Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

.i-.GWIB I BENFRO.1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWIB I BENFRO. Dichon mad anniddorol genych fyddai ychydig eiriau ar daith idrwy Gymru "ben- tigili," oBenmaea Rhos i Benmaen Dinas, ac o for y Gogledd i for y De. Cychwyn- ais yn fore o fauColwyn rhyngof a'r De- heubarth, a buan iawn y cefais fy hun yn Nghaer. Nid oedd raid aros end ychydig eiliadau na chipiwyd fi oddiyno gyda'r treu trwy ardaloedd toreithiog yn banes y Bed- yddwyr; a chan fy, mod wedi blino a dar- llen a, meddwl am y rhyfel, &c., meddy.- iais mai ysgainhad i'r meddwl fyddai sylwi ac atgofio ffeithiau mawrion yn hanes fy enwad yn y tiriogaeth.au y teithiwn t-wy- ddynt. Bua,n iawn, ar linell y Great West- ern, y oefais fy huti yng ngolwg Penyoae, lie y gorwedd 11 well yr ysgolhaig asddfed John Williams, awdwr yr Oraclau Byw- iol,' a lie y mae gorweddfa lliawl3 a ym- laddasant ym mhlaid egwyddorion y Bed- yddwyr, 'fore tywyll eto yn eu banes. Ar y dde chwyrnellem drwy ddyffryn Llan- gollen, mangre athrofa a ddysgodd ugein- ila,u o fyfyrwyr ar .gyfer y weinidogaeth, preswyl y Doctoriaid enwog John Pritch- ard, Hugh Jones, a Gethin Davies; a rhuthrid drwy'r Cefn Ma,wr, mangre llafur yr enwog Ddr. Ellis, Cefn Mawr, athrylith yr hwn a ddenodd yr enwog Cynddelw i'w gofIlaIlnu. Ar y dde dacw y Glyn a'r a foil He y bu yr athrylithgar J onøsRamoth yn pregethu ac yn bedyddio blaenffrwyth Bed- yddwyr y cylch, ac ar yr aswy y gorwedd yr Heleddwen, lie y gorwedd llwch Eliza- beth Meirshall, Bedyddwraig, a gwraig yr anfarwol John Milton. Ymhen ychydig cef- ais fy hunan yn yr Amwythig yn Nghof- restrfa. Blwyfol yr hon y ceir enwau lliaws o fy hynafiaid. Wedi ad-drefnu y gerbyd- res yno wele fy nghipio trwy Faesyfed a'r ardaloedd He y teithiodd ac y pregethodd y pybyr Vavasor Powell, yn adeg gynhyrf- us y Werinlywodraeth; a thrwy yno ym- deifl y peiriiant ymlaen i Sir Henffordd, a buan iawn y cawn fy hun yn Llanllieni. males llafur Joshua Thomas, hanesydd cynt- af Bedyddwyr Cymru. Dacw fryniau oesol lie yr ymdr-eigla yr Olchon, a lIe y oeid eg- lwys o Fedyddwyr yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac ar yr aswy wele Mynwy yn dod, gwlad y Cider, hen gartref Sion Cent, a Hen Dy Syr John Oldcastle, a lie y bu Owen Glyndwr yn ymlechu. Wedi gadaol Caerdydd a'i miffil hynodion, wele fi bell- ach yn prysuro trwy ardal Glandwr, lie y llafuriais flynyddoedd yng nghwmni'r Dr. A. J. Parry, Dr. W. P. Williams, a Dr. Gomer Lewis, y rhai ydynt bellach wedi rhagflaenu. Dacw Gasllwehwr lie y bum yn pregethu yn y Gymanfa a llu ereill pan dorodd y Stage; a Llwynhendy, o an- farwol golfdwriaeth, a Brynamman, a Llan- elli a'u llu enwogion yn myd masnach a chrefydd. Coliiaf am oedfaon melys agafaiis yn y Pwll; a dyma fi yn fuan iawn yn hen dref Caerfyrddin, maes llafur yr anwyl John Thomas, seinber ei ddawn, ac enillgar ei foes, o'r hon yr erlidiwyd ac y ffodd yr anfarwol Morgan John Rhys, pan ymgil- iodd tua, oriau'r nos tua Lerpwl, gan groesi y Werydd i'r Amerig bell, yr hwn y conii; ei emynau yng Nghymru tra cenir y Gym- raeg. Ac wedi ysbaid wele fi yn Good- wick, lie y mae yn rhaid newid. Y mae y modur yn fy nisgwyl, ac yng nghwmni y cyfaill hyhvyn Mr. Morris, yr oeddwn mewn ychydig funudau ymhen fy nhaith yn Dinas Cross, lie yr ooddwn i wasanaethu y Saboth. Wele fi bollaeh, er nad ain y tro cyntaf, mewn ihaiibarlh hynod i Fedyddwyr Cymru or dyddiau erledigaeth ac ymhell cyn y Chwyldroad. Nid wyf heb deimlo, Mr. Go!ygydd, AVTth Nid i\Tv,f heb doinilo, 'Mr, (',O!