Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
PUMP 0 GANEUON NEWYDD. HEN FWTHYN FY NHAD (My Father's Old Home). Can i Contralto neu Baritone. Pris 6c. MAE LLONG FY HARRI'N DOD YN OL (My Harpy's Ship is coming back). Can i Soprano. Pris 6c. BLODAU AC ADAR I MI (Birds and Blossoms). Pris Is. Y Tair uohod gan D. JENKINS. DYFFRYN HIRAETH (The Valley of Rest). Can i Contralto neu Baritone gan Bryceaon Treharne. Pris Is. (Wedi ei dethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1915). GWENFRON. C&n i Baritone gan Mr. Lloyd Edwards, Llundain^ Pris Is. Geiriau Saesneg a Chymraeg, Solffa a'r Hen Nodiant i'r pum' Can. Cyhoeddedig gan D. Jenkins, Mus. Bac. (Cantab)., Aberystwyth. ATTODIAD I 44 GEM AU MAWIE,911, SEF CASGLIAD 0 DONAU, SALMAU AC YMDEITHGAN. Pris, H.N., 8c. Solffa, 6c. Nid oes braidd un Gymanfa Ganu gyda'r Methodistiaid nad oes rhai Tonau o'r uchod yn cael eu canu ynddynt. Gwneir gostyngiad mawr yn y pris am 100 ac uchod, DO YOU SUFFER FROr4 EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EABE AND COMFORT ANDIALBO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. c. F. WALTERS, F.8.M.C.. OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Y DARIAN YW'R Papur ioreu i hysbysu Eisteddfodau. Cyhoeddir beirniadaethau yr Eisteddfodau a hysbys- ant ynddi. Telerau arbennig. Anfoner i Swyddfa'r I DARIAN, Aberdar. Prepaid 8mall Advertisements Inserted at, the following specially 10. rates: One week 4 wks. 13 wt. a. d. a. d. to 10 words 0 8 1 < » 18 0 e S I — I M 1 0 < 0 7 < These charges apply only to the follow ing classes of advertisementsApart ments, Situations (Vacant or Wanted < To be Let or Sold, Lost or Found, AJj Miscellaneous Wants. Romittances may be made by Pom»: Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b- charged. Advertising and Publishing OH* Cardiff Street, Aberdare. I I Yn awpyn barod 1 Telyn A wen (Isaac Eurfin Benjamin). Telynegion Serch, Gwladgarwch, a Chrefydd, Pryddestau Cadeiriol, Daman Adroddiadol, Ac. Ar 91 o wahanol destynau, 18 yn eu myag yn ddarnau buddagol. Prist/ wedi eu rhwymo yn hardd 1/6 Cyboeddedig gan yr Awdwr, ac ar werth gan ISAAC EURFIN BENJAMIN, Bronheulog, Woodfield, Penrhiwceiber. HANES PONTARDAWE I A'R CYLCH. TRAETHAWD BUDDUGOL Gan J. E. MORGAN ("Hirfryn"), Alltwen, Pontardawe, Awdwr Hen Gymeriadau Gellinudd." Pris, 1/6 Net. Mewn Llian, 2/6 Net. Un o'r llyfrau mwyaf diddorol a ddarllenasom er's tro, ac ambell i stori ynddo yn peri i ni hanner hollti gan chwerthin." —Gol. y Darian." I'w gael oddiwrth yr Awdwr. I ARGRAFFWAITH I DA, GLAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Cyf., 12 ttEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llythyr-gerdyn oeir Esiamplau o Adroddiadau Eglwysig, lestynau a Rhagleni Eiateddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, &o. PelJseinydd Central 151. Cofiwoh yr enw- THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yu ei holt; ein hawydd ni yw gyrra'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn cyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y gelfyddyd o Argraffa. ANFONWCH AM SAMPLAU. Y DARIAN. Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf. Cyfeirier pob Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— COLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i'r Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am lie. yr wythnos, Is. 7!c. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner blwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen dâl yn unig yr anfonir hi trwy'r post.
