Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
PUMP 0 GANEUON NEWYDD. HEN FWTHYN FY NHAD (My Father's Old Home). Can i Contralto neu Baritone. Pris 6c. MAE LLONO FY HARRI'N OCID YN OL (My Harry's Ship is coming back). Can i Soprano. Pris 6c. BLODAU AC ADAR I MI (Birds and Blossoms). Pris Is. Y Tair uchod gan D. JENKINS. DYFFRYN HIRAETH (The Valley of Rest). CAn i Contralto neu Baritone gan Bryceaon Treharne. Pris Is. (Wedi ei dethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1915). GWENFRON. CAn i Baritone gan Mr. Lloyd Edwards, Llundain. Pris 1s. Geiriau Saesneg a Chymraeg, Solffa a'r Hen Nodiant i'r pum' Can. Cyhoeddedig gan D. Jenkins, Mus. Bac. (Cantab)., Aberystwyth. ATTODIA33 I 44 GEMAU MAWI, SEF CASGLIAD 0 DONAU, SALMAU AC YMDEITHGAN. Pris, H.N., 8c. Solffa, 6c. Nid oes braidd un Gymanfa Ganu gyda'r Metbodistiaid nad oes rbai Tonau o'r ucbod yn cael eu canu ynddynt. Gwneir gostyngiad mawr yn y pris am 100 ac uchod. 1 WORKMEN'S HALL, FERNDALE CYNHELIR CYSTADLEUAETH MEWN PERFFORMIO Dramodau Gymreig yn y Neuadd ucbod yn ystod yr wythnos a ddechreua NOS LUN, TACHWEDD 23ain, 1914 (Chwe Noswaith). Taer ddymuna Pwyllgor y Neuadd ar i'r Cymdeithasau dramayddol a fwriadant cystadlu anfon eu henwau i'r Ysgrifennydd, W. JAMES, 14 Pine Street, erbyn lleg o Orffennaf, vnghyd a theitl y Drama. RHODDIR GWOBRAU ANRHYDEDDUS I'R CYNTAF AR AIL. Eisteddfod y Ddrama. Cynhelir Cystadlenaeth mewn chwaren DRAMODAU CYMRAEG YN Y NEUADD COFFA, ABERDAR Yn ystod yr Ail Wythnos yn Nhachwedd yn dechreu ar y 9fed. Rhoddir gwobrau o 12p; 6p. a 2b. i gwmniodd mewn ped, a 2b., 30s., a 20s. i'r plant. Am Delerau y gystadleuaetb anfoner at yr lasgrifennydd, AFANYDD MORGAN, 18 Glanant Street, Aberdar. Ceisiadau am le yn y gyatadleuaeth i fod mewn Haw erbyn Awst lOfed. DO YOU SUFFER FRONt EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT ANDIALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F. S. M. C., OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND I WORKMANSHIP. ARGRAFFWAITH DA, BLAH a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Cyf., 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llythyr-gerdyn ceir Esiamplau o Adroddiadan Eglwysig, Xestynau a Rhagleni Eisteddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, &e. Pellseinydd Central 151. Cofiwch yr enw— THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yn ei hoi; ein hawydd ni yw gyrrn'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydyin yn cyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y gelfyddyd o Argraffa. ANFONWCH AM SAMPLAU. Prepaid Small Advertisement* Inserted at the following specially In, rates: One week 4 wks. 13 wk, 8. d. s. d. II. A 10 words 0 6 1 • • 18 0 9 a 18 1 0 8 0 ? iii These charges apply only to the follow ing classes of advertisements: Apart ments, Situations (Vacant or Wanted) To be Let or Sold, Lost or Found, and Miscellaneous Wants. Romittances may be made by Posta) Orders' or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b. charged. Advertising and Publishing