Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE BEST ADVERTISING I MEDIUM. Circulates throughout SOUTH WALES and MONMOUTHSHIItE.
Advertising
W. Williams* Co. JEWELLERS, &Gas 29 Castle St., Swansea. Specialities I get. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, lSet. GOLD KEEPERS. GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry holl dewoh at Y Cymro Os am beirdd todrwyau aor, Oriaduron ac awrleisiau, Geman a chadwvnau olaer Yspectol gelfydd. hin-fynegydd, Gwrea-feaurydd, Cwmpawd mdr Geir gan Williams, Heol y Castell Trowch i mewn i wel'd ei fltdr.
Advertising
r 1 Mwyn yw dwr yn mynd i waered,—a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned."—AP HEFIN. CEIR MWYNHAD DYBLIG WRTH YFED DIM OND LEMWNED — Bryniau Cymru (" WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANQEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFAOL.
Y CYNNWYS.I
Y CYNNWYS. I Y CYNNWYS. -pwla4a"Senedd Tud. 1 Colofn Llafur » Y Stori 2 Beirniadaeth Eisteddfod Tir larll 2 Anrhegu Mr D. Jones 3 Colofn y Plant 3 Hanes Doc Rhydyfro. 3 Suddiad y Titanic » 3 Gwallgofrwydd Bwystfileiddiwch 4 Eu Hiaith a Gadwant 4 0 Wy i Dywi » 4 Cymdeithasfa Aberaman 5 Colofn y Bobl Ieuainc 6 Gohebiaethau 6 Difyrrwch y Beirdd 6 Glowyr a Glendid 6 Rhai o Ryfeddodau yr Aifft 7 Am Dro i'r Neuaddlwydd 7 Cynhadledd yr Ysgolion Sul. „ 7 Undeb Eglwysi Efengylaidd Cymru 8 Colofn y Beirdd 8 Coffa Dewi Alaw 8
GWLAD A SENEDD.
GWLAD A SENEDD. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. Yr ydym wedi pasio trwy Wythnos Gynhyrfus Arall, ac o'r braidd y gwyddom i ba le yr ydym yn myned. Yn ol ei bygythiad cyhoeddodd Awstria ryfel yn erbyn Servia, a chanlynodd hynny gyda than- beleniad Belgrade, prif-ddinas Servia. Saif Belgrade ar y Danube, ac felly ar derfynau Awstria. Torrodd y Serviaid y pontydd, ac ymladdwyd brwydr boeth tuag ugain miUdir o'r brifddinas. Costiodd yn ddrud mewn bywydau i'r ddwy ochr, ond llwyddwyd i atal yr ymosodwyr i groesi yr afon. Dywedir fod Rwssia yn Dechreu Symud ei lluoedd tua'r gorllewin a'r de, ac fod gbrfoledd yng nghylchoedd milwrol Germani. Brysia Germaniaid, Ffranc- od, Rwssiaid, ac Awstriaid adref o bob cwr. Ymddengyt fod niferi mawrion o Rwssiaid yn Germani, ac o Germaniaid yn Ffrainc. Y mae yn bwysig iddynt symud ar unwaith, os o gwbl, oblegid os y tyr rhyfel allan rhwng y gwledydd hyn, ni fyddant amgen carcharorion. Dywedir fod Germani wedi hysbysu Rwssia fod yn rhaid iddi atal symud ei milwyr i gyfeiriad maes y gyflafan, neu y bydd ei lluoedd hithau yn cael eu cyfleu yno ar unwaith. I ni, dichon mai y cwestiwn pwysicaf yw: Pa Le y Saif Pryden? Anawdd. er hynny, yw gallu ateb. Os symuda Rwssia, anodd fydd i Ffrainc gadw allan oherwydd y cytundebau sydd rhyngddynt. Y tebygolrwydd felly yw mai un o'r pethau cyntaf wnai Germani