Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE BEST ADVERTISING MEDIUM. Circulates throughout SOUTH WALES and In MONMOUTHSHIRE.
Advertising
W.Williams&Coo JEWELLERS, &C- 29 Castle St., Swansea. Specialities I GET. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22Ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoft, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur, Oriaduron ac awrleisiau, Geman a ohadwynau olaer: Yspectol gelfydd, bîn-fynegydd, Gwres-feeurydd, Cwmpawd Geir gan Williams, Heofy Castell Trowch i mewn i we] ld el ator.
Advertising
r d i Mwyn yw dwr yn mynd i waered,-a mwyn I Yw y medd yn cerdded; Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned."—AP HEFIN. I CEIR MWYNHAD DYBUG I i WRTH YFED DIM OND LEMWNED I Bryniau Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, I PORTH. CANGEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFAOL. < —J
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. Gwlad a Senedd.Tud. 1 Colofn Llafur 1 -.Clvyodwioyt-o. ^herpeijLiMu* 51. V Stoi-i „ 2 Beirniadaethau 2 Mrs. Margaret Thomas, Pontar- dawe 2 Colofn y Bobl leuainc 3 Atgofion am Ysgol Heolyfelin 3 Josiah Jenkins ar y Tramp. 3 Mr. Henry Harries, Trecvnon. 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Mrs. Edwards, Hengoed 4 Llith o Abertawe 4 Aberteifi a'r Cylch 4 0 Bontardawe i Gaerdydd 5 Dewi Alaw 5 Cadeirio ym Mhontardawe 5 icolofn y Plant 6 Morgan John Rhys 6 Cymrodorion y Barri 6 Beirdd y Bont 6 Pontardawy. 6 Arholiad Ysgolion yr A. Cymreig 6 Goheblaethau Beirniadaethau Aberaman 7 Newyddion a Gohebiaethau 8 Y GolofnFarddol 8
GWLAD A SENEDD.
GWLAD A SENEDD. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNtG Rhyw gainu 0 Gyfwng i Gyfwng y mae ein gwlad y dyddiau hyn, a llenwir pawn gan deimlad o ddisgwyliad ac ansicrwydd rhyfedd. Mewn modd neillduol, gallwn ddweud nas gwyddom beth a ddigwydd mewn ddiwrnod. Nid mater o ddymchweliad Llywodraeth ac etholiad cyffredinol i benderfynu natur y Llywodraeth nesaf sydd yn ein haflon- yddu. Y cwestiwn yw: A oes gwrth- ryfel i fod ym Mhryden Fawr a'r Iwerddon o fewn yr wythnosau hyn ai peidio 1 Wedi ychydig ganrifoedd o ryddhad oddiwrth dywallt gwaed o fewn ein tir, yr ydym wedi myned i or- ffwys yn dawel yn y dybiaeth fod y fath beth yn ainhosibl. Gosodasom ein hyder yn ein llynges ac yn ein trefedig- aethau, gan ymffrostio nad yw yr haul byth yn machlud ar ein terfynau. Dywed hanes gwledydd ereill y deng mlynedd diweddaf wrthym y gall y cadarn syrthio gyda sydynrwydd. ac nad oes unrhyw wlad yn ddiogel rhag ys- bryd gwrthryfel. Diflannodd gorsedd- au hynafol China, Persia a Phortugal yn hynod ddiseremoni, ac y mae map Twrci a gwledydd ereill wedi ei newid yn hollol. Beth sydd yn lluddias hyn gyda Phryden ? A dweud y lleiaf ni fu y fath deimlad o ansefydlogrwydd yn medd- iannu y wlad er's dros ganrif, os yn wir er's dwy ganrif a haner. Gwir Achos y Cythrwfl Presennol yw y gwrthdarawiad rhwng y werin a'r