Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

I COLOFN Y PLANT. [

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I COLOFN Y PLANT. [ DAN OLYGIAETH MOELONA. J J Beirniadaeth y Gystadleuaeth. I 1. Dan Ddeuddeg: Daeth deg o'r rhai hyn i law, o Cross Hands, Barry Dock, Glais, Llangendeirn, Glynarthen, Caerffili, Glandwr Abertawe, Llanelli, Glandwr Abertawe eto, ac un arall heb fod y cyfeiriad arno. Da gennym weled rhai cystadleuwyr newyddion. Ofnwn fod y gwaith y tro hwn yn rhy hawdd, ac yn gofyn rhy ychydig o ymdrech ar ran llenorion profiadol o ddeg a deuddeg oed, fel a geir erbyn hyn ymhlith darllenwyr y Darian." Yr ydym yn addaw gwaith caletach yn y gystadleuaeth nesaf. Y mae llawer y tro hwn wedi rhoddi yr atebion cywir ac heb wallau mewn sill- ebu. Rhaid felly yw dewis y mwyaf glan a gofalus o blith y rhai hyn. Nid oes eisieu bod amheuaeth pa un yw hwnnw, gan ei fod wedi ei ysgrifennu yn nodedig o lan a threfnus. Rhoddir ef yma gydag enw'r sawl a'i hysgrifen- nodd: (a) Beth sydd debycaf i hanner lleu- ad -Yr hanner arall i'r lleuad. (b) Beth sydd ar ford y frenhines a deigryn ar ei rudd?— Y menyn. (c) Fe anwyd plentyn yn Llangan. Nid mab ei dad na mab ei fam; nid mab i Dduw na meb i ddyn; ond plentyn pfydferth hardd ei lun. Beth oedd 1-Merch. 11 oed. ANNIE U. MUHUANS, I Tan-y-Bank, Cefneithin, Cross Hands, Llanelly, S.O. Rhai Dan Un-ar.Bymtheg. I Daeth dau bapyr i fewn. Mae'r ddau wedi eu hysgrifennu yn dda, ac y mae'r naill mor deilwng o'r wobr a'r llall. Felly yn lie rhoddi llyfr swllt i un rhoddir llyfr chwech ibob un o'r ddau. Wele restr o lyfrau chwecheiniog. Dan- foned y tri buddugol gerdyn i'r Golyg- ydd (Colofn y Plaint), Swyddfa'r "Dar- ian," Aberdar, yn dweyd pa un o'r llyfrau garai gael: 1. Gemau Ceiriog i Blant. 2. Baner y Band of Hope (sef Oad- leuon, Areithiau, Barddoniaeth, etc.). 3. Cusan am Gernod. 4. Storiau Cymru (ar Gan). 5. Teulu Bach Nantoer. 6. Camrau Llwyddiant. 7. Hanes Harri Puw. 8. Yr Eneth Ddall. 9. Oriau Gydag Enwogion. 10. Telyn Dirwest. Wele'r ddau bapyr gydag enwau'r ysgrifenwyr-dau fachgen y tro hwn. Mehefin XXIV. Morris Morgan, XVIII Heol y Gadlys, Aberdar, lli oed. Cystadleuaeth Dan XVI. I Gwydr Rhyfeddol. I Yr oedd bonheddwr o Loegr wedi dychwelyd o India, ac wedi dwyn gydag ef fachgen du fel gwas. Yr oedd y bachgen wedi byw drwy ei oes mewn gwlad boeth ac nid oedd wedi gweled ia. Un boreu dug i fewn i'r ty ddernyn mawr o ia, a dywedodd wrth ei feistr, Edrychwch, meistr, dyma ddernyn mawr o wydr yr wyf fi wedi ei gael." Dywedodd ei feistr fod y gwydr yn edrych yn wlyb iawn, ac y byddai'n well iddo ei ddodi yn y ffwrn i sychu. Ymhen ychydig, dychwelodd y llanc o'r gegin a'r ia yn toddi yn ei ddwylaw, a chan edrych yn syn fe ddywedodd, 0 meistr, hwn yw y gwydr rhyfeddaf a welais erioed, pa fwyaf yr wyf yn ei sychu, mwyaf gwlyb y mae yn myned." Tynnu Dant am Ddim. I Aeth Gwyddel unwaith at ddeintydd, a dywedodd wrtho ei fod am dynnu dant allan. Mewn atebiad i'w ofyniad, dywedodd y deintydd ei fod yn codi swllt am dynnu dant. "Wei," meddai Pat, "faint ydych yn codi am dynnu dau ?" "O!" meddai'r deintydd, ni chodaf ddim am dynnu'r ail." Eis- teddodd Pat yn y stol, a danghosodd i'r deintydd pa rai oedd am gael allan. Dyma'r cyntaf, meddai, gan osod ei fys ar y cyntaf, a dyma'r ail; tyn- nwch yr ail yn gyntaf," ac felly bu. Cyn i'r deintydd gael amser i dynnu'r llall, yr oedd Pat allan o'r stol ac yn cyfeirio tuag at y drws. Ni fynnaf y cyntaf wedi ei dynnu nes ddechreuo wynegu, a chan eich bod wedi dweyd y buasech yn tynnu yr ail am ddim, yr wyf yn dymuno 'Bore da' i chwi." Dyma i gyd ddywedodd Pat. Oedran, 15. Tom R. Evans, No. 1 Hamilton Street, Mountain Ash. I. I Ceisiai mfer o ddynion ieuainc boeni hen wr tew a chorff mawr, ac yn mysg pethau ereill dywedent, Os mai gwellt yw dynion cyffredin, rhaid eich bod chwi yn Ilwyth o wair." Gallwn feddwl fy mod," oedd yr ateb, a barnu oddiwrth y modd yr estyna asyn- nod eu safnau ataf." IL I Aeth Gwyddel i siop cyfrwywr i brynu yspardyn; dywedodd y siopwr wrtho y byddai yn rhaid iddo gael dau. It 0! na," meddai yntau, fe wna un y tro; os caf un ochr i'r ceffyl fyned, y mae y Hall Yi siwr o fyned.

COLOFN LLAFUR. I

..'..........'.. Nodion o…

0 Wy i Dywi.I

I Barddoniaeth.|

COLOFN Y DDRAMA. I

Nodlon o Rymni.

Advertising