fuasai tywallt ei lluoedd ar Ffrainc. Gwyddys fod cyfeillgarwch j mawr yn ffynu rhwng Ffrainc a. Phryden, ond, a oes yno gytundeb a'n rhwyma i fyned i ryfel sydd beth arall. O'r braidd y cvedwn fod. Ainlwg, er hynhy, fod y ffurfafen uwch eiji peniiau yn hynod ddu. Dywedodd Mr Asquith nos Iau na fuon er's cyfnod maith mewn amgylchiadau mwy difrif-ddwys. Un- odd yr holl bleidiau yn Nhy y Cyffredin i adael o'r neillduol ddadleuon Iwerdd- on rhag gwneud na dweud dim fyddai a thuedd ynddo i'n rhannu. Cytunid fod yn ofynnol ini yn y cyfwng presennol "wynebu y byd yn unol" ys dywedai Mr Bonar Law. Deallwn fod bywiogrwydd mawr ymhlith ein milwyr. Symudir catrodau o le i le. Cedwir gwyliadwr- iaeth fanol ar ein porthladdoedd, ac ymddygir bron fel pe rhyfel wrth y drws. Anawdd i ni yn y wlad hon ddeall yn iawn Beth yw Asgwrn y Gynnen. rt ei ystyried, gofynnol yw myned yn ol ysbaid a chofio fod talaethau Bosnia a Herzegovina yn perthyn yn naturiol i Servia. Yr un gwehelyth ydynt. Ar hyn o bryd y mae y ddwy dalaeth hyn o dan goron Awstria, ac yn bur anfoddlon ar eu cyflwr. Ym- ddengys fod Servia mewn llawn gydym- deimlad a hwy, ac y carasai eu gweled yn rhyddion oddiwrth Awstria. Yn naturiol y mae y wlad olaf a nodwyd yn eiddigeddus dros ei meddiant, a'r can- lyniad yw fod y ddwy wlad beunydd yn llygadu ac yn chwyrnu ar eu gilydd. Ymddengys mai llanc ieuanc o'r talaeth- au hyn laddodd Dywysog Coron Aws- tria. Felly wele wreichionen oddiar allor y fall wedi syrthio ar drysorfa y pylor. Ceir enghraifft arall o ysbryd tebyg yn nes atom. Yn 1870, ar ol rhyfel Ffrainc a Phrwssia, cymerodd Germani dalaethau Alsace a Lorraine oddiar Ffrainc, a phery y loes a'r eiddigedd yn newydd o hyd. Nid oes obaith heddwch tra y bobl hyn yn cael eu dal trwy orfodaeth. Da yw fod Lloegr yn ceisio rhoddi boddlonrwydd i Iwerddon mewn pryd, a iechyd fydd i Rwssia ganiatai rhyddid i Poland, ac i Japan dynnu ei dwylo oddiar wddf Korea. Cyn gollwng ergyd ymddengys I Effeithiau Gresynus Rhyfel mewn ami i gyfeiriad. Yn Germani ac Awstria ceir y bobl yn rhuthro i godi eu harian o'r banciau. Yn Llundkin atal- iwyd busnes ar y Stock Exchange, gan na wyddys pa wledydd fydd yn y gwddf a'u gilydd cyn pen nemor o ddyddiau. Dydd Mercher aeth saith o firms yn ganddryll o'r achos, a diau yr a ereill yn bur fuan, os eir ymlaen a'r ymladd. Y syndod yw fod Awstria yn cyhoeddi rhyfel a hithau heb adnoddau i gyfar- fod a'r draul. Nid oes wlad yn Ewrop a rydd fenthyg iddi. Felly geilw am £ 50,000,000 oddiwrth ei phobl ei hun ar rym papyrau oddiwrth y Llywodraeth. Y fath ragolygon sydd o flaen y bobl hyn? Disgwylir iddynt roddi eu cyf- oeth yn awr yn nwylo y Llywodraeth, ac ar ol y rhyfel cant y pleser o ddioddef eu blingo i dalu llogau iddynt eu hun- ain. Dyma hanes rhyfel bob amser. Mawr y bloeddio