Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
A CERTAIN YOUNG COUPLE ARE MISSING. The Wonderful Bargains now on offer In the vast Selection of HOUSEHOLD FURNITURE, CARPETS, LINOLEUMS, &c., held by BEVAN & COMPANY. Ltd., Swansea, Cardiff, &c. PRESS OPINIONS. The Firm stands in the front rank of the fur- nishersof the United Kingdom."—Newport "Argus," December 4th, 1913. To have honourably conducted a business for such a long period until it has attained its present huge proportions with Branches in all the principal towns in South Wales is surely a just reason for pardonable pride."—Cardiff Western Mail," December 17, 1913. Generations of uninterrupted trading has made the name of Bevan & Company a Household Word throughout South Wales."—Swansea Daily Post," December 20th, 1913. or £ s. d. Everlasting full-sized wire-woven MATTRESSES, from 0 9 11 Full-sized home-made FEATHER BED and BOLSTER, from 1 12 6 VERY massive two-inch pillar BEDSTEADS, from 1 12 6 The Largest Selection of OVERMANTELS in this part of the King- dom from 0 12 6 An Excellent Stock of DINING-ROOM SUITES, from 3 19 6 A Fine Array of DRAWING-ROOM SUITES, all coverings, from 7 17 6 Walnut SIDEBOARDS in great variety, plat-glass backs 3 16 6 £ s. d. Expanding DINING TABLES, from 1 12 6 Handsomely-bordered CARPETS, ready for laying, from 0 18 11 Capital AMERICAN ORGANS (ten years' warranty), from 7 12 6 The excellent 'COTTAGE' PIANOFORTE Full Compass, Handsome Walnut Case 15 15 0 The celebrated "PRINCIPALITY" PIANO (hundreds sold. A splendid Instrument in every particular 29 8 0 I GENERAL PARTICULARS. Terms:—CASH OR CREDIT! Prices :-VERY LOWEST POSSIBLE! Delivery :-FREE UP TO 200 MILESr I Catalogues: GRATIS & POST FREE!
Y Stori. I
Y Stori. I NANNO. BYWYD PENTREFOL YM MON. GAN J. TYWI JONES. I PENNOD VII.-CHW ARAE CROGI. I (Parhad.) Ac er yn bryderus gyda golwg ar y cynllun, yr oedd Nan Dafis yn barod i neidio at rywbeth a ddygai ryw fath o damaid iddi hi a'i phlant o rywle heb- law drwy ddwylaw Sparcer. Amcan Jac oedd gwthio Owan bleh i ffafr gyda'r ffermwyr wrth fynd a dod yn eu plith. Os llwyddai, gwyddai yn dda y byddai eu cydymdeimlad hwy yn well o lawer nag eiddo'r plwy'. Y mae rhyw- rai y cara ffermwyr weled eu hwyn- ebau, ac y mae rhoddi rhywbeth yn ffordd y rhai hyn mor naturiol iddynt ag yw i'r dwr redeg tuag i lawr. Dech- reuodd Jac ar ei waith y noson honno. Cyflwynwyd Owan bach ganddo i lawer fel partnar a gymerasai i'r "fusnes," er mwyn ei achub ef a'r teulu o fachau Sparcer. Ac yr oeddent yn ddieithr- iad yn gwahodd Owen i "no l piseraid o laeth," neu "dipyn o datw." "Rwan, Owan," meddai Jac wrth ymadael, 'rwyt ti'n gwel'd sut ma petha'n gweithio, digon o gywion cwningod hefo'r llaeth a'r tatw yna, a gwerthu'r wya acw sy gynnoch chi i gael bara a darn o'r mochyn i dalu rent, fydd dim isio i chi fynd ar gyfyl