Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

I DYDD IA U, AWST 20, 1914.1…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD IA U, AWST 20, 1914. Nodiadau'r Golygydd. Bydd yn Llanymddyfri gynhadledd bwysig Medi'r 16eg a'r 18fed i ystyried y cwestiwn o ffurfio Undeb rhwng Eglwysi Efengylaidd Cymru. Ceir y rheswm am y syniudiad hwn yn y para- graff a ganlyn o gylch-Iythyr sydd wedi ei anion ailan wedi ei lofnodi gan In o anveinwyr y gwahanol enwaclan Yr ydym o'r farn, gan hynny, fod yr adeg wedi dod i ffurfio Undeb Cenedlaethol o holl Eglwysi Efengyl- aidd Cymru. Ein bwriad cyntaf ydoedd ffiti-fio undeb- o'i- fath ynglyn a Chyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion, eithr ymwithyd y Parch. F. B. Meyer a'r Cyngor Cenedlaeth- ol yn Llundain yn bendant ag un- rhyw gorff cenedlaethol i Gymru, ond yn unig fel is-bwyllgor o'r Pwyllgor yn Llundain, gyda'r swyddogion yn y Memorial Hall yn swyddogion iddo." Nodir amryw bethau eraill a ddangh- osent drahauster y Sais tuag at y I Cymro ynghyd a'i duedd i ddiystyrru buddiannau Cymru a'i phobl. Nid yw'n ddrwg gennym am y rhwyg I oddiwrth Gyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion. Nid oedd ym- I ddygiad awdurdodau y Cyngor hwnnw tuag at Gymru, ond yr hyn ellid ddis- gwyl, ac nid oedd ond yr hyn a haeddai ein harweinwyr. Os oes gwaith i un- deb o'r fath credwn mai mantais i Gymru fydd gweithio'n annibynol ar linellau cenedlaethol. Awgryma rhai fod cwestiynnau nas gall Cymru eu hwynebau ar ei phen ei hun. Ond tyb- ed y bydd annibyniaeth Cymru yn rhwystr iddi i gydweithio a Chyngor Lloegr mewn materion sydd yn gyffredin i eglwysi'r ddwy wlad? A fydd Undeb Cenedlaethol yn fwy an- effeithiol yng Nghymru nag Ls-bwyll- gor o Bwyllgor Llundain 1 Y cwestiwn ynglyn a'r Undeb hwn eto yw-beth a wna i feithrin ac i gyfoethogi bywyd cenedlaettol Cymru 1 A fydd o fantais i iaith, llenyddiaeth, a delfrydau ein cenedl 1 Cyn y bydd yn deilwng o'i alw yn Undeb Cenedlaethol Eglwysi Efengylaidd Cymru, bydd raid iddo fod yn amddiffyn cryf i'r Gymraeg, ac yn foddion i gryfhau ei safle yn yr eglwysi. Byddai yn well heb yr Undeb oni chedwir hyn mewn golwg. Y mae'n bwysig i eglwysi Cymraeg wylio'u buddiannau yn y mater yma. Y mae'r Gymraeg a llenyddiaeth Cymru yn fwy diogelwch na dim i'r ysbryd gwerinol ac efengylaidd. Dichon wedi'r cyfan mai r ndeb Eglwysi Cymraeg fyddai o fwyaf bendith i Gymru. Methwn a deall paham nas gall yr eglwysi hynny sydd wedi gwadu eu hiaith ac yn byw ar lenyddiaeth Seisnig foddloni ar Is- bwyllgor o Bwyllgor Llundain. Gydag eglwysi Cymraeg y mae'n wahanol; y mae rhyw ystyr i genedlaetholdeb mewn perthynas a hwy. Wei, yn Llanymddyfri y bydd y Gyn- hadledd a benderfyna'r cwestiwn o gael Undeb Cenedlaethol i Gymru. Yn y dref honno y mae "Ty'r Ficer," a cher- llaw y mae Ystradwallter a'r Tonn