fu yn Lloegr adeg Rhyfel De Affrica. Nid oes cymmaint o sel drosti heddyw yn ein plith wrth geisio talu ei dyled, ac ar yr un pryd dalu uwch pris am fwydydd, dillad a phob nwyddau ereill. Ond gwelsom bethau cynhyrfus yn nes atom na Servia. Cafwyd j  Amser Cythryblus yn !werddon 11 y Saboth diweddaf. Tra yr oedd cref- yddwyr Cymru yn eu haddoldai nos Sul yr oedd dinas Dublin yn ferw trwyddi oll. Collwyd tri o fywydau a chlwyf- wyd tua phedwar ugain o bersonau. Gwyddys fod gwyr Ulster wedi llwyddo i gael degau o filoedd o ddrylliau i'w dwylo. Barnai y Gwyddelod ereill fod yn rhaid iddynt hwythau gael arfau te.byg. Ond pa fodd i'w cael '? Onid oedd y Llywodraeth yn gwarafun eu I; dygiad i'r wlad? Nid oedd dim am dani ond efelychu gwyr Ulster. Pwr- caswyd gynnau a bwledi a chyfiogwyd Hong i'w cludo drosodd. Cadwyd y I peth yn ddirgel. Daeth y Hong ddienw i borthladd bychain Howth, ryw wyth milldir o Dublin, ac aeth mil o'r gwir- foddolwyr Gwyddelig i'w chyfarfod. Hysbyswyd y cynllwyn gan yr heddgeid- waid a gwylwyr y glannau. Galwyd y milwyr allan, ac awd i geisio cipio yr arfau o ddwylo y gwirfoddolwyr, ond yn ofer. Cafwyd rhyw bump-ar-ugain o'r gynnau, ond dihangwyd a thua tair mil o honynt. Wrth orymdeithio trwy ddinas Dublin daeth y dorf ar warthaf y milwyr gan daflu pethau atynt. Gyda hyn rodd rhai o'r fintai yn ol a Saethasant i Ganol y Dorf, I gan ladd a chlwyfo fel y nodwyd. Geilw Hu o ofyniadau yn uchel am atebion. Pwy roddodd orchymyn i ddwyn y mil f wyr allan ? Paham y rhoddwyd iddyrl^f y bwledi a feddent 1 A alwyd arnynt yn swyddogol i danio 1 Pa le yr oedd Syr John Ross, Tywysog yr Heddlu ? Pa le yr oedd ei gynorthwywr Mr. Har- rel ? Rhaid yw cael ymchwiliad manwl a llawn i'r holl helynt, a hynny heb oedi. Y mae Iwerddon heddyw fel llosgfal yn cysgu, ac nid oes eisieu ond ychydig i'w deffroi i wneud difrod en- byd. Onid oes rhyw wawdeg yn yr amgylchiadau: Ulster yn bytheirio ac yn casglu arfau tfin am dros ddwy flyn- edd, A phobl ddiniwed Dublin y cyntaf i ddioddef tywallt gwaed. Bu rhaid symud y gatrawd anffodus, y King's Own Scottish Borderers, o Dublin liw nos ar ol y lladd. Llawer yr holi a'r siarad sydd wedi Jbod am y digwyddiad alaethus I Yn Nhy y Cyffredin. I Gwnaeth Mr. Birrell ddatguddiad llawn o'r holl helynt, a hysbysodd fod Mr Harrel, ail swyddog yr heddlu, wedi ei atal oddiwrth ei waith am ysbaid. Dywed Mr. Asquith, yr hwn sydd Ben y Fyddin yn ogystal a Phrifweinidog, ei fod yn credu y gall ryddhau y fyddin oddiwrth Jbob bai a chyfrifoldeb am y marwolaethau a nodwyd. Pa fodd y gwna nis gallwn ddychmygu. Y mae y Gwyddelod yn y Ty yn naturiol yn teimlo yn chwerw am y tro. Gweled y maent hwy fod gwyr Ulster wedi cael arfogi heb na sen na rhwystr, ond yn hytrach fod y prif ysgogwyr yn y gwaith yn cael eu hanrhydeddu a'u