Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Colofn y Gohebiaethau. I

Ysgrapiau o'm Hysgrepan.

Advertising

I COLOFN Y DDRAMA.

IAberteifi a'r Cylch.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Aberteifi a'r Cylch. Y RHYFEL. Dyna glywir ar y ffarm, yn y bwth- yn, ar yr heol, yn y pwll glo, ac hyd yn nod y tloty y dyddiau hyn. Gyda miloedd ereill drwy y wlad aeth ped- war ugain o fechgyn ieuainc, er bod yn barod i gymeryd rhan i amddiffyn ein gwlad, prynhawn dydd Mercher diweddaf o Aberteifi. Chwareuwyd yn galonogol gan Seindorf Gwaencae- gurwen, ddigwyddai fod yn y lie, ar y ffordd o'r Neuadd Drefol i orsaf y rheilffordd. Heddyw eto gwelsonr yr amaethwr yn dod a'r ceffylau i fewn i'r dref er i'r Llywodraeth eu prynu i fod o wasanaeth yn y rhyfel bresennol. Aeth yn agos i gant o geffylau o'r dref hon a'r cylch. Bydd hyn yn golled i'r amaethwyr, gan fod y cynhaeaf llafur mor agos, ond ni chlywsom neb yn grwgnach, gan eu bod wedi chwerwi gymaint tuag at Germani yn ei hawydd i lethu gwlad gymharol wan. Dyled- swydd pob un sydd yn ceisio byw allan egwyddorion y Testament Newydd ydyw pleidio heddwch hyd eithaf ein gallu, ond mewn argyfwng fel y presennol credwn ein bod fel gwlad i'n cyfiawnhau am y rhan ydvm yn cymeryd yn y rhyfel bres- I ennol. Hyderwn y ceir y fath olwg ar erchylldra rhyfel fel y ca pob gwlad gas cyflawn ar ei bwysfileidd- iwch, ac y bydd hynny yn foddion i hyrwyddo teyrnasiad heddwch rhwng I pob gwlad ar wyneb y ddaear. Dymunwn o'n calon ar i Dduw i wasgaru y rhai sydd dda ganddynt ryfel. Marwolaeth. Yn sydyn rhyfeddol fu farw Capten E. Jones, Glandewi, Llangrannog, yn 64 mlwydd oed. j Ychydig ddiwrnodau cyn hynny ym- ) welodd a'r ysgrifennydd yn Aber- teifi eli ffarwelio ag ef gan fy mod yn bwriadu symud i Aberdar, ond nid oedd ef na minnau ar y pryd wedi dychmygu y buasai ef o olwg daearol- ion cyn fod yr adeg i mi symud wedi dod. Syrthiodd yn farw pan yn I ceisio cael lie cyfleus i weinidog dyfodol Capel y Wig a Chrannog i letya. Tarawyd y cylch a syndod. Yr oedd y Capten wedi treulio blyn- yddoedd ar y mor, ond wedi ym- ddiswyddo fel Capten bu yn fasnach- wr llwyddiannus yn Pontgarreg, Llangranog. Nid oedd er ys blynydd- I oedd bellach yn ymdrafferthu mewn masnach. Adeiladodd dy prydferth, I a gelwir ef yn Glandewi. Cydym- deimlir yn fawr a'i unig blentyn a'i fab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. C. Ll. Evans. Ymgynhullodd tyrfa lu- osog dydd Llun diweddaf i hebrwng gweddillion yr ymadawedig i fyn- went Capel y Wig. Cymerwyd rhan yn y ty—y capel ac ar lan y bedd gan y parchedigion canlynol:—H. H. Williams, Llechryd; W. Griffiths, Maenygroes; D. D. Davies, Beulah, a'r gweinidog dyfodol yn y Wig a'r Crannog, Mr. D. D. Jones, o Goleg Caerfyrddin. Gweinyddodd Mr. Jones y swyddau o ddiacon a thrysor- ydd am flynyddoedd yn y WTig. Yr oedd yn Rhyddfrydwr goleuedig, a theimlir colled ar ei ol. Bydd Glan- dewi yn wag hebddo. Hvderwn y ca Mrs. Evans wenau y nefoedd yn ei thrallod blin. Boddi.—Digwyddodd anffawd flin yn ymyl y Gwhert nos Fawrth diwedd- af drwy i Thomas George, pan ar ei ymweliad a'r lie, foddi. Aeth ei frawd ac yntau i ymdrochi, ond coil- odd un olwg ar y llaIl, a gwelwyd yn fuan fod un wedi boddi yn ymyl y lan. Rhyfedd y damweiniau sydd yn cym- eryd lie yr adeg hon o'r flwyddyn. Nid rhyfedd fod cymaint yn colli eu bywydau wrth ddilyn eu goruchwyl- iaethau, ond gresyn fod hynny yn digwydd i gynifer pan yn mwynhau eu hunain, ac yn ceisio adgyfnerthiad i'w hiechyd. Anfynych iawn y clywn I am foddi yn y He hwn wrth ymdrochi, ond mae digwyddiad felly yn peri i I ni gofio y frawddeg, "Nac ymffrostia I o'r dydd vfory, canys ni wyddost beth I a ddigwydd rriewn diwrhod. Aberteifi. D. JONES. I Aberteifi.

Advertising

Eisteddfod Tir Iarll, Maesteg.…

I I Nodion o Heolycyw.