Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Olynydd Syr Edward Annwyl.

Bethania, Aberdar.I

/Caerdydd.I

IAr Lannau Tawe.|

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Ar Lannau Tawe. Cynhaliwyd gwyl bregethu yn Hebron, Clydach, y Sul diweddaf, a'r Parch. Lloyd Owen, o Bontypridd, yn pregethu yn hyawdl. Aeth aelodau Ysgolion Sul Hebron, Clydach, a Moriah, Ynystawe, am dro i'r Mumbles dydd Sadwrn diweddaf, a chawsant ddiwrnod dedwydd ar lan y mor. Bedyddiodd y Parch. T. Valentine Evans, Calfaria, Clydach, dri-ar-ddeg o fechgyn boreu Sul diweddaf. Daeth cynulleidfa lluosog ynghyd, ac yr oedd eneiniad ar y gwasanaeth. Enhillodd Seindorf Bres Calfaria, Clydach, y drydedd wobr yn nghystad- leuaeth Penygroes y Sadwrn diweddaf. Torrodd rhyw leidr i fewn i dy Dr. Havard Jones, o Heol Sant loan, Clydach, yn hwyr nos Sadwrn wythnos i'r diweddaf, a llwyddodd i ladratta swm o arian a phethau eraill gwerth tua 1:30. Cynhaliwyd te blynyddol dan nawdd Eglwys Wesley yn yr awyr agored yn Nghae'r Cwarr, Clydach, prynhawn dydd Iau diweddaf. Chwareuodd Or- chestra Wesley, dan arweiniad Mr Fred Robins, nifer o ddetholiadau yn ystod y prynhawn. Dymunaf unwaith eto longyfarch fy nghyfaill, Mr D. Emrys Evans, M.A., ail fab i'r Parch. T. Valentine Evans, Calfaria, Clydach, ar ei etholiad yr wythnos ddiweddaf i Fellowship o Brif- ysgol Gymru. Mae y Fellowship yn werth JB125 y flwyddyn, ac yn daladwy am dair blynedd. Flwyddyn yn ol enill- asai ysgoloriaeth Meyrick yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Un o feibion mwyaf disglaer Clydach ydyw Emrys, ac mewn anrhydedd yn y gymdogaeth. Clywaf i Mr John T. Jones, Gwalia Stores, Heolnant, Clydach, werthu ei geffylau yr wythnos ddiweddaf. Mae'n debyg y gwelir ef a'i eiddo yn chwyrn- ellu mewn motor car y dyddiau nesaf. Cymered ofal o hono ei hun wrth fynd heibio'r conglau. Digwyddodd damwain dost i'r brawd Tom Nicholas, o Salem Terrace, Clyd- ach, pan wrth ei waith ar siding Glofa Mardy ddechreu'r wythnos ddiweddaf. Aeth un o'r cerbydau glo dros ei draed, a chafodd niwed mawr i'w fysedd. Clywaf sisial i ryw lane dorri mewn i dy yn Ynystawe yr wythnos ddiweddaf, ond ni ladrattodd ddim-mwynhaodd ei hunan trwy chwarae ar y piano! Di- grifol iawn ydyw'r syniad o'r burglar yn torri mewn i dy, ac yn esgeuluso ei waith yn swn melus cerddoriaeth. LLEW.

Nodion o Frynaman.I

- - -Nodion o'r Maerdy.i

[No title]

I Ferndale.

Goheblaethau.I

I Colofn y Beirdd.

I CADAIR PENIEL GREEN.