Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE j I Handy!" It's the handiness" of the I I Ford that establishes its unbounded B I popularity—especially with those who H ■ have driven heavier and more cumber- H ■ some cars. And the new low price makes H M it as handy to buy as it is economical fl H to maintain. H t Runabouts £125. Five-passenger Touring Car £ 135. ■ Town Car {180. Complete with full equipment, head lamps, H| side and tail lamps, horn, hood, windscreen, tyre pump, ■ repair outfit, two levers, tools and jack. All prices at Works, vianchester. H Full particulars from- 1 A. J. SHEEN, I ■ SOLE DISTRICT AGENT, I N ABERDARE. ,-¡:,i' :,<S{'r'(.f.
Eisteddfod Aberaman, Mehefin…
Eisteddfod Aberaman, Mehefin 2, 1914. BEIRNIADAETH Y FARDDON- IAETH. Y CYWYDD—"YR EGINYN." (4) YN Y GOLEU.-Pryddest felus iawn, yn darllen yn rhydd, ac yn cyn- nwys cyffyrddiadau byw, a tharawiad- au hapus iawn. "Teimlais y tan cyn rhoi fy nghyntaf gam, Gwelais y goleu'n llygad pur fy mam, 'Roedd tan ei chalon yn goleuo 'i gwedd, Ni saif yr eira'n hir ond ar ei bedd Ni ddaw yr awel oer i galon baban, A gwsg yn swn emynau Dolwar Fech- an. Mae'r darn canol ychydig yn wannach yn ol ein barn ni na'r darn cyntaf a'r olaf. Diwedda yn rhagorol iawn. Mae pennill fel hwn yn un gwir werthfawr "Fu yno ond dau ar eu gliniau- Mi wn faint fu'n uno'n y gan, Ond nis gwn i rif yr angylion Ddisgynodd i weled y tan; Mi dysgais gyfrinach fy nghenedl, Mi wn pam mae Cymru yn fyw, Rwy'n cofio mai'r berth sydd yn llosgi Yw'r berth sydd yn llawnaf o Dduw. Pryddest dlos, swynol yw hon. Hon a Marworyn yw'r oreu hyd yn hyn. (5) PERERIN.—Mae gan y bardd hwn lawer o bethau rhagorol yma a thraw—llawer syniad byw a llawer tarawiad prydferth, a thuedda weithiau at feiddgarwch. Mae ganddo lawer o ddychymyg a nerth, ond nid yw wedi aeddfedu. Y mae yn gymysglyd iawn -credwn mai awen ieuanc sydd yma, os felly daw yn fwy gochelgar a phwyllog yn y man. (6) PANTYCELYN. Canu yn fwyn a llithrig, ac yn hoff o dine cvnghanedd felus yn awr ac eilwaith. Canu yn syml a naturiol, braidd yn rhy lyfn a llonydd ar destyn mor Hawn o dan. Tuedda weithiau at ryddiaeth "Er dadleu o'r gelynion Breswyliant rhwng ein ceig, Mai anffawd blin i'r genedl fach Yw'r anwyl 'd&n Cymreig Mae ynom ni o anian Y dwyfol dan dinam, Cawn wel'd eu concwest cyn bo hir Yng ngoleu clir ei fflam." Mae'r ddwy linell olaf yn lied dda, ond y pennill yn rhyddieithol iawn, ac yn enghraifit deg o nifer o benillion allem ddyfynu. Mae i'r bryddest hon ragoriaethau amlwg yn ei symledd a'i naturioldeb a'i barddoniaeth gartrefol a dirodres, ond v mae iddi hefyd ei diffygion. Y mae ormod ar y ffin rhwng barddoniaeth a rhyddiaith—daw geiriau i fewn iddi nad oes ganddynt nemawr neges. Mae ei chymedrolder yn llyffethair iddi. Nid vw yr awdwr wedi Uwyr ymdaflu i fro hud yr awen ar y testyn hwn. (7) NO. 27.