Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
PUMP 0 GANEUON NEWYDD. i HEN FWTHYN, FY NHAD (My Father's Old Home). Can i Contralto neu Baritone. Pris 6c. MAE LLONG FY HARRt'N DOD YN OL (My Harry's Ship is coming back). Can i Soprano. Pris 6c. BLODAU AC ADAR I MI (Birds and Blossoms). Prig Is. Y Tair uohod gan D. JENKINS. DYFFRYN HIRAETH (The Valley of Rest). Can i Contralto neu Baritone gan Bryceson Treharne. Pris Is. (Wedi ei dethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1915). ¡ GWENFRON. I CAn i Baritone gan Mr. Lloyd Edwards, Llundain. Pris la. Geiriau Saesneg a Chymraeg, Solffa a'r Hen Nodiant i'r pum' Can. Cyhoeddedig gan D. Jenkins, Mus. Bac. (Cantab)., Aberystwyth. ATTODIAD I 44 GEMAXJ PIAW3r..99 SEF CASGLIAD 0 DONAU, SALMAU AC YMDEITHGAN. Pris, H.N., 8c. Solffa, 6c. Nid oes braidd un Gymanfa Ganu gyda'r Methodistiaid nad oes rhai Tonau o'r uchod yn cael eu canu ynddynt. Gwneir gostyngiad mawr yn y pris am 100 ac uohod. DO YOU SUFFER FRONI EYESTRAIII ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT ANDTALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. c. F. WALTERS, F.B.M.C.. OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Yn awp yn barod Telyn Awen (Isaac Eurfin Baniarnin). Telynegion "erch, Gwladgarwch, aChrefy^d, P"Y.. Cdiri(,I, D=Adroddi.d.1, Ar 91 o wabanol deatynau, 18 yn eu mysg yn ddarnau buddugol. Prisl/ wedi eu rhwymo yn hardd 1/6 Cyhoeddedig gan yr Awdwr, ac ar werth gst, ISAAC EURFIN BENJAMIN, B.onheu og, Woodfield, Penrhiwceiber. ARCRAFFWAITH DA, GLAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Cyf., 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llythyr-gerdyn ceir Esiamplano Adroddiadau Eglwyslg, lestynau a Rbagleni Eiateddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, &0. Pellseinydd: Central 151. Coflwch yr enw- THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yn ei hol ein hawydd ni yw gyrru'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn cyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y gelfyddyd o Argraffa. ANFONWCH AM SAMPLAU. Prepaid Small Advertisement* Inserted at the following specially low rates: One week 4 wki. IS win I. d. a. d. «. d. 10 words 0 a 1 < < t 18 „ 0 a I i M » 1 0 I 0 7 < These charges apply only to the follow ing classes Of advertisements: Apart ments, Situations (Vacant or Wanted), To be Let or Sold, Lost or Found, and Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Poa&»> Orders or half-penny stamps. if not prepaid double rate will ba charged. Advertising and Publishing a.e. Cardiff Street, Aberdare. Y Terfysg yn yr Iwerddon. Daeth y Gwirfoddolwyr Cenedlaeth- ot i wrthdarawiad a'r heddgeidwaid ac a'r milwyr yn Nulyn (Dublin) dydd Sul diweddaf. Lladdwyd rhai a chlwyfwyd nifer fawr o'r bobl. Ymgais y Gwir- foddolwyr Cenedlaethol i ymdaith i'r dref ynglyn ag ymdrech i gael arfau wedi eu glanio arweiniodd i'r cythrwfl. Bu amser brwd yn y Ty pan godwyd v cwestiwn ddydd Llun. Dywedir na welwyd y fath don o frwdfrydedd yn torri tros y seddau Gwyddelig er dyddiau Parnell. Enynnir llid y Gwyddtelod gan y ffaith fod Carson a'i Wirfoddolwyr yn Ulster yn cael gwneud fel y mynnont, ac yn ddigerydd. Hys- byswyd yn y Senedd mai'r Assistant Commissioner of Police ar ei gyfrifol- deb ei hun alwasai'r milwyr allan, ac ymhellach i'r milwyr saethu heb orch- yinyn. Bydd ymchwiliad manwl i'r helynt. ■in.. Y DARIAN. Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylehoedd cymdogaethol. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf. Cyfeirier pod Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— GOLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i'r Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am l £ c. yr wythnos, ls.,7 £ c. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner blwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen dill yn unig yr anfonir hi trwy'r post.