DYDD I AU, AWST 13, 1914.…
DYDD I AU, AWST 13, 1914. Nodiadau'r Golygydd. Gwelir mewn colofn arall ysgrif ar y diweddar Syr Edward Annwyl. O'i holl gymwynasau ef i Gymru, nid oedd yr un o honynt yn fwy na'i gefnogaeth galonnog i Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Yr oedd mewn cydymdeim- lad hollol ag amcanion hwn, sef adfer y Gymraeg ar aelwydydd ac mewn cylch- oedd cyhoeddus yn ein gwlad. Efe oedd cadeirydd y cyfarfod hwnnw yn y Fenni pan benderfynwyd fod yr Undeb i'w ffurfio. Efe hefyd a ddewiswyd yn llywydd cyntaf yr Undeb yng Nghynad- ledd Pontypridd ym Mai diweddaf. I'r rhai oedd a llaw yng nghychwyniad yr Undeb hwn bydd yr atgof am ei gefnogaeth a'i fendith ef yn ysbryd- iaeth. Gresyn oedd ei golli o symudiad mor bwysig. Ni ddigwyddasom weled cymaint ag un o'r papurau yn cydnabod y gwasanaeth hwn o'i eiddo i Gymru. Y mae cynhadledd bwysig i'w chynnal yn fnan, sef Cynhadledd yr Ysgolion I Sul Cymreig yn Llandrindod, Awst y 24ain, 25ain, a'r 26ain. Cyhoeddwyd rhaglen hon yn y Darian ddiweddaf. Y mae yn rhaglen dda, a diau y daw budd o ymdrin a'r cwestiynnau pwysig a gynhwysir ynddi. Bydd y gynhadledd yn hollol anenwadol. Dywedir mewn nodiad atom gan yr ysgrifennydd, y Parch. M. H. Jones, Pentre: Nid cynhadledd i wthio syniadau Seisnig a thramor ar Gymry ydyw, ond cyfrwng i oreugwyr yr Ysgol Sul i drin eu pro- blemau yng ngoleu ei datblygiad ei hun ac yng ngoleu gofynion a manteision yr oes." Y fendith fwyaf all ddeilliaw o'r I gynhadledd fydd symbylu rhai i weithio gartref, deffro yr eglwysi i'w cyfrifol- deb a pheri iddynt fod yn barod i fynd i fwy o drafferth a thraul i addysgu yr ieuainc. Y mae perygl fod cynhad- ledda wedi mynd yn grefft. Xi fu er- ioed fwy o gynhadledda, as eto Uwyd iawn yw cyflwr pethau mewn llawer lie. Adwaenom lawer sydd mewn cynhad- leddau byth a beunydd nad vdvnt- dda i ddim mewn unrhyw gylch arall. Dy- lasai fod yn ofynnol i gynrychiolvdd i gynhadledd yr Ysgolion Sul gael tyst- ysgrif ei fod yn weithiwr da yn yr ys- gol gartref. Y mae'r Ysgol Sul yn ddiau wedi dioddef llawer oddiwrth gamoliaeth mewn lleoedd cyhoeddus, gan rai nad ydynt yn dangos e hwyn- ebau ynddi. Mater pwysig i'r gynhad- ledd yw ceisio gofalu fod y Gymraeg yn cael chwarae teg yn yr Ysgolion Sul lie byddo'r weinidogaeth yn Gymraeg, ac hefyd lie byddo'r weinidogaeth yn rhannol yn y Gymraeg. Y mae'n bryd i symudiadau o'r fath hyn fod yn fan- tais yn hytrach nag yn anfantais i Gymry. Gallai y gynhadledd hon wneud llawer trwy drefnu i gael llen- yddiaeth Gymraeg gymwys i blant i. gyrraedd yr Ysgolion. Y mae digon- edd o lyfrau rhagorol ar y maes, ond anaml y cyfarfyddir a neb yn ein Hys- golion Sul yn gwybod dim am danvnt. Hyderwn nad yw'r lie ga'r Gymraeg yn y Rhaglen yn enghraifft o'r He fydd iddi yn y Gynhadledd.