mawrion. Nid yw helynt blin yr Ynys Werdd yn ddim ond achlysur sydd yn id,ingos safle y pleidiau. Wrth sefyli ar  rodfeydd Aberystwyth neu Landudno ceir cyfie i farnu a mesur ymchwydd ac aruthredd y mor yn nydd ystorm. Dyna yn syml yw Iwcrddon heddyw. Y mae Lv flynyddoedd, ac ysbryd dial am ganrif- oedd o orthrwm yn llosgi yn ei mynwes. Teimla feddiant nerth cynhyddol a gwyr mai ganddi hi y mae y dyfodol. Attal- iwyd hi yn hir gan Dy yr Arglwyddi, ond torrwyd grym hwnw ac yn awr, wele fesurau gwerinol, cyfoethog. yn dyfod i mewn ar gefn y llanw, ac yn chwyldroi wyneb y ddaear. Gwel y doeth mai gwell yw plygu o flaen y don, ond myn mwyafrif ein huchelwyr wrth- sefyll y llif. Y mae Mesurau Ariannol Mr Lloyd George y Deddf Yswirol; sicrhau cyflogau i weithwyr, a Mesur Addawedig y Tir yn ormod iddynt. Nid oes dim yn ormod ganddynt ei anturio, os gallant mewn rhyw fodd dorri grym y Llywodraeth a throi y llanw gwerinol I hwn yn ol. Yr ydym yn nghanol un o ornestau hanesyddol ein gwlad. Py sydd i deyrnasl1 y lliaws ynte yr ych- ydig 1 Y werin ynte y cyfoethogion? Ty y Cyffredin ynte Ty yr Arglwyddi ? Dyna yn syml y gofyniad sydd yn galw am atebiad heddyw. Gwnaeth y mawrion eu goreu yn y Senedd, a choll- asant. Apeliasant at y wlad a dym- chwelwvd hwy drachefn. Troisant at y brenin am ymwared, ond yn ofer. Gwnaethant ymgais i lygru y fyddin a'i chael i'w gwasanaeth, ond gyda hynny cymerodd y Prifweinidog at Swyddfa Rhyfel, a glynodd ein milwyr mewn teyrngarwch wrth eu swydd. Heddyw, gobeithiant yn Ulster y bydd hi yn ddigon cryf i ddymchwelyd y Llywodr- aeth i ddychrynu y werin ac i dorri grym Deddf y Senedd. Peidied neb a meddwl mai sel Brotestanaidd sydd y tu ol i waith Mri. Bonar Law, Arglwydd Hugh Cecil, ac ereill sydd yn cefnogi terfysgwyr l ister. Yr hyn sydd yn an- ft'odus yw fod y werin-boW yn rhanedig. Pe bai modd Uno Rhyddfrydiaeth a Llafur I am gymmaint ag un Etholiad Cyffredin- ol gallasem roddi dyniod farwol i Dori- aeth. Yr ydym wedi annog hyn o'r blaen, a theimlwn yn angherddol y dylasid ceisio ei gwmpasu ar unwaith. Paham y rhaid hollti rhengoedd cared- igion rhyddjd a chynnydd yn Ethol- aeth Merthyr ac A berdar a lleoedd ereill'] Gyda phwyll a dealldwriaeth, gallasai Cymru fod yn lan hollol oddi- wrth Doriaeth yn 1915. a buasai yn bosibl ennill lluaws o seddau yn Lloegr ac YScotland. Y mae gennym le i gredu y gallasai Plaid Llafur gael ugain o seddau newyddion at y deugain a fedd yn bresennol, ac y gallasai Rhyddfryd- iaeth fanteisio' i'r un graddau. Paham y rhaid oedi cyhyd yn yr anialwch 1 Ni fuasai rhaid i'r un o'r ddwy blaid werfchu na gwanhau ei hannibyniaeth ae anawdd defnyddio gormodiaeth wrth draethu yr hyn fyddai yn bosibl gydag undeb. Gellir llwyr gyfnewid seiliau cymdeithas trwy Fesur Tir teilwng. Y mae miliynau lawer yn ddyledus ar gyfoeth i weithwyr a thlodion y wlad. Trwy brynu i fyny y rheilffyrdd a'u gwneud yn eiddo cenedlaethol rhoddid manteisoni diderfyn i'n bywyd ,1tHJS- nachol. Cawsem ddeddfau tvw y<j$eflol gwell, y rhai a'n galluogent i gyfyngxv ar rysedd a difrod enbydus y fam)ch feddwol. Gellid hefyd ddwyn trefn a dosbarth ar ein cyfundrefn addyggoh ar arfced y gecraeth sectol a'r gwassfraff anhygoel sydd ar hyn o bryd yn nod- weddu gwaith ein hysgolion. Yr ydym heddyw ar y groesffordd, ac.y mae yn bwysig pa heol ddewisir gennym. Os symudir yn unol i un cyfeiriad gallwn agor i fyny gyfnod euraidd yn hant;-s ein teyrnas. Os dewiswn vmwahanii ac ymosod ar ein gilydd teflir yn ol ddifryg- iadau cymdeithasol am chwarter eanrif arall. Ymhlith y pethau niwyaf cynhyrfus yn ein llywodraeth newyddiadvivbl y dyddiau hyn, rhaid yw gosod Areithiau Syr Edward Carsor. Gorchwyl andwdd yw i Gymro sydd- oli iddynt gael eu traddodi yn t914. Nid yw areithiau Parnell a Davitt ac ereill ddeng mlynedd ar ugain yn ol i'w cymharu a hwynt. Tebycach vdvnt i gyfansoddiadau gwaedlyd ToJo flúch, j neu areithiau dychymygol yr hengad- fridogion Cymreig pan fyddai bjddin- i oedd Lloegr wedi croesi Clawdd Offa. I Syr Edward Carson bredych a bradwr yw pob aelod o'r Llywodraeth. Nid yw I Mr John Redmond a'i ganlynwvr ond gwas i'r Pab. a'i holl fryd ar .heud I caethion bythol o wyr Ulster. Apelia atynt ar iddynt fod yn barod i abeirthu v I cyfan a feddant. Y mae efe ei hwn yn barod i roddi ei fywyd i lawr. Dydd Llun ddathlwyd dydd pen-bJwydd I Brwydr y Boyne a gymerodd le yt! TBM). Yn y frwydr honno y ddychwelwyd Jkgo II. gan William III. Diwrnod arb^nnig yw Gorff. 12ed yn Ulster am ddwend pethau cryfion. Ni chollodd > £ yv Ed- ward Carson y cyfle. Sut bynA? x try pf gfi) I eff de"W^14?o, i,z t.r.v > pethi!U. $5'U el<>d(!,w'i .f\'f'J(#{!  gwneud ei oreu glhs t?dwyn oddiam j gylch ryfel gartrefol. Cerddodd tua I 40,000 yn yr orymdaith yn Belfast, ac mewn ysbryd ymffrostgar gollyngid er- gydion o lawddrylliau yn fynych ar hyd y ffordd. Hawlia Syr Edward Carson un o ddau beth gan y Llywodraeth: Naill ai Gadael Ulster Allan yn Gyfan I Gadael Ulster Allan yn Gyfan I ac yn hollol ynte ddod drosodd i ym- ladd a gwyr Ulster. Nid oes ond pedair I o naw sir Ulster a roddant fwvafrif I Toriaidd. Y mae pedair sir yn gryf dros Ymreolaeth tra yn y llall v mae y pleidiau yn bur gyfartal. Yr oedd pablogaeth Iwerddon yn 1911 yn 4,381.951, ac eiddo Ulster yn 1,578,572. Ceir traian (sef 580,811) o'r boblogaeth yn Swydd Antrim, yr hon sydd yn cyn- nwys dinas fawr Belfast. Yno y cedwir y twrw Ulsteraidd. Sylwer felly beth y mae Syr Edward Carson yn ei hawlio nid yn unig hawlia adael allan Brotes- taniaid Toriaidd Ulster o drefniant Ym- reolaeth ond hawlia hefyd i Wyddelod y siroedd ereill a nodwyd ydynt yn un a'r genedl Wyddelig wedi dyheu a gweithio am Ymreolaeth holl ddyddiau eu hoes. I Nid yn unig hawlia yr hyn a e.ilw n rhvddid iddo ef ei hun a'i bobl. ond hawlio gadw bob] ereill yn yr hyn a gyfrifant hwy yn gaethiwed! Y mae Diwedd y Senedd-dymor presennol yn yr ymyl. Ofnid y byddai yn ofynnol cael