Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
II CARDIFF (2) ■ NEWPORT ■ FOWTYPOOL ■ PONTYPRIDD ■ 8WAN8EA ■ LLANELLY F Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at 9.5 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan & Co., Ld., Wales' Largest Furnishers are now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low pricel Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels. a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top and Tile Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered 11 Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
Y Stori.I
Y Stori. NANNO. BYWYD PENTREFOL YM MON. GAN J. TYWI JONES. I PENNOD VII.—CHWARAE CROGI. I Mr. Thomas Sparcer oedd y "lifhi," fel y nodwyd eisoes. At ei drugaredd ef, i raddau rhy bell, yr oedd tlodion yr Undeb. Ac nid oedd ef ei hun yn 1 o honni hynny. Triniai hwynt, ag eithrio rhai o'i ffafriaid, fel cwn, a gwae cedd i unrhyw un a ynganai air yn crbyn ei drahausder. Yr oedd mewn dwL joeth yn ami. a phe cawsai ei haeddiaut, t"o- asid ef o'i swydd er's tro, a rhoddasid ef dan glo am dymor. Ond y mae gan y diafol ei gyfeillion ym mhobman, he yr oedd i Sparcer rai ymhlith y gwar- cheidwaid a wnaent unrhyw ueth dr,.s to, ac ereill a betrusent wneyd ag ef yn ol ei haeddiant er mwyn ei wraig a'i blant ef ei hun. Y tlodion druain ddioddefent. hnJci- ai raid i lawer ohonynt ynghylch lian- dderwydd fynd i gyfyngder mawr iawn cyn yr ymostyngent i dderbyn .in rhyw fath o gymorth "o'r plwy' Nid »_e id arnynt eisieu i'r "sclyfaeth Sparcci" gael esgusawd i ddod yn agos at) nt. Cadw Sparcer draw oedd nod fawr Vll- drechion y tlawd. Golygai mynd dan ei draed ef bethau na charem eu benwi i lawer. Yr oedd marw, ar ol Ilwy(I ii i gadw Sparcer o hyd braich, n rl vw beth i edrych yn mlaen ato gyda hyfryd- wch. Iaith porfiad olaf ami un oedd, Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa, mi a gedwais Sparcer draw." Yr oedd i'r gwr hwn hefyd lawer o gynffonwyr yn yr ardal, fel sydd ean bob ymhonnwr. Meddai ar lawer o gyfrwystra i beri i rai gredu ei fod yn gryn arwr. Meddyliai rhai amaethwyr yn uchel am dano am y tybfent ei fod, er yn galed tuagat y tlawd, yn gyfaill calon i'r trethdalwyr. Methai llawer nad oeddent yn rhagfarnllyd o'i blaid a chredu ei fod can waethed ag y myn- nai rhai ei fod. Gwelai dyn cral er hynny oddiwrth wynepryd ac osgo Sparcer mai hymbyg i'r gwraidd yd- oedd. Agwedd ymosodwr, na faliai fofwm corn am neb, welai llawer ynddo, Hawdd ydoedd canfod, er hynny, pan greffid ar ei wyneb, mai llwfryn hollol ydoedd, pe cymerai rhywun yn ei ben, megis ag y gwnai rhai ar adegau, i roddi "celpen" iddo. Gwyddai Sparcer fel rheol pwy i'w herio a phwy i fod yn foneddigaidd ger ei fron. Mathew Martin, a Jac ei fab, oedd y drain pennaf yn ystlysau Sparcer. Gwelai a chlywai Mathew pan ar ei deithiau bob drwg am dano, ac nid oedd heb arfer ei ddawn arbennig i adrodd pob stori yn y modd ac yn y lleoedd mwyaf tebyg o beri blinder i'r "lifin." Ychydig o Sparcer oedd mewn lleoedd ereill, ond ceid yr oil ohono gyda'i gilydd yn Llandderwydd drwy Mathew. Ni feiddiai yntau gellwair llawer a r gwr bach hirben o'r He:i- fwth. Daeth i wybod yn fuan mai