yr hen Sparcer. Chei di fawr am y cwningod wyt ti'n werthu rwan, ond ti gei bris da yn nes ymlaen. Ty'd ata i i'r Henfwth bora fory i ni gael gneud rhwbath i grogi Sparcer. Fedra i yn 'y myw fod yn hapus rwan nes bydd o wedi hangio, ar ol i feddwl am y peth. Ond paid ti a dychryn dim, Owan, gei di fod yn ddigon pell pan fydd o rhwng nef a llawr, os na fasat ti'n leicio eael cip arno fo. Ond faswn i'n lecio iddo fo gael gweld fod gan hogyn Nan Dafis ryw law yn y darpariadau. Paid a deud wrth dy fam na neb be' fydd yn mynd ymlaen yfory. Nos dawch 'rwan." Yn ochr y gat oedd ar ben Ion yr Henfwth, yr oedd camfa gerrig, o'r fath a welir yn ami yn Mon, i'w defnyddio pan alwai rhywbeth am i'r gat fod dan glo. Gwelid Jac Martin a'i brentis y boreu dilynol yn parotoi i weithio wrth y gamfa hon. Yr oedd ganddynt lif, bwyell, morthwyl, a phentwr o hen goed at eu gwasanaeth. Gwneyd rhywbeth oedd Jac, meddai ef wrth y rhai a holent, i rwystro'r defaid fynd dros ben y gamfa. Ond ni welsai neb erioed y fath ddarpariaeth i rwystro defaid. Talai holl drigolion y pentref yn eu etro ymweliad a'r lie. "Wei, wel," meddent wrth eu gilydd, "po hwya bydd dyn byw, mwya wel a mwya glyw." Gwawdlyd anghyffredin oedd Sparcer pan ddaeth ef heibio. Wait, Sparcer, till you see the con- sequences," meddai Jac. Pwy dd- o gonsicwensis sy' i rwbath fel hyn? Wyddost ti ddim o ystyr dy Sysnag, yr Aj) Anga' Mochyn," meddai Sparcer. Wait till you see them, Sparcer," oedd unig atebiad Jac. Gwnaed darpariaeth gywrain anghy- ffredin i rwystro'r defaid. Rhyw fath o ffram ydoedd; un tu iddi yn gorffwys ar ben maen uchaf y gamfa, a'r ddwy gongl y tu hwnnw wedi eu sicrhau un yn y cilbost a'r Hall yn y clawdd cerrig. Gogwyddai y tu arall at y ffordd fawr. Yn nghanol y ffram yr oedd twll crwn; o'r twll hwn at faen uchaf y gamfa yr oedd drws bychan i'w gau a'i agor. Pan ddeuai rhywun o gyfeiriad yr Hen- fwth, nid oedd ganddo ond myned i ben y gamfa, taflu'r drws bychan yn ei 01 a myned i lawr y grisiau yr ochr arall. Os byddai yn dal iawn byddai raid iddo wyro ychydig i fyned allan o dan y ffram. Pan elai rywun o gyfeiriad y pentref at yr Henfwth, elai ei gorph allan drwy'r twll fel yr elai ei draed i fynny'r grisiau, taflai y drws bychan yn agored a chamai drosodd i'r ochr arall yn hollol naturiol a didrafferth. Wedi gorffen y cywreinwaith, rhodd- wyd prawf arno gan lawer, a thystient y dylai Jac Martin gael patent ar y ddyfais. Chwarae teg i Sparcer, yr oedd yntau yn y diwedd wedi newid el farn, ac aeth drwy'r ffram ac yn ol am- ryw weithiau. Aeth mor bell hefyd a chaniatau y gallai fod gronyn o "sens" yn llechu ymhen Jac yn rhywle. Wait till you see the consequences, Mr. Sparcer," oedd atebiad Jac eto. Os mai consicwensis wyt ti'n dewis i alw fo, ma croeso i ti, ond mae o'n enw digri iawn ar beth fel hyn," meddai Sparcer. (I barhau.)