Eisteddiad Hydrefol i orffen y gwaith. Yn lIe hynny, cyfyd y Senedd cyn diwedd Awst, agorir Sen edd-dymor newydd yn niwedd Tich- wedd. Bellach bydd Datgysylltiad ac Ymreolaeth yn ddeddfau cyn pen mis. Cofier mai gyda diwedd y Senedd- dymhor, pryd bynnag y bydd hyny, v deuant i rym. Pe bai y Llywodraeth yn gohirio y Utymor presennol dros yr haf, gan alw y senedd ynghyd yn yr hydref, byddent ar yr un pryd yn gadael y ddau fesur a nodwyd yn nwylo yr arglwyddi hyd hynny. Cawn bellach ryddiCl i symud at ddiwygiadau cymdeithasol a gwladol ereill sydd a hen alw am dan- ynt. Unwaith eto y mae yr arglwyddi wedi taflu allan y mesur sydd yn delio ag Ami Bleidleisiau y Mawrion. Ber fu y ddadl y tro hwn. Yr oedi y rhesymau, dros ac yn erbyn, wedi el rhoddi Ilynedd. Cynhygiodd Iarfl Crewe y buasai y Llywodraeth yn fodd- Ion ethol pwyllgor i ad-drefnu etholaeth au os caffai y mesur uchod ei basio. E' hyn oil, ni welai yr arweinydd Toriaidd Arglwydd Lansdowne, ddim yn y mresuJ ond ystryw Radicalaidd i ennill seddau Hawliai y dylai perchnogion eiddo gae am] bleidleisiau oherwydd eu bnddian nau a'u diddordeb mewn gWahanol le oedd. Ceisiodd nifer o arglwyddi dafli; anfri ar y mesur a gwrthodasant ei basio, a hyny gyda mwyafrif raawr. Cyn diwedd y ddadl er hyny, tystiodd Iarll Beauchamp y buasai y mesur yn ddeddf seneddol cyn yr etholiad cyffred- inol nesaf. Golyga hynny na thorrir y Senedd bresennol i fyny cyn pen blwyddyn o leiaf. Gwella gafael y mae Y Mesur Ariannol yn y Senedd, ar ol ystormydd enbyd yr wythnos ddiweddaf. Yn ystod yr wyth- nos hon y mae y mwyafrifau yn rhedeg o 95 i 135 ond ysywaeth y mae Mr Leif Jones ac un neu ddau ereill o'r Rhydd- frydwyr anfoddog yn parhau i uno gyda'r wrthblaid i feirniadu y Llywodr- aeth. Yn ystod yr ymdriniad bu y ddwy blaid yn lied drwm ar hen Ianciau. Mynnai y Toriaid leihau trethi pobl briod a chodi treth drymach ar hen lanciau. Tystiai Mr Lloyd George ei fod eisoes wedi deddfu i'r perwyl hwn trwy ganiatau manteision sylweddol i rieni a chanddynt blant ieuainc. Tybed a ga y pethau hyn effaith i deneuo rhengoedd yr hen lanciau. Syndod Arall. ddaeth i ran Ty y Cyffredin ddoe (dydd Lliin). Edrychid ymlaen yn bryderus at y diwrnod hwn ar gyfrif y ddadl a ddisgwylid ar y Mesur sydd ger bron y Ty i wella Mesur Ymreol- aeth. Yr oedd yn hysbys fod cyn- adledd rhwng yr arweinwyr o'r ddeutu ar y mater, ac ymddengys fod yr ym- gais i ddod i ddealltwriaeth wedi methu. Yn hytrach na mynd ymlaen a'r ddadl dydd LInn hysbysodd Mr. Asquith fod y Brenin wedi galw cyn rychiolwyr o'r pleidiau i Bias Bucking- ham i ymdrin a'r mater. Parasai 1 3 °. bysiad hwn gryn syndod yn y Ty oni- bai i rywrai diegwyddor fradych.rv gyfrinach i'r wasg ymlaen Haw. Llawe • yw y dyfalu heth fydd ffrwyth y haeffedd hon. Amser a ddengys a di- fudd yw proffwydi. Yr awgrym goreu a welsom oedd i'r Prifweinidog ei chyn- Ilunio er mwyn cael Mr. John Rectii)oii-I a Syr Edward Carson at eu gilydd with yr un bwrdd.