-Dyma ni yn ol eto yn nhiriogaeth dychymyg go gryf. Mae fflam gan hwn, a honno vn medru trywanu a llosgi, ond y mae'r Haw yn anfedrus braidd wrth ddal yr awenau. Cawn ddarn hanesyddol i ddechreu yn 'led dda, gydag ambell gyffyrddiad j gwych :— "Yn ei oleu aeth gwladgarwch Ieuan Gwynedd fawr yn fflam; Cododd faner yn ei ddolur, Llif o waed yn lliwio'i lafur Wrth ddinoethi trais a cham." Wrth draethu ar "Y Tan," daw am- bell air f el hyn "Pwy all ddirnad posibilrwydd? Anhawdd ydyw ei ddisgrifio, Gwir Duw sydd yn dadebru," a llu o linellau gweinaid tebyg. Ceir hyn yn gymysgedig a chyffyrddiadau awenyddol a bfeiddgar "Haul Cyfiawnder Dwyfol Gariad, Gododd lenni dwyfol loes, Llifodd y gogoniant allan Cymru sy'n anghofio'i hunan, Gwel'd ei gwynfyd ar y Groes. Telyn angel ddaeth i'r galon, Llam yr ewig ddaeth i'r droed, Gweled treiglo meini adfyd, Ac agoryd dor o wynfyd Na bu angel ynddo erioed." Pryddest feddylgar, gydag elfen o wylltedd hoffus ynddo, ond yn rhy an- wastad. 8) GONIER. Dechreu yn go wreiddiol: — "Pan greodd Duw y Cymro, Ymhlith cenhedloedd byd-" Mae gan yr awdwr hwnei ffordd ei hun o feddwl, ac y mae yn cadw ei wreiddiolder dechreuol hyd ddiwedd ei gan. Mae ei fesur a'i acen yn dra doniol weithiau, a'r cyfan yn ffurfio can na cheir ei chyffelyb yn fynych- ond nid oes fawr reol ar ei awen- weithiau ymollynga i ryddiaith hollol, yna ambell darawiad go- dda; yna dweyd ar ei gyfer am amser-wel, pryddest go ryfedd yw hon a dweyd y lleiaf. )9) MAB YR ALLORAU.—Wele'r bardd naturiol dirodres unwaith eto: Yn nyfnder enaid Cymro y mae Secina glan, Ac ar ei allor yno mae'r diamgyffred dan Yn hanes brywdrau Cymru ceir hanes cenedl lan; Yn cerdded drwy fforestydd trais a'i chalon fawr ar dan; A'i ffydd a'i sel yn wenfflam yn nyfnder pob pruddhad, A'i heiyf gwladgarol yn ei llaw fel mellt yn nos y brad, Tra cof am fedd Llewelyn tra derw uwch ein creig, Ni all estronwynt ddiffodd nerth y gwladgar tan Cymreig." Dyria ddull yr awdwr o ganu. Mae ganddo gynllun naturiol fel ei awen, a'i ddull o fydryddu yn llednais fel ei feddwl. Cymer hon ei lie ymhlith y goreuon. (10) ACEN FFYDD. Pryddest wastad, lan, gref, yn drefnus ei chyn- llun, ac yn ddidramgwydd ei syniad- aeth. Mae swn gormod ymdrech yma weithiau ac ambell air llanw i wneud i fyny hyd y llinellau, "yng nghein- berth Horeb," "nef-hyawdledd," "nef-gynghanedd," rhos-lwyni moes a rhinwedd." Weithiau cymerir ef ymaith gan rwysg ei fesur, ac ym- ollynga i ryw fath o siarad hyawdl, heb ddigon o feddwl. Mae mynd rhwysgfawr yn hon, a llawer o'r "tan" ynddi, ond nid yw yn llosgi mor eirias ag yr ymddengys ar y dechreu. Mae'r fflamau weithiau yn rhuthro yn uchel, ond diffoddant yn rhy fuan. Nid yw'r tan yna yn llosgi yn ddigon clir a cfiyson. (I barhau.)
