Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. ■ DAN OLYGIAETH MOELONA. Flynyddoedd lawer yn ol, credid fod rhinwedd neilltuol at iachau clefydau yn perthyn i Ffynhonau neilltuol. Ceir ffynhonnau fel hyn bron ymhob gwlad, ac y mae'r rhan fwyaf o honynt wedi eu henwi ar ol rhyw Sant neu Santes, megis Ffynnon Degla yn Ninbych, Ffynnon Gwenffrewi yn Fflint, Ffyn- non Ddewi, a Ffynnon Becca yn Sir Aberteifi. Mae'r rhai hyn o hyd yn aros, a'u dwr yn tarddu mor beraidd ag erioed; ond erbyn hyn ni welir ilawer yn dod o bellter ffordd fel cynt i brofi o rin eu dwr, er nad yw yr ofer- goel am danynt wedi darfod yn Ilwyr. Dywedir y gellir gweld eto ffyn-baglau lawer yn hongian ar y coed o gwmpas Ffynnon Gwenffrewi, fel prawf fod y rhai a'u cariai wedi gallu byw heb- ddvnt ar ol yfed o'r ffynnon. Wele i chwi heddyw stori fechan am un o'r ffynhonnau hyn. STORI GERALLT. Yr oedd unwaith fachgen bychan cefngrwm o' renw Gerallt, yn byw mewn ardal fynyddig yng Nghymru. Ychydig filltiroedd o'i gartref yr oedd ffynnon enwog. Clywsai Gerallt lawer o son am dani gan hwn ac arall, a phenderfynodd un diwrnod deithio tuag yno wrtho'i hun, er mwyn ymol- chi yn ei dyfroedd. Efallai, os ymolchaf ynddi," ebai, "y dof yn dalsyth a chryf fel bechgyn ereill." Yr oedd Gerallt, druan, yn gefn-grwjn erioed, ac yn llawer byr- rach na bechgyn o'i oed, a blinai hyn ef yn enbyd. Aethai ei fam ag ef at lawer o feddygon, ond ni lwyddodd yr un o honynt i'w wella. Ond, er ei fod yn wargrwm, yr oedd yn feddylgar a » deallus dros ben. Gellid deall wrth edrych ar ei wyneb hardd a'i lygaid treiddgar ei fod yn llawn athrylith. Yr oedd yn fardd, a chyn ei fod yn dair- ar-ddeg oed, ysgrifennodd ami i ganig <llos. Yr oedd pawb bron yn garedig i Gerallt bach,—pawb ond un. Yr oedd Sam Prys, mab i ffermwr o'r ardal, bob amser yn chwerthin am ei ben, ac yn treio cael gan y plant ereill i wneud yr un fath. Hyn barodd i Gerallt ryw ddiwrnod gymeryd ei daith unig dros y mynydd at y ffynnon. Yr oedd yn brynhawn pan ddaeth at y ffynnon-mewn lie bychan, unig, ynghanol y grug. Diosgodd Gerallt ei cfclillad, ac ymdrochodd yn y dyfr- oedd clir unwaith a thrachefn. Yna edrychodd ar ei lun yn y dwfr er mwyn' gweled a oedd ei gefn a'i ysgwyddau yn syth. Ond nid oedd dim wedi newid, yr oedd corff byqjian Gerallt, druan, yn gywir fel o'r blaen, ac mewn anobaith, taflodd ei hun ar y ddaear gan wylo'n hid'. "0 na chawn farw meddai, "Does dim eisieu creadur hyll, gresynnus ei olwg fel fi mewn byd mor hardd a hwn. 0, dacw'r awyr lâs, a'r dwr clir, a'r ddaear flodeuog! 