Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Am Dro i'r Neuaddlwyd.

- 5* Oddiar Lechweddau li,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

5* Oddiar Lechweddau li, Caerfyrddin. Llongyfarchiadau calonnog i'r bardd Ben Davies (Pelydrog), Dafen, ar ei waith yn ennill cadair dderi a gini yn Cydweli am bryddest ar "Gosteg For. Wele ei drydedd cadair, a phan gofiwn mai alcanwr ydyw a'i fod o dan fachau afiechyd mor fynych, yr ydym yn synnu at ei lwyddiant. Deallwn fod gwobr neu ddwy wedi dod iddo o fannau ereill yn ystod y gwyliau. Hir oes iti, Ben. Ein Pelydrog enwog yw-y gwron Gerir fwyaf heddyw; Wele fardd gyfyd odl fyw Mewn hudol emyn ydyw. Cydymdeimlir yn ddwys ar bardd Myfyrfab gyfarfyddodd a damwain echrydus yng Nglofa y Waenllech rai ddyddiau yn ol. Da gennym glyw- cd ei fod ar wellhad. Doed yn holliach yn fuan. Marwplaeth Mr. benjamin Rees, ewythr otaf Ben Bowen o du ei fam.- Cyfeiriwyd yn flaenorol at yr hen wr yn myned i Ysbyty Abertawe i geisio gwella ei glwyf. Byr fu ei arhosiad yno, gan nad oedd gwella iddo. Ei ddolur oedd y "cancer." Ar ei ddychweliad o'r ysbyty cymer- odd ei nai, Myfyr Hefin, a'i briod, i'w drin a'i ymgeleddu. Bu ym Mryn Myfyr cynheidre am yn agos i dri mis, ond nos Lun, Gorffennaf 27ain, daeth angeu a rhyddhad mawr iddo o'i boenau arteithiol. Claddwyd yr hyn oedd farwol ohono yn Mynwent Rehoboth, Pump Heol, yn yr un bedd a'i dad. Y Parch. D. Bowen a'i briod, Mr. a Mrs. James Thomas, Ton Pentre; Mrs. D. J. Jones, Treorci (dwy o chwiorydd Ben Bowen), Mr. John Davies, Hendy, Pontardulais, a Mr. David Davies, Fforest, Pontar- dulais, yn brif alarwyr. Gwasanaeth- wyd yn absennoldeb ei weinidog, y Parch. H. R. Jones, Cydweli, gan y Parch. M. T. Rees, Meinciau, yn hvnod effeithiol. Yr oedd yr ymadawedig yn ddiacon ffyddlon gyda'r Bedyddwyr yn Nodd- fa, Trimsaran, ac ysgrifennai ei weinidog yn y modd mwyaf cymera- dwyol am ei sel a'i ymroad o blaid achos y Gwaredwr, ac ysgrifennai y Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion, yr un modd. Yr oedd yn ddyn hyddysg iawn, yn meddu ar lawer o ddoniau, yn gwmniwr braf, wedi teithio llawer gwlad, ac yn medru'r Spanaeg mor rhwydd a'r Gymraeg a'r Saesneg. Treuliodd flynyddoedd yn Lloegr ac yn Ne- heudir Amerig, ac ar ei ddychweliad yn ol y cyfarchodd Ben Bowen ef a'r englyn canlynol:- "Uwch eigionnau iach ganodd—o'r mor mawr Mi wn Cymru welodd; Yn ei ddiluw addolodd ei Dduw'n lion, A mor o gofion yng Nghymru gafodd. Yr oedd cryn dipyn o'r ddawn brydd- yddol ynddo, a hawdd fuasai llenwi colofnau y "Darian" a hwynt. Mynnai ef ddweyd mai efe oedd tad Ben Bowen fel bardd. Diau iddo adael ar- graffiadau da ar y teulu wrth odre Moel Cadwgan. Huned yr hen ber- erin dawnus. Cawn  i alw sylw erin dawnus. Cawn gyfle i alw sylw eto, gan mai un o'r pethau olaf ym- ron o'i eiddo oedd codi cwrr lleni achau Ben Bowen o du ei fam inni. Heddwch i'w. lwch. Bu gweithfeydd y Tumble, Cross- hands, a Dyffryn y Gwendraeth yn segur ar hyd yr wythnos, ac o gwrs y rhyfel yn ben testun pob siarad, ac ami i ddeigryn yn cael ei golli wrth weld ami i un yn ufuddhau i'r wys i'r gad. MYRDDIN MIN Y MOR. I

IY Gymdeithasfa yn Aberaman.

INodion o'r Maerdy. I

ARCRAFFWAITH. I

Advertising