"Ar y Tramp." I "Ar Y ramp."…
"Ar y Tramp. I "Ar Y ramp." HANES TAITH FER I'R WLAD. (Parhad.) O'm blaen saif y lofa newydd, Pen- allta. Croesais y caeau i lawr tuag ati. Mae tai da gan y gweithwyr, a phopeth yn lan iawn oddiamgylch ymhob cyf- eiriad. Cefais foddhad mawr wrth weled glofa mor fawr yng nghanol y wlad. Brysiais tua Gelligaer, ac yno cefais ychydig seibiant a chinio yn yr Harp Inn. Ty mawr newydd yw hwn, wedi ei adeiladu ar y man lie bu hen Westy'r Delyn y dyddiau gynt. Bu yr hen dy yn enwog iawn, oherwydd ynddo y cyfarfyddai Iforiaid Catwg Ddoeth; ynddo cynhelid Eisteddfodau, yma y bu llawer ymdrechfa rhwng y beirdd. Yma bu Brychan Bach, Thomas Ap Gwilym, Walter Cosslett, Ieuan Ap Iago, awdur "Hen Wlad fy Nhadau," a llu o feirdd ereill na allaf eu henwi ar hyn o bryd, yn mwynhau eu hunain gyda thannau tynion telyn Dafydd Dafis, deiliad y ty. Bu canu anghyffredin yno ar yr hen bennill "H ufen ma wr y cwrw melyn." Dyma fe Y sawl a gano bennill gyda'r delyn I geisio gyrru gofid byd a'i benyd draw ar ffo, Datganed 'Hufen Mawr y Cwrw Melyn' A chaiff wenau pawb o'i gylch, Ac yfed gaiff o'i dro; Mae ambell awr yn deilwng i bob dyn O'i wythnos waith-fe ddylai nos Sadwrn a nos Lun. Hyn, heb au, sy'n lleihau oriau anni- fyrrus, Ac yn gwneuthur gwr yn fwy anghofus O'i holl helbul, a'i holl ofid blin. Mae ambell d'wniad heulwen rhwng cawodydd I'th teithiwr yn ychwanegu nerth, ac yn byrhau ei daith, Un wedd y gweithiwr caled, mawr ei glodydd, Yw ambell hamdden fach fel hyn, Rhwng blinion oriau gwaith; 0, delyn fad! mor ber yw swn dy dant! Helbulon byd ni ddont i'th wydd-ffy pob gofidiau i blant. Rhag dy lais cilia Sais—leddi'r ddyfais ddiafol, Ond i Gymro rhyfedd m6r gynwynol Yw swn dy dannau ar Wyl Dewi Sant. —Merthyrian. Credaf mai nid anfuddiol fyddai gair am y telynorion o Gelligaer. Y cyntaf y cawn son am dano ydyw Dafydd Dafis, neu fel y adnabuwyd ef, "Dafydd Pen y Garreg." Ganwyd ef yno yn y flwyddyn 1760. Yr oedd yn delynor gwych iawn, ond nid oedd i'w gymharu a'i fab, David Davies. Chwareuodd yn y man Eisteddfodau a gynhelid yn ei amser ef yng Ngwent a Morgannwg. Cystadleuodd hefyd yn Eisteddfod fawr Caerfyrddin, 1819, ond ni ddaeth yn agos i'r tri chyntaf. Ymdrechfa galed oedd hon, oherwydd yr oedd yno brif ddynion yr oes yn cynnyg am y "Delyn Arian" dan feirniadaeth Edward Jones, Llundain, Bardd a Thelynor y Brenin. Thomas Blayney, Telynor larll Powys, a orfu; Hy. Humphreys yn ail; a bach- gen 12 oed, Wm. Williams, o dref Caer- fyrddin, yn drydydd. Y mae hanes cyflawn o'r Eisteddfod fawr hon gennyf yn ddiogel. Yr oedd lolo Morgannwg yn hen wr ynddi, a Daniel Ddu o Gere- digion yn ddyn ieuanc hardd. Yr oedd Thomas Ap Gwilym, Cilfynydd, Eglwysilan, yno gyda Dafydd Dafis. Yr oedd wedi cyfansoddi pump o gan- iadau ar destynau a roddwyd erbyn yr Eisteddfod. Cyhoeddwyd hwy mewn 12 p. p. gan John Evans, Caerfyrddin, yn yr un flwyddyn, 1819. Wedi i Daf- ydd Dafis briodi aeth i w i Westy'r