'Does dim yn un- man mor salw a mi!" Ond wrth syllu drwy ei ddagrau ar y ddaear o'i gwmpas, gwelodd ryw- beth yn symud yn y dail ar y llawr. Yr oedd rhywbeth bychan, main, ond cefn-grwm yn ymsymud o dan y llwyni. Edrychai fel rhyw fath o bryfyn cas ei olwg. "Wel," ebe Gerallt, gan wenu, "Rhaid i mi dynnu 'ngeiriau nol. Dyma rywbeth hyllach na mi. Beth sy'n bod arnat ti, tybed?" Er na chyffyrddodd Gerallt ag ef, yr oedd rhyw gyffro rhyfedd ar y pryfyn bach. Craciodd ei blisgyn, ac o'r Iwmpyn mawr oedd ar ei gefn daeth allan ddwy aden glaerwen Iar rfach yr haf oedd yno yn torri drysau ei charchar, a chan ysgwyd ei hedyn a'u sychu yn yr awel, hedodd yn lion uwchben y Ilanc bychan gwar-grwm synedig. "Dyma wyrth! Dyma wyrth !'r ebe'r bachgen. "Ychydig feddyliais y gwelswn y fath beth a hyn wrth y ffynnon. Diolch i ti, greadur bychan, am dy wers i mi. Os na chaf fi ddwy aden wen, mi gredaf mwy fod rhyw ddiben da i fy nghefn crwm innau." Gwisgodd, ac aeth yn ol i'w gartref, wedi ei gysuro a'i gryfhau. Byth mwy nid achwynodd oherwydd ei gefn crwm. Cafodd Sam Prys, cyn hir, ddigon ar ei boeni. Ymdrechodd Ger- allt yn fwy nag erioed i ddysgu ac as- tudio, a chyn hir cafodd fyned i'r col- eg. Dywedai ei fam: "Ni fydd Ger- allt, druan, byth o lawer o ddefnydd ar y fferm, 'ond mae digon yn ei ben, ac y mae am gael bod yn ddoctor." Aeth blynyddau heibio. Daeth son am Gerallt fel meddyg galluog. Cafodd fyned i'r Almaen i astudio dan y medd- ygon goreu, ac ar ei ddychweliad, caf- odd gynnyg ar le pwysig yn Llundain, gyda channoedd o bunnau o gyflog. Ord gwrthod y cynnyg wnaeth Ger- allt. Daeth i'w hen gartref i fyw gvda'i fam ar v fferm. Gwell oedd ganddo gael bod yn ddoctor yn ei ar- dal ei hun. Ni chai lawer o arian yno, a mynych ni ofynnai ei dalu am el waith. Ysgrifennod fwy nag un llyfr i pwysig er mwyn iddo gael arian i'w gadw. Mynnych y gofynnid iddo pa- ham y gwastraffai ei dalentau disglaer mewn llecyn diarffordd fel hwnnw. "Rwy'n aros yma am fod V bobl mor diawd," meddai Gerallt. "Gwnes fy meddwl i fyny ynghylch hyn pan yn fachgen gartref. Pe bawn i yn myned, ni chaent neb arall yma. Pan aned fi, nid oedd doctor o fewn ugain milltir. Dyna pam rwyf fi'n gefngrwm. Gall- af wneud gwaith da yma fel yn Llun- dain, ac yma rwyf fi yn golygu aros." Un dydd, cafodd Sam Prys-hen elyn Gerallt-niwed fu bron profi'n angeuol iddo, drwy i'w geffyl redeg yn wyllt, ac iddo yntau gael ei daflu allan o'r cerbyd. Cafodd y fath niwed ar ei ben nes na feddyliodd neb y gall- ai fyw. Ond gwnaeth y meddyg ieu- anc waith mor ardderchog arno, nes iddo gydag amser, lwyr adennill ei nerth. Pan fedrodd Sam Prys siarad a symud, gosododd ei law ar gefn crwm y meddyg ieuanc, a dywedodd mewn llais crynedig: "Gerallt, rwy'n siwr fod cefnau ang- ylion fel dy gefn di—cyn i'w hadenydd dyfu." Clywodd rhywun y dywediad, a buan ^aeth pobl yr ardal i gyd i feddwl am Gerallt fel angel a'i edyn yn blyg ar ei gefn,—fel edyn gwynion yr iar fach yr haf welsai ei hun gynt wrth y ffyn- non. j Cyn hir ar ol hyn, bu farw Gerallt. i Wrth geisio achub bywyd geneth fech- an, drwy sugno gwenwyn o'i gwddf, gwenwynwyd ef ei hun, a chollodd ei fywyd. Dywed pobl y lie o hyd mai angel yn ddiau oedd y dyn fu mor dda wrthynt,—angel a'i edyn claerwyn yn I blyg ar ei gefn.

■ ' ' ii' Gwlad y Dyn Mawr.I

Advertising

0 Wy i Dywi.I

Cyhoeddi Eisteddfod TirI Iarll.

Advertising

Eisteddfod Aberaman, .Mehefin…

Advertising