efe gai y gwaethaf yn mhob ffrae. Bygyth- iodd unwaith hel Mathew a'i bethau i'r workhouse. Atebodd Mathew na dderbynient "freeholders" i le felly, ac fod digon o dlodion y buasai reitiacb iddynt gael tamaid > yn gysurus a pharchus. Bygythiai Sparcer etc roddi "cwrbits" i Mathew. "Wel. wna ditha 'nte, gael i ti wel'd be' gostith hynny i ti. Ma isio rhyw achos i dy symud di o dy swydd; tydi hi ddim yn swydd i rai 'run fath a chdi wir, was. Tydi'r Local Gyfmant Bord yn gwybod fawr am dant ti, a ma rhyw son am anfon gair yn ddeiret iddyn' nhw yn Llundan, yn lie i B-. Rydw i wedi cael allan rwan lie mae dy fistar di'n fcyw," meddai Mathew. Wrth gwrs, teimlai Sparcer mai goreu po leiaf o awgrymiadau fel hyn a glywai, a theimlai yn gyfleus i fynd i'w gragen o hyn allan pan ddeuai i wrth- darawiad a Mathew. Nid oedd mor llwyddiannus i ddygymod a thafod Jac Martin. Cymerai Jac ef yn ddidrugar- edd o vsgafn. Lawer gwaith y bu raid i Jac ddianc am ei hoedl 0 1 gyrraed d* ac os methai ddianc nid oedd ond troed- iad giaidd i'w ran. Ffyrnigai pob digwyddiad felly Jac fwy-fwy. Yr oedd cwynion rhai o'r tlodion yn erbyn Spar- cer fel pe yn ei ysbrydoli i boenydio y gorthrymwr. Unwaith pan ar ei gylch cwynai gwraig weddw yn dost wrth Jac am i Sparcer atal y tal plwy' iddi hi a'i phlant, fel nas gwyddai ymha le i gael tamaid. Perswadio'r gwarcheidwaid wnaethai Sparcer fod y fam yn cadw'r hogyn hynaf adref tra dylasai fod yh gweini yn hytrach nag yn pwyso ar yr Undeb. Tra mewn gwirionedd wedi gorfod dod o'i le yr oedd yr hogyn am el fod yn rhy wan o gorff ac iechyd i ddal y gwaith. A lie a ddewiswyd iddo gan Sparcer ei hun a adewsid ganddo. Wyddoch chi'n iawn, Nan Dafis," meddai Jac, nad oes gin y tlawd ddim hawl i fyw yn Llandderwydd a'r cylch, ond fel bydd Thomas Sparcer, Esquire, yn deud wrthyn nh w. 'Does gynnyn nhw ddim hawl i fod yn dlawd, na hawl i fod yn wan, nag i fynd yn sal, ond 'by order of Mr Thomas Sparcer, Esquire,' a 'rydach chi'n gweld, Nan, 'rwan mae'r tlawd sydd ar 'i golledu os na fedar o fod i fyny a'r requeiarmants." "la, ond tydi hi'n galad fel hyn, John Martin," meddai Nan Dafis yn ei dagrau. Wel, ydi ma hi, ond ma hi mor anodd 'sweidio rhai sy' gynnyn nhw fwy na digon o bopeth fod y rhai sydd heb ddim yn caru 'u plant, ag y cara nhw, pan ma nhw'n wan ne'n sal, iddyn nhw gael yr un chwara teg a'r anifeiliaid. Ond dowch chi, hwrach daw tro ar fyd, Nan," meddai Jac. 0, diar, faswn i'n lecio gweld yr hogia erill yma wedi tyfu i fyny, ma nhw'n iachach ac yn gryfach na bu Owan bach erioed, ond ma' 'na dipyn i aros iddyn' nhw eto; ag os na cha nhw damad gweddol, hwrach a'n nhwtha'n wan," meddai Nan Dafis. Hwdiwch y cwningod yma, Nan; 'boil em up' i'r hogia a chitha. Hit- iwn i ddim llawer am y'ch cadw chi hefo cwningod am flwyddyn. Gadewch i Owan ddod hefo mi ar fy rownds, a chleciwch y'ch bawd ar Sparcer. Chewch chi ddim llwgu yn Llandder- wydd, meddai Jac. Tyjbad?" meddai Nan. "Does dim tybad am dani. On'd eill Owan yma neud rhywbeth i rywun wrth 'i blesar, a dal cwningod ag am ball i ffesant os daw o ar draws I Di Mi fentra i ddeud y daw o a mwv i mewn i chi felly na'r cwbl ydach chi'r- gael o'r plwy', ac fe fydd yn iachach a llai o wenwyn yn'o fo na'r hyn ydach I chi'n gael hefo'r teclyn Sparcer yna. 