Delyn, Gelligaer, a bu farw yn y ty hwnnw yn y flwyddyn 1835. Aethum i'r Fynwent i chwilio am ei fedd, ond methais yn fy amcan. Daethum o hyd i fedd y mab a'r wyr. Dafydd Dafis yr ail a anwyd yng Ngwesty'r Delyn ar y 27ain o lonawr, 1819. Gan fod y tad mewn amgylchiad- au tra chysurus cafodd y mab addysg dda, a dygwyd ef i fyny yn delynor. Cafodd y darpariadau cyntaf gan ei dad, ac yna danfonwyd ef i ffwrdd tua Ffrainc am dair blynedd i orffen ei addysg gerddorol; dychwelodd oddi- yno yn bencampwr. Mewn ychydig flynyddoedd ar ol claddu ei dad priod- odd a Miss Margaret Price, o Blwyf Llanbleddian, Morgannwg, Yr oedd yn delynor galluog, a chymeradwy. Enillodd wobr yn Eisteddfod y Fenni yn 1838 am yr am- rywiaethau goreu o "Gader Idris," ac yn yr un flwyddyn enillodd Delyn Arian yn Eisteddfod Casbach. Gweler hanes yr Eisteddfodau hyn yn y Seren Gomer. Bu farw Tachwedd laf, 1835, a chladd- wyd ef ym Mynwent Gelligaer. Cefais I y bedd, a dyma sydd ar y garreg :— David Davies, of the Harp Inn, born January 27th, 1819; died Novem- ber 1st, 1855; age, 36. Margaret, wife of David Davies, Harp Inn, died July 3, 1855, age 36." Ar yr un garreg cawn fod Dafydd I Dafis y trydydd yn cael ei eni yn 1843, ac yn marw Mawrth 24, 1872, yn 29 oed. Yr oedd yntau fel ei dad a'i daid yn delynor gwych iawn. Yr oedd carreg arall gerllaw er coffadwriaeth am James Davies o'r Harp Inn, yr hwn a anwyd Mawrth 8, 1850, ac fu farw Tach. 18, 1875. Digon tebyg mai majb Dafydd Davies y trydydd oedd hwn. Nis gwn a oedd yn delynor neu beidio. Holais amryw a chwiliais amryw o hen lyfrau, ond heb ddod o hyd i ddim am dano. Wrth chwilio hen lyfrach daethum o hyd i'r englynion yma (1846) i Dafydd Dafis, Gelligaer, am ei gywreinrwydd yn chwareu y delyn: Cymru deg, gwel y delyn-yn nwylaw Dy anwylaf blentyn; O'i ddoniau peraidd ennyn Ei sain der, nes synnu dyn. Alaw wr ail i Arion-rhy hoff wawd Mae Orpheus ac Aphion; Nid hawdd yw cael unrhyw don Na chwery y gwych wron. Mawr awdur amrywiadau-yn addas Weinyddion i donau Try frwynion dynion dannau Y delyn yw dilyn wau. Mal tawai'i Arddor Mori,—a'i eulin 0 flaen Pagannini; Ein lion delynorion ni A dawant o flaen Dewi. Nerthol yw swynol seiniau,—ac eglwg Pan goglais ei thannau; Anadlant gyson odlau Lion o hyd i'n llawenhau. Archlywiwr uchel awen-car ddirwyn Cerddoriaeth ddiangen; Ehedodd mal o Eden A mawr lwyth o ffrwyth ei phren. Dyna englynion gwych dros ben yn gyfeirio at Dafydd Dafis yr ail digon tebyg. Nis gwn pwy yw'r awdur yn iawn. Gyda Haw dymunaf hysbysu y bardd a'r llenor coeth Dewi Aur yr Aber, gynt o Lan y Braenar, mai nid yng Nghaer- ffili y ganwyd Llewelyn Williams, Pen- cerdd y De, ond yn y Royal Oak, Aber- ystruth, Mynwy. Ffodd i Caerffili gyda'i fam pan alltudiwyd ei dad, Zephaniah Williams, y Chartist, am ei oes i Awstralia. Yr oedd Llewelyn Williams yn berthynas agos i Mrs. Thomas, y Ffactri, Caerffili, a chofiaf yn dda imi weled Mrs Williams a'i ferch yno lawer gwaith, a