DYDD IAU, GORFFENNAF 30, 1914.…
DYDD IAU, GORFFENNAF 30, 1914. "Eu Hiaith a Gadwant." Pwyllgor Gweithiol Undeb y Cymdeith-I asau Cymraeg. Cyfarfu hwn ym Moi-' ah, Myni-*I!,)g Nedd, prynhawn Sadwrn, Gorffennaf 25. a daeth yr aelodau yno yn bur gyflawn o agos a phell. Mewn ymddi vJan ar wahanol bethau cyn dechreu ar y gwaith cafwyd enghreifftiau a ddanghosent yn eglur yr angen am Undeb y Cymdeith- asau Cymraeg, a'r gwaith sydd i'w wneuthur. Un o'r enghreifftiau hyn oedd llythyr o eiddo'r Cyngh. W. Lewis, Penydarren. Anfonasid y llythyr hwn o Ferthyr wedi ei gyfeirio i Mr. Prosser, Craig-y-Don, Mynachlog Nedd. Er crwydro llawer methodd y llythyr a chyrraedd pen ei daith. Bu ym Myn- ydd Isa, Mold yn Llandudno, Clynder- wen, Shrewsbury, Pembroke, a lleoedd eraill, ond er crwydro llawer lie trwy dde a gogledd ni chyfarfu ymhlith sw.vddogion y llythyrdy yng Nghymru a neb a wyddai ymha le 'roedd Mynach- log Nedd. Dychwelwyd ef o'r diwedd i'r hwn a'i hanfonodd, a Not to be found wedi eu hysgrifennu arno mewn llythyrennau breision. Y fath esjboniad ar y gyfundrefn addysg sydd yng Nghymru! Ie, a'r fath ddiystyrrwch o hawliau Cymru ynglyn a gwasanaeth cyhoeddus-neb yn Llythyrdy Merthyr, nac yn unrhyw le y bu'r llythyr, yn gwybod am Fynachlog Nedd! H == Wedi'r cynrychiolwyr gyrraedd yn weddol gryno etholwyd Mr. Phillip Thomas, Castell Nedd, i'r gadair ond prin y cawsai ef yr awenau i'w law nad oedd Mr Lleufer Thomas yn cyrraedd ac yn eu cymeryd. Wedi cadarnhau cof- nodion y cyfarfod blaenorol, darllenwyd amryw ohebiaethau diddorol. Ymhlith y rhai yr oedd gohebiaeth oddiwrth y Parch. T. Phillips yn datgan cymer- adwyaeth Cyngor Undeb yr Annibynwyr i Undeb y Cymdeithasau Cymraeg ac yn addaw hyrwyddo ei ymdrechion o blaid y Gymraeg. Darllenwyd llythyr cyffelyb oddiwrth y Parch. E. P. Jones ar ran y Methodistiaid. Nid oedd Arthen eto wedi ysgrifennu at Ysgrifen- nydd Undeb y Bedyddwyr ond hyderir pan ddaw y bydd eu hatebiad hwythau yr un inor foddhaol. j Bu peth trafodaeth y tro hwn eto ar y Cymdeithasau sydd yn deilwng o ael- odaeth yn yr Undeb. Cryfcwyllwyd Cymdeithas Eisteddfod Tir larll a gyferfydd unwaith yn y flwyddyn. Barnwyd hi yn deilwng gan fod ei ham- canion yn un ag eiddo'r Undeb. Yr hyn a hawlia'r Undeb yw fod pob Cym- deithas a berthyn iddo yn bodoli i hyr- wyddo gwybodaeth ac ymarferiad o'r Gymraeg, yn dwyn ei gwaith ymlaen yn y Gymraeg, ac yn cadw'i chofnodion yn Gymraeg. Bydd bendith yr Undeb i bob Cymdeithas, neu bwyllgor, neu beth bynnag fo a wnelo hyn. Penderfynwyd fod tanysgrifiad y Cymdeithasau tuag at yr Undeb i fod yn 2s. 6c. i rai dan 100 o nifer, a ls. 6c. am bob 100 ychwanegol. Darllenwyd cyfres o reolau i'r Undeb gan y Bonwr D. Phillips, Pontypridd, a phenderfyn- wyd ei fod ef ynghyd ag Arthen, T. Mathews, Lleufer, a W. Lewis, i fod yn is-bwyHgor i gymeryd y rheolau i ystvr- iaeth bellach. Cyflwynwyd gohebiaeth Arglwydd Bute parthed Ysgol Hynaf- iaethol hefyd i'r Pwyllgor hwn. Daeth y cwestiwn o dderbyn rhai fel nawdd-aelodau o'r Undeb