'Rydw i wedi bod yn disgwyl ys blyn- yddoedd y baswn i'n dod yn ddigon o lane i fedru rhoi cweir i'r cena, ond mae o'n rhy gry' i mi i neud dim a fo ond hefo 'nhafod. Ond safwch chi rwan, sut medra i dalu iddo fo am hyn ? Rydw i yn 'i gweld hi rwan; mi croga i fo os ca i 'chydig bach o help gin ryw- un. 'Rydw i wedi crogi llawer o gwn- ingod, pam na fedrwn i grogi Sparcer 1" meddai Jac, dan wenu fel pe cawsai hyd i ryw feddylddrych godidog. Tendiwch chi fyn'd i helbul hefo fo, John Martin. Mae o'n hen gena," meddai Nan. Fasa dim isio'i grogi o onibae 'i fod o'n hen gena a mi croga i o heb gael 'y nghrogi fy hun," meddai Jac. Mi alwa i heibio chdi'r p'nawn yma, Owan, gael i mi wel'd be' fedri di neud. Gadewch chitha, Nan, i Sparcer synu na fasach chi'n dod ato fo i weddio wrth 'i draed o am friwsion y cwn o fwrdd y plwy'. Os gall Owan dynnu trw'r hen ffarmwrs yma fel 'rydw i wedi gneud, fydd arno fo eisio dim. Ma nhw'n hen fechgyn reit glen, ond i chi barchu 'u petha nhw. 'Rydw i wedi 'u hachub nhw rhag collad a thraffarth lawar gwaith wrth fyn'd a dod hyd 'u tiroedd nhw, a chadw'n llygad ar 'u hanifeiliaid nhw. 'Does ar neb ofn gwel'd Jac Mar- tin unrhw adag. Ellwch chitha drystio Owan i fod yn brentis i mi." (I barhau.)
Advertising
Mae'r Cyllideb a'r Trethi Newyddion wedi poeni llawer, ond y mae Diffyg Traul, Bustl, Cur Pen, neu Flinderau'r Afu yn llawer gwaeth. Mater o lawenydd yw y gellir naill ai lleddfu neu iachau y rhai hyn gyda dogn prydlon ar ychydig o draul o BELENI LLYSIEUOL KERNICK. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau Îtc., 131,c., a 2s. 9c., gan yr boll fferyilwvr. ARTIFICIAL LIMBS, Crutches, Eyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, Steelleas Easifit" Trusses, etc.; lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-8. List free. Tel. 1282.-Allen Pearce, 23 Charles Street, Cardiff.
t Eisteddfod Gadeiriol I Pontardawe.j
Eisteddfod Gadeiriol Pontardawe. j Dydd Sadwriij Mehefin 20fed, 1914. I Beirniadaeth ar y Cyfansoddiadau. GAN SARNICOL." [ DRAMA.—TESTYN YN AGORED. I (I gymeryd awr a hanner i'w pher- I fformio.) Daeth saith drama i law; a gwaith awr neu ragor o ddarllen ar bob un o honynt. Yn yr amser a roddwyd i mi teimlaf yn anmhosibl i gyflwyno beirniadaeth fanwl. Er hynny, 'rwyf yn dra sicr fy mod wedi gallu taro ar y ddwy oreu. Ar y cyfan arddangosir llawer o dalent yn y dramodau hyn. Ysgrifen- nir llawer o honynt yn yr iaith llafar gwlad, ac y mae hynny yn eu gwneud yn fwy byw a llawer llai ffurfiol na chyfansoddiadau ereill, fel barddon- iaeth a thraethodau. Credaf mai'r ddrama, os dim, sydd yn myned i roddi ail fywyd i lenydd- iaeth Cymru; am ei bod yn rhedeg yn syth o lygad y ffynnon fyw, sef bywyd Jbeunyddiol y werin. Peredur.—Drama gysegredig "O'r Gorlan i Lys y Brenin sydd gan Peredur." Hanes Dafydd, mab Jesse, sydd ganddo. Teimlwn fod y ddrama hon, er cymaint rhagoriaeth all fod yn perthyn iddi, yn cael ei amharu drwy ei bod wedi ei hysgrifennu mewn iaith rhy werinaidd a chyffredin. Mae yn llawn ymadroddion ystrydebol a di- urddas, fel dim byd," felly'n wir," dyma fa." "Y mae dynion yn rhy barod i edrych ar y quantity ac nid ar y quality. Pe cai hon ei pherfformio, dinistrid ei heffaith yn hollol gan ei hiaith sathredig. Ednyfed.