clodfori, ond gyda bod yr adran arall yn gwneud yr un peth, cochia ystryd- oedd Dublin a gwaed. Rhaid dweud fod Mri. Redmond a Devlin ac ereill wedi arfer cryn bwyll a mawrfrydig- rwydd. Drwg gennym ddweud fod y Toriaid yn ben a chynffon wedi bod yn ddigon isel i geisio gwneud mantais bleidiol o'r holl amryfusedd. Chwyth- asant ddrwg trwy y blynyddoedd gan gynhyrfu y bobl i wrthryfel, a phan ddecheuir profi. o ffrwyth chwerw ond naturiol eu llafur ceisiant feio ar y Llywodraeth. Dynesa y dydd y cawn wybod cynllun y Llywodraeth I I Ddiwygio Ty yr Arglwyddi. Pan ofynnwyd i Mr Asquith, pwy ddydd yma, pa bryd y bwriada gyflwyno hwn i Dy y Cyffredin, ei ateb oedd: Yn gynnar yn Awst. 0 gwrs nid oes obaith ei ddwyn yn ddeddf yn y Senedd- dymor nesaf. Bydd er hynny yn fan- teisiol i'r cynllun fod o flaen y wlad cyn yr etholiad cyffredinol, oblegid felly y gellir cael llais y wlad arno. Beth fydd, tybed? Nid yw yn debygoI y cynhygiai gymaint ag un sedd etifeddol. Dichon, er hynny, y ca cyn-raglawiaid y talaethau ac ychydig uchel-swyddogion ereill le yn y Ty newydd. Yn ddiddadl bydd y mwyafrif mawr yno trwy ethol- iad neu ar gyfrif cymhwysderau per- sonol. Son am chwyldroad, anawdd dyfalu am chwyldroad mwy na hwn, sef troi mwy na chwe' chant o seneddwyr etifeddol dros y drws a rhoddi eu He i ereill. Gresyn na fuasai hynwedi ei wneud er's blynyddau. Ond, gwell hwyr na hwyrach. Chwareu teg iddynt hefyd awyddant ini gredu eu bod yn fyw a phrysur. Glynu wrth eu gwaith y maent ar Y Tipyn Pwyllgor Hwnnw I etholwyd ganddynt i edrych i fewn i achos Cymru a'i dymuniad am Ddat- gysylltiad. Digrif o beth oedd eu gweled ar yr awr olaf ac ar ol taflu Mesur Datgysylltiad dros y drws droion yn dewis pwyllgor i edrych i fewn i'r achos. Paham na wnaethent hynny yn nghynt 'I Pa les oedd tra- fferthu yn awr pan oedd y Mesur ar ddod yn Ddeddf? Ond, dyna, tybiant yn eu diniweidrwydd, y gallant daq-j llwch i lygaid y wlad, ac y gallant oeJi pasio y mesur am yspaid eto. Ond « s oedd apwyntiad y pwyllgor yn ch vertLv inllyd, y mae ei weithredia.dau a'i uyst t ion yn fwy felly fyth. Cyrchir idd(' nifer o bobl o Gymru a alw?nt eu hl1D-1 ain yn Fethodistiaid, Bedyddwyr, Wes- leyaid, ac Annibynwyr, nas gwyr Cym- ru ddim am danynt. Ac eto rtymVr bobl sydd yn honi siarad dros vr « n- wadau Cymreig! Cyfrol ddiddxvol fyddai hono roddai hanes Anghydff-urf- iaeth y boneddigion hyn. Y mae gen- nym bob lie i gredu nad yw y Llywodr- aeth yn debyg o dalu llawer o sylw mwyach i farn Ty yr Arglwyddi am Ddadgysylltiad Eglwys Loegr yn Nghymru. Dengys Rhyddhad Mrs. Caillaux I ini mor wahanol yw anianawd a syn- iadau pobloedd. Gallasem feddwl mai ychydig fuasai y gwahaniaeth rhwng f '1 tl r" ^jiiiadatth Phcyden ai- fa.ter mor elfenol a phwysig a chosbi Hofrudd. Ond ceir pellder y pegynau cydrhyng- ddynt. Dydd