OiRe-so. Cardiff Street, Aberdare. I YMHOLIAD AM DAFYDD REES MORGAN (neu WILLIAMS). OS OES RHYWUN all roddi hysbys- rwydd am ddyn o'r enw uchod a fu'n gweithio am dymor yr haf diwedd- af mewn fferm o'r enw Dyffryn Nedd, Ystradfellte, bydd yn dda gan Ben Jones, o'r lie hwnnw, glywed oddi- wrtho, neu oddiwrth D. Rees Morgan ei hun. Rhoddir 10s. i unrhyw un a roddo'r hysbysrwydd am dano, neu iddo ef ei hun os geilw yn ei hen le. Dymunwn wneud yn eglur mai nid o herwydd unrhyw ddrwg y ceisir ef. Dyn tua 64 oed ydyw, yn cadw barf a mwstash, ac yn hoff o siarad am lys- iau. Y mae ganddo fare glas ar ei dalcen. Ganwyd ef yn Llannon, Sir Gaerfyrddin. Yn awpyn barod Telyn Awen (Isaao Eurfin Benjamin). Telynegion Serch, Gwladgarwch, a Chrefydd, Pryddeetau Cadeiriol, Darnau Adroddiadol, &c. Ar 91 o wahanol deetynau, 18 yn eu mysg yn ddarnau buddugol. Pris 1/ wedi eu rhwymo yn hardd 1/6 Cyhoeddedig gan yr Awdwr, ac ar werth gan ISAAC EURFIN BENJAMIN, Bronheulog, Woodfield, Penrhiwceiber. ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r "Darian," 19 Cardiff Street; Aberdar. Y DARIAN.1, Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. ( Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf. Cyfeirier pol:) Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— GOLYGYDD, I SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. I Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i'r j Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. ¡ 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg I! anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am lle. yr wythnos, Is. 7!c. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner blwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen dhl yn unig yr anfonir hi trwy'r post.
ICais. I
Cais. Gwnaethom dro yn ol gais at Ddos- barthwyr a Derbynwyr y Darian" ar iddynt wneud ymdrech arbennig o'i phlaid. Ni fu'r cais hwnnw'n ofer, ehangodd y cylchrediad gryn lawer am fisoedd. Beth bynnag, y mae'r cyn- nydd wedi arafu yn ddiweddar, yn ol yr arfer, meddir wrthym, yn ystod mis- oedd yr Haf. Er y cynnydd a fu yn y cylchrediad ni cha'r Darian y gefn- ogaeth a haedda. Credwn fod llafur llenorion gwlatgar fel Brynfab, Moel- ona, Lewis Davies, Peredur, Dyfnallt, Ein Gohebydd Arbennig, Josiah Jen- kins, Gethin, a llu eraill yn haeddu ei werthfawrogi'n fwy. Ai gormod yw i ni apelio unwaith eto ar i'n derbynwyr a'n dosbarthwyr wneud eu goreu drosti, yn arbennig yn ystod misoedd yr Haf. Pe llwyddai pob derbyniwr i gael derbyniwr arall, byddai'r Cwmni mewn ffordd i allu gwella llawer arni eto. Wrth fynd i wahanol leoedd llon- gyferchir ni gan gannoedd ar y gwell- iant yng ngwedd a chynnwys y 'Darian,' a phe byddai camoliaeth o ryw gymorth i fyw byddai byd da arnom yn y swydd- fa yma. Ond o siom yw clywed y rhai sy'n ei chamol yn dweyd mai wedi ei benthyca yr oeddent neu wedi ei gweled mewn Llyfrgell Gyhoeddus! Hysbysir ni weithiau fod papurau Saesneg yn costio cymaint iddynt fel nad oes gan- ddynt geiniog i'w hepgor i brynu papur yn eu hiaith eu hunain.