—Drama o fywyd beunydd- iol sydd gan hwn, yn dwyn y pennawd, Ei Anwiredd ei hun." Tra'r mae'r ddrama yn dangos ol llafur a pheth talent, teimlwn nad yw'r cymeriadau yn rhyw fyw iawn; a'r villain, Mr. Prys, yw'r person mwyaf byw yn y chwareu i gyd. Buasai'n dda gennym pe bai y ddrama ar dir mwy uchel; gormod o'r shilling shocker plot sydd YRddi; a rhai o'r cymeriadau yn dueddol i ym- aflyd yn y llawddryll a'r gyllell. Nid yw hwn yn beth nodweddiadol o fywyd Cymreig. Nid yw'r iaith yn ddigon naturiol ac esmwyth mae'r cymeriadau yn siarad Cymraeg rhy glasurol ac an- ystwyth. Y Cwpan Arian.—Nid yw'r ddrama hon ar y cyfan yn ein codi i awyrgylch uchel; gormod o swn meddwi a thinc- ian arfau sydd yn ei nodweddu. Nid oes iddi climax da chwaith. Mae'r iaith yn dda; yn naturiol ac esmwyth. Ond nid oes un cymeriad yn sefyll allan fel personoliaeth sydd yn gadael ei har- graff arnom. Eto i gyd mae 61 llafur a thalent i'w weld ar y gwaith. Y Gwyneb Hwnw.—Nid wyf yn teim- lo fod cynllun y ddrama hon yn ddigon clir. Mae'r iaith hefyd yn anystwyth ac annaturiol; mewn blank verse an- farddonol yn ami. Eto, mae 61 llafur mawr, a llawer o athrylith yn y ddrama. Weithiau teimlwn wrth ei darllen fel pe bai'r awdur wedi ei hysgrifennu yn gyntaf yn Saesneg, ac yna wedi ei throi i'r Gymraeg. O'r ochr arall mae llawer o ffraethineb naturiol a Chymreig yn y dialogues a theimlaf y gallsai yr awdur wneud gwaith da pe gallai ddigwydd ar gynllun gwell, a defnyddio iaith lai ffurfiol. Mae ami i stroke ragorol yn y ddrama hon yma a thraw. Mab y Mynydd.—" Trech Cariad na Chas yw testyn y ddrama hon. Hoff- wn weld yr iaith yn fwy gwerinol; er engraifft ar antur, cymraf frawddegau o eiddo un o'r cymeriadau benywaidd: Olwen: Daw gofid drwy'r drysau aur, ac ochenaid oddiar y carped drutaf. Diolch am gael fy enw wedi ei acennu mor felus. Yn wir, Dafydd, pethau creulon yw gwlad a safle pan yn llywodraethu bywyd." Tuedd ym- adroddion o'r fath yw peri i'r cymeriad adrodd darn yn lie siarad yn naturiol. Yn yr holl ddramodau a glywais yn ddiweddar, iaith gyffredin, naturiol— waeth pa dafodiaith fo, fydd yn cym- ryd oreu gan y dorf." Cardi.—Drama hir; wedi ei threfnu a'i hysgrifennu'n ofalus. Yn nhafod- iaith gwaelod Sir Aberteifi y mae; ac y mae yn naturiol, yn ffres, ac yn ffraeth iawn drwyddi. Mae'r dafodiaith yn berffaith naturiol. Efallai y cyfyd rhai wrthwynebiad i'w herbyn am fod rhai darnau o honi yn Saesneg ond gan mai yn y plas, ac nid yn y bwthyn Cymreig y mae'r golygfaon hynny, credaf ei bod yn llawer mwy naturiol i'r cymeriadau siarad yr iaith a siaredir ganddynt bob amser. Ac nid oes berygl i lawer yng Nghymru beidio deall y Saesneg erbyn hyn. Nid yw'r climax wedi ei weithio allan fel y dymunem; ac nid wyf yn credu y buasai Miss Branwen Lloyd yn galw am Goronwy i'w hystafell yn Aberystwyth-o leiaf heb bery llawer o gythrwfl. Heblaw hynny, a ganiateir i ferched i fyw allan o'r hostel yn y Coleg heb eu bod I yn byw gyda rhyw fcerthynas 1 Ond efallai na chefais amser i ddeall y sefyllfa yn hollol !