Clywedigion o Aber Pennar…
Clywedigion o Aber Pennar Cawsom gyfle yn ddiweddar i glyw- ed Gwvddel, Sais, a Chymro yn traethu eu barn ar faterion amser a thragwyddoldeb. Syr Edward Car- son oedd y Gwyddel—yn annerch llu- oedd y cyfamod yn y Pafiliwn. Siarad- wr trymaidd ydyw, ac yn credu y dylai pawb dderbyn ei genadwri am mai efe svdd yn ei chyhoeddi. Druan o hono Ni wna ysbwriel fel yna y tro i Gym- ru. Ni allai argyhoeddi gwybedyn drwy oernadau fel hyn. Ac am liioedd y cyfamod, ni welais y fath orymdaith o drwynau cochionerioed-braidd na wridai popeth o'r cylch. Nid oedd pob cyfamodwr yn rhyw frwdfrydig iawn. Eisteddwn rhwng dau o honynt. Tra un o'r ddau yn hepian, cysgai y llall vn dawel ynghanol y dwndwr. Wedyn clywais Dr. Frank Ballard yn areithio fel amddiffynwr y grefydd Gristionogol. Dyn o alluoedd uwch- raddol yn ddiau, ac yn ddadleuwr nerthol a'i ysgrifbin, ond wfft iddo fel siarad\vr. Beth sydd ar y Sais na all wel'd fod gan eraill gydwybod a deall ac ewyllys fel yntau? Anerchai hwn gvnulleidfa o Gymru fel petaent yn dorf o anwybodusion heb glywed yr Efengyl erioed. Danghosodd anwv- bodaeth ddygn yn ei gyfeiriad at han- es y Cymry. Ceisiai ein perswadio ei fod yn cyhoeddi rhywbeth new vdd— pethau sydd wedi eu cyhoeddi fil- waith o'n pwlpudau. Mewn athrylith grefyddol v Sais fuasai'r diweddaf vn y bvd i mi godi fy het iddo. Pan fydd cenadwri gan Dr. Ballard a'i gvfeillion gwrandawn ef yn barchus. Hyd hynny, arhosed gartref i oletio paganiaid Lloegr. Y trydydd glyvvais oedd y Parch. Phylip Jones, Llandeilo. Dvma ddyn wedi ei ddonio yn ardderchog gan ei Cirewr. Arabedd hvawdledd, brwd- frydedd—a'r Efengyl yn gwreichioni o bob aelod o hono. Dyma ddyn sydd wedi trethu pob dawn a chyneddf o'i eiddo i draethu yr Efengyl fawr. Wrth ei wrando, teimlem awydd gwaeddi, "O! frenin, bydd fyw byth i gor- oni'r CrisD yn ben. CELT.
[No title]
Dywed Dr. Dimsdale T. Young, y o;weinidog' Weslevaidd poblogaidd, iddo deithio 10,000 o filltiroedd y Rwyddyn yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf heb gael gymaint ag un ddamwain.