Y "Darian" a'r Rhyfel. I
Y "Darian" a'r Rhyfel. I Y mae un o ohebwyr y "Darian" wedi ei alw i faes y frwydr, sef Quarter-master Sergeant D. D. Jones, Coldstream Guards, awdur yr ysgrifau diddorol ar "Rai o Ryfedd- odau yr Aifft." Bwriadai ysgrifennu cyfres dda, ond ymddengys y bydd raid aros rhyw gymaint o leiaf heb y gweddill. Dymunwn nodded Duw i "D. D. a dychweliad diogel i dir ei wlad ac at ei briod a'i ddwy ferch fechan. Y mae efe a ninnau yn hen gyfeillion, a'r peth cyntaf a wnaeth ar ol clywed am ein cysylltiad a'r Darian" oedd anfon tanysgrifiad am dani am flwyddyn. Brodor ydyw o Benderyn, ac y mae'n bur adnabydd- us yn Aberdar. Y mae'n llenor coeth, yn gyfaill pur, a'i gymeriad yn ddi- lychwyn. MOELONA. I Y mae plant y "Darian" yn holi am Moelona. Gofynnai un o honynt ai gwir oedd ei bod hithau wedi mynd i'r rhyfel. Wei y gair olaf a gawsom oddiwrthi, yr oedd ar gychwyn am wyliau i Belgium, ac wedi gofalu am ddefnydd tair colofn i'r plant cyn mynd. Y mae'n bryd i ni glywed oddi- wrthi eto. Nid oedd rhyfel wedi torri allan pan gychwynodd, ond dichon fod y terfysg wedi rhwystro ei dych- weliad hithau fel llawer eraill. Y mae rhai o'r plant yn bryderus am ei dio- gelwch. Y mae awdures "Teulu Bach Nantoer," a Golygyddes Colofn Plant y "Darian yn gweithio'i ffordd i galonnau plant Cymru yn fwy na neb.
Y Diweddaraf o Faes y Rhyfel.
Y Diweddaraf o Faes y Rhyfel. Nid y«- cryfder y byddinoedd eto wedi dod i wrthdarawiad. Teimlo'u ffordd y mae'r galluoedd ar hyn o bryd, ac ar ychydig iawn o'r hyn gyhoeddir y gellir dibynnu ei fod yn wir. Y mae'r Llywodraeth wedi bod dan orfod i brotestio yn erbyn yf adroddiadau anghywir a gyhoeddir. Beth bynnag, ymddengys fod Ffrainc yn ennill tir yn Alsace a Lorraine, a chryn ddifrod wedi bod yno. Y mae'n bur sicr hefyd fod llong ryfel o eiddo Germani, sef y Panther, wedi ei suddo. Hon oedd y llong aeth i Agadir tua dwy flynedd yn ol ac a a fu bron ag achosi rhyfel yr adeg honno. Nid mor fyr gwaith ag y tybiodd Germani yw myned i Ffrainc trwy Belgium. Deil y Belgiaid eu tir yn dda, ac y maent wcdi rhwystro dylifiad y Fyddin Germanaidd y Ffrainc y ffordd honno. Collodd y wlad hon long ryfel yr wythnos ddiweddaf trwy daro ar un o'r "mines" a osodir dan y dwfr. Ymosodwyd ar adran o lynges y wlad hon gan fadau tanforawl Ger- mani. Ni niweidiwyd llongau y wlad hon, ond suddwyd un o "sub-marines" y gelyn. Dywedir fod Ymerawdwr Germani ci hun wedi mynd i Aix-la-Chapelle at ei filwyr. Y mae Llynges Japan wedi hwylio allan. Yn ol cytundeb bydd hi yn gwylio buddiannau Prvdain yn y Dwyrain pell. Ychydig o lwyddiant sydd i arfau Awstria-Hyngari yn erbyn Serfia. Prin y mae son am Awstria bellach. I
[No title]
——— ===== j Ymddengys yr Oracl yn un ó bapurau I Ileol Aberdar yr wythnosau hyn. Dy- j wed nad oes gobaith am Gymru tra fyddo'r genedl yn glynnu wrth yr iaith Gymraeg ac na chynhyrchodd yr un dyn gwir fawr erioed. Er ei fod yn gredwr mawr yn y Saeson. nid yw fawr o Sais ei hun, a bninu wrth ei ysgrif- au, ac amlwg yw na wyr ddim am iaith nac hanes y Cymry. Daeth yr iaith Gymraeg yma o. flaen hwn eto, a bydd yma wedi iddo fynd.
