Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

0 Bontardawe i Gaerdydd.

Trebr I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trebr I Ddydd Mawrth diweddaf bu priodas ddiddorol yng nghapel y Bedyddwyr Saesneg, High Street, Merthyr, rhwng y Parch. Roger Glyn Thomas, gweinid- og Eglwys Fedyddiedig Kensington, Aberhonddu, unig fab y lleygwr parchus Mr W. R. Thomas, Y.H.. Tymhordy, Treharris, a Miss Mary Carrie Griffiths, inerch y diweddar Mr Timothy a Mrs. Griffith, Bryn-yr-afon, Melin Ifan Ddu. Gv?asanaethwyd yn y briodas gan y Parch. W. Jones, Treharris, N,nghyda'i- Parch. J. Griffiths, Calfaria, Aberdar, ewythyr y briodasferch, a'r Parch. W. D. Nicholas, Treharris. Miss Maggie Griffiths, chwaer y briodasferch, a Miss Rebecca Thomas, chwaer y priodfab, a weithredai fel morwynion y briodas a Mri. H. Warren a Thomas Griffiths oedd y gweision. r oedd hefyd yn bresennol Mr W. R. Thomas, Y.H., a Mrs. Griffiths, Aberdar, modryb y briodasferch. Ar ol y gwasanaetli priodasol oedd bron i gyd yn Gymraeg, ymneillduwyd am foreufwyd i Westi eang a chyfleus y Grosvenor, ac wedi gwneud cyfiawnder a'r danteithion paratoedig. ymadawodd y par ieuanc am Landudno i dreulio eu mis mel. Dangosai y rhoddion costus a lluosog a dderjbyniwyd pa mor barchus a phobl- ogaidd yw'r ddeuddyn hyn. Yn eu plith yr oedd case of cutlery hardd gyf- lwynwyd i Miss Griffiths gan ei chyd- wasanaethyddion yn MaeJfa Gydweith- redol (Co-operative Stores) Treharris. a gyflwynwyd iddi mewn cyfarfod neill- duol gan Mr T. Andrews, Y.H., cyn dydd ei phriodas. Y roedd tyrfa o dri- golion Treharris yn Ilawen eu trem yn dymuno'n dda i'r briodas hon. I Carrie a Roger boed Uwyddiant digymar, A phopeth fo'n hygar bob awr, Eu llwydd ger yr Honddu mewn gras a ddaioni Fo'n cael ei goroni yn fawr Boed hedd yn teyrnaau mewn eglwys a theulu, A r ddau fyddo'n lion yn eu gwaith. Na foed i dreialon foyth boeni'r ddwy galon, Na gwneuthur eu llwybr yn llaith. EWYLLYSIWR DA. I

[No title]

I Danygraig, Pontardawy.I

ISoar, Pontardawy.

BWRDD Y GOLYGYDD.I

[No title]

I Er Cof. !

[No title]

Advertising