šhr. Awgrymai i Cardi, fodd bynnag, geisio cywiro a gwella y rhan hwn o'r gwaiih. Y mae llawer o dalent yn y ddrama, a chredaf y gellir disgwyl gwell eto oddi- wrth yr ysgrifennydd hwn. Mae r di- wedd wedi ei drefnu yn dda; a'r ddia- ma ar y cyfan yn llawer mwy cl-r a threfnus na'r un o'r lleill, hyd yn Lyn. Aeschylus y Dramodwr. Drania hanesyddol yw hon, yn seiiiedig at Ilanes Ivor Bach a'i yrnosod'ad llwyddiannus ar Gastell y Norman yng Nghaerdydd. Mae wedi ei threfnu yn fedrus mae'r iaith yn gref a clilapuroi, a'r golygfeydd yn glir a tharaw-adol. Efallai mai ar yr ochr ferraf jraf: nis gallaf i sicrwydd ddweyd a .vmpr awr a hanner i'w pherfformio beth bynnag. caiff y benefit of the doub: A r rai ys- tyriaethau mae'r gwaith hwn ) D sffyll ar dir uwch na'r un o r Ond o'r braidd y credaf y gellid perfformio'r ddrama gyda chymaint o Iwyddiant a dwy neu dair o'r lleill. Ychydig ? n rhy Shakespearian yw, efallai, i'r werin. Teimlaf hefyd fod yna rhyw ddiffyg cysylltiad yn y rhan ohf. w^di r ym- osodiad ar Gastell Caer.lydd Ond mae'r dramodwr hwn, pwy bynnag yw, yn deall ei waith yn d li nc yn fardd ac yn ieithwr gwych; nis gallaf fod yn sicr am gywirdeb ei hanes. Ond ei beirniadu fel drama yw fy ngwaith, a chredaf ei bod ar flaen yr oil o honynt fel cyfansoddiad clasurol. O'r tu arall, ard,dengys Cqrcli gymaint llawn o dalent yn ei ffordd ei hun, er mai yn y Doric y mae ei iaith. Credaf mai y tecaf peth yw rhannu y wobr rhwng Aeschylus y Dramodwr a Cardi. DADL.-CYMWYS I'W HADRODD MEWN CYFARFOD LLENYDDOL. I Daeth wyth i law. Hogyn Penllwyd. Pa un sydd oreu, y Glust neu'r Llygad?" yw dadl Hogyn Penllwyd; a Sarah a Mari sydd yn dadleu. Nid yw yn ddadl ddiddorol iawn. Glan y Don.—" Plufio Cwningen yw dadl hwn. Moeswers ar ddysgu coginio a chadw'r ty, i ferched. Mae mwy o'r elfen ddigrif ynddi na'r ddadl gyntaf. Cymro. Corau y Cymry a Chorau y Saeson" sydd gan hwn. Berr a melns yw'r ddadl hon. Gelyn Die Sion Dafydd.—" Tranc y Gymraeg sydd gan y Gelyn. Byrr a da yw hon eto. Cypyn Cyfeiliog.—Hanner awr yng B d ,I nghwmni Beirdd Cymru Fu. Gwell fu- asai papyr ar y testyn. Mae'r dethol- ion yn dda ddigon. Huw.-Dadl rhwng Mri. Lloyd George a Bonar Law sydd gan Huw. Maent yn siarad yn dda, ac weithiau'n rymus. A thebyg iawn i Mr. Lloyd George yw'r hit am the reign of Bonar Law and disorder. I Jones.—" Y Cyngor" yw testun hwn. Mae'r iaith yn naturiol, a'r syn- iadau yn gryfion. Dadl ddiddorol a dyrchafol yw hon. Caswallon.—" Gwladgarwch a Chen- edlgarwch yw testun ei ddadl ef. Y mae'r testyn yn ddiddorol, y profion o'r I ddau tu yn gryfion; ac y mae'n addas iawn i'w hadrodd mewn cyfarfod cys- tadleuol. Y mae Jones a Chaswallon, i'm tyb i, yn gyfartal, a rhannaf y wobr rhyng- ddynt. ) DADL.—ADDAS I'R YSGOL SUL. I Daeth naw i law. I Abraham.-Dadl ferr ar Uwchfeirn- iadaeth." Digon da mor bell ag y I mae'n mynd. Aden Lesg.-Dadi yw hon ar An- j dudd-dod athrawon ac athrawesau yr Tsgol Sul i ymgymeryd a dosparthiadau yn absenoldeb y rhai sefydlog." Digon addas i'r amgylchiad. j Dan.—" Y Gostrel a'r "Ffynnon." j Dadl ddirwestol-bur dda hefyd. Gofal- ed yr awdur rhag ymadrodaion fel Y j dynion pa rai a welais." J Pyrr.