystâd, ar eu hoi cerddai y perthynasai gwryw- aidd, ac ar eu hoi hwythau morwynion y Plas. Taenwyd triugain o dyrch- flodau ar ei fedd. Claddwyd ef tu- allan i "vault" y teulu, mewn bedd newydd, hynny oedd ei ddewisiad. Teimla llawer golled ar ei 61. Bu yn weithgar gyda y gwahanol gynghocau bu yn gadeirydd y Bwrdd Ysgol cyhyd ag y bu y Bwrdd. Bu hefyd yn gad- eirydd y Bwrdd Gwarcheidiol o'r flwyddyn 1878 hyd y flwyddyn 1909, jac yn brif ynad ar Fainc Bontardawy o 1870 hyd ei fethiant oddeutu blwydd- yn yn ol. Cymer llawer o gyfnewid- iadau le yn y plwyf trwy ei farwolaeth. Yr un noson, aeth nifer arbennig o wyr y Bont i Abertawy er clywed a chefnogi y Ddrama Gymreig; caf ar ddeall i ragor nag un ohotrmt gael eu llwyr foddloni yn y chwarae. Gwnaeth Tom Bach ei ran yn gapital, meddai un o'r merched wrthyf. Da iawn, Tom. Dywedodd un o honynt wrthyf fod Oliver dro yn 01 wedi cael cynnyg ymuno a hwynt. Trueni na fuasai wedi gwneud, bpasai yn well lIe na byw uwch ben y pot a'r mwg yn y gwaIth alcan. Dydd Iau, Gorffennaf yr ail, cyn- haliwyd Gwyl De ar dir Alltycham, dan nawdd eglwysi yr Holl Saidt a Sant Pedr., Trodd yr hin yn wlyb. Rhwystrwyd amryw i fyned yno, a rhwvstrwyd lluaws aeth i aros yno yn hir, a chollwyd ambell i hanesyn. Yr oedd yr elw at drysorfeydd yr eglwysi. Mae y "busses" wedi dechreu tram- wyo o Bontardawy i'r Waun Cae Gur- wen. Dyma ail ddechreu Rhydyfro. Prif borthladd y byd, un atleg, yn 01 yr hen wr o'r He. Ychydig flynyddoedd eto, a bydd y ci tan yn carlamu trwy- ddo, a'r gors a'r egel a'u dyfroedd cyn ddued a'r Ethiop. Mac llinell newydd y G. W. R. wedi cyrraedd y (iarth; bydd ar y docs ar fyr, a'r hen wr, os bydd byw, yn gof- alu am y peiriannau. Troi'r oddiyno i'r dde heibio Glanrhyd, palas Mr. A. (rilbertson, a bwrir twll trwy galon Craig Glynmeirch i Gvvmtawy. Mae'r byd vn mynd, ond i ba Ie? Pob un i'w ffordd ei hun. Meddwa'r byd ar lu o bethau heblaw diod. Yn adeg rhyfel y Boeriaid a'r Prydeinwyr cyfrifid pob un bron elai i wlad y Boer- iaid o Gymnl yr adeg honno yn arwr, a byddai y seindyrf yn chwarae o'i flaen, a miloedd o ddynion yn cerdded 'ar ei ol ac yn hanner ei addoli. Sob- rodd y wlad o'r meddwdod hynny pan ddaeth adeg talu traul y rhyfel. Dechreu yr wythnos o'r blaen, gwel- ais hanes yn y papur dimai, am ornest gymerodd le ,diwrnod neu ddau cyn hynny, yn Abertawy, rhwng dau ddyn ieuanc. Un o Gastellnedd oedd y prif ornestwr. Cerid ef ar ysgwyddau ei gyfeillion o'r Ysgiwen i Gastellnedd. Cerddai tua dwy fil o ryw fath o fodau 'o'i flaen a seindorf arian yn chwarae 1 w anrhydedd. Pe buasai y bachgen wcdi ennill ysgoloriaeth ar lwybr add- ysg, neu wedi gwneud unryw weithred y gellid disgwyl lies i'w wlad mewn canlyniad, ni chawsai y fath roesaw, cawsai gerdded adref oreu medrai. Pa le mae y byd yn mynd ? A yw well o'i addysg a'i ddiwylliant? Bu Cymru yn gorloleddu dro yn ol am fod y peth- au yna wedi darfod. Gorfoleddodd rhy gynnar. Trueni na chaed claddu yr arferiad fel na chodai fyth. BRUTUS.