Advertising
FOR PRICE I LIST. M? MMntWB BELM and HARNESS N ME B?URMTEB RIVETS. Cy Noneed topuncb holes. Simply drive Rivets, and bend back ^8B the prongs. Neat and strong. lof all ocaal Iron- mongers. or r send I/- for box (assorted) to
Eisteddfod Gadeiriol Carmel,I…
Eisteddfod Gadeiriol Carmel, I Pontlliw, Mehefin 13,1914. Beirniadaeth y Bryddest, "Rhagot Gymru (Parhad.) Hen Werinwr.—Dyma ychydig add- fetach bardd, ond nid yw yntau'n ddi- frvchau, e.g., Ystwyth (c)edyrn draed," a'th (f)laduriau," etc. Gor- mod o undonedd yw dechreu 11 o ben- hillion gyda'r ymadrodd Rhagot Gymru." Dengys y pennill hwn yr ym- geisydd yma yn ei oreu a'i waethaf: Rhagot Gymru, yn dy fynwes Cured calon wrol fawr, Ac yn nyffryn Elah Gormes, Y Philistiaid taro i lawr; Cred yn Nuw, hen Dduw ein tadau, A bydd ef o'th blaid yn rym, Paid ag ameu yr hen eiriau Sydd yn wir 'Heb Dduw heb ddim.' Ceir cymhariaeth gref i agor, a rhydd- iaith noeth i gloi, ac felly y mae drwy- ddi. Barddonir yn rhy ddarniol, a charasem fwy o newydd-deb. Gwladwr.—Wele ni yn awr mewn purach awyrgylch, ac yng nghymdeith- as bardd fedr ganu yn dda a chyn- llunio'n farddonol. Sal er hynny yw Salsbri nid oedd wedi dysgu Cymraeg i'r efengyl fad, Paul nid oedd wedi pregethu Cymraeg hyd lechweddau'r wlad." Prif fai'r bryddest hon yw ei bod yn or- mod o hanesgerdd; adolygu'r dylan- wadau fu'n gwneud Cymru wneir, ac nid oes yma nemor broffwydo am ddy- fodol. Ceir yma amryw benhillion yn yr arddull gyferbyniadol yn ein had- gofio o Sub Rosa," bardd adna- byddus. Gedy'r bryddest dda hon yr argraff mai bardd hen fod ar ei oreu a'i gwnaeth mewn brys. Un o'i Phlant.-Pryddest delynegol yw hon, wedi ei chanu, i gychwyn, mewn cypledi tlysion, yna mewn pen- hillion byrion a swynoi. Ceir ynddi ryw eco fabinogaidd, a lfawer iawn o dynerweh. Nid oes iddi gynllun clir, canu braidd ar ei gyfer wna'r bardd, a thramynychir y gair "Rhagot." Nid oes nerth a chryfder yma, y mae'r ar- ddull yn rhy flodeuog ar destyn o'r fath. Mwynheir y farddoniaeth yn fawr wrth fynd drwyddi. ond ar y diwedd anodd sylweddoli hyd pa lwybr y daethom, gan nad oes yma ddim wedi ei argraffu ar y cof. Bardd diamheuol dda yw Un o'i Phlant," ond y mae yma rai wedi teimlo'r testyn yn ddyfnach. Eco'r Dyfnder.—Dyma bryddest led wreiddiol, ar y mesur diodl lluosill,— Hiawatha'r bardd Americanaidd roir fel rheol i'w ddynodi. Mae ol meddyl- iwr addfed ar y gwaith hwn, yn enwedig y caniad cyntaf, er fod tuedd at rydd- iaith tua'i ddiwedd. Byrrach a gwan- nach yw'r ail ganiad, lie daw cerddor- iaeth dan sylw, ac yn y trydydd caniad. lie y daw'r bardd a'r lienor dan sylw, anodd gwybod pa un ai o ddifrif ynte o fregedd y cenir Paid a goddef gan dy awen I delori i'r eilunod Mae'r prydyddion yn addoli; Gyda'r awdlau a'r pryddestau, Na gwastraffu nerth nac amser Gyda'r englyn, chwaith na'r cywydd Sydd yn marw heb weld golau." Caniad gwir dda yw'r pedwerydd, lie y cyfeirir at y genhadaeth, ac y mae'r bryddest, a'i chymryd oil yn