-Dadl Yr Haul, y Lloer, y j ?annwyl!, a'r Angel .sydd gan hwn. ?id yn hollol ateb y pwrpas. ) Idwal Dafydd.-Dadl Ar yr Ysgol Sul." Wedi ei hysgrifennu yn dda fmhob ystyr. Hollol addas hefyd. Dorcas.—" Seiat yr Adnodau a'r Emynau." Nid yn hollol i'r pwrpas. Y mae efallai ormod o gymeriadau hefyd. Awel o'r Bryn.—" Safle'r Chwiorydd yn yr Eglwys." Digon pwrpasol, ond gwell fuasai i ddwy neu ddau, yn lie pump gymeryd rhan yn y ddadl hon. Llywarch.—" Y ddau fywyd a'r ddau gylch," sef y wlad a'r dref, sydd gan Llywarch. Dadl dda; ond efallai yn fwy addas i gyfarfod llenyddol nag i'r Ysgol Sul. Dyledwr i'r Ysgol Sul.—" Dadl Llyfr y Llyfrau sydd gan hwn; rhwng loan—darllenwr y Bibl, a Walter—dar- llenwr llenyddiaeth ysgafn, Gomer- darllenwr barddoniaeth, a Daniel-dar- Ilenwr llenyddiaeth gyffredinol ond wedi esgeuluso'r Bibl. Y mae hon yn ddadl dda, yn dderchafol ac yn addysg- iadol. Heblaw hynny, efallai ei bod yn fwy gwreiddiol na'r un o'r lleill. Gwobrwyer Dyledwr i'r Ysgol Sul."
Advertising
"SARZNE" BLOOD MIXTURE. CROEN IACH TGWAED PUR.— Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, llll a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH.
| Marwolaeth Mrs Margaret…
Marwolaeth Mrs Margaret Thomas, Pontardawe. Blin gennym gofnodi marwolaeth y chwaer anwyl, Mrs. Thomas, gweddw y diweddar Mr. W. Thomas, "sani- tary inspector," Castellnedd, a merch i Mrs. Williams, Y Ffarm, Ynys- meudwy Isaf. Bu farw dydd Gwener, y 3ydd o Orffennaf, a gadawodd ferch naw mlwydd oed, i alaru ar ei hoi. Magodd ac ymgeleddodd hefyd ddwy ferch amddifad nes iddynt gyrraedd 12eg oed. Chwaer ydoedd a feddai ar galon i deimlo a llaw i roi. Yr oedd yn ddynes wedi ei chynysgaeddu a natur hawddgar, fel ag yr oedd yn ber- arogi Crist yn yr Eglwvs a'r ardal. Bu ei hymddygiad hardd a'i bywyd pur yn fantais i godi safon bywydau eraill o'i chwmpas. Bydd ei choffa yn aros fel gwin Libanus yn y cylchoedd hyn. Claddwyd ei gweddillion dydd Llun, Gorffennaf 6ed, yn Cadoxton, Castell- nedd. Gwelwyd yn bresennol nifer" mawr o berthnasau, tyrfaoedd lluosogf o ffrindiau, ac yr oedd tua thri ugain o gerbydau yn cludo y rhai aethant gyda'n angladd i Gastellnedd. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y gweinidog, Parch. T. E. Waters, a'r Parchn. R. Lewis, Craigcefnparc,. a H. Hopkins, Castellnedd. Yr Ar- glwydd fyddo gyda Gwladys fach a'r teulu anwyl yn eu trallod dwfn. T. E. WATERS.
[No title]
Am bob math o Argraff waith* ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" &'r Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.
Advertising
I E:: G R N E L MIRACULOUS EFFECTS! I jiave suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, > I took another, and now I am free from all pain, a } living testimonial to the miraculous effects of these 1 Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. i.-George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3.-3eorgets Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvchau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. GochalwcH Dwyllwyr I-Gofynwch yn eglur am George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PEBCHENOG- J. E. GEORGE, IVI.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE. j