Y Diweddar Syr Edward Annwyl.…
Y Diweddar Syr Edward Annwyl. Bydd yn chwith i Gymru golli gwr mor gyflawn ac anrhydeddus a'r Marchog. O'i adnabod rhaid oedd ei garu. ac feallai nad gormod dweyd nad oedd i neb fwy o gyfeillion ymysg pob dosbarth nag efe. Edrychid arno hyd yn oed gan y myfyrwyr a eisteddai wrth ei draed fel cyfaill i fyned a'u hanaws- terau ato ac felly y meddvlient am dano ar ol troi allan at oruchwylion bywyd. Nid i'r Athrofa yn unig y bu byw, ac yn hyn yr oedd yn wahanol i'r athrawon yn y brifysgol yn gyffredin. Bu byw i Gymru gyfan, De a Gogledd. Teimlai'r genedl yn falch ohono, ac anwylai ef fel un o'r meibion mwyaf athrylithgar. Myned rhagddo oedd o hyd mewn parch a dylanwad. Pan etholwyd ef i'r brif gadair yng Nghaer- lleon, sibrydai rhai mai cam oedd hwnnw ar y ffordd i gadair bwysicach yn fuan. Gorffwysid yn dawel pan fyddai enw da'r genedl yn ei ofal y gwnai gyfiawnder ag ef. Yr oedd yn Gymro diledryw, yn feistr ar yr iaith, ei Hen, ac hanes y genedl. Yr oedd cystal Sais a hynny, heb fod yn ail i'r Sais gore yn y byd yn ei feistrolaeth o'r iaith honno. Er hynny, nid un o'r Cymry llwfr hynny mohono a ymfalchiai yn ei allu i guddio ei genedl eithr gwr a'i carai yn angherddol oedd, ac a ddal- iai ar bob cyfle j'w hamddiffyn lie byddai galw. Ymdaenodd y newydd am ei farw gyda sydynrwydd syfrdanllyd ddydd Sadwrn diweddaf, oblegid ni chlywsid am ei anhwylder yn flaenorol. Bu farw mewn oedran cymharol gynnar, yn wyth a deugain oed. Yr oedd yn an- terth ei nerth a blynyddoedd addfed- rwydd o'i flaen. Disgwylid llawer oddi- wrtho ar sail ei ddiwydrwydd naturiol, oblegid nid diog mohono o anian. Diau iddo weithio yn rhy galed gan ei fod yn weithiwr diarbed fel y prawf ei gyr- raeddiadau amrvfal. Yr oedd yn un o ddynion mwyaf amryddawn y genedl— yn athro, yn ysgolhaig, yn lienor, yn awdur, yn ddiwinydd, yn esboniwr, yn bregethwr, yn ddarlithydd, yn blaenori mewn addysg. yn genedlaetholwr, yn llawn o yspryd cyhoeddus, ac yn barod bob amser i wasanaethu lie byddai galw am dano. Pan ysgrifenner ei hanes ceir cyfle i weled y gwaith enfawr a gyflawn- asai mewn oes fer. Ei berigl bedd gwasgaru ei alluoedd yn ormodol, yn hytrach na'u cyfyngu i gwmpas bychan. Addysgwyd Syr Edward yng Ngholeg St. loan, ac Ysgol Henry VIII., Caer, lle'i ganwyd ac y'i magwyd. Oddiyno aeth i Goleg Oriel Rhydychen. Dewis- wyd ef yn 26ain oed yn Athro Celtic ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedi hynny yn Athro mewn ieithoedd cymharol. Efe oedd Cadeirydd PwyUgor Gweithiol Bwrdd Canol Cymru. Ar ymweliad y I Brenin a Bangor yn 1911 gwnaed ef yn Farchog. Rhoddir yr hyn sydd farwol ohono i orffw.ys ym Mynwent Glyntaf heddyw, ddydd Mawrth. Ym Mhontypridd cartrefa ei rieni yn bresennol. Cawsant anrhydedd fawr i fagu mab mor ar- dderchog, a bydd yr ergyd yn drwm o'i golli. Brawd iddo yw'r Parch. Bodfan Annwyl, Pontypridd, arolygwr sefydliad y Mud a'r Byddar. Dymunwn iddynt nawdd y nef yn eu dydd blin. I
....I 0 Lannau Tawe.I