i sylw. Go- fynnwyd a ellid derbyn Sais yn aelod os cyfrannai tuag at y drysorfa. Siarad- odd Dr. Morgan Rees, Pontypridd, yn bybyr ar y mater hwn. Ni fynnai ef ar un cyfrif neb pwy bynnag yn aelod o'r Undeb er mwyn ei arian; yr oeddem bron yn disgwyl clywed y Dr. yn ddefn- yddio geiriau o eiddo'r Apostol Pedr. Barnwyd fod y Gymraeg yn well nag arian. Yr oedd yn dda gennym weled y pwyllgor mor iach ar y mater hwn, a hyderwn y bydd ei esiampl a'i ddylan- wad yn foddion i wthio tipyn o'r iechyd hwn i fywyd Cymru. Cafwyd ar ddeall fod Cymdeithasau newyddion i'w ffurfio yn y Rhondda Fach, yn Nyfed, ac yng Ngorllewin Morgannwg. Hysbysodd Mr Lewis Davies, Cymer, fod Dosbarthiadau Lien i'w ffurfio ym Mhontardulais ar gyfer y gaeaf nesaf, ac y bydd gan y Parch. Emrys James ddau ddosbarth ym Mhontypridd, ac nid un fel yn y gorffennol. Ceisiwyd gan Mr Lewis Davies alw sylw'r Cymdeithasau at y posiblrwydd o gael cynorthwy ariannol oddiwrth y Cyngor Sir i gynnal y dos- barthiadau hyn, ac i anfon hysbys- rwydd ynghylch y mater i'r "Darian" ac i'r "Welsh Outlook." Gadawyd y mater o wneud apel at yr Eglwysi, yr Ysgolion a'r Colegau i'r Cadeirydd. Siaradodd Mr T. Mathews yn gryf ar ddiffyg darpariadau Bwrdd Canolog Cymru i addysgu yn bi-iodol iiiewn Llen- yddiaeth Gymraeg. Hawliai ddysgu Llenyddiaeth Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd a lie teilwng iddi yn ogystal ag i Lenyddiaeth Saesneg yn yr Ysgolion. Gadawyd y mater o ddarpar llyfrau buddiol i blant i'w ystyried ym mhell- ach gan yr is-bwyllgor. Cafwyd ym- driniaeth ddiddorol iawn ar berthynas y Llythyrdy a'r Gymraeg, a chlywsom fod llythyrau a gyfeirid i Aberhonddu bron yn ddieithriad yn mynd i Gwm Rhondda yn gyntaf. Penderfynnwyd argraffu llawlyfr i'r Undeb yn cynnwys adroddiadau'r ysgrifennydd, y rheolau, enwau darlithwyr, ysgrifenyddion y cymdeithasau. etc. Ar ran yr ysgolfeistriaid a'r athrawon penderfynwyd anfon protest i Gym- deithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn erbyn ei chynnal yn ystod mis Medi. Gofynnir am ei chael yn Awst fel y gallo athrawon Cymru, ymhlith y rhai y mae nifer fawr o wladgarwyr a llen- garwyr, fanteisio ar yr wyl. Ac yn sicr yn Awst y dylid cynnal yr Eisteddfod. Ymddengys mai rhesymau gwael sydd dros ei chael ym Medi. (Ceir y gweddill o'r adroddiad ynghyd a'r Hwyl yng Nghraig-y-Don yn y nesaf. ]
Yr Etholiad yn Aberdar. I
Yr Etholiad yn Aberdar. I Bu Etholiad yn Aberdar dydd Llun i lanw'r seddau a ychwanegasid at y Cyngor Dosbarth. Wele'r canlyniad: Adran Llwydcoed (Un Sedd). J. Griffiths (LI.) 626 T. Lewis (Rh.) 531 Adran y Gadlys (Un Sedd). T. W. Griffiths (Rh.). 718 Enoch D. Jones (LI.) 555 Adran y Dref (Un Sedd). Williani Haggar (A.). 43y Rd. Morgan (A.) 364 J. H. Bruton (LI.) 258 Mrs. M. Richards (A.) 207 Adran Blaengwawr (Un Sedd). Wni. Richard Morgan (A.) 784 Wm. Lawrence (LI.) 438 Adran Aberaman (Tair Sedd). J. Martin (A.) 1260 Evan Jones (LI.) 961 John Evans (LI.) 700 Henry Williams (LI. A.). 655 Wm. Davies (LI.) 630
o Wy i Dywi.