oil, yn wir dderfcyniol, ac ol meddwl cryf a gwr- teithiedig arni. Gerallt Myrddin. Rhannodd efe'i waith i bedwar caniad: Ar lwybr Anni- byniaeth; ar noddfeydd Seion; ym mrwydr cyfiawnder yng ngoleu addysg. Dichon y gellid cael gwell uchafbwynt drwy ad-drefnu'r caniadau. Y mae'r arddull gan hwn yn fwy dieithr, a char ddwyn i fewn i'w waith eiriau fel lwrw, drin, gawr, sarnau, gwerlin, etc. Mae yma lawer o gyfriniaeth. a pheth an- ystwythder. Barddonir y trydydd can- iad yn dda am dipyn, ond tua'r ddiwedd ymylir ar ryddiaith, ac ymddengys y gwaith fel adroddiad meddyg neu swyddog iechydol. Y mae llawer o nerth yn y bryddest hon, a pheth niwl hefyd am rai o'r syniadau. Llais Uwch Adlais.-Dyma bryddest uwchraddol ymhob ystyr, ei harddull yn awenyddol, yr iaith yn goeth, y cyn- llun yn hapus, a drychfeddyliau gloywon iawn ynddi. Efallai y medrai yntau wella ar ei gynllun drwy ei ad- drefnu-gadael i'r bardd a'r macwy siarad ar ol y derwydd, o flaen y sant. Dichon fod y trydydd caniad yn ymylu ar fod yn fwy hanesyddol na phroffwyd- oliaethol. Yn y bryddest hon y cyfunir swyn a nerth, tlysni a chryfder. Cedwir Cymru o hyd yn y golwg; mae yma adsain yr hen Gymru. a drych o'r Gym- ru newydd. Mae'r cystadlu rhwng y pump olaf yma yn dda, ond nid oes le i amheuaeth nad y fcryddest fwyaf barddonol ei har- ddull a'i chynllun yw eiddo "Llais Uwch Adlais," ac fod ei hawdur yn deilwng iawn o gael eistedd yng Nghadair Pont- lliw, 1914. BRYNACH. ■
[No title]
Gwnaeth y Cynghorwyr Ogwen Wil- I liams a George Powell waith call i wrthwynebu cais am agor masnach ar y Sul ym Mharc Aberdar. Y mae'r ddau gynghorwr hyn yn deall eu gwaith, ac yn gwneud y Cyngor yn deilwng o'r ymddiriedaeth a roddir ynddo.
Colofn y Gohebiaethau.1
Colofn y Gohebiaethau. 1 "GWIGWYL" NEU "GWIBWYL." I Syr,—Pan yn galw cyfarfod Adran Dwyrain Morgannwg o Undeb y Cym- deithasau Cymraeg i Gaerffili pwy ddydd, defnyddiai'r ysgrifennydd medrus, Arthen, y gair "Gwigwyl," a gwelais nodiad ar hyn yng ngholofn y Welsh Gossip" yn y "Sou'Ji aies Daily News," ond pan yn darllen yn y "Darian" yn ddiweddar lythyr Talnaut sylwais mai "Gwibwyl" a dÙényddiai ef pan y disgrifiau ymweliad Y.-gol Sabothol y "Triniti," Abertaw^, a Phenllergaer. Carwn wybod, '1 r. GJ pa air yw'r gore. Gallwn feddwl y gol- ygai'r gair "Gwigwyl" ymweliad a rhyw goed neu gilydd, sef gwyl mewn gwig, tra y golyga "Gwibwyl" wyl mewn gwib i rywle.—Yr eiddoch yn gu, Abertawe. MORLAIS. [Ni ddigwyddasom weled "gwigwyl" o'r blaen, dichon v ceir gair gan Arthen. GoL] Y COR MAWR. Mr. Golygydd,— Fel mae yn hysbys i'ch miloedd dar- llenwyr fod bwriad i gael cyfarfod adun- iad o'r aelodau o'r Hen G6r uchod, sydd yn fyw, yn Aberdar yn ystod y mis hwn (Gorffennaf). Yr oedd Arglwydd Merthyr yn garedig wedi addaw cyf- lawni yr hyn oedd yn angenrheidiol cr gwneud y cyfarfyddiad yn un hapus. Ond fel mae yn hysbys, mae Arglwydd Merthyr yn wael ei iechyd mewn Ys- byty neillduol yn Llundain. (Da gen- nym er hynny hysbysu ei fod yn