a Phantycelyn. Rhoddodd yr ardal hon i Gymru rai o'i meibion goreu. Oddiyma y daeth emynau a chaniadau anfarwol yn yr hen Gymraeg. Yma hefyd yn enw addysg y diystyrrwyd yr hen iaith yn yr ysgolion. Nid oedd ryddid i yngau iaith ein perganiedydd o'r tu fewn i furiau'r ysgol yno hyd yn ddiweddar iawn. Yma y bu offeiriaio, athrawon, a siopwyr a chrach foneddigion yn siarad Saesneg am eu bod yn tybiect mai anfri arnynt oedd bod yn Gymry. Yma y mae capel Saesneg i goffa Williams Pantycelyn. Yma y mae Seisnigeidd- iwTch* yn llethu diwylliant gwerinol un o'r ardaloedd mwyaf athrylithgar yn ein gwlad. Beth a wna yr Undeb a geisir i iachau briwiau'u cenedl. Os bydd y gynhadledd a gynhelir yno yn deilwng o'r amcan a briodolir iddi, bydd Llanymddyfri yn fwy Cymreig ar 01 ei hymweliad a'r lie. Nid yw sylwadau "Tegerin yn y "Darian" ddiweddaf ar ein hvsgrif arweiniol ar Wallgofrwydd Bwyst- fileiddiwch" yn y "Darian" cyn I hynny wedi newid dim ar ein syniad am ryfel. Anffodus iawn oedd ei ddyfvniad o Carlyle. Yr oedd y rhai hynny yn cadarnhau y cwbl a ddywed- asom. Yr unig wrthwynebiad syd5i gennym i sylwadau Carlyle yw ei fod yn galW y rhai a ddanfonir allan i sacthu eu gilydd yn ffyliaid. Xid ffvliaid mo lawer o honynt, adwaenom rai yn eu plith sydd yn rhagorolion y ddaear. Cyfrifasom yn ffyliaid y j llywodraethwyr cyfrwys y dywed Carlyle eu bod yn cweryla, ac yn danfon allan i saethu eu gilydd well dynion na hwy eu hunain. Nid yn unig y maent yn ffyliaid ac yn gyfrwys, y maent yn llwfriaid yn ogystal. Nid oes lwfryn gwaeth nag Ymerawdwr Germani yn yr holl fyd heddyw. Yr oeddem yn berffaith gydwybodol pan yn dweyd y gadawn am byth fy mhroffes Gristiongol cyn y dywedwn air o gyfiawnhad i'r rhyfel hon nac i lInrhyw ryfel arall. Yr hyn y synn- wn ato yw fod cynifer o'r un farn yn hollol a ninnau gyda golwg ar ryfel, ond, ie "ond," daw rhyw ond rhyng- ddynt a'u Gethsemane a rhyngddynt a'i buddugoliaeth hefyd—y mae yn rhyfel a'r ysbryd aflan yn y tir a rhaid mynd gydag ef! Dvfynna "Tegerin eto o Tenny- son— I t "A pence that is full of wrongs, Horrible, hateful, monstrous, not to be told." Awgryma mai yr heddwch hwn- heddwch ar unrhyw delerau a gym- eradwyir gennym. Nid felly. Cydna- byddwn er hynny ein bod yn cyfrif Mab y Saer o, Nazareth yn uwch awdurdod na Tennyson, ac yn meddu ar olvgwedd gywirach o natur am- gylchiadau'r byd a'r modd i gyfannu ei rwygiadau. Gwr cvfoethog oedd Tennyson, bardd brenhinol, ac un a gvmerai ei alu gan ddynion yn "arglwvdd." A gwyddys nad llawer o rai cyfoethogion a alwodd Efe. Yn sicr nid yw ffrwyth a wen gocth Tennyson i ddistewi lleferydd Iesu o Xazareth. Fin dadl yw ei fod ef wedi condemnio rhyfel, ac nad yw ei ddysg- eidiaeth yn cyfiawnhau y fath farbar- | eiddiwch o dan unrhyw amgylchiadau. Y mae'n amlwg tra credir mewn rhyfel o gwbl mai rhyfel a fydd, ac