o Wy i Dywi. GWERSI MEWN HANES LLEOL (Gan Lewis Davies, Cymer). DAU O'R CEDYRN. Ymhlith y llu man dywysogion oedd- ent a'u bryd yn bennaf ar dywallt gwaed gwelodd y ddegfed ganrif ddau reolwr Cymreig—Morgan Hen ym Morgannwg, a Hywel Dda yn Nyfed-oedd a'u gogwydd at bethau gwell. Gorfu i'r ddau ymladd, mae'n wir, a hynny yn galed-ond rheidrwydd yr am- seroedd osododd hynny arnynt. Erys digon o brofion mai heddwch a ddilyn nent pe caffai eu hanian chwareteg. Nid o wendid yr oedd y dyhead hwn ych- waith, canys os oedd rhyw nodwedd yn fwy amIwg na'i gilydd yn eu bucheddau. cadernid cymeriad ydoedd hwnnw. Gellid gyda chryn radd o wirionedd ddweud am ein cenedl o'r burned i'r nawfed ganrif nad oedd amgen na hanner gwar, ond pan ymddanghosodd y ddau dywysog uchod i osod pwys ar lywodraeth ddinesig rhagor na nerth cledd, cododd ein gwlad ar unwaith i awyrgylch uwch. Gresyn na byddai eu holyddion wedi meddiannu mwy o'u heglurder a'u hysbryd. Arbedai hynny foroedd o waed, ac ni buasai safle Cym- ru ymhlith y gwJedydd fymryn is. Bu Morgan Hen-fel yr awgryma ei enw-fyw y tu hwnt i gyfartaledd ein- ioes. canys honnir iddo weled 129 o flwyddi. Buasai hynny yn eithriadol iawn hyd yn oed ynghanol eyfferi yr 20fed ganrif, ond pan gofiom mai ymhlith rhyfeloedd y lOfed ganrif y digwyddodd, saif y rhyfeddod, os oes coel arno, yn fwy byth. Ddarllenasoch chwi rywbryd gan fechan Ceiriog yn Oriau'r Bore ar farwolaeth Morgan Hen ? Cofier mai pwysleisio henaint tybiedig Morgan wna y bardd a dim araB. Y sgrifennodd ein telynegwr en- wog amryw o ganiadau hanes heblaw hon, rhai o honynt megis Pryddest Syr Rhys ap Totuos sydd yn dilyn ac yn cy- hoeddi y ffeithiau mewn modd tarawiad- ol. Ond nid un o'r cyfryw ydyw Claddedigaeth Morgan Hen." Yn y cysylltiad hwn pwysig yw dweud mai nid heb graffu a chyferbynnu y mae 1 ni unrhyw amser dderbyn ffigyrrau a blwyddiadau yr hen gyfnodau. Pan y dywedwn fod hyd yn oed ein Brutiau goraf yn amrywio yn eu hamseriadau i'r un ffeithiau y mae yn eglur nad yw y rhybudd yn ddianghenraid. Gan i Forgan fyw yn ddiamheuol hir (a dwedwn hyn heb gylymu ein hunain wrth unrhyw nifer pendant o flwyddi) amlwg yw iddo gydfucheddu a llawer o bersonau hanesyddol oeddent yn Uai ffodus mewn hir ddyddiau. Ymhlith y rhai hyn yr oedd Athelstan, Ethelflida (merch Alffred Fawr), Edred, Edwy ac Edgar yn Lloegr, a Hywel Dda a'i feib- ion yng Nghymru, heb enwi dim ym- hellach. Gorfu iddo ymladd ag Ethel- flida