chofiwn yn dda am ei weddw yn byw yn y Rolling Mill Inn, y Blaenau, ac yno y gwelais y delyn odi- dog anrhegwyd iddo mewn cyngerdd yn Neuadd Ddirwestol Tredegar, gan Abraham Darby, Yswain. Yr oedd Llewelyn Williams a John Thomas (Pencerdd Gwalia) yn gyfeillion mawr, a disgybl Llewelyn Williams oedd John Thomas. Bu Llewelyn Williams yn byw yng Nghaerffili rhwng 1842 a 1858. Tua'r amser hwn ymadawodd am y Blaenau. Y mae'r ysgrif yn faith eis- ioes; os hydd rhagor o fanylion am dano yn dderbyniol i ddarllenwyr y ."Darian," danfonaf ysgrif fechan eto. t Yn wladgar, Caerdydd. JOSIAH JENKINS. I
bi SARZINE " BLOOD MIXTURE.I
bi SARZINE BLOOD MIXTURE. I CROEN IACH A GWAED PUR.— Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, llli a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. *?'' U .!f
[No title]
Agorwyd Swyddfeydd newyddion y Plwyf ym Mhontypridd ddydd Llun, Gorff. 20fed. Yr oedd yr adeilad yn werth £ 8,558. Dyma syniad o'r adeil- ad Un ystafell fawr i'r Bwrdd; 8 ys- tafell i'r pwyllgorau; 2 waiting rooms ystafelloedd i'r relieving officers; ac ys- tafelloedd eang i'r clerc a'i gynorthwy- wyr, a'r cofrestrydd geni a phrodi. 'Beth am y tlodion 1 Gwerir eu harian i wneud swyddogion yn foethus.
Tipyn o Bopeth o 1 Bontardawy.…
Tipyn o Bopeth o 1 Bontardawy. Arferaf ysgrifennu ar dipyn o bopeth ond credaf mai llith i'r beirdd fydd fy llith yr wythnos hon. Nos Fercher, y 15ed cyf., crynhodd y beirdd ynghyd i ireiddio ei brawd y Parch. Llewelyn Bowyer, ag olew yr awen, yn Festri Tanygraig. Nid aethum i yno o herwydd i'r ysgrifen- nydd fy anwybyddu. Cofied yr ys- grifenydd fod teimlad gan Brutus hefyd, a bod ei wrych mor barod i godi a neb. Yr oedd gennyf ychydig dri- bannau yn barod (mae fy mheiriant englynu gyda'r g6f), a bwriadwn eu hadrodd, ond dyna, beth dal i mi achwyn. Deallaf iddynt gael cyfarfod da, er fy absenoldeb. Pwy yw awdur yr englynion isod ddaethant i mi drwy'r post, heb enw, lie, na dim ynglyn a hwynt? Gwel yr awdur iddynt gyrraedd yn ddiogel. Gofaled anfon ei enw y tro nesaf, er i mi wybod pwy yw. "What a pity, Poeter,—a genius Like Janet the washer; Who strain, pain, without pros—per, Listing her own disaster. Sorry, let go th' insurance—why worry In errors and hindrance ? I say, Shan, there is a chance By Will, to keep the balance. Deallaf i Fardd y "Loco" wneyd stroke dda yn Nhanygraig. Os cerir ei broffwydoliaeth ef allan rhaid fydd codi lie i wneuthur celfi, a bydd hynny yn fantais i ryw rai i gael lie i ennill bara. 0 fy mlaen mae, un o englynion buddugol Eisteddfod Pontardawy i Wamalrwydd. Mae y llinell gyntaf yn pwyso bron yn gyfangwbl ar ffyn bag- lau, dilwydd, dilyw, diangor, nes mae y tri "di" yn ei gwneyd yn "ddinerth," ond mae y tair llinell ddilynol yn gwneyd ychydig o iawn am y cloffni. Nos Sadwrn, Gorffennaf y 18fed, yn Festri Soar, Pontardawy, bu nifer ar- bennig o feirdd a chyfeillion yn llon- gyfarch a chadeirio Mr. Tom E. Jones o'r Alltwen, ar ei