Mercher rhyddhawyd y wraig uchod o bob cosp am lofruddio .ML r. Calmette, golygydd y Figaro. Yr oedd Mr. Caillaux wedi bod yn brif- weinidog Ffrainc, a beirniadodd y Gol- ygydd a nodwyd ef yn llym. Yn ol dull Ffrainc llusgid i fewn i'r feirniadaeth bethau hollol bersonol, a chyhoeddid llythyrau cyfrinachol. Cymerodd Mrs. Caillaux y gyfraith yn ei Haw ei hun. Aeth i Swyddfa y Figaro a saethodd Calmette yn ddiymdroi. Bu yntau farw ymhen ychydig oriau..Ni cheisiai neb wadu y pethau hyn. Llusgwyd pob math o bethau i'r prawf, a chymerwyd achos y llofrudd i fyny gan Maitre Labori, prif ddadleuydd Ffrainc. Dad- leuai iddi gael ei chynhyrfu yn anheil- wng: fod Calmette yn fradwr i'w wlad y gallasai y meddygon fod wedi arbed ei fywyd pe wedi gweithredu yn iawn. Beth bynnag cyhoeddodd y rbeithwyr hi yn ddieuog! I Y mae Cofeb Genhedlaethol y Brenin Edward VII. yn addaw yn dda, a disgwyliwn y bydd y darfodedigaeth yn fuan yn cael ei gyfrif ymhlith y clefydau a fu. Gwna yr adran addysgol w^ith mawr: Y mae yn barod 54,116 o blant-ysgol yn cael addysg am natur tuberculosis a'r modd i'w ddifetha. Ceir nifer o ysbytai a iechydfeydd wedi eu gosod i fyny yn barod gan y Gymdeithas. Ceir ys- byty yn Meadowslea, Sir Fflint; Cimla, ger Castellnedd, a Glan Ely, ger Caer- dydd. Y mae trefniadau wedi eu gwneud am ysbytai yn Siroedd Mon. Trefaldwyn, Ceredigion, a Meirionydd. Deil y Gymdeithas 299 o welyau mewn iechydfeydd at wasanaeth cleifion. Arwyddwyd cytundebau i adeiladu iechydfeydd mawrion yn Llangwyfan, Sir Ddinbych, ac ym Mhontywal, ger Talgarth, Sir Frycheiniog. Yn ystod y flwyddyn gwariwyd Y,58,452 16s. 4c. ar y gwaith, a gobeithir yn fuan ymgy- I meryd a datblygiadau mawrion eto. Llongyfarchwn y cadeirydd a'r cych- wynydd, Mr David Davies. A.S.. Llan- dinam, ar lwyddiant y mudiad.
Advertising
FOR B L,8T* (■ MCNWNfl MLM a" MARK" I M .? UM ,t"tcml- MVET& ■ LIST. Ko ed to pmeh boles. SimP)Y H Ri?ets. and bond back jM???'?M??the pron<s NMt and ttfoc?. ■ Of all Imat Iron- mangers. otOTjil/- H for box (asscwted) to
COLOFN LLAFUR. I
COLOFN LLAFUR. I ———— GAN PEREDUR.  Lofa. Diogelwch y Lofa. ¡ Dydd Mercher diweddaf, yn Llys i Ynadon Aberdar, gwysiwyd tuag ugain o weithwyr i dalu 9s. o iawn-dal i berch- nogion glofeydd y Shephard, Cwm- j aman, am y golled achoswyd ganddynt drwy beidio gweithio. Yn ol tystiol- aeth y gweithwyr, cawsant le i gredu fod rhannau o'r lofa yn beryglus i weithio ynddynt o herwydd preSenol- deb nwy. Penderfynwyd peidio myned I i lawr i'r lofa, ac aeth pob un yn ol oddiar ben y pwll. Yr oedd y perch- j nogion yn awr yn gofyn am sicrwydd na j fyddai i'r gweithwyr weithredu felly J eto, heb yn gyntaf osod eu hachwyniad I o flaen y goruchwyliwr. Os rhoddai y gweithwyr sicrwydd o hyn, yr oedd y I meistri yn barod i dynnu y gofyniad am yr