o Fercia (dynes ryfelgar dros ben) a meibion Hywel Dda amryw weithiau, ac ymddengys iddo ddal ei dir yn lied lew yn eu herbyn oil. Anodd yw deall ei ymwneud ag Edgar. Ar un adeg byddent yn gyfeillion myn- wesol, yn fuan wedyn ceir hwynt gledd yng nghledd, ac erbyn edrych y drydedd waith byddent cystal cyfeillion ag er- ioed. Prinder ein gwybodaeth parthed eu perthynas a'u gilydd yn ddiau a'n rhwystra i esbonio y cyfnewidiadau sydyn yma. Nid oes gymaint tywyllwch am gweryl Morgan a meibion Hywel Dda. Ystrad Yw-y wlad gyfoethog rhwng Cryg- hywel a Henffordd, oedd asgwrn y gyn- nen. Hawlid hi gan y ddwy blaid, a mawr fu y brwydro am dani. O'r di- wedd cynhygiodd Morgan gyflafaredd- iad, ac nid oes dim ddengys ei fawredd yn fwy na'r weithred hon. Edgar, Brenin Lloegr, oedd y gwr canol i fod, ac wedi hir bwyso dyfarnodd y teyrn yn ffafr Morgan. Nid oedd Edgar yn ddi- eithr i un o'r pleidiau, canys yr oedd efe fel ei dadau wedi hawlio ac wedi cael gwarogaeth y tywysogion Cymreig fel peth naturiol a phriodol cyn hynny. Ond i wneud y warogaeth yn dynnach fyth penderfynodd yn adeg y dyfarniad hwn fynnu trichan jjen blaidd yn flyn- yddol oddiwrthynt fel arddanghosiad diamwys o'i uwch-arglwyddiaeth ar Gymru. Gwalch hirben oedd Edgar yn hyn o beth, canys heblaw cadarnhau bylfeini ei deyrnas gwaredai Loegr o bla'r bleiddiaid gyda llaw. Lliosogai y creaduriaid rheibus hyn yng nghilfachau Cymru, ac yn y gaeafau aent allan yn finteioedd gwancus ar draws deadell- oedd Lloegr er mawr golled i'w perch- nogion yno. Felly o leihau eu nifer yn y mynyddoedd lleiheid colled y gwastad- edd i'r unrhyw radd. Dywedir yn wir gan un o'r hen gofnodwyr i brinder bleiddiaid ymhen ychydig flynyddau wneud y gyfraith yn eu cylch yn ddi- rym. Diddorol yn y man hwn ydyw crybwyll mai yn Cregrina, Sir Faes- yfed, y lladdwyd blaidd olaf y Deheudir, a hynny mor ddiweddai- a'r cyfnod Tuduraidd. Sylwasoch chwi erioed amlyced ydyw enwau y creaduriaid drigent yma gynt yn ein henwau lleol presennol. Diwedd- wn y wers hon gyda nodi rhai o honynt. Ychwanegwch at y rhestr os ydyw o fewn eich gallu. Gwernbleiddiau (Ystradfellte), Gwal- y-fleiddast (Margam), Camrau'r Bleidd- iau (Abergwesyn), Blaiddfa (Maes- I yfed), Penhydd (Dyffryn Afan), Nanty- bwch (Llangynidr), Cwmrhydyceirw (Cwnitawe), Blaennant-yr-ewig (Cwm Nedd), Ciltwrch (Glasbury), Cwm- twrch (Blaen Tawe), Llwynmoch (Pen- deryn), Pantynioch (Margam), Cwm- bela (Maesyfed).