COLOFN LLAFUR. I
COLOFN LLAFUR. I GAN PEREDUR. I Glowyr Scotland Eto. I Y mae glowyr Scotland yn bender- fynol o gario eu bwriad allan i weithio dim ond pedwar niwrnod yr wythnos. Dechreuir y trefniant hwn ar ddydd I LInn, Gorffeuuaf y 27ain, a chymerir y dydd Sadwrn dilynol, Awst y laf. Wedi hynny, cedwir y dyddiau Mercher a Sadwrn ymhob wythnos yn segur. Drwy hyn gobeithiant gadw i fyny yr huriau y Jbygythia'r meistri eu gostwng o herwydd, meddent hwy, orlenwad y farchnad lo, a'r cynnydd yng nghost gweithio. Anghysondeb y Meistri. Wrth ddadleu ar y Bwrdd Cymodol ychydig wythnosau yn ol dros ostwng y cyflogau, dywedai y meistri fod llawer o byllau yn gweithio dim ond tua han- ner amser, ac eraill yn cael eu cau a'u i hatal yn gyfangwbl o herwydd prinder y gofyn am lo. Ac yn awr dyma hwynt, pan y mae y gweithwyr yn cynnyg aberthu yn rheolaidd ddau ddiwrnod yn yr wythnos er rheoleiddio y cyn- nyrch, a diogeli y prisoedd, yn troi ac yn penderfynu dial ar y gweithwyr am eu bod yn gwneyd yr unig beth sydd yn rhesymol. Dyma enghraifft o ddallineb rhagfarnllyd y dynion sydd yn hawlio meddiant yn hanfodion bywyd y werin weithgar. i Llusernau Diogel. Mewn canlyniad i'r anealltwriaeth ddiweddar ym mhyllau y Powell Duffryn, Bargoed, ynghylch y lampau, cafwyd adroddiad oddiwrth yr experts penodedig fod y lampau newyddion ddsrperir i'r gweithwyr yn awr yn tra rhagori ar yr hen, a biid y niater wedi diweddi yn foddhaol i bawb eysvlltiedig. Cyfalafiaeth yn Lladd. I Gymaint yw trachwant cyfalafiaeth, a'i gwrthwynebiad i bob teimlad o ddyngarwch, fel y ceisia bob amser ladd unrhyw gwsfwm neu arferiad poblog- aidd duedda i gwtogi ar lwyddiant yr elw. Gwysiwyd tua 200 o lowyr yn Ashton-under-Lyme (Swydd Lanes.) o flaen yr Ynadon i ateb am doriad cytun- deb drwy adael eu gwaith heb rybudd. Niweidiwyd un o'r gweithwyr gan ddamwain, a chludwyd ef i'w gartref. Boreu drannoeth daeth y su fod y dyn wedi marw. Mewn canlyniad safodd y gweithwyr o'r gwaith. Dywedodd y gweithwyr fod yr arferiad wedi bod e, ioed i atal gweithio am ddiwrnod pan ddigwyddai damwain angeuol. Yr y meistri am wneyd i ffwrdd a' i.fet,- iad hwn. Dyfarhwyd y gweithwyr yn rhydd o'r cyhuddiad, a rhyddbawvd hwynt o'r pum' swllt o iawn a ofynnai'r cwmni. Streic Anundebwyr. I Daeth streic gweithwyr Dowlais yn erbyn anundebwyr i ben dydd Gwener wedi cael pawb i fewn i'r gorlan un- debol. Milwyr yn Amser Streic. I Y mae y Llywodraeth wedi penodi Pwyllgor Ymchwiliadol, cyfansoddedig o chwe Ceidwadwr, chwe Rhyddfrydwr, dau ojr Blaid Wyddelig, ac un or Blaid Lafur—yn gwneyd i fyny bvmtheg o ber- sonau, er gwneyd ymchwiliad i'r ani- gylchiadau y defnyddir milwyr ynddynt yn amser streics ac anghydfodau neill- duol ymhlith y bobl. Mr G. H. Roberts, A.S., yw yr Aelod Llafur. Y mae hawl gan y pwyllgor i alw y saw l a fynno i roddi tystiolaeth. Pan yn ymdrin ag amgylchiadau y rhan hon o'r wlad, pur- ion peth fyddai i'r pwyllgor ymchwil- iadol hwn alw ar y Parti Dramodol Cymreig i roddi perfformiad o'r ddrama Change iddynt. Rhoddai hyn iddynt yn gywir iawn amgyffrediad o'r awyrgylch weithfaol a chyindeithasol mewn cysylltiad a streics y dosbarth- iadau glofaol yn y Deheudir