iawn-dal o 9s. yn ol. Wedi ymgyng- horiad, dywedwyd ar ran y gweithwyr I eu bod yn cytuno a'r telerau am y dy- I fodol ar y dealltwriaeth fod pob achos o achwyniad i'w drafod y dydd y gwnelid, ac fod y gweithwyr i gael yr hawl i wneyd ymchwiliad i sicrhau fod achos yr achwyniad wedi ei symud, a'r lie wedi ei wneyd yn ddiogel. Buddugoliaeth y Gweithwyr. I Y mae yn dda gennyf longyfarch gweithwyr Cwmaman ar eu llwyddiant yn yr achos yma. Nid oes brinder ar haerllugrwydd rhai meistri y dyddiau hyn. Dyma achos o gannoedd o weith- wyr yn fwriadol golledi eu hunain o ddiwrnod gwaith, er sicrhau diogelwch bywyd, a'r meistri yn gofyn yn erlidgar am gael eu digolledi o'r. elw am y diwrnod. Dyma yr enghreifftiau sydd yn profi mor isel y gall cydwybod cyfal- afiaeth suddo, ac mor ddienaid yw y gyfundrefn sydd yn caniatau y fath am- gylfehiadau yrfi mywyd y hawlfraint elw yn fwy na bywyd. Llwyddiant Llafur. I Llongyfarchwn Gyngor Celf a Llafur Aberdar yn sicrhau i'w ymgeiswyr dair sedd ychwanegol ar Gyngor Trefol y Dosbarth. Buwyd yn neillduol o Iwyddiannus yn y rhannau hyny o'r dosbarth lie yr ymosodwyd yn fwyaf penodol ar weithrediad y Cyngor Celf a Llafur-sef y Llwydcoed Ward a'r Aberaman Ward. Dyma y tro cyntaf i Lafur i ennill yn y Ward gyntaf. Dyma y tro cyntaf hefyd i Abercwmboi gael cynrychiolydd Ileol ar y Cyngor Dos- barth. Y mae yn dda gennyf weled fod Cynrychiolwyr Llafur yn parhau i ddal safle anrhydeddus yng Nghynghorau Trefol Aberdar, ac yn profi eu hunain yn ddynion deallus ac ymarferol yng gweinyddiad llywodraeth leol. I Llais Llafur a Swn Rhyfel. Gynted ag y clywyd fod y gwahanol Lywodraethau Iwropeaidd yn bygwth ac yn ymjbarotoi i ryfel, galwyd cyfar- fod o bwyllgor gweithiol yr Internation- al Socialist Bureau yn Brussels. Y pwnc pwysig ydoedd, Pa fesurau i gymeryd er rhwystro rhyfel?" Yr1* oedd 14 o wledydd yn cael eu cynrhych- ioli. O'r wlad hon yr oedd Mr. Keir Hardie, A.S., Mr. Bruce Glasier, a Mr. Dan Irving. Y mae llais gweithwyr y gwledydd hyn i gyd yn gryf yn erbyn rhyfel. Penderfynwyd galw cyfarfod mawr o gynrychiolwyr Llafurol a Chym- deithasolwyr yn Paris dydd Sul nesaf, y 9fed o Awst. Yn barod y mae Cym- deithasolwyr Germany, nos Fawrth di- weddaf, wedi cynnal 27 o gyfarfodydd yn Berlin, y brif ddinas, pan oedd tua thri ugain mil o bobl yn gwrando a chy- meryd rhan. Cynhelir cyfarfodydd mawrion eraill yn Awstria, Ffrainc, Italy, a'r wlad hon, a'r oil yn protestio yn gryf yn erbyn rhyfel. I Cwmwl yn Codi. Wedi bod yn segur am 19 o wythnos- au, dechreuwyd gweithio unwaith eto yng Nglofa Bryncethin. Drwy gyfryng- wriaeth y Meistri Frank Hodges a Ver- non Hartshorn y mae telerau boddhaol wedi eu cael gan y perchnogion. Dech- reuwyd gweithio dydd Iau diweddaf. I Yr Anundebwyr Eto. i Daeth tua 500 o weithwyr allan ar y I streic yng