Rhai o Ryfeddodau yr Alfft¡…
Rhai o Ryfeddodau yr Alfft -1 GAN D. D. JONES, I Coldstream Guards, Chelsea Barracks Pan ddychwelais i Gymru ar ol byw am bum mlynedd yn yr Aifft, gofynnid i mi yn ami beth oedd, yn fy marn i, rvfeddod mwvaf y wlad honno. Nid oedd yn hawdd ateb. Mae yr Aifft mor gyfoethog o bethau anghyffredin. Fel rheol, ei hynafiaethau dynnant y sylw gyntaf. Mae yn llawn o olion gwareiddiad oedd mewn bri ar lannau v Nil bedair mil o flynyddau cyn Crist. Mae lluosogrwydd yr hen bethau yn gymaint o achos syndod ag eu cadwraeth anghymharol. Heblaw hyn, mae rhai o nodweddau anianyddol yr Aifft yn hynod. Nid oes wlad arall ar y ddaear lie mae pob dyn, anifail ac eginyn yn byw ar ddwfr un ffrwd. Pe sychai y Nil ni fyddai Aifft mwy; estynnai anialwch y Sahara i'r Mor CocFL Fel v mae, nid oes fywyd o un math end o fewn I ychydig hlltiroedd i'r afon. Heblaw ambell "oasis' cwm y Nil yw wlad yn gyfan. Lie na chyrhaedda y dyfroedd byw, nid oes ond tywtxi a chreigiau diffaith. Dyfrhau ei facs yw pwnc pwysicaf yr amaethwr yno, oblegid fod yr haul yn crasu pob eginyn nad yw ei wraidd mewn lleithder. Felly, mae i bob darn o dir ei gwteri a arweinia i'r ffosydd gariant y ffrydiau gwerth- fawr o'r afon. "Bwrw dy fara ar wyneb y dvfroedd; canys ti a'i cei ym mhen llawer o ddyddiau." Dyna oedd 'I hen drefn yr Aifftiwr. (iorlifiad yr afon vn flynyddol oedd y moddion i faethu a brashau y tir. 'Roedd i'r drefn honno anfanteision; ni chyr- haeddai y gorlifiad ym mhell; nis gell- id ei reoli, ac un enwd y flwyddyn yn id ei reo i i, ?tc uti c  unig geid oddiwrtho. 0 dan ddylan- wad y Ffrancod a'r Sacson mae yr hen drefn brydferth bron diflannu. I Heddvw mae cronfeydd mawr yma ac acw ar hyd yr afon yn cadw yn ol beth o lif y gaeaf a'i ollwng allan yn yr haf. Mae rheoli llif yr afon, fel bo dwfr yn barhaus, wedi cyfoethogi y wlad. Gwrteithir mwy o dir, ac yn lie un cnwd y flwyddyn codir tri. Ceir ambell ddiwrnod gwlawiog tua Mawrth ac Ebrill; fel rheol, dim rhagor drwy y flwyddyn. Ni welais eira yno o gwbl, ac un bore yn unig yn ystod pum mlynedd y gwelais arwydd fechan o rew. Pan gwrddir a chydnabod yn yr Aifft ni ddefnyddir mo'r frawddeg "diwrnod braf," oblegid mae bron pob dydd yn heul- og o fore hyd hwyr, y gaeaf fel yr haf. A dyna II wedi cyffvvrdd a dirgelwch cadwraeth digyffelyb hynafiaethau y wlad. Y r hinsawdd sych, heulog, a'r tywod gadwasant i ni waith dwy- law pobl yr hen oesoedd. Byddai llawer o olion celfyddyd y tadau wedi eu dileu oni buasai am y tywod sych sydd wedi eu cuddio am filoedd o flynvddoedd. Felly hefyd am y teml- au, y pyramidiau, a'r cofadeiladau oeddynt yn rhy anferth i'r tywod i'w claddu bvddent wedi malurio mwy pe'u curasid gan wynt a gwlaw fel eiddo Cymru. Yn ddiameu nid oes wlad dan haul lie gellir olrhain gwaith dyn gwar- eiddiedig yn foreuach nag yn yr Aifft. Wrth eclrych ar weddillion gogonedd- us yr hen fyd yno, synnwn gan leied v mae dyn wedi symud mewn cel- fyddyd. Yn wir, mae llawer o fedrus- rvydd yr oesau a fu wedi ei golli yn yr oes dvwyll hon. Mae