Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
TY yu ARGIIWYDDY. I
TY yu ARGIIWYDDY. I DYDD MAWRTH, Mai 30. I Arclwydd LucAN a gynnygiodd apwyntiad cyfeistedd- lod. i edrych i mewn i weithrediad deddfau y tlodion yn yr Iwerddon. FTWwyd y cynnygiad gan Arglwyddi STUART DE DEcms, BEUMONT, a MONTEAGLE, a gwrthwynebwyd ef gan yr Adalwyr LANSDOWNE a GLANRICARDE, ac Ar- glwyddi GREY, DEVON, a CHAMPBELL. Ar raniad y ty, cariwyd y cynnygiad yn erbyn y wein- yddiaeth gyda mwyafrif o 6, sef 33 yn erbyn 27. Cyimygiwyd cyfarchiad o gydymdeimlad a'r frenines, av iarwolaeth y Dywysoges Sophia, gan yr Ardalydd LANSDOWNE, a chefnogwyd gan Arglwydd STANLEY, a dsariwyd yn unllais. Ar ol byr ddadl, darllenwyd ysgrifraith tenantiaid di- feddienaedig (I weradon), yr ail waith, DYDD GWENER, Mehefin 2. Anlalydd LANSDOWNE, wrth roddi ar y bwrdd gyfnf o'r arian a dalwyd gan y senedd i gynorthwyo yr Iwerdd- on y n amser y newyn, a ddywedodd fod y newyddion oddiyno yn awr yn siriol iawn, gan fod golygfeydd am stynhauaf toreithiog. Darllenai lythyrau oddiwrth Father Matthew ac ereill ar y materion hjn, yn mha rai y dywed, befyd, fud y bobl yn ymroi i ymdrechiadau amaethyddol syda ael mawr. D YDD LL UIV, Mehefin 5. Ai'dalydd LANSDOWNE, mewn atebiad i ofyniad, a davwedai nad oedd y gweinidogion yn eu hystyried eu nniiain yn rhwymedig i ymyraeth ag achosion Awstria ac Itali. DYDD MAIVRTH, Afekefin 6. Rhoddodd Arglwydd BROUGHAM ar y bwrdd ysgrifraith yn mhellach er diwygiad cyfreithiau troseddwyi-. Yna aeth amryw ysgii^Veithiau, nad ydynt o sylw cyffredin, ryw raddau yn mlaen. DYDD IAU, Mehefin 7. Ar gynnygiad Arglwydd HARROWBY, dr-rllenwyd yr vsgrifraith er rheoli gwertbiad cwi tv yr ail waith. Aeth ygg¡if àad-freiniad etholwyr Yarmouth trwyV cyfeistedd- fod. DYDD GWENER, Mehefin 8. Ar gynnygiad Arglwydd CAMPBELL, ac ar ol ychydig ddaoleu, darflenwyd, jr ail waith, y r ysgrif er cydffurfio cyfraith Scotland, gyda golwg fir briodasau a chofrestnad genedigaethau a marwolaethau, aV eiddo Lloegr. Yna gohiriwyd y ty hyd ddydd Ian, Mehefin 15.
TV V CVFFREDIN.
