Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

0 Bontardawe i Gaerdydd. -i

\I Delft.I

.Nodion o Bell ic Agos. I

I Ar Lannau Tawe. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Ar Lannau Tawe. I Digwyddodd tro blin iawn yn y Glais fore Sadwrn diweddaf. Cyflawn- odd Mr. Evan J. Evans, grocer, hunanladdiad trwy torri ei wddf. Beth a'i harweiniodd i gyflawnu'r weithred ni wyddys. Gwr caredig a pharchus oedd efe, a pharodd yr am- gylchiad gryn deimlad yn yr ardal. Cydymdeimlir yn fawr a'r weddw a'r plant yn eu trallod. Llongyferchir Seindorf Bres Cal- faria, Clydach, ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Penrice yr wythnos ddiweddaf. Cipiasant y brif wobr yn yr ail radd. Peth anarferol ydyw gweled gwyl- wyr arfog yng Nghlydach. Yn bresennol mae'r pontydd i gyd yng ngofal milwyr sy'n perthyn i'r "Civic Guard. Galwyd "nurse" Clydach a'r cylch i Plymouth yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn aelod o'r "Army Nursing Reserve." Digwyddodd damwain flin i blentyn bychan Harry Thomas, Aberclydach Place, yr wythnos ddiweddaf. Aeth cerbyd glo dros ei glun. Dygwyd ef i Ysbyty Abertawe, a bu raid cymer- yd ymaith yr aelod. I DAVID MORGAN JENKINS. I Cydymdeimlir yn ddwys a Mr. a Mrs. T. Jenkins, Fardre Road, Clydach. Dydd Llun wythnos i'r diweddaf gwelsant hebrwng i fyn- went Bethania weddillion eu mab, D. M. Jenkins, a fu farw'n un-ar- hugain oed. Rhyw dair neu bedair blynedd sydd er pan ddaeth y teulu yma o Fryn Mawr, a daeth nifer lu- osog o ffrindiau a pherthynasau oddi- yno i'r angladd. Gwasanaethwyd gan v Parch. T. Valentine Evans. Gwelwyd yn bresennol y Parchn. J. Tywi Jones, Glais, a Jones, Ciwrad, Trebannos. Bachgen da, tawel, diymhongar, a hoffus iawn oedd David Morgan. Yr oedd wrthi yn cymhwyso ei hun i fod yn fferyll- ydd, ac yn Llundain yr oedd yn paratoi erbyn yr arholiad pan gym- rwyd ef yn glaf fisoedd yn ol. Cafodd gystudd hir a thrwm, ond dioddefodd yn da wel a dirwgnach. Yn Aberdar gyda Mr. Emrys Evans y treuliodd y gaeaf diweddaf. Er ei golli yma nid ofer fu ei fywyd. Nid yw ond wedi ei symud, a cha'r rhai sydd mewn hir- aeth ar ei ol ei gyfarfod eto, lie ni bydd raid ymadael mwv. LLEW.

Colofn y Belrdd. I

Datblu Pnm-canmlwyddiant huno…

Advertising