-V')'Yd?l, ??'Ttll hesa, w?h weied yma yiuor y cipiwyd Eleanor, darpar wraig Llewellyn y Llyw Olal oddi arno gan y gelynion. y torwyd ei galon or herwydd, ac y. eladdwyd An- nibyniaeth Cymru yn yr un bedd agyntau Nadolig 1282; a'r man hefyd y glaniodd Iarll Richmond wedi hynny Haxri VII., o hil Owen Tudur ymhen rhyw ddaii can mlynnedd drachefn i gyfodi yr un Anni- byniaeth i fyny yn y frwydr ar faes Bos- worth, Ibaner yr hwn a geir eto yn yr Herald's College, a'r Ddraig Goch ar ei ehediad arni,yn cael ei gyfnerthu gau y dewr-wych Syr Rhys ap Morus oedd mewn cyd-ddealldwriaeth a Fychaniaid Mos- tyn, a Stanleys Caerhirfryn (Lancastor)—- ond rhaid yma,tal, canys IIlid newyddiadur milwriadol yw yr eiddoch, ond crefyddolac enwadol. Ac wrth adolygu'r wlad o'm hamgylch maar ben y Ddinas, ni allaf Lai na chofio am y saith dyn dewr a aeth a.llan o'r gororau hyn, gan gyhwfan y faner Fedyddiedig ynghanol diffeithwch tywyll- wch ac ofiergoeledd y Gogledd ar y pryd, gan osod i lawr sail dda erbyn yr amser a ddaeth ym mhersonau Christmas Evaais a,c ereill a'u dilynasant. Heblaw hyn, yma y gorwedd llwch Nath- aniel Davies, Cilgerran, un y bydd ei enw yn anwyl byth i mi ar gyfrif mai efe a'm bedyddiodd, ac awdwr "Y Gwynfydau," un o'r llyfrau a rois i mi yr ysgogiad meddyl- iol cyntaf am y weinidogaeth. Onil dyma y wlad lie y bu yr enwog Griffith Howell, Rushacre, yng Ngharchar Caerfyrddin am ymladd dros ryddid crefyddol yn 1687, flwyddyn cyn y Chwyldroad? Onid yma y mae "Gardd Gladdu Trefangor," fydd byth enwog yn hanesiaeth Bedyddw yr? Yma y tiriodd y Ffnanooid yn Abergwaen yn 1797: yma y ganed William Jenkins, Llan- gloffan, myfyriwr yn Athrofa Bristol, a fu flarw ar ei daith, ac a gdaddwyd yn myn- went yr enwiad yn Glynceiriog yn 1845; yma y gorwedd mewn tawel hun fy hen gyfeillion Nathaniel Griffiths, Blaenconin, y tanllyd Jenkins, Trefdraeth; y pert Phil- lips, Groasgoch, y mwynber Benjamin Tho- mas, Trelettert, a'r melysddawn Myfyr Em- lyn Narberth, na chaf eu gwel.e.d na3 yn y cymanfaoedd, nac yn nghynadleddau yr Undeb mwy. Ond rhaid terfynu ar ben Tabor. Gerllaw Avel Brynberllan, lie y bedydcliwyd aelod cyntafi Tabor, Mr. Owen Prosser, yn 1677, ac acw y mae'r fan lie y claddwyd gweinidog cyntaf yr eglwys William Griffiths 1798-1822, gorwyrer-s yr hwn sydd y;n aros etc yn 91 mlwyddoed. Ac heblaw y gyfres a enwir yn Hanes y Bedyddwyr gan D. Jones, Caerdydd, yma y gwsasanaethodd y rhai a adnabum, y ffraethbert Griffith Roberts, Caerfyrddin wedi hynny; y trefnus Humphreys, Pont- estyll; a'r beirniadol a'r anwyl Maurice, un o ddynion galluocaf yr enwad, aj a fu fugail yma am 26 mlynedd. Tabor.dyia y fan y bedyddiwyd William Morgan, wedi hynny, Dr. Morgan. Ebe Christmas Evans am dano, "Efe ydyw'r dyn rnwyaf agroes- odd y Fenai," ac a fu weinidog Caergybi, am lawer o flynyddoedd; ac meddai yr hen frodyr anwyl, y diaoon yn Tabor, gan ei ddangos- dyna'r maes lie y bu yn ar- edig!" Wedi treulio wythno3 lanwyl yn yr oror hon, af yn ol i 'r fan y canodd Benjamin Francis- Eglwysi heirdd fel gwinwydd ir, Flodeuo'n deg drwy'r "Gogledd dir. gan olygu Gogledd Cymru, lie y mae ei brophwydoliaeth erbyn hyn wadi ei chyf- lawni, ac yn lie rhyw 'bymtheg' oeglwysi Bedyddiedig a welodd efie, y mae yno hedd- yw dros ddau cant! a dywedaf, "Hyn a fynegir i'r oes a ddel; a'r bobl a greir a folianant yr Arglwydd." Colwyn. T. FEIMSTON (Tudur Clwyd).

Y GENHADAETH DRAMOR.

CAERFYRDDIN SYDD A'R GOREU.