cysylltiad yr Aifft a'r Beibl yn rhoddi gwedd arall ar ein dyddordeb yn ei hynafiaethau. Ni anghofiaf byth fy nheimladau pan edyrchwn y tro cyntaf ar golofn ithfaen Heliopolis. Yr oedd hon gerllaw i'm cartref, a chyrchais i'w gweled yn fuan wedi cyrr iedd y wlad. Saif y golofn lie ei gosodwyd hi gan y Brenin Usertesen y Cyntal (tua thair mil o flynvddoedd cyn Crist) o flaen teml On. Merch i Ofteiriad On oedd gwraig Joseff (gwel Genesis xli. 45. Nid oes amheuaeth fod y golotn hon yn sefyll ynyr un man gannoedd o flynyddoedd cyn am- scr Joseff, ac fod yr ysgrifen arni er pan godwyd hi gyntaf—ysgrifen fras, ddwfn, sydd a rhan o honi mor glir heddvw a'r un ddiweddaf dorrwyd' gan saer meini ym mvnwent Aberdar. A dyma fi, fagwyd yn ngwlad yr Ysgol Sul, yn cerdded lie bu traed Joseff, ac yn dprllen vsgrifen y bu llygaid Joseff yn syHu ami. Deuai llyfr Genesis i'm cof yn bar- haus tra yn y wlad. Yr oedd rhyw syniad wedi ei ffurfio gennyf pan yn blentyn fod yr hen lyfr hwnnw yn myned yn 01 at foreu hanes dvn. Credwn rhyvvfodd na ddigwyddodd llawer o bethau gwerth eu croniclo cyn dyddiau Abraham. Efe a dvbiwn oedd y dyn mawr cyntaf mewn hanes. Nid wyf am gyffwrdd yma a'r cwesti- wn hanesyddol llyfr cyntaf Moses. Ni wthiaf ar ddarllenydd y "Darian" fy synindau ar bwnc o'r fath. Hyn yn unig a ddywedaf, na dd'ylai ffrwyth ymchwiliad diweddar yn y dwyrain siglo seiliau ffydd yr un o honom mewn datguddiad ysbrydoled- ig. Yn hytrach, parant i'r seiliau ledaenu fel y gallant ddal pwysau adeilad mwy. Os caniata y Golygydd, bwrPadaf ofyn i ddarllenwyr y "Darian" ddyfod gyda mi i weled rhai o ryfeddodau hen wlad ddyddorol yr Aifft. Awn I am dro tua'r pyramidiau pan gyfar- I fyddwn nesaf. i (I barhau.)
Colofn y Llyfrau.
Colofn y Llyfrau. GAN WYDDONWY. Mae arwerthiad Llyfrgell Huth wedi cymeryd i fyny dros fis o amser i fynd trwy'r casgliad enfawr, ac er mwyn y rhai hynny o'n darllenwyr sydd vn cvmeryd diddordeb mewn llyfrau, a hen lyfrau yn arbennig, rhoddwn yma ychydig enghreifftiau o'r prisoedd dalwyd am rai o honynt., "A large paper first edition of Ben Jonson's "Sejanus His Fall (1605) was sold for Cgooo. This was a presentation copy, with an autograph inscription, and it had cost Mr. Huth £ 106 at the Daniel Sale in 1864." "The True Chronicle History of King Leir and His Three Daughters, Goneril, Regan, and Cordelia, as hath been Divers and Sundry Times Lately Acted," a volume published also in 1605, the price being sixpence only, was sold to Mr. Quaritch for the magnificent sum of ^2,470. It was from this old play that Shakespeare "conveyed" his own drama of ''King Lear," published in 1608. The original play was printed bv one Simon Stafford, and published by John Wright, at his shoppe, "at Christe's Church dore, next Newgate Market. Ar ddiwedd v 2gaiii dydd o'r ar- werthiad yr oedd cyfanswm y gwerth- iadau wedi cyrraedd y swm O ^,138,000 ar wahan i'r £:60,000 rodd- wyd yn breifat am y "Shakespeare Collection," a werthwyd gyda'i gil- ydd i bry.nwr o'r America. Nodwn y manylion hyn, nid am y credwn