|Nodiadau'r Golygydd. I
Nodiadau'r Golygydd. I Mae'r bri sydd i'r paffiwr y dyddiau hyn yn dechreu pwyso ar gydwybodau llawer. ac nid yn rhy fuan. Dylasai'r ysfa am ragori mewn defnyddio dwrn a ) feithrinir mor egniol er's blynyddoedd yn y wlad, ynghyd a'r awydd afiach am weled gornestion o'r fath fod wedi tynnu sylw'n gynt. Nid pethau newydd ydynt. Mewn marchnad a ffair a chyn- ulliadau eraill er cof gennym gwelid pabell y paffiwr a'r lluoedd hen ac ieu- ainc nad oeddent wedi dysgu dim gwell yn cyrchu iddi. Byddai yr hyn a welid yn creu awydd yn yr ieuainc i fedru ar y gamp. a byddai siarad am yr hyn a welsid rhwng pob dau. Heblaw hyn y mae papurau a fodol- ant yn unig i boblogeiddio'r gamp ac i osod urddas ar y paffwyr a phapurau y gellid disgwyl gwell oddiwrthynt yn ami pan ddaw cyffe, yn pysgota ceiniogau trwy borthi chwaeth afiach a disgrifiad- au manwl o ornestion bwystfilaidd. Yn sicr dechreuwyd galw Cymru'n Gymru lan, ac yn wlad y cymanfaoedd yn rhy fuan. Y mae'r paffiwr yn fwy poblog- aidd na'r pregethwr ynddi heddyw, a cha'r hwn fedr ddefnyddio'i ddwrh fwy o gynulleidfa na'r efengylydd, Nid estroniaid yw cynulleidfa'r paff- iwr, ond Cvmry Cymry wrth y mil- oedd nad ydynt wedi eu dysgu i ddim gwell. Gyda difrifwch y carwn ofyn— Ai nid yw'n bosibl ein bod wedi bod yn rhy brysur gyda'n cyinanfaoedd a'n huchel wyliau, ein cyfarfodydd sefydlu. ac ymadael a'n ffeiriau claddu, ac wedi esgeuluso gormod ar ein gwaith? Yr ydym wedi credu gormod yn y gymanfa a'r cwrdd pregethu; yr ydym yn cwrdd a'n gilydd i ddweyd mor ardderchog ] ydym, ac yn honni ein bod wedi ein dyrchafu hyd y nefoedd, ac yn y blaen, j a'r paffiwr a'r anffyddiwr a phob math ar glebrwr yn mynd a'r bobl, yn ar- i bennig y plant a'r bobl ieuainc o dan > ein dwylo. Coffer, nad ydym o nifer y j rhai hynny sydd yn grwgnach byth ac hefyd ar yr eghvysi. Eu hamddiffyn yw ein harferiad yn y Darian ac ymhob lie arall fel y gwyr ein darllenwyr yn dda. Ond y mae amser i siarad yn ogystal ag amser i dewi, amser i feirniadu yn ogystal ag amser i amddiffyn. A thybed nad yw y bri sydd nid yn unig ar baffio ond ar lawer o gampau ac arferion llygredig eraill yn ffrwyth esgeulustod eglwysi. Tra yr ydym ni wedi bod yn mwvnhau ein hunain y mae eraill wedi bod yn gweithio ac y mae iddynt heddyw gynhaeaf braf. i Beth allasai'r Eglwysi wneud yn y gorffennol nas gwnaethant? Hawdd yw ateb. Gallasai eu harweinwyr fod wedi talu mwy o sylw i'r plant a'r bobl ieuainc. Gwyddom yn dda fod llawer o eglwysi wedi gwneud yn odidog yn y cyfeiriad hwn. Y mae eraill nad ydynt wedi gwneud ond y nesaf peth i ddim. Y mae drysau'r capelau a'r festrioedd yn gauedig a'r ty yn anghyfannedd ag eithrio ar y Sul a noson neu ddwy yn yr wythnos, tra plant a phobl ieuainc yn rhodio'r heolydd fel defaid heb gan- ddynt fugail. Oni ddylasai ein capelau a'n festrioedd fod yn ganolfan diwyll- iant i blant a phobl ieuainc ar hyd yr wythnos 1 Oni ddylasai fod ynglyn a hwynt le agored i droi i fewn iddo ? A fyddai allan o le fod ynglyn a thy i Dduw ystafell neu ystafelloedd yn agored y gallai'r sawl a ewyllysient droi i fewn a chyfarfod yno a rhai o arwein- wyr y cysegr a'r gweinidog? Oni ddylasai fod yno