TV V CVFFREDIN. DYDD LLUN, Mai 29. Mewn atebiad i ofyniad Mr. Keogh, dywedodd Ar- glwydd J. RUSSELL nad oed un bwriad yn y treialon diweddar yn yr Iwerddon i wyro y ddedfryd, trwy gan allan bob rheithiwr a fyddai yn Babydd, neu o unrhyw enwad crefyddol, oblegid ei farn grefyddol. Yr anrhyd- eddus arglwydd, i'r diben o gefnogi ei haeriadau, pa rai ydvnt yn ymddangos yn hollol groes i'r ffeithiau, a ddar- Ilenodd lythyr oddiwrth Gvfreithiwr CyfTredinol ei Mawr- hydi, yn yr Iwerddon, yn rhoi cyfarwyddiadau i'r sirydd, yn newisiad y rheithwyr, fel hyn Nid wyf yn petruso dvwevd, yn y fath holiadau a hwn a'r cyffelyb, y dylech droi heibio, ar ran y llywodraeth, heb ystyried barnau crefyddol, bob un ag y cewch achos i gredu eu bod yn dal opiniynau gwladwriaethol o'r un natur a r eiddo y carch- aror a'i gefnogwyr." Syr J. GRAHAM a ddywedai fod honyna yn rheol dda, ac mai felly y gwnaeth y weinyddiaeth Doriaidd yn nhreial O'Connell. Mr. BRIGHT a haerai fod y fath arferind yn warthus i'r llywodraeth, ac na wnai condemniad Mitchell dan y fath amgylchiadau heddychu yr Iwerddon. Mr. E. ROCHE a wadai fod y treial wedi bod yn deg, ac a ddywedai, os gweithredid yn ol y cynllun yna, y byddal yn rhaid i bob diwygiwr gael ei farnu gan wrth- ddiwygwyr, ac felly byddai-yrarholiad trwy reithwyr yn dwyll, ac yn fagl, ac yn siomedigaeth. DYDD MAWRTH, Mai 30. Mr, HUME a ddywedai, mewn atebiad i ofyniad Mr. E. Roche, fod ei gynlluniau diwygiadol i gymeryd i mewn yr Iwerddon. Mr. E. ROCHE a ofynai a oedd y llywodraeth yn bwr- iada cario allan y ddedfryd oedd wedi ei gael trwy foddion in or annheg yn erbyn Mr. Mitchel ? Syr G. GREY a atebai, yn nghanol bonllefau o gymer- adwyaeth, eu bod yn hwriadu gweinyddu y ddedfryd hyd yr eithaf arno. Arglwydd R. GROSVENOR a ddygai gynnygiad yn mlaeo ain ymofyniad i lafur gormodol, o ran oriau, &c., pobyddion, mewn stebiad i ddeiseb oddiwrthynt. Ar ol tipyn o ddadl, yn mha un y dywedodd Mr, HUME nad oedd llafur yn cael ei gynnrychioli yn y senedd, ac v dymunai ef weled pobydd yno i roi ei farn ar y mater, Gwrihodwyd y cynnyg gan fwyafrifiaeth o 12, ar y tir nad oedd yn ddoeth i'r senedd i ymyraeth rhwng meistr- iaid a'u gweision. Mr, BOUVERIE a ddygodd yn mlaen gynnygiad er di- wygiad y llysoedd eglwysig, sefydliadau pa rai oeddynt yn warth i drefniadau cyfreithiawl ein gwlad. Atebwyd gan Syr G. GREY y byddai i'r weinyddiaeth ddwvn mewn ysgrifraith ar y mater yn yr eisteddfod nesaf, Dr. BOWRING a gynnygiai fod y derbyniadau cyllidawl i gael eu talu yn gyfanswm i'r drysorfa, fel ag i ddwyn holi draul y llywodraeth yn fanwl o dan sylw ac awdur- dod Ty y Cyffredin." GV rthwynebid y cynnygiad gan y weiridogaeth, ond rariwyd ef yn euherb-I a gyda mwyafrifiaeth o 5, sef 56 yn erbyn 51. DYDD MERCIIER, Mai 31. BIT dadl ar ysgrifraith er helaethiad ar ryddfreiniad y Pabyddion, yr hon a ohiriwyd yn gynarol. DYDD IAU, Mehefin 1. Ymddangosai Arglwydd Faer Dublin, gydag amryw (,'i gydswyddogion dinasol, yn Nhy y Cyffredin i gyf- hvyno deiseb, yn erfyn am adferiad y senedd Wyddelig, ac am ddilead yr undeb llywodraethol rhwng LIcegr a'r Iwerddon. Arglwydd