raddol wella.) Mae y pwyllgor wedi llwyddo i gael gan Miss Talbott, Margam Ab- bey, i roddi y croesaw. Felly bydd y cyfryw yn cael ei gynnal ym Mharc Mar- gam prynhawn Iau, Gorffennaf 30, 1914, am 2.30. Pawb a fydd yn dyfod gyda'r tren i godi tocyn i orsaf Port Talbot. Bydd cerbydau yno yn aros er cludo'r aelodau i'r palasdy. Dymunir yn daer ar i bawb oedd yn aelodau ac a fwriad- ant fod yn foresennol, i ddanfon eu hen- wau a'u cyfeiriad presennol i'r ysgrifen- ydd, Mr A. J. Phillips, The Mount, Clytha Park, Newport, Mon., o hyn i'r 20fed o'r^mis hwn, er cael tocyn myn- ediad i mewn i'r pare. Mi a hyderaf y bydd i bawb wneud hyn yn ddioed, er hwylusu y gwaith. Cewch linell eto cyn hynny. Yn rhwymau can, EOS DAR. I HEN WLAD FYINHADAU." Mr. Golygydd,— Y mae'n hen bryd i genedl y Cymry adael heibio hen draddodiadau a ffurf- iau penllwyd y gorffennol. Y mae dull y byd yn mynd heibio, ac anghenion yr oes yn newid. Pa ddiben glynu wrth hen bethau beunydd a byth gan esgeu- luso bob cyfle i fod yn ddefnyddiol? paham na fyddwn yn fwy up-to-date 1 Dyna'r Cymry brwd hynny yn canu Hen wlad fy nhadau yng ngornest fawr Freddie Welsh pwy ddydd-mor wrthun y cyfan Pa gymhwyster oedd yng ngeiriau a brawddegau Ieuan ap Iago i'r fath amgylchiad ? Onid gwell fuasai argraffiad arall, mwy pwrpasol, i roi mynegiad i'r teimlad cenhedlaethol7 Rhad arnom! Y breuddwydwyr an- fuddiol! Pa hyd y parhawn yn ein coegni? Yn wir, os na ddeffrown on trwmgwsg, fe dderfydd am danom cyn nemawr o ddyddiau. Cyfoded y beirdd achyfaddasent ein hanthem glodwiw at amgylchiadau newyddion y dydd, rhag cywilydd i ni. Hyd oni ddelont, cy. merer a ganlyn :— I Hen Wlad fy Nhadau." Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi, Gwlad gweilch a gwehilion, taljgon o fri, Rhai gwrol ddyrnodwyr, gorthrechwyr tra mad, Dros Fammon collasant eu gwa'd. Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad, Tra dwrn fel dur i'r bur hoff bau, 0! Jbydded i'r paffiwr barhau. Hen Gymru fynyddig, paradwys y ffwl, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd bwl; I deimlad dyhirol, mor swynol yw si Rhuadau, oernadau i ni. Gwlad, gwlad, etc. Os sathrodd diwygiwr fy ngwlad dan ei droed, Mae nerth hen arferion mor fyw ag erioed; Ni rwystrir y paffiwr rhag myned i'w stad Gan Kill-joys oernadol y wlad. Gwlad, gwlad, etc. —Ydwyf, etc., R.W I HEOLYCYW.— ACHOS Y METHOD- ISTIAID. Mr. Golygydd,— Gwelais yn "Nharian" Gorffennaf 2il fod y ffeithiau cywir a roddais yn y "Darian" am Mehefin 25ain wedi peri trafferth a gofid nid bychan i ohebydd y "Gazette." Dywed i mi ddweyd y buasai y capel yn eiddo i'r Hen Gorff cyn y gwelsai y llinellau hyn oleu dydd. Na, nid hynny a ddywedais. Os yw y "Darian" honno yn ei feddiant, edrych- ed iddi a gwel nad hynny a ddywedais. Yr hyn a ddywedais i oedd fod tebygol- rwydd y byddai y capel yn eiddo i'r Hen Gorff cyn y gwelai y llinellau hynny oleu dydd. Os metha ddod o hyd i'r Darian y cyfeiriaf ati, troed i mewn i'm trigfa a cha ei gweled, gan