le i ddarllen a llyfrau fyddent o werth i'w darllen? Y mae'n resynus meddwl am ymgais ambell eglwys Gymraeg i ffurfio llyfrgell. Ni: fydd yno'r un llyfr Cymraeg na dim j ond y llyfrau Saesneg mwyaf glastwr- aidd. Y rheswm am brynu y rhai hynny oedd eu bod yn rhad au cloriau amryliw yn bert," a'r hwn a'u prynodd heb synnwyr i weled fod y cymysgedd o liw- iau mor ddichwaeth ag y gallai fod. A'r gwir yw hyn fod miloedd o blant a phobl ieuainc heddyw yn mynd ar ol y paffwyr a Ilygredigaethau ereill ac i ddistryw am fod eglwysi yn ceisio'u cael 1 r bywyd yn rhy rad. Y mae plant y byd hwn yn gweithio, yn anturio, yn gwario, ac o ganlyniad yn ennill. Y j mae rhwyd y byd headyw am y miloedd. Pa hyd y daw plant y goleuni yn gall- ach yn eu cenhedlaeth? Dywedir fod paffio bellach wedi cyr- raedd anterth ei fri ac fod arwyddion y treia r poblogrwydd sydd i'r gamp. Prin yr ydym yn credu hynny. Y mae'n wir i rywbeth a ddigwyddodd mewn ynl latldfa fwystfilaidd rhwng dau yn ddi- f weddar greu atgasrwydd mewn llawer at un o'r paffwyr, ond anghofir hynnv n fuan. Y mae pawb a welsom yn (Ol- demnio paffio am wobr yn camol paf.-o fel ymarferiad corfforol. Hysbys w fod llawer o bregethwyr ac Aei.-iaid yn cyfiawnhau yr arferiad, a thra fydd ben- dith yr efenyglwr ar baffio ofer yw cor demnio'r prize ring. Credwn ninnau fod y corff dynol yn rhy ddwfol i ddarostwng i ymarferiad o'r fath. Chwarae a bwystfileiddi^vi;,i yw'r arferiad ar y goreu. Dibynna dyfodol ein gwlad ar i'r i'w cyfrifoldeb ac ystyried bywyd ieu- anc y genedl yn werth mynd lafur a thraul ac aberth i'w achub. Y mae gan eglwysi Cymru fantais arbennig yn ffyn iant eu hiaith a'u llenyddiaeth eu hun- ain. Hyderwn nad yn rhy ddiweddar y deftroant i werth y pethau hyn yn nat blygiad bywyd y genedl.
Mrs. Edwards, Hengoed.I
Mrs. Edwards, Hengoed. I ( f d. Y raae yn wir flin gennyf gofnodi marw y ddynes ragorol hon, yr hyn a I ddigwyddodd dydd Gwener yr wyth- nos (fdiweddaf ym mhalasdy hardd Danyjryn, Park Road, Hengoed. Yr oedd vn cnedigol o'r gymdogaeth, a bu larw ,;n 54 mlwydd oed. Yr oedd yn hanu o deulu bedyddiedig parchus iawn o eglwys henafol Cefn Hengoed, a bu byw yn Nhredegar am lawer o ffynyddau, ac yn cadw y Greyhound Hote, a'r Red Lion Hotel hefyd yn yr un dr.f o dan y Rhymney Brewery. Tra yn Nhredegar bu yn hael iawn tuag at bob achos teilwng, ac fel aelod o eglwys Siloh yr oedd o gyn- horthvv mawr i'r eglwys a'r weinidog- aeth. Cyfaill mewn angen fu ar hyd I ei bvvyd. Adwaenais hi am tua 30 o flynyedau fel menyw onest, deg, eir- I wir, ic pgored iawn ei meddwl, fel y f gallai yn onest ddweyd mai— GWHiig wylaidd gywir gilon,-ydoedd hi I 0 ducdd hael dirion; Ei bri oedd heirdd lwybrau Ion, j Yn awr mae dan ei choron. I Claddwyd ei gweddillion mewn I "vallt ym mynwent Hengoed dydd ) Mavrth diweddaf, ac yr oedd ei hanladd yn un gref a pharchus, a'r Parch. R. Evans, ei gweinidog, yn gwaianaetilu. Gidawodd ferch ieuanc hardd, a phrixl hawddgar, a pharod i alaru ar j ei lol. C* sured yr Arglwydd hwy j vn (it dyddiau blin, a chysged hi yn csmvyth yn ei gwely pridd hyd y dydd I Daw cais a llais i'r llwch, Cadarn i waeddi—Codwch. Tcdcgar. AP NOAH. T'c d egar. a
Llith o Abertawe.