J. RUSSELL a rybuddiodd y byddai iddo, ddydd Llun nesaf, ddwyn ysgrifraith i newid ffurf y llwon ar eisteddiad aelodau seneddol. Hefyd, wythnos i'r Llun nesaf, i ddileu y gyfraith oedd yn gofyn fod pob trethi wedi eu talu cyn y gellir pleidleisio am aelodau seneddol mewn dinasoedd a bwrdeisdrefi. Arglwydd PALMERSTON, mewn atebiad i Mr. H. Baillie, a ddywedodd fod gohebiaeth ar droed rhyngddo ac awdurdodau Ysbaen, mewn perthynas ir digwyddiadau diweddar, (anfoniad ein cenadwr o Ysbaen,) ac, mor fuan ag y gellid, y gosodid y llythyrau o flaen y ty. Bu parhad o'r ddadl ar Ddeddfau Morwriaetn (sef i ehangu egwyddorion rhyddfasnach at longau a llongwr- iaeth, a rhoddi i fynu y breintiau sydd yn awr i'n llongau ein hunain ragor llongau tramor, mewn amrywiol ffyrdd). 0 blaid, areithiodd Mr. MOFFATT, Mr. MITCHELL, Mr. MILNER GIBSON ac yn erbyn, Mr. ROBINSON, Ardalydd GRANBY, a Mr. IIENBY, a gohiriwyd y ddadl drachefn. DYDD GWENER, Mehefin 2. Parhawyd y ddadl ar ddeddfau morwriaeth. Areith- iodd Meistri Gladstone, Hudson, Captain Berkeley, Syr A. Wood, Meistri Clay, Newdegate, Wawn, Hildyard, ac Arglwyddi Ingestre a J. Hay. Yna gohiriwyd y ddadl yn mhellach. I DYDD LLUN, Mehefin 5. I Arglwydd J. Russell a ddywedodd, gyda golwg ar yr ysgrifraith fwriadol ar lwon y seneddwyr, mai ei diben oedd i symleiddio y llwon, fel ag y gallai pob rhai o ddeiliaid ei Mawrhydi eu cymeryd. Bwriadai ddwyn y cynnygiad yn mlaen ddydd Mawrth, y 27. Bu dadl mewn perthynas i'r oerfelgarwch a Spaen yn achos anfoniad ymaith oddiyno ein cenadydd gwladwr- iaethol, Syr H. Bulwer. Areithiodd Meistri Banks, Sheil, D'Israeli, Syr R. Peel, Arglwydd Russell, ac Ar- glwydd Palmerston. Ymddengys mae diben ein llywodraeth ni yn rhoi cynghor i lywodraethwyr Ysbaen oedd, i arafu eu gwein- yddiaeth arglwyddiaethol, rhag ofn cenhedlu gwrthdeimlad a chwyldroad yno megis yn Ffrainc. Yr oedd y ty yn cymeradwyo tuedd y cynghor, ond beio y dull o'i roddi. A bernid, er fod y sarhad yn haeddu ei ddial gan Brydain, eto, mai gwell oedd ei basio heibio, ac nid niweidio Bren- ines Ysbaen oblegid penboethder ei gweinidogion. I DYDD MA WRTH, Mehefin 6. Traddododd Arglwydd ASHLEY araeth ardderchog a dyngarol yn achos plant y tlodion; ac ar ol crybwyll am effeithiau daionus ysgolion rhad, a gynnygiai fod yn anghenrheidiol trefnu rhyw Iwybr i gynnorthwyo rhyw nifer o feibion a merched, a addysgid yn yr ysgolion hyny yn nghymydogaeth Llundain, i ymfudo yn flynyddol i rai o sefydliadau tramor ei Mawrhydi. Addawai y wein- yddiaeth gymeryd y peth dan sylw. I I I DYDD MERCHER, Mehefin 7. Bu dadl lied faith ar yr ysgrif mewn perthynas i leoedd I addoliad yn Scotland, ond ni fyddai yn ddifyr i Gymry aeth yr ysgrif radd yn mlaen. I DYDD IAU, Mehefin 8. I Parhawyd y ddadl ar ddeddfau morwriaeth. Areith- I iodd chwech neu saith o aelodau, a gohiriwyd y ddadl drachefn. I DYDD GWENER, Mehefin 9. Diweddwyd dadl deddfau morwriaeth mewn areithiau grymus gan Bentinck. Hume, Cobden, Dlisrzteli- Peel, a Russell. Rhanwyd y ty, ac yr oedd o blaid me sur y weinyddiaeth, (sef i ryddhau llongwriaeth,) 294, ac yn erbyn, 177. Mwyafiaeth, 117.