ei fod yn rhoddi y fath bwys ar y frawddeg, beth am y frawddeg honno o'r eiddo ef pan ddywed nad oedd a fynnai yr hen Gorff a'r mater o gwbl. Cafodd allan, beth bynnag, mai mater i'r hen Gorff ydoedd. Gyda chaniatad y Gol., rhoddaf iddo enwau y pwyllgor sydd yn gweithredu dros y Methodistiaid :—Parchn. James Llewelyn, Hermon, Penybont; J. Evans. Blaengarw: D. W. Howells, Pencoed; D. Mardy Davies, Ponty- cymer Mri. T. E. Evans, Y.H., Blaen- garw Iorwerth Thomas, Penybont; John Morgan, Penybont, a W. Howells, Y.H., Pencoed. Dynion profiadol a chymwys i'r gwaith. Nid oes angen i mi ac eraill ymlwybro i un o'r eglwysi a enwodd, er fod y drysau cofied yn agor o led y pen. Gwyr y gwneir yr eglwys yr ydym yn aelodau ohoni i fyny o Annibynwyr, Methodistiaid, Bedydd- wyr, ac Eglwyswyr ac yr ydym yn cyd- drigo yn gysurus gyda'n gilydd, a hedd- wch yn teyrnasu. Os oes rhywun yn terfysgu, gwyr y gohebydd pwy ydyw yn dda. iN-a fachluded yr haul ar ei ddi- gofaint, rhag digwydd iddo beth a fo gwaeth. Paham yr a y dyn I r fath drafferth a helbul heb ddim achos, os nad yw o bosibl yn gweled y goleu coch ? Fe ga allan fod mwy o Fethodistiaid yn y cvlch nag a freuddwydiodd. Y mae y gohebvdd a minau yn hen gyfeillion er ys talm o amser bellach. Felly, afraid i ni fydd gwastraffu amser a gofod i ym- ddadleu ?'n gilydd. Felly, Mr. Gol yr wvf fi yn rhoddi pen ar y mwdwl. ??ddi-rgohebyddalwynTr? wrthfyn'dheibioc?Sgwp?d ° de fel arfer.—Ydwyf yn yr yspryd goreu, J. L. MORGAN (Creuddyn).
[No title]
? pethnewyddyn Ind?avw crefydd i addoli'r brenin. Bu co?eidwvr y gre-  honno yn addoli cerflun y Fren-  Victoria dro yn ol yng ?N?g"?' ei"" YTheswm i'r hen frenhines ?? ?d yr addoliad Y tro hwnnw <^dd am ?a; ei delw hi sydd yn y ddin- as honno. ?? i'r addoliad id'^n [n ffaith, bydd ? rhaid .ddynt gael delw'r brenin.
Advertising
Chwedlau Hamdden. Cyfres o ystrawn difyr Gan J.3TYWI JONES, Glais. Mewn Lllan, 1 s. Mewn Amlen Bapur, ge. Drwy'r Post, Is. 2c. a 104C. kw, óI Y digrif yw nodwedd fwyaf amlwg pob ystori, ond y mae ambell darawiad grymus a difrifol yn y llyfr; y mae'r moesoldeb dwys sy'n rhedeg drwy'r ystoriau, a'r syniad am chware teg, yn sicr o fod wrth fodd gwerin iach gwlad." -0. M. Edwards, Ysw., M.A., yn y Cymru. Rhwng difrif a chware, rhydd fon- clust i lawer arferiad a gwbl haedda'r driniaeth, ac y mae'n iechyd meddwl sylwi ar ei fedr i weinyddu'r oruchwyl- iaeth bono. Os gall unrhyw un ddar- sydd ?W Het) heb deim- i • »hpmi vn hoMi gan chwerthin y maeVn wrthrych t?turi a dweyd y llei- ? ?,wedi dMUen Y stori hon o'r bLndJ yn « Was o hyd. -Cemlyn yn y Western Mail- Yr oil yn fyw gan ddyddordeb ? ay!-  eraS. finiog, yr Awdwr ar gy- W • dau a bywyd Cymru ymhob gwedd ?.?fanoyn y Cardiff Times. Gellir eu cael tpwyo law aworthvvyp n "Dlrgelwch Dig neu Gyfrinach y Ffermwr Mawr." Gan J. TYWI JONES. t Ychydig gopiau o'r Nofel boblogiadd hon sydd ar law. Prls Is.; Trwy y Llythyrdy Is. 2d. Ceir hi o Swyddfalr Darian." neu trwy Lyfrwerthwyr.