Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLOFFION DIRWESTOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFION DIRWESTOL. ( Alcohol yn Ddinystr. Onid yw yn ITaith. darawiadol fod Alcohol yn gwneyd ei ddinystr mwyaf yn mhlith yr hiliogaethau mwyaf defosiynol, ac uchel yspryd, yn y fel yna ysgrifena un awd wr. a dywed yn mhellach: Yr wyf yn siarad o wiaelod fy nghalpn, oblegid yr wyf yn per- thyn i'r hil Celtaidd-hil sydd yn meddu ax deimladau ardderchog, a brwdfrydedd nerthol, a,e hil sydd wedi dioddef fwyaf oddiwrth effeithiau diodyddmedclwol. Mae ein pwlpudwyr ardderchocaf, a'n 'areithwyr godidoaaf, mewn llawer enghraifft, wedi myned, yn ysglyliaeth i'r drwg ofnadwy hwn. Mae alcohol yn apelio at, ac yn ymosod ar v prifle (citadel): effeithia ar yr ymenydd, jac ar y galluoedd Isyidd yn rhoi tan ao yni i'r 'natnr' yn gynta-f-y rhai hynny sydd yn oael eu meistroli gyntaf gan Alcohol. Pe bai Alcohol ond yn gwanhau y coesau, ac yn ei gwneyd yn angenrheidiol i ddyn i eistedd lawr ynghanol pwll o ddwfr yn nghanol yr heol, ni fyddai yn adrwg iawn gennyf. Galla-i eistedd yno a meddwl a dysgu doethineb; end yn anffortunus mae Alcohol yn cymeryd ymaith y gallu i feddwl. Pe bai yn bosibl i ddyn i fod yn feddw, ac eto bod mewn meadiant o'i holl alluoedd a synh wyrau, byddai meddw- dod iddo yn uffern, ac ni fyddai perygl i ddynion i fyned yn feddwon. Daioni Llwyrymwrthodiad. V, Mae meddygon o safle uehel wedi dangos yn eglur y oamsyniadau corphorol yr oedd dynion yn arfep. eu gwneyd o barthed Al- cohol. Mae llwyrymwirthodiad yn sicr o fod yn achub nifer mwy, o fywydau na meddygon mewn llawer enghraifft. Mae yn sicr o fod yn cynilo mwy o axian na holl fanciau cynilo y Brif-ddinas, ac yn rhwys- tro mwy o droseddau na holl heddgeidwaid y ddinas fawT; ond nid oherwydd y rhes- ym&u hynny y gofynnir i ddynion i gym- eryd yr ardystiad, ond oherwydd nad oes yr un dyn yn byw iddo ei hun, na neb yn marw iddo: ei hun. Mae bywyd dyn yn dylanwadu ar arall, a dylid gofalu fod y dylanwa-d hwnnw er daionia dyrchafiad. Moesoldeb y Fasnach. Aeth saer coed, yr hwn oedd wedi blino ax wneyd eyiihaliaeth onest, at foneddwr gyda deiseb am drwydded tafarndy, gan ddymuno arno i'w arwyddo. Edrychodd y boneddwr arno, a gofynodd iddo, paham na fai yn cadw at ei grefft. Yr ateb oedd, "Mae ead w tafarn yn fwy ennillfawr; ma3 arnaf eisieu dyfod yn gyToethog," Wei, ond, onid ydych yn meddwl y byddwch yn rhoi mwy ,o gyfleusderau i feddwoin i ddinystrio eu huiiain trwy gael trwydded?" Ni feddyliais am hynny o'r blaen; ond mae yn debyg inai felly y byddai." "Yna, os yr Arglwydd a oddef i chwi gadw tafarn am ddeng mlynedd, bydd banner cant o fywydau wedi marw trwyeich offerynoliaeth chwi, a chaniatai pump yn flynyddol: yn awr, beth sydd yn dod o'r meddwyn? A yw efe yn myned i'r nefoedd?" Nac ydyw, maon'debyg. "Yr wyf yn sicr nag ydyw, oblegid ni all yr un meddwyn etifeddu Teyrnas Nefoedd. Beth sydd ya dyfod c hono ynte? "Rhaid iddo fyned i uffern mae'n debyg," oedd yr ateb. Gan hynny onid ydych yn miedd-wl y bydd yn gvfiawn os bydd i'r Arglwydd eich gyrru chwithau ar derfyn y deng mlynedd i lawr i uffern hefyd i edrych ar 91 yr hanner cantmedd- won hynny?" Taflodd y, dyn ei ddeiseb i lawr, ac aeth yn ol at ei grefft onest, ac ni themtiwyd ef wedi hynny a'r dymuniad, a'r awydd i gael trwydded tafarn. Ffyddlondeb i Egwyddor. Swyddog yn y Fyddin Americanaidd a busnes gyda General Washington, a wahodd- wyd i giniawa gydag ef. Ychydig cyn fod y giniaw drosodd, g,alwodd Washin6.ton ef wrth ei enw, gan ofyn iddo yfed gwydriad o win gydag ef. Chwi fyddwch mor garedig a'm hesgusodi i General," oedd yr ateb, "yr wyg wedi ei gwneyd yn rheol i beidio cymeryd gwin;" yr oedd ilygaid y ewmni lluosog o'r ddau ryw1 ar y swy- ddog ieuanc ar unwaith, ac yniddangoiai axwyddion o anfotddlonrwydd ar bob tu. Washington yn gweled tsimlad y cwmni a'u h,anerchodd fel y eanly,n-c, Foneddig- ion, mae Mr. yn iawn. Nid wyf yD dymuno ar neb o fy ymwelwyr i gymeryd dim yn erbyn eu tueddiad, ac yn sicr, nid wyf am iddynt i dori unrhyw egwyddor sylfaenol yn eu ymwneyd cymdeithasol a mi. Mae gennyf biarch i Mr. am ei ddidderbynwyneb, am ei gy ond !b yn glynu wrth reol sylfaenedig, yr hon na all wneyd niwed iddo, ac yn ei fabwysiad o honi, nid oes gennyf amheuaeth fod ganddo. res- ymau digonol." Pwy all ddweyd y dylan- wad gafodd ymddygiad gonest a dewr y swyddog yna ar y cwmni yn o' ynol? Ac er fod yr Ihanos yn hen mae'r addysgiadau geir yn yr ymddygiad yr un yn awr a'r pryd hwnw. Nid oes rhaid i neb gywilyddio dal at ei ardystiad. —dal at ei egwyddor lwyrymwrthodol. Chwifier y faner ddir- westol gan bob dirwestwr yn mhob man. Shakespeare a'r meddwyn. Dywed y gwr uchod am dano fel y can- lyn:— Mae dyn meddw yn debyg i ddyn yn hoddi; mac y:n y,nfyd ac yn wallgof. Gwna un llwyngad ef uwchlaw gwres yn ynfyd; mae yr ail yn ei wneyd yn wallgof; ac y mae y trydydd yn ei foddi." Ah, pa nifer sydd wedi oael eu boddi? Pa nifer foddir bob blwydldyn gan y diodydd meddwol. Mae meddwl am hynny y 11 aetl ac yn frathiad i'n calon. Darllenwyr y "Seren," ardysti vvch. Ardystiwcli yn hen ac ieuangc. Maxdy. o CELYNtN.

TABOR, CWMAFON.

[No title]