Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN LLAFUR. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN LLAFUR. I GAN PEREDUR. I Streic Peirianwyr Morawl. I 0 herwydd yr annealltwriaeth rhwng peirianwyr morawl y Barri a'r Meistri, a llongau yn segur o'r hrwydd, acal- iwyd pyllau y Lady Lewis iiydd Sadwru, a gwnaed dros fil o weithwyr yn sgllr Y mae glofeydd Glanafon, Treherbert, hefyd wedi bod yn segur am rai diwrn- odau oherwydd yr un achos. Y mae yr ataliadau hyn yn enghreifftiau byw o agosrwydd y berthynas sydd eydrwng y gwahanol ddosbarthiadau llafurol, ac yn dangos yr angenreidrwydd am gyd- ddealltwriaeth a chydweithrediad per- ffaith fel ag sydd yn cael ei drefnu yn bresennol rhwng y glowyr, y cludwyr, a gweithwyr y relwes. Dyfais Obeithiol. I Dydd Gwener, yn Llundain, o flaen I cynhulliad o ddynion cyfriMl yn cyn- rychioli gwyddonwyr, perchnogion glo- feydd a gweithwyr, danghoswyd dyfais mewn gweithrediad, yr hwn sydd yn gallu dangos, a rhoddi rhybydd, pan y bydd awyr y lofa yn cynnwys cymysgfa beryglus o nwy. Profwyd y ddyfais drwy ei gosod mewn cysylltiad a chym- ysgedd o awyr oedd wedi ei gael yn un o lofeydd Deheudir Cymru. Pan fydd y cymysgedd awyrol-nwyol yn cyrraedd pwynt peryglus, fe gana cloch fechan rydd rybudd i'r sawl sydd yn cario yr offeryn. Crybwyllir yn obeithiol am y ddyfais gan y Meistri Robert Smillie a W. Brace, A.S. Beth am well awyriad 1 Anrhydedd i Arweinydd Llafur. Llongyfarchwn Mr Vernon Hartshorn, yr arweinydd llafur galluog a Ilwydd- iannus, ar ei benodiad yn ohebydd neill- tuol ar staff y Clarion," prif wythnos- olyn Sosialaidd y wlad hon. Teimlwn fod y penodiad hwn i gynrychiolydd o Gymru yn anrhydedd nid bychan, ac yn brawf y coleddir syniadau uchel gan berchnogion y Clarion am gymhwys- ter Mr Hartshorn fel arweinydd llafur. Dywed Golygydd y papur hwnnw, wrth nodi y penodiad, fod y brwýdrau Ilafur yn y misoedd nesaf i fod yn weithfaol a diwydiannol yn hytrach na pholiticaidd. Disgwylir i'r gohebydd neilltuol Mr Hartshorn, gadw darllenwyr y Clarion mewn llawn wybodaeth o'r ymgyrch weithfaol, mor belled ag y mae amgylch- iadau gweithwyr Cymru, a Ffederashwn y Glowyr yn mynd. Cynghorau Celt a Llafur. Da ydyw clywed fod gweithwyr Un- debol y Barri wedi penderfynu ffurfio Cyngor Celf a Llafur yn y dre. Y mae dinasyddion y dre flaenfynedol hon yn nodedig am eu beiddgarwch diwygiadol mewn amryw gyfeiriadau, yn neilltuol yn gysylltiedig agaddysg, ac y mae yn dda gennyf weled eu bod yn cynnyg at welliannau llafurol. Gall y Cyngor newydd wneyd gwyrthiau mewn cysyllt- iad a gwelliannau trefol a chymdeith- asol. I Cyngor Celf a Llafur Aberdar. Y mae y Cyngor hwn hefyd yn adnew- yddu ei nerth fel yr eryr. Yn y cyfar- fod misol nos Iau diweddaf rhoddwyd I derbyniad i dri undeb o weithwyr, y rhai a geisient aelodaeth. Y mae y Cyngor yn fyw gan weithgarwch yn awr, ac yn paratoi ar gyfer yr etholiad sydd yn ymyl. Derbyniwyd 18 o enwau person- au a gynhygir yn ymgeiswyr am y saith sedd newydd sydd i'w gosod yn y Cyngor Dosbarth. Gofynnir i'r gweith- wyr yn y gwahanol gyfrinfaoedd i ben- derfynu ar saith o'r nifer hyn i sefyll yn gynrychiolwyr llafurol. Pe byddai y saith yn llwyddiannus. ni ellid dweyd er hynny, fod llafur yn cael ei or-gyn- rychioli. Yn sicr, y mae effeithiolrwydd gwaith yr Aelodau Llafur presennol yn wystl fod popeth i'w ennill wrth yeh- wanegiad at eu nifer. Gobeithio y gwna y gweithwyr eu dyledswydd yn yr etholiad. Ramsay Macdonald a'r Saboth. I Faith gysurlawn i feibion lafur yw fod Mr Ramsay Macdonald, arweinydd y Blaid Lafur Seneddol, bob amser a'i ergyd yn gryf o blaid yr anianawd gref- yddol. Tra yn siarad yn Leicester y f dydd o'r blaen, apeliodd at y sefydliad- au crefyddol i ymdrechu rhag bydoli ac anghysegru y Sabath. Dylai y Sabath, meddai ef, gael ei gadw yn sanctaidd. Nid oedd y rhesymau ddygid ymlaen dros wneyd y dydd yn ddydd gwyl, yn ddim ond humbug. Edrychai ef ymlaen at yr amser pan y ca'i pawb gyfle i or- ) ffwystra a gwyl yn ystod y chwech I diwrnod arall o'r wythnos. Ardderch- j< og, Macdonald dyna hit dda dros yr hen ddiwrnod annwyl. Afiechyd Swyddog Llafur. • Blin ydyw clywed am afiechyd Mr. J. D. Morgan, goruchwyliwr gweithwyr y glo careg. Y mae wedi ei gynghori i orffwys oddiwrth ei waith am beth am- ser er ceisio adnewyddu ei iechyd. yr hwn sydd wedi bod yn dlawd er ys llawer o ddyddiau. Dymunwn iddo wellhad buan o sicr. Newyddion Da. Da ydym clywed fod Dosbarth ijlowyr Aberdar yn gwneyd trefniadau i gael Swyddfa at eu gwasanaeth mewn man canolog yn y dre. Y mae yn warth i ddosbarth sydd wedi bod mor flaen- fynedol, ei fod wedi bod cyhyd o dan I' gronglwyd gysyJItièdig a gwerthiant pethau meddwol. Gobeithio y bydd y symudiad hwn yn ddechreuad i lawer o bethau gwell yn Nosbarth Aberdar.

0 Lannau Tawe. I

Dyffryn Afan. I

.Hirwaun.

[No title]

'Nodion o'r Gogledd.I

Nodion o Glyn Nedd.I

Advertising

Treherbert.

! Gwobrau'r Darian! I

[No title]

Advertising