fod' ynddynt ddiddordeb i ddarllenwyr y t "Darian" fel ffeithiau, ond vn unig i ddangos mai hanes arbennig cys- yiltiadau pob cyfrol oedd yn pender- fynu'r pris a gyrhaeddai. Cof gennym ddarllen tua biwyddyn a hanner yn ol am awydd rhyfedd "stamp collectors i gael arddelw'r prif lythyrdy yn Llundain ar "en- velopes" bostiwyd am ddeuddeg o'r gloch y ddeuddegfed dydd yn y ddeu- ddegfed mis o'r deuddegfed flwvddvn yn y ganrif bresennol. Yr oedd y ffaith ei bod yn amhosibl cael cvnifer o ddeuddegau byth eto ar stamp yn gosod gwerth mawr ar ^beth sydd fel rheol yn cael eu taflu ymaith a'u bwrw yn tan. Mae yn rhaid cael rhyw hynodrwydd arbennig i roi gwerth ar beth-ar bob peth. D.J. B. E. Yr ydym wedi treio amryw leoedd yma am eich cyfres vn gyflawn, ond wedi methu. Gellwch ddisgwyl ar ol post neu ddau gael yr oil o Gaerdydd. Llwyddiant i'ch an- turiaeth. i U.L.— A ofyn pwy yw awdur llyfr ar "Gymeriadau Cymreig Shakes- peare?" Beth yw y pris, ac ym mha le y gellir ei gael ? Mae gennym ryw syniad fod Eifionydd, Cofiadur "yr Orsedd, mor debyg a neb o wybod rhvwbeth am y mater. Gwelwn ei enw ef ar y "Darian" ambeIl waith, a barnwn wrth hynnv ei fod vntau, fel pob Cymro da, yn ei darllen vn gyson. Osyrenfynatcb i'r cwestiwn erbvn y rhifyn nesaf, bvddwn vn ddiolch- gar. O.N-Os g*wel yn dda, ysgrifenned I r swyddfa.
j I Llansamlet. !
I Llansamlet. Mr. Gol.Ciniatewch air yn ateb i "Sion o'r Cwn." Bachgen grymus yw Sion! "Mae e'n gallu i gwed hi," chwedl yr hen wraig honno pan oedd Wil y Celwvdd Gole wedi dweyd stori w rthi. Ni cheisiais i bardduo na Dafydd o'r Llwyn na Dafydd o'r Pwll. Nid pardduo yw dweyd yn syml yr hyn a fu. Wrth gwrs, nid bai y bechgyn hyn yw fod lago, fab y Daran, yn medru eu hysgwyd fel dail mewn storm. Gwastraffu arian y trethdal- wyr ynte yw y gneuen sydcl i'w thorri, ac awgryma Sion o'r Cwn fod y ddau Ddafydd yn wroniaid yn y mater hwn. Gwyr pawb fod eisiau rhywrai i godi eu Ilais yn erbyn gwastraff, a gwyr rhywrai hcfyd sut i siarad i'r galeri ar y mater. Penwendid yw corddi am wastraff, pan nad oes ond mater o dala pris diwrnod o waith gerbron i un y ceisiwyd ganddo adael ei waith ei hun er gwasanaethu'r plwyf am ddiwrnod. Mae croeso i Sion o'i ddau Ddafydd. Da gennyf ei fod yn cydnadbod, er yn ddigon an- rasol, ddylanwad hyawdledd lago, ac yn ei gymharu i Lloyd George. Y mae angen ambell Lloyd George yn ein cynghorau plwyf, yn ogystal yn y Sennedd, i beri dvchryn i Doriaid man brydyddol." Wrth dalu tevrnged i flraethineb lago, mab y Daran, dywed fod y "cwn a'r cathod vn peidio chwerthin pan y mae yn siar- ad." Ai nid yw Sion fel arfer vn dweyd gormod fan yma ? Pa nifer o gwn a chathod sydd yn mynychu Cyngor Plwy Llansamlet, tybed? Ac o ba le y daeth y cwn a'r cathod sv'n medru chwerthin ? Neu a ydyw Sion am awgrymu fod y cynghorwyr vn bethau mor ddigrif fel nas gall y creaduriaid hyn lai na chael difyrrweh oddiwrthynt.-Yr eiddoch, etc., MWG DU.
ARGRAFF WAITH.
ARGRAFF WAITH. Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r "Darian," 18 Cardiff Street. Aberdar.