yma. Ergyd Dda 0 Blaid Addysg. I Llawen ydwyf i glywed fod Undeb Gweithwyr y Relwes ac Undeb y Glowyr wedi penderfynu cymeryd meddiant o'r Central Labour College, Llundain. Y mae y sefydliad hwn, ynghyd a'r sefyd- liad tadol "Ruskin College," wedi ,bod yn gyfryngau pwysig iawn yng nghyn- hyrchiad yr aflonyddweh Ilafurol sydd wedi bod mor amlwg yn ystod y pum' mlynedd diweddaf. Symbyliad a brwd- frydedd y dynion ieuainc anfonwyd allan o'r colegau hyn yw y prif ailu j cynhyrfiol sydd heddyw yn rhoddi cymaint o fywyd yng nghyrff yr ndeb- au Llafurol. Meddylier am yr enwau niwyaf amlwg heddyw mewn cysylltiad a. Ffederashwn y Glowyr-Ablett ac EvansyRhondda, Gill a Hodges yn Abertileri a'r Garw; Stonlake, Davies a Edwards yn Aberdar, a lluaws eraill ymhob rhan o'r dywysogaeth. Y dyn- IOn hvn, drwy yr arfogaeth berffaith o addysg gawsant yn y Ruskin a r Labour Colleges sydd yn rhoddi newydd-deb gorff Undebol Llafur. Tanchwa Senghenydd. Daeth erlynlad y goruchwyliwr Mr Edward Shaw o herwydd esgeuluso gweithredu yn ol gofymon Deddf Y Mwngloddiau, a thrwy hynny achosi marwolaeth 430 o fywydau-i ben dydd Sadwrn. Yr oedd 17 o achwymadauy ei erbyn, ond dim ond o herwydd p P y cafodd ei gosbi, a chyfansWII1 y dÎ1'- wyon yn ?24. Y »* ysgafnder  go.?b wedi peri syndod mawr I'r A?? LJafur. ac nid ydynt yn 01 •   egiad i'w syndod. Xid yW Y barnwyr yn arfer I!awer o drugaredd tuag at weithwyr ddygir O'U blaeD am esgeu- lustod o ofynion y ddeddf, a chosbant hyd eithaf y gyfraith. Dyma esgeulus- tod diarnheuol yn achosi colli ad bywyd- on d au o 430. a'r gosb  ddim ond £24. Pwy gred fod cyfraith .??.? Fawr yn Pwy nedig .r gvfiawnder os ? y dded- sv l faene d ig ar ^yfi aW y' fryd hon yn.awn ?Dae? ??erch.og- fr3-d hon yn ia,%N,n  e i nv ???,, y ion a dderbyman eIw ?ddJwrth y gwaith yn rhydd o r ?hudcn?adau oedd yn eu herbyn hwy.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RH AI D COFALU All Y MNAI MYH. E.geutMd.d M?y"  hyn drwy dd?w. asholl Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyglniaeth""i' Er mwyn yosal P"1 rhgld *mirNr mown pryd. 'DOES DIM MOtt LLWYOVIANUB A Sion A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn .w yn *?!*T! gan filoodd fel maddygliff .w, sic r "???' ddargf*m"n'U*"Hw**i"t erioed at 180kmg Clwyfau, Aroholllon, Tardd- iantau y Cnawd, Eozema, Orach a Ned II yn M h a n a u Plant, Llosgtad. AU, Ylgal. danau. S o u r v y, L I u g r ai P I a n t Benywod a Babanod, Tarwden, Cout. II Cymalau Poenus, ?heu?at- rr Poen "Y???? Pas ? cafn, P lisq. tyn mewn ?eohry.?. c»VSiP""i KS y''B"- d ? yn ?? '"? at CL WYfAU ar COESAU. Mlloedd yn tyatto ilw Effeithlau Rhyfeddol. RHQDDWCH BRAWF ARNO Gwelihad sydd slot Ar werth KM bob ?hemi't* Stcr?.m 1/H. Gofyner am Cetn?W" Myr- wch weled Mw JMet nu§JSS«T»r !?vb blwch. Heb hyu?idj» gywl. r- Now danfoner He?t g?werth ??-S? ??? at aoob Hugh'" Ms"utslturing cha"- 'It, M.P.B., L.D.B., F""?'  8WRTHODWCH BOB PETH ARALL.
[No title]
Y mae'r chwe meddyg s),dd >ii gwasanacthu } n Ysb> vt- v Damwemiau y Barri yn ,i?foddyi ,-?di rhybudd, o?r C'ngor y tcrfyna'u ?-sanaeth?hen tn mis. Vr acbos o r streic hon vw ymddvgiad y Cyn?or y?cyHog' medd yg sefydlog am ?600 v awyddyn.