Llith o Abertawe. GAN TALNANT. DR. GOMER LEWIS WEDI CROESI'R FFIX. Trist yw mcddwl fod y ffraeth a'r hynod Ddr. Gomer yn ei fedd. Chwithig meddwl na welir y gwr a'r got felfed, y llodrau brith-oleu, a'r het gantal lydan yn rhodio heolydd Aber- tawe mwy, ac na chlywir y llais shone calonnog yn ein cyfarch mwyach. Collodd y tlawd gyfailI trwyadl, a bydd llawer i gwpwrdd yn fwy gwag o herwydd ei farw. Gellid llanw cyirol drwchus pe cesglid holl gym- \\ynasau Gomer i'r tlodion, a fyddai yn gof-golofn anrhydeddus iddo fel Cristion vmarferol. Ganwyd Dr. Gomer Lewis mewn pentrcf bychan o'r enw Pensarn, yn mhlwyf Llangeler, Sir (iaerfyrddin, yn mis Mehefin, 1844. Mab ydoedd i John Lewis, amaethwr a gwneuthurwr gwlanenni, a diacon gyda'r Bedyddwyr yn y Dref- ach. Yr oedd hefyd yn aelod o Fwrdd Cxwarcheidwaid y lie. Cafodd Gomer ei addysg foreuol yn Ysgol Capel Bach, ac enw ei ysgolfeistr oedd Mr. 1)'-?tc l i, ac cii?%? ei \-sp, Thomas Williams, tad v Parch. David Williams, Ficar presennol Eglwys Llangyfelach, ger Abertawe. Adna- byddid Gomer y pryd hwn fel John Bach Llwynbedw," a dywedir ei fod yn llencyn poblogaidd iawn, yn caru pawb, a'i hoffi gan bawb. Cafodd ei freintio a mam dduwiol, a than ei ddyianwad a'i hesiampl garuaidd ar- weiniwyd ef i ymaelodi yn Eglwys y Bedyddwyr yn y Drefach pan yn 14 oed. 11 y flwyddyn 1862 dechreuodd bregethu, ac yn fuan ar ol hyn aeth i Ysgol Ramadegol Castellnewydd Em- lyn i baratoi ar gyfer yr Athrofa yn Hwlflordd. Pan yn 18 oed aeth ar daith bregethu trwy Forgannwg, a phregethodd yn rhai o brif eglwysi ei Gyfundeb, ft derbyniodd, meddir, at- wadau i'w gweinidogaethu oddiwrth nifer o honynt. Yn y flwyddyn 1864 cychwynodd ei yrfa fel efrydvdd yn Athrofa Hwlffordd, y pryd hwnnw dan lywyddiaeth y Parch. Thomas Davies, om ?is Dav i es, D.D. Yn ystod y cvfnod yma derbvn- iodd bedair o alwadau, dwv o'r Gog- ledd a dwy o'r Deheudir. Derbyniodd yr alwad o Salem, Maesteg, ac or- deiniwyd ef yno yr wythnos gyntaf o Fai, 1867. Dan ei bregethau grymus aeth y capel yn rhy fychan i gynnal y bob!, ac adeiladwyd Salem Newydd. Agorwyd y capel newydd yn 1872, ac ynddo le i dros 3,000 o bobl i cistedd. Erbyn dydd yr agoriad yr oedd y gweinidog wedi casglu i gwrdd a'r draul. Bu yma yn gweini- dogaethu am iieg o flynyddau; der- byniodd yn ystod y cyfnod 700 yn aelodau, a bu yn offerynol i gasglu .£'4,5°0 at wahanol achosion. Yr oedd crbyn. hyn wedi cyrraedd i gryn nod fel siaradwr cyhoeddus, a galw mawr a mynych am ei wasanaeth. Derbyn- iodd alwad oddiwrth Eglwys Belle Vue, Abertawe, ond yr oedd yr eglwys ym Maesteg yn anfoddlon iddo dorri'r cysylltiad a hwy, a chynygiasant i'r I, cglwys yn tynnent yr alwad yn ol. Ond torri y cysylltiad a wnawd, a sefydlodd Gomer yn Belle Vue Mawrth iaf, 1878, a rhifai yr eglwys y pryd hyn 44 o aelodau. 