Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

0 Bontardawe i Gaerdydd. I

-... - - - Pontycymer.-1

Undeb y Cymdeithasau ! Cymraeg.

['Resolven.-I

[No title]

Colofn y Gohebiaethau. ]

Caerdydd.I

IYn Fan ac yn Amal.

Cyfarchlad i Dr. Glanvllle…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarchlad i Dr. Glanvllle Morris, Maerdy, Ar ei ddyrchafiad i Fainc Ynadol y Rhondda. Dymunaf longyfarch fy nghyfaill Am dderbyn y titl J.P., Nid oes ei gymhwysifch yng Nghymru, Na neb yn deilyngach o fri; Mae'n Gymro o'i sawdl i'w goryn, Mewn iaith, ac arferion i'r earn, Mewn profiad nid oes ei addfetach, Yn bwyllog a gonest ei farn. Bydd Xantgaredig yn enwog Tra'i phlant yn dringo bryn clod, Mae lluoedd o honynt mi gredaf Yn profi "Mai fyny mae'r nod" Mae'r Doctor yn addurn i'r ardal, Er dringo fe gofia Sir Gar, Hyfrydwch ei enaid yw cofio Am filoedd sydd yno a'i car. Fel Dr. mae yn heR adnabyddus Trwy Ddyffryn y Rhondda i gyd, Fel hen gymwynaswr dynolryw Fe bery ei glodydd o hyd; I weithwyr a thlodion y Rhondda Ffrydiai'i haelioni yn ddi-drai, Ei enw sydd enw teuluaidd, Ei glod wna'n anfarwol barhau. Caffaeliad i'r ffainc fydd y Dr., Anrhydedd rydd ef ar y sedd, Gweinydda gyfiawnder heb wyro, A hefyd trugaredd 'run wedd. Yn uchel bydd ei gyfrifoldeb, 'Rwy'n sicr y cofia bob pryd Bydd yntau ei hunan ryw ddiwrnod Yn sefyll ger Barnwr y Byd. W.T.

G.W.R.