Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Colofn y Gohebiaethau. I

Ysgrapiau o'm Hysgrepan.

Advertising

I COLOFN Y DDRAMA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I COLOFN Y DDRAMA. I "ESTHER." Drama Ysgrythyrol gan Beriah Gwynfe Evans. Gwaith hen law yw hon, a chred- wn y daw'n fwy poblogaidd na dim a wnaeth ym maes y ddrama. Y mae'n ddwy ran; y rhan gyntaf yn cynnwys "y chwarae," a'r ail ran "y cyfarwyddiadau a'r gerddoriaeth." Eu pris yw swllt yr un. Nis gallwn wneud yn well na galw sylw at y ddrama hon yng ngeiriau'r awdur ei hun. Y mae ynddi "wersi mewn moesoldeb, crefydd, a chenedlgarwch. Nid dibwys y pethau hyn ar adeg pan fo pob math o chwarae yn cael ei gynnyg inni." Ceir cyfarwyddiadau manwl i gwmniau dibrofiad, a gellid sicrhau digon o chwareuwyr ymron pob capel yn y wlad i'w pherfformio. Hysbysir darfod i Gwmni Dramayddol y Fenai pan drefnai y perfformiad cyntaf sicrhau gwisgoedd, arfau, a dodrefn oeddynt yn hanesyddol gyw- ir, a gall cwmniau fo'n dewis hynny eu hurio ar delerau rhesymol. Dyma gyfle i'r sawl sydd yn awyddus i ddarparu drama adeiladol a difyrrus i'r bobl ieuainc, a chymeradwywn hi yn galonnog gan hyderu y bydd o les mawr.

IAberteifi a'r Cylch.

Advertising

Eisteddfod Tir Iarll, Maesteg.…

I I Nodion o Heolycyw.