I 0 Lannau Tawe. I Blin ydyw gorfod cofnodi marwol- aeth ddisymwth hen frawd adna- byddus iawn yn y gymdogaeth, sef y diweddar John Miller, o Heolycae, Clydach. Yr oedd wrth ei waith fel gwyliedydd a groesffordd Graigola- Merthyr ddydd Gwener, ond bu farw yn ddisymwth iawn ar fore'r Sadwrn. 'Roedd yn 71 mlwydd oed. Claddwyd ym Mynwent Sant loan ddydd Mercher diweddaf John Thomas, 0 Droedybryn Fardre, Clydach, gynt o Fferm Gellyonen. Bu farw ar y Sadwrn o'r blaen ar ol cystudd hir yn 61 mlwydd oed. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn y cylch, 1 a gwasanaethodd yn ffyddlon fel ¡ diacon yn Eglwys Methodistiaid Sal- I em Fardre am flynyddoedd. Cafodd angladd luosog a pharchus, a gwas- anaethodd y Parchn. D. Davies, Maesteg; T. Howel Jones, Llan- samlet; J. Vincent Thomas, Salem; T. Valentine Evans, Calfaria, a D. Eiddig Jones, Hebron. j Eiddig Jones, Hebron. Clywaf i gyfaill anfon lythyr-gerdyn vn ddiweddar o Aberystwyth i Ddafydd Rhoderick, Clydach, fel y canlyn :— | "Dos ar frys at Dafydd Roderick, Yng Nghwmtawe mae y cawr; Canal Cottage yw'r anedd-dy, Dyna ffwrdd a ti yn nawr." Cyrhaeddodd yn ddiogcl! Dim ond son a siarad am ryfel a milwyr sydd i'w glywed yng Nghlyd- ach ar hyn o bryd. Clywaf fod rhwng 300 a 400 o filwyr o Glydach yn unig wedi atcb yr alwad i'r gad yr wythnos ddiweddaf, a gwelais dros gant yn cychvvyn o'r gymdogaeth Mercher diweddaf. Deallaf i'r milwyr ganu'n iach i tua 800 o wragedd a phlant, gan eu trosglwyddo i ofal caredigrwydd y bob1. Clywaf hefyd fod "Civic Guard" i'w sefvdlu yng Nghlydaeh er sicr- hau diogclwch rhai o bethau hynafol y cylch. LLEW.
I i 0 Wy i Dywi.
0 Wy i Dywi. I PLANT Y CEDYRN. Gwersi mewn Hanes Lleol gan Lewis- j Davies, Cymer. Ar ol marwolaeth Hywel Dda, ac yn enwedig ar ol dyfarniad Edgar o Loegr yn ffafr Morgan Hen parthed perchenogaeth Ystrad Yw, gwelir yn hanes y de ddigon o arwyddion o'r eiddigedd hagr a ffynnai rhwng Dyfed a Morgannwg. Gellir dweud, yn wir, na fu trai arno o gwbl hyd nes i elyn newydd-y Norman—ddinystrio y ddwyblaid ym mrwydrau Hirwaen Wrgant a'r Mynydd Bychan. Ond ni ymladdwyd y riieiny hyd oddeutu y flwyddyn 1090, ac yn y cyfamser bu canrif o ryfela chwerw rhwng y ddau deulu a olreinient eu hachau y naill i Hywel Dda a'r Halt i Forgan Hen. Maes y gyflafan gan amlaf oedd Gwyr (sef y tir a orwedd rhwng Ta\ve a Llwchwr), ynghyd a'r orynys hwnt i Ystumllwynarth, a adnabvddir yn fwy pendant o dan yr enw Gwyr heddyw. Wrth fyned heibio carem nodi dwy ffaith o ddiddordeb, sef: (I) Mai llygriad o'r enw Ystum- llwynarth ydyw yr Oystermouth presennol. (2) Fod y rhanbarth boliticaidd a gynrychiolir gan Mr. John Williams, A. S., yn awr yn cydredeg yn lied fan- wl a'r Gwyr cyntefig, ac nad oedd ffurfiad yr etholaeth hon yn 1885 ond dychweliad at hen ffiniau oeddent yn bod ym myd gwladol Cymru yn agos i fil o flynyddoedd cyn hynny. Dyma'r tir oedd yn y dyddiau gynt yr hyn ydyw Belgium yn awr, hynny yw, rhandir bychan anhapus yn gor- wedd rhwng dau gymydog mawr eiddigeddus. Ac fel y gelwir y tir bychan dewr hwn i'r culfor yn "Cockpit of Europe," gellir desgrifio Gwyr yr un modd fel Cadle'r De. Anrheithiwyd ef, sef