nas gellir ei hosgoi. Afresymoldeb j i'r eithaf i'n tyb ni yw tybied ei bod yn ddyledswydd ar Gristion i bleidio heddwch tra mae heddwch, ond ei bod yn gymaint dyledswydd arno i bleidio rhyfel os bydd rhyfel. Nid heddwch ar unrhyw delerau yw I arwyddair y Cristion nad yw yn credu mewn tywallt gwaed. Cymysgu pethau a'u gilydd yw amgrymu dim o'r fath. Cyhoeddi aneffeithiolrwydd hollol y cleddyf i unioni drygau wnaeth Iesu o Nazareth, ynghyd a mynegi'r ddeddf-v ddeddf sy'n ddiffael— "Canys pawb ar a gymerant gle-dd- \d I yf a ddifethir a chleadyi." Ai nid yw gweithrediadau'r ddeddf hon yn ddigon amlwg. Gwnaeth Iesu o Nazareth fwy na hyn; datguddiodd nerth inw Y., nerth na thycia'r un gallu daearol yn ei erbyn. Eler a'r byd i Gethsemane unwaith eto, a gwelir yno ddiystyrru nid yn unig help cleddyf Simon Pedr, ond help mwy ha deuddeg lleng o angelion. Pa- ham? Wei, yn sicr, am nad oedd angen am danynt, am na fyddai go- baith daioni o ymddibynnu arnynt. Daiohi ei hun yw y nerth mwyaf a'r dylanwad cryfaf. Y mae'r gwir Gristion nid yn wan a llwfr, nid yn credu mewn "dim gwrthwynebiad," fel y dywed rhai, ond yn ddigon cryf i orchfygu drygioni trwy ddaioni, yn ddigon cryf pan darewir ef ar y nail! gern i droi'r llall. Nid gorchfygu gelyn yw ei ladd. A dyna welir yn Gethsemane. y da'n ddigon cryf i ddioddef, ac yn gorchfygu trwy ddioddef. Nid oes bellach ff., dd mewn daioni. Llecha Cristionogion yn awr o'r tu ol i'r magnelau a nerth Llvnges y wlad neu amlder ei byddinoedd yn unig a rydd iddynt esn-wyth gwsg. Nid yw'r eglwys fel cyfangorff mwy- ach yn credu. Y mae wedi ei cham- ddysgu ar hyd yr oesau. Bydd raid iddi cyn y'i gwelir yn deilwng o'i phen fynd yn ol at Iesu o Nazareth a gwrando ar ei eiriau ef yn eu syml- rwydd heb esboniadau y papurau aristocrataidd sydd yn honni dysgu Cristionogaeth yn Lloegr. Rhaid cychwyn o'r newydd gydag ef a'i ddilvn dros Cedron i'r Ardd ac i'r Groes. Hyn wnaeth y rhai a welsent ei ogoniant Ef. Hyn wnaeth Ardderch- og lu'r Merthyri. Dioddefasant eu hunain a thynnodd eu dioddef hwv ymerodraethau i'r llawr. Rhyw hanner credu y mae yr Eglwys hedd- yw—rhyw gredu a thynnu'n ol i goll- edigaeth pan ddaw'n brawf. Bydd raid iddi gredu'n llwyr ac ymddiried hyd yr eithaf yn ei Phen, ac yn yr arfau nid ydynt gna wdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr. Bryd hynny y gwelir gwawr gogon- iant mwyaf Prydain, ac nid yn nin- ystr Germani fel y cyhoeddir mewn rhai pupurau. Colier hyn, y c}rmeradwywn yn galonnog .bob symudiad i gynorthwyo y rhai ddioddefant mewn unrhyw fodd.o herwydd y rhyfel bresennol. Y mae cynorthwyorr anghenus yn Gristionogol ymhob amgylchiad, gan nad pa un a ydym yn credu mewn rhyfel ai peidio. Gadawer i ni weled Cristionogion yn deilwng o'u proffes yn hyn beth bynnag.

J.Piaeth Aberdar.

Advertising

Gohebiaethau.

ARGRAFFWAITH.