Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN LLAFUR. I

0 Lannau Tawe. I

Dyffryn Afan. I

.Hirwaun.

[No title]

'Nodion o'r Gogledd.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o'r Gogledd. I GAN GLYNDWR. I Yn un o newyddiaduron y Gogledd yma ceir dadl ffrwd ar "A ddylai ein gweinidogion gystadlu mewn Eistedd- fodau a Chyfarfodydd Llenyddol 1" Maentumia un brawd eu bod yn cystad- lu am wobrwyon o 5s. i fyny, a'u bod yn esgeuluso eu gwaith trwy hynny. Am- ddiffynwr y gweinidogion a ddadleua nad ydynt yn esgeuluso eu gwaith. ac fod ganddynt amser a hawl i gystadlu. Nid af i mewn i'r ddadl yn y fan hon. Beth yw barn eich lluosog ddarllenwyr ar y pwnc 1 Pwy na chlywodd son am Bont Menai V Yn y dyddiau hyn ceisir gwneuthur i ffwrdd a'r tollau sydd raid eu tafu am groesi'r bont. Dywedir fod y tollau hyn yn parlysu masnach Sir Fon, ac yn ar- bennig felly eiddo tref Porthalthwy, sydd ar ochr Mon i'r bont. Fel y gwyddis, y mae Cyfundeb y M.C. wedi prynu y Goleuad (a gy- hoeddid gynt yn Nolgellau). Ym- ddanghosodd y rhifyn cyntaf yr wyth- nos ddiweddaf. Ei olygydd yw Mr E. Morgan Humphreys, Caernarfon. Teim- la hen gyhoeddwr y Goleuad" (Mr. E. W. Evans, Dolgellau) na chafodd chwarae teg gan y M. C. yn hyn o beth, ac y mae wedi eyhoeddi newyddiadur dan yr enw Y Cyinro." Y mae gan y Parch. R. H. Watkins, Dinorwig, ysgrifau gafaelgar yn y Geninen a'r Traethodydd di- weddaf. Cydymdeimlir a'r Parch. R. A. Wil- liams (Berw), Ficer Waenfawr, yn ei alar o golli ei briod hoff. Hebryngwyd ei gweddillion i Fynwent Bettws. Gar- mon, dydd lau diweddaf. Y mae ei hunig ferch ar ei ffordd i'r Aifft gyda'u phriod. Dydd fait diweddaf cynhaliwyd Brawdlys Chwarterol Caernarfon, a dedfrydwyd dwv Suffragette i dri mis o garchar bob un am dorri ffenestri yng Nghriccieth pan oedd Mr Lloyd George yn annerch cyfarfod yno yn ddiweddar. Ceisiodd y gyntaf neidio dros reiliau y dock, a bu raid cael chwech o 'warders' i'w dal yn llonydd. Ciciodd y dock yn yfflon. Tynnwyd esgidiau y llall oddiar ei thraed cyn dyfod a hi i'r llys. Nid oedd can gryfed merch a'r llall, ond siaradai fwy. Yr oedd yn darcalonus ei gweled yn lladd ei hunan yn y dock cyfyng. Dywedir iddi yn ddiweddar ddyfod i feddiant o £90,000, ac mai hi oedd yr un roddodd Pavilion y Kew Gardens, Llundain, ar dan yn ddi- weddar. Beth wneir a hwy? Dydd Iau diweddaf fe gynhaliwyd Gwyl Gerddorol Harlech yn y Castell henafol. Yr oedd yn orlawn. Bernir fod 8.000 o bobl yn bresennol. Yr oedd yno gor bron o bob ardal yn y Gogledd, a chanent ddarnau arbennig. Yn yr hwyr caed cyngerdd, a chanwyd dwy oratorio gan y codau undebol. Arwein- id gan Mr J. C1. MacLean, Porthmadog. Caed canu godidog, ac yr oedd "mynd" ar yr hen donau Cymreig. A oes gennych chwi wyliau tebvgvyn y De ? —

Nodion o Glyn Nedd.I

Advertising

Treherbert.

! Gwobrau'r Darian! I

[No title]

Advertising