lwyddiant yn ennill Cadair y Byrgwm. Fel cymydog, aethum i fewn, a siomedig iawn oedd- wn yn y cynhulliad; onibai am y di- eithriaid ddaethent ynghyd ystafell go wag fuasai yno. Nis gwn sut yr oedd cyn lleied o Eglwys Soar ei hun yno; awgryma hyn i mi na werthfawrogir talent mwy na phroffwyd gan ei chenedl ei hun. Mae yn gryn fantais i eglwysi'r ardal- oedd fod bechgyn o weithwyr caled yn rhoddi eu hamser i farddoniaeth ac yn llwyddo i ddringo i binaclau uchel an- rhydedd a chlod, a hynny trwy rwystrau diangen yn ami. Pan welaf ddifaterwch pobl, a'u diffyg cefnogaeth i dalentau ar feusydd lien, daw i'm cof y penhillion hynny dan y pennawd Y Pwn ar Gefn yr Awen." Wele bennill olaf y gerdd: Rhieni, er eich chwant, Gwrandewch am unwaith, Rhowch chwareu teg i'r plant Ar faes llenyddiaeth; Efallai, fam deg, bryd Dy fod yn siglo cryd I ddyn a sigla fyd A'i dalent helaeth. Llwyddiant i Tom ar faes llenydd- iaeth yw dymuniad BRUTUS. Holy Street, Pontardawy.
Advertising
Mae'r Cyllideb a'r Trethi Newyddion wedi poeni Ilawer, ond y mae Diffyg Traul, Bustl, Cur Pen, neu Flinderau'r Afu yn llawer gwaeth. Mater o lawenydd yw y gellir naill ai lleddfu neu iachau y rhai hyn gyda dogn prydlon ar ychydig o draul o BELENI LLYSIEUOL KERNICK. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 7 £ c., 131c., a 2s. 9c., gan yr holl, fferyllwyr.  ???? ? ??. Cttdewch Iml tltrad a chwi am I ?????y Anhwylderau Nerfol I =??y????????u?? Mae ein giau fel gwe blethedig 0 m M wifrau'r pellebr. Rheolir a maethir hwy gan ran o'r ymennydd adwaenir fel y canolfan gieuol. Dibynna cyflwr y canolfannau gi, uol ar gyflwr yr iechyd corfforol. Fan amherir mp yr iechyd corfforol cyd-ddioddefa'r K) ■ a- WF nerfau. Yr adeg hynny y poenir ni gyda nerfau "—cur pen, niwralgia, gwendid gieuol. Mewn achosion W | ??&? ,??  W felly 'does dim tebyg i Wincarnis,' ¥ ? ?? .? ? Gwin y Bywyd.' Mae Wincarnis' [ ? ?t-, 1 N yn fwyd cryf i'r nerfau sy'n gweith- ??1\ ?<   t\  ? redu'n union gyrchol ar y canol- t fannau nerfol ac a rydd iddynt V fywyd newydd a bywiogrwydd newydd. Mae'r canlyniad yn rhyfeddol. jjjjjjjt Dtcbrcnwch weft"n ttttm RBAD t Anfonweh am brawf-gostrel rhad o 'Wincarnis' —oid ei flas yn unig, ond digon i wneud lies. Amgauer tri stamp ceiniog (i dalu'r cludiad). COLEMAN & CO., LTD.. W. 169, Wincarnis Works, Norwich. "GwID y Bywyd" 1 Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. i MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel, for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w ohael mewn tri'ffurf. Mo. <George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. —George's Gravel Pills (label las) No. 3.—George's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvchau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Goohelwch Dwyliwyr I-Gofynweh ya eglur am "(George's Fills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PEBCHENOG- J. E. CEORCE, f4.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.