I-
I- I FFRAINC. Dydd Sabboth a dydd Llun, Mai 28ain a 29ain, yr oedd pryder mawr yn Paris, gan ddysgwyl ter- fysgoedd adnewyddol a mawrion. Yr oedd y senedd wedi penderfynu dileu y gweithfeydd gwladwr- iaethol, a hyn wedi digio yr 120,000 o ddynion sydd wedi bod, am fisoedd, yn cael eu cynnal mewn diogi ar draul y wlad. Yr oedd Emile Thomas, eu prif arolygydd, hefyd, wedi ei symud ymaith mewn dull dieithrol gan yr awdurdodau, ac ofnid y buasent yn ymosod ar y senedd am es- boniad o'r amgylchiad. Ymddengys fod y cam- drefn mwyaf, a'r gwastraff a'r anonestrwydd ffieiddiaf, wedi bod yn nhreuliadau y gweithfeydd diachos hyn. Cadarnhawyd holl agos-ffyrdd y senedd a. milwyr. Aeth un o weinidogion y llyw- odraeth at y gweithfeydd ei hun, a dywedai wrth y dynion nad oedd dim mwy o waith iddynt yn y brif-ddinas, ond bod llawer o weithfeydd mawrion heb eu cyflawni yn y taleithiau. Anogai hwynt, gan hyny, i fyned i wahanol ranau o'r wlad i ym- ofyn am waith, ac yn enwedig gan fod trysorta y weinyddiaeth bron wedi darfod, gan nad ellid eu cynnal yn hwy yn Paris. Derbynid y cyfarchiad hwn gyda dirmyg gan y gweithwyr; atebent nad aent hwy ddim allan o'r ddinas-mai hwynthwy a wnaethant y chwildroad, ac mai hwy a ddylent gael y fantais o hono; os nad oedd gwaith i'w gael, y mynent hwy gael arian i'w cynal. Hyd yn hyn, beth bynag, nid oes dim tywallt gwaed wedi cy- meryd lie mewn canlyniad. Y mae blaenoriaid y gwrthryfel diweddaf (Mai 15fed) etto yn ngharchar a blaenoriaid y blaid eithafol sydd etto yn rhydd,' yn mhlith pa rai y mae Louis Blanc, (yr hwn oedd aelod o'r llywodraeth ragddarbodol,) heb fawr o'u hofn ar neb mwyach. Y mae y diweddar deulu breninol wedi eu hall- tudio trwy gyfraith seneddol, bron yn unllais. Y mae Belgium ac Ysbaen wedi cydnabod yn gyhoeddus werin-lywodraeth Ffrainc. Nid yw y weinyddiaeth bresenol yn debyg o bara yn nghyd yn hir. Y maent yn methu cydweled a chyd-dynu. Y mae Llywydd y Senedd, Buchez, yr hwn a ddewiswyd am y mis cyntaf, wedi rho'i lie i M. Senard, yr hwn sydd wedi ei ddewis am y mis nesaf. YmaeBarbes ac Albert, a blaenoriaid ereill y gwrthryfel Mai 15fed, i gael eu treial yn Paris yn fuan. Y mae son parhaus fod Lamartine a Ledru Rollin ar ymadael a'r weinyddiaeth. Y mae mesurau penderfynol iawn wedi eu ffurfio gan y senedd i ro'i i Jawr gynnulliadau terfysgol y bobl. Y mae palasau breninol Ffrainc yn cael eu rhanu rhwng y gweinidogion presenol i drigo yn- ddynt. Y mae gwledd, neu giniaw mawr, gan y blaid anfoddog yn Ffrainc, cyfeillion y rhai sydd wedi eu carcharu am lfaenori yn nherfysg Mai 15fed, i gymeryd lie yn y dyddiau nesaf. Dys- gwylir y bydd 200,000 o bobl yn bresenol, ac ofnir y bydd cythrwfl. GE RNA N I. I Y mae heddwch a llonyddwch wedi ei adferu i Vienna, ond y mae y brenin yn parau yn ei ddi- angfa yn Innspruck, ac yn nacau, er pob deisyfion oddiwrth ei ddeiliaid, i ddychwelyd i'r brif ddinas. p R w s s J A I Y mae Berlin, prif ddinas Prwssia, yn dra chyn- hyrfus; y bobl gyffredin yn gwaeddi am arfau- anymddiried cyffredinol yn mhlith gwahanol bleid- iau—ac arswyd dyddiol rhag rhyw doriad terfysg allan. Y mae y tywysog, ar ei ddychweliad adref, wedi ysgrifenu, yn addaw ei gynnorthwy egniol tuag at berffeithio y sefydliadau newyddion. YSBAEN. I Y mae Ysbaen wedi rhoddi sarhad pellach ar lywodraeth Lloegr. Ar y 25ain o Fai taflwyd swyddog milwraidd Saesoneg, o'r enw Bristow, yr hwn oedd yn preswylio