y Belgium Cymreig, drosodd a throsodd gan Owain ap Hywel Dda, ac yn amlach fyth gan ei fab, Einon ap Owain, ar ei ol. Erys hyd y dydd heddyw Gors Einon yn enw ar dref bwysig yng ngorllewin Morgannwg i'n hadgofio am y fwydr ymladdodd efe yno yn y flwyddyn 990, a'r un modd amryw o enwau ereill, megis Cadle a Phenlle'r- gaer, i bwysleisio yr ymrafael mynych welodd yr ardal hon yn ei hanes hir. RHAI 0 FAWRIOX DYFED. Yr oedd un peth yng nghyfundrefn gwleidyddol Cymru Gynt a oedd yn gyfrifol, rhagor na dim arall, am y man ryfeloedd ami yn ein plith. Honno oedd v ffaith nad ofdd unrtivw un o feibion tywysog o angenrheidrwydd yn fwy o etifedd na'r gweddill o'r plant. Y canlyniad oedd, o byddai amryw feibion yn goroesi eu tad, y bvddai ymladd hir a chreulon. Y mae engreifftiau hyd yn oed o dywysogion nad oeddynt feibion i'w rhagflaenwyr yn cipio y llawryf yn rhinwedd per- thynas bell, pan oedd y berthynas honno yn cael ei heilio gan gymeriad personol crvf. GweUxld Dyfed amryw 0 r cylryw. I n o honynt oedd Llyw- elyn ap Seisyllt, yr hwn nid oedd Ddyfedvvr o gwbl. Morgeinwr o bendefig ydoedd o ardal y Bewpyr, a briododd Angharad, merch Meredydd ap Owain ap Hywel Dda, ac yn rhin- wedd y cysylltiad hwnnw gwnaeth ei hun yn dywysog Dyfcd er gwaethaf pawb. Ac nid hynny yn unig, oblegid daeth yn dywysog yr oil o'r Gogledd hefyd, ac a fu yn llwydd- iannus iawn ym mhob rhyw ystyr J fel y bu ei fab Gruffydd ap Llywelyn (gwrthwynebydd mawr Harallt II., brenin Lloegr) pan esgynnodd yntau i'r orsedd yn 1021. Dyma y cyff y deilliodd William .Seisyllt neu Cecil, Arglwydd Bur- leigh, Canghellor mawr y Frenhines Elizabeth allan o honno, a gwyr pawb mai disgynyddion hwnnw drachefn ydyw yr Arglwydd Hugh Cecil a'i frodyr sydd mor amlwg yn ein Sen- edd ninnau y dyddiau rhain. Un arall o fan dywysogion Dyfed ddaeth i fri yn fwy trwy gymeriad na braint oedd Rhys ap Tewdwr, a weithiodd ei ffordd i'r orsedd ar ol lawer o dywydd garw. Profodcf hefyd lawer o wg ei gyd-dywysogion wedi iddo ei chyrraedd, ond parhaodd yn dcryn ar Ddyfed hyd nes iddo yn ei henaint gwympo, fel y dywedwyd" eisoes, o flaen y diluw Normanaidd yn i ogo. Gan y byddis yn troi yn ol ato- eto yn y cysylltiad hwnnw, ni adawn Ddvfed am ennyd i edrych y modd yr ymdarawodd disgynyddion Morgan Hen rhwng Nedd ac WTvsg yn yr un amser ag y bu Owain, Einon, Llyw- elyn, Gruffydd, a Rhys yn dal awenau y gorllewin-barth. *Nodiad.-Geill rhvwun odid ddat- gan mai llygriad lied bell ydyw Oys- termouth o Ystumllwynarth. Ond y mae pcthau cyffelyb yn myned ymlaen eto a geiriau Cymreig yn cael eu gwyrdroi bob dydd. Onid ydyw Cil- fai wedi myned yn Kilvey, Llettypiod (Margam) yn Ladypad, a Glandwr yn Landore? Pe hwn fyddai y He iawn i godi dadl ynghylch llurgunio ein henwau lleol buaswn yn haeru mai aralliad o Seinhenyd (yr hen cnw ar (rastell Abertawe) ydyw y gair Swan- sea, ac nid Sweyn Sea fel y myn rhai. Efallai y ceir amser addas i ymdrin a'r mater rywbryd eto.
[No title]
Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r "Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.