0 fewn pedwar mis yr oedd yn rhifo 2S0 o aelodau, a'r capel wedi bron yn rhy fach i ddal y cynulliadau. Gwel- vyd fod yn rhaid cael capel ehangach, a sicrhawyd darn o dir oddiwrth aw- durdodau y dref yn Orchard Street am ^330. Yma yr adeiladwyd Capel (;omer ar draul o ^,4,500. Llvwydd- vvyd y seremoni o osod y cerrig syl- faen gan Faer Abertawe .fHenadur Thomas Freeman), a gosodwyd un o'r cerrig gan Syr Hussey Vivian (Ar- glwydd Abertawe, wedi hynny), ac ymhlith yr enwogion oedd yn bresenn- 01 yr oedd Dr. Davies, prif athraw Coleg y Bedyddwvr yn Hwl- j If oi-dd. Galwyd yr adeilad newydd yn "Gapel Gomer," ar ot yr enwog Joseph Harris (Gomer), fu yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn yr un heol ddechreu y ganrif ac a adweinid y pryd hwnnw wrth yr enw Back Lane. Nid yr un yw Eglwys "Capel Gomer ar eiddo Joseph Harris. Gelwir honno yn awr Bethesda, a'i gweinidog ydvw j' y Parch. David Price. Eistedda mil o bobi yn hawdd yng Nghapel Gomer. Agorwyd ef Mawrth iaf, 1891. Cvn- baliwyd cyfarfod ymadawol yn yr hen gapel yn y boreu, ac yna awd i'r un newydd, pan bregethodd y gweinidog. j Yr oedd' y swm o ;4 2,6oo wedi ei chasglu at y gost, ac apeliodd Gomer am ychwaneg. Un o'r canlyniadau oedd i'r Bonwr Ben Eans (Ben Evans & Co.), yr hwn oedd eisioes wedi cvf- ranu .{ roo anfon nodyn i fvnnv y byddai yn gyfrifol am gost vr organ, ond iddo beidio a'i wneud yn hysbys. Costiodd yr organ ^.400. Cynhyddodd yr eglwys yn gyflym o dan ddylanwad pregethau a phersonoliaeth y gweini- dog. Yn mis Rhagfyr, 1892, cyflwynwyd anrhegion lluosog i Gomer pan yn dathlu ei burned mlwydd ar hugain yn y weinidogaeth. Cadeiriwyd gan Mr. R. D. Burnie, A.S., Abertawe. Cyn- hw ysai yr anrhegion: anerchiad I hardd a chClfydd; ^100 mewn aur; arlun mewn olew o honno ei hun, etc. Pan yn diolch am danvnt, dvw- edodd Gomer y mae y ^100 yn eiddo i mi i gyd, ac yna dywedodd beth fwriadai wneud o llono, pum gini ar hugain i'r ysbyty, a symiau i sefyd- liadau v mudion a'r deillion, etc. Ymwelodd ar Amerig yn 1893, a chvchuynotTd ei daith yn mis Mai. Cafodd dderbyniad brwdfrydig ymhob man. Tyrrai y Cymry o bellder ffordd i'w glywed, a chafodd gyfarfodydd llwyddiannus, yn enwedig yn Scran- ton a chyfarfodydd Undeb y Bedvdd- vvvr yn Utica. Aeth i'r Amerig yn Gomer plaen, on daeth yn ol yn Gomer Lewis, D. D., a chanlyniad y daith hon oedd iddo gyfansoddi darlithiau ar y testyn- au canlynol Abraham Lincoln," "Ein Cenedl a'n Crefydd," "Gogon- iant Amrywiaeth," ac, wrth gwrs, "Ffair y Byd." Dywedir fod hon wedi ei thraddodi yn agos i 600 o weithiau, a'r rhan amlaf elai'r elw at achosion gweiniaid ac achosion dyngarol. (I barhau.) 1  *??*??'*???
Aberteifi a'r Cylch.