Nglofa Graigola., Clydach, dydd Mercher diweddaf, mewn protest yn erbyn anundebwyr. Strefc ar y Cerbyd Bwyd. Dydd Mercher hefyd bu raid i'r I Great Western Railway Co. weithio eu trens o Lundain i Gaerdydd heb y Cer- byd Bwyd (Dining Saloon). Yr oedd y cwmni wedi atal un o'r 'attendants' o herwydd rhyw ddiffyg yn ei waith. Cyn- hygiwyd iddo waith israddol, ond y mac Undeb Gweithwyr y Rheilffyrdd. o'r hwn y mae y dyn hwn yn aelod, yn gwrthod iddo ymgymeryd t'r Kw? t« ?nnw ac vn hawHo ei wait? h ei mm y? ?X ar ri. y gweithiwr hwn y? gwadu yn bendant y cyhuddiad sydci yn ei erbyn.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID QOFALU All Y liMA. HYH. Eageutu>dod o "I1*" "vn drwy ddamWBIN .uti/V■l"I ..11..1 Blood PoUonlng a Marwolaoth.  Er MwYn YSBOI ,.r," rhaid al ymarlw m?wn "VII. #DOES DIM Moot LLWYODIANUD A 8.011 A GOMER'S BALM. Mae Hwn ,n aw' .1 .i I' gan filoodd fal V pleddyglin owyet #,Cr diogel a d<.rgMty«?< ? ?.d .1 ?" Clwyfau. A., oholllon, Tardd- lantau y Cnawd, I N II Mh8n. Plant, Llooglad- au, Yopi. 8 0 u r v Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, Cout, Cyma&au "øtftUSt «th«iw»t- 4( y oddd pM fy mJM. ?. PM? "Yr oedd I'M fy ad. C.fn.P' ?&<I??' ?- H ynd 8 G.wellhaodd Gom,fIIf' 8 Bal- 1"81thlll ? ? '? ?' at CLWYFAU ar COESAU. Mlfoodd yn tystlo I'w Effeithiau lihyfeddat. RHODDWC" BRA IF ARID qwoUhad sydd stor. Ar werth e«i bob Cb«mi't & Store. &a I/ii. Gofyner am GO. Balm. 1/l j. Oofy*ier «m C»- H||(||>1 •„ gjj WW6 hy nid 1" Dwir. Nn ?,?.?H?" ??' ?y5????'?ChJ! danfoner ei||anufa>turlnt Chcw-  FMMirlh' C.?M. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL.
Y Methodistiaid a'r Gymraeg.
Y Methodistiaid a'r Gymraeg. Penderfynwyd yn unfrydol yn y  deit?ayn?ra-n= Ein bod fel Cymdeithasfa yn wyneb N,r Ywdrech Snewyddol sydd yn ein pMh J £ en- nyn sel dros gadw n fyw y G>m igynhyddue.defnyddod? ? ar- bennig IDewn cylchoedd crefyddo], yn dymunorhod?rram?c?odwiw ein cefnogaeth fwyaf calonnog. a'n bod yn cefnogaeth hvya? ca l onnog? Qy?r?g gwneud apel daer ar fod j'r Gymraeg gael ei siarad vn hoIl denluoedd ein g?l ei s?rad yn ??' ??? hefyd heglwysi Cymraeg? > ??? ??  gan y cyfarfodydd mx wneud syiw 0 hyn.Cyuhyg?yd ?5a, Y Parch.W. Samlet Wilhams,  elhwyd gan y Parch. T. J. Davies, B.A., Ffynnon Daf. Da gennym am y penderfyniad hwn. Ni phasiwyd dim pwysicach y„ y Gym- Byd y bwysig ?? i deithasfa. Bydd Yr, bwyslg lawn 1 gyfundebau crefyddol Yl c n beth ?ydd eu hosgo tuag at undeb Y Cymdeithas- e" sydd eisoes wedi tyfu i faintioli mawr.
Bwrdd y Golygydd-
Bwrdd y Golygydd- II 0 herwydd v ?vy!;au rhaid i lawer o bethaU fod allan carasa; iddynt o bethau fod ???/??y ? ??foned ein l°i L'T' vn gv-nharach bob amser o f flaen gwyhlL au, bvdd hy^ nny vn hwylus- ?aen ?yha ? ? ?\, iantais rr dod mawr i ni ac Nn fantais i'r 4< Darian. j