Aberteifi a'r Cylch. Van Efengyl. Mae r Efengylydd Hughes a'i Van a gyflwynwyd at wasanaeth y Cymry gan foneddiges o Loegr ar ymweliad a'r dref a'r cylch. Cynorthwyid yr Efeng- ylydd gan y Parch. Keri Evans yr wyth- nos gyntaf gan y Parch. E. W. Lewis, Abertawe, yr ail wythnos; a chan y Parch. Trefor Jones, Llanelly, yr wyth- nos bresennol. Credwn fod gwaith oa wedi ei wneud yn y dref hon a Llan- dudodch trwy'r genhadaeth hon. Cyfarfod Blynyddol. Y Parchn. Edryd Jones, Cwmaman, a Grawys Jones, Aberdar. oeddynt y cen- hadon yng Nghapel Degmel y Sul a nos Lun diweddaf. Cafwyd gwleddoedd breision ganddynt. a theimlir dylanwad y cyfarfodydd am amser hir. Damweiniau a Marwolaethau. Mae gennym i gofnodi yr wythnos hon am ddamwain i Caleb James, Tre- windsor, pan wrth ei orchwyl allan ar y caeau. Tebyg iddo gael kick gan y ceffvl. Mae hyd yn hyn yn argoeli gwella. Daeth Mr. Evan Bevan, Troedyrhiw, Meline. i'w ddiwedd drwy anffawd gyda'r olwyneg. Cafwyd ef yn farw ar ochr y ffordd, ac ni wyddis yn iawn pa fodd y digwyddodd. Cydymdeimlir yn fawr a Mr a Mrs Francis, Llan- dudoch, ar farwolaeth eu mab, John Francis. Daeth gartref o Gasnewydd heb fod yn dda ei iechyd. Collwyd ef o'r ty. a gwelwyd ef yn myned i fewn i Afon Teify a boddi. Gadawodd weddw a phlentyn i alaru ar ei ol. Digwyddodd damwain arall yn ymy1 Myrtle Hill, Llechryd, a brofodd yn angeuol i John Williams. Cic gan geffyl gafodd yntau. Dywedodd Dr. G. Edward Jones, y meddvg, yn y trengholiad, yrr-'byttlai gennym yn y cylch Ysbyty bychan. y gellid arbed bywyd llawer y digw,yrld damwain iddynt, am y gellid mewn lie felly gyflawni operations ar unwaith. Hyderwn y gwneir rhywbeth yn y cyf- eiriad yma. Gwerthiantau. Dyna glywir drwy y wlad y ddyddiau hyn. Mae perchnugion tiroedd yn gwerthu eu heiddo. beth bynnag all fod eu rhesymau. Mae hyn yn fantais i denantiaid i brynu eu ffermydd, a thrwy hynny ddod yn berchenogion arnynt. Gwerthwyd 2,800 o erwi gwerth yn agos i 240,000. Credwn y try hyn allan yn fendith fawr i amaethwyr ein gwlad i sicrhau gwrteithiad pob llathen posibl o'i tir. Gwna'r ffermwyr y goreu o'u tir am eu bod yn berchnogion arno. Tebyg mai ofni y Mesur Tirol mae y tir- feddianwyr. ond bydd eu gwaith yn gwerthu eu heiddo yn gosod arian mewn cylchrediad, ac yn rhoddi hawl i amaethwyr ar y tir a lafuriant. Rhwydd hynt iddynt ddywedwn ni. Marwolaeth. Drwg gennym gofnodi am farwolaeth Capt. Griffith Jones, Croesyllan, Blaen- anerch, yr hyn gymerodd le yr wyth- nos ddiweddaf mewn Ysbyty yn Vigo, Spain. Nid oedd ond tri mis oddiar yd- oedd wedi priodi. Ar bore y derbyn- iwyd pellebyr am ei farwolaeth. y daeth Ilythyr yn hysbysu ei briod ei fod yn dychwelyd adref am dro. Aberteifi. D. JONES.
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch.
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch. Llongyfarchiad i Ambulance Team yr Oniiwyn ar eu gwaith yn ennill y Darian (rhoddedig gan Gyngor Sir Morgannwg) ylll Mhontypridd dydd Sadwrn diweddaf. Y mae argolien am ddwfr bellach i'r Banwen a'r Dyffryn gwelir pibau y dyddiau yma yn gorwedd ar ochr y brif- ffordd, ond pa hyd y gorweddant yn segur, nis gwn. Y mae argolien am Eisteddfod dda yng Xghoelbren y Sadwrn nesaf. Y mae nifer y cystadleuwyr unigol yn llu- osog hefyd y mae pump o gorau yn bwriadu cystadlu ar y prif ddarn. Y mae Mr W. Williams, M.E., yn bwr- iadu symud i gyffiniau Caerffili. Teim- lir rhyw hiraeth o golli Mr Williams o'r cylch. o herwydd y mae yn ddyn hynaws a charedig, ac yn barod i roddi ei was- anaeth at bob achos dda. GLAN PYRDDIN.