yn Madrid er's amser maith, i garchar, heb un cyhuddiad. Cadwyd ef yno ddiwrnod a noswaith, yna gollyngwyd ef yn rhydd, gyda gorehymyn i adael y wlad mewn ped- air awr ar hugain. Y mae y sarhad hwn etto heb ei esbonio hyd yn byn. DENMARK A SCHLESWIG HOLSTEIN. Y mae yr ymdrechiadau am sefydlu heddwch rhwng y pleidiau hyn yn debyg o ddybenu mewn penderfyniad fod i'r rhan o'r taleithiau uchod sydd wedi ei boblogi gan y Daniaid, berthyn o hyn allan i Denmark, a'r rhan a boblogir gan y Germaniaid berthyn i undeb Germanaidd. ITALI. Y mae undeb Lombardy a Piedmont mewn un llywodraeth, i'w weinyddu yn Milan, wedi ei ben- derfynu. Y mae y frwydr rhwng Awstria ac Itali yn par- hau heb ei phenderfynll-y naill blaid na'r llall heb ennill un fantais o bwys, oddieithr fod y gyntaf wedi ennill un fuddugoliaeth dan General Nugent, ac wedillwyddo i gymeryd Verona. Teimlwyd daeargryn trwy ddosparth o Twscani ar y lOfed, yr lleg, a'r 12fed o Fai. Gorfu i bobl Scind adael eu tai a chodi pebyll yn y maesydd agored. Tua chanol nos agorwyd yr eglwysi, ac yr oedd sin sobraidd y clychau yn galw y trigol- ion at weddiau yn cymysgu a thwrf y daeargryn. Sylwyd fod y cefFylau a'r anifeiliaid ereill yn ym- ddangos yn wybyddus o agosad ergydion y daear- grynfeydd. Gellir ystyried bellach fod anymddibyniaeth a rhyddid Itali wedi ei sicrau, Y mae buddugoliaeth benderfynol wedi ei hennill gan yr Italiaid ar yr Awstriaid, mewn brwydr a ymladdwyd y 30ain o Fai. Ymlidiwyd yr olaf ymaith o'u sefyllfau, a chymerwyd lie o'r enw Pescbiera, yn yr hwn yr oeddent wedi ymgadarnbau. Y mae y fuddugol- iaeth hon yn fwy calonogol i'r Italiaid, oblegid eu bod wedi ei hennill yn erbjn mwyafiaeth mawr yn nifer eu gelynion arnynt, set' 15,000 o'r Italiaid wedi maeddu, meddent hwy, 30,000 o Awstriaid. Bydd y Brenin Charles Albert, yr hwn oedd yn blaenori y fyddin, yn fwy poblogaidd nag erioed, ac fe fydd y zel ychwanegol a gonedlir yn ddiau yn wrthwynebol gan yr Awstriaid. I AMERICA. Y pwnc mwyaf yn yr Unol Daleithiau yn bres- enol ydyw etholiad y llywydd. yr hwn sydd yn agosau. Y mae Mr. Polk, Mr. Cass, a General Taylor, yn y maes. Y mae amryw danau mawrion wedi cymeryd lie yn Brooklyn a Detroit: yn y lie olaf dinystrwyd tri chant o adeiladau. Y mae tri neu bedwarcant o deuluoedd wedi eu gwneyd yn ddi-annedd, a cbolled wedi ei chael o 300,000 i 400,000 o ddollars. Y mae tan mawr wedi bod hefyd yn St. John's, Newfoundland, yn dinystrio 15 o dai, a chollwyd amryw o fywydau. Y mae cryn galedi befyd yn Newfoundland, oblegid prinder ymbortb, a'r llyw- odraethwr yno yn gorfod gweini cynaliaeth i'r dyoddefwyr. Y mae chwildroad wedi cymeryd lie yn Bolivia, a'r llywydd wedi ei newid, onite y mae Deheubarth America yn lied dawel.
INewrbbion (rartrefol.
I Newrbbion (rartrefol. I CyMREIG. TUEFFYNON.—Cynnaliodd y Trefnyddion Calfin- aidd eu cymanfa flynyddol yn y dref hon ar y dyddiau Mawrth a Mercher, y 6fed a'r 7fed cyfisol. Am chwech o'r gloch yr hwyr dydd Mawrth, dechreuwyd trwy weddi gan y Parcb. Benjamin Jones, Bagillt, a phre- gethodd y Parch. Robert Hughes, Mon, oddiar Dat. iii. 20. Boreu dranoeth, am chwech, cynnaliwyd cyf- arfod i weddio. Am wyth, ymgynnullodd nifer luosog o gyfeillion crefyddol i gyd-ymddiddan ambetliau han- fodol iechydwriaeth, a chafwyd yno gymdeithas tra ad- eiladol. Am ddeg, pregethodd y Parch. Cadwaladr Owen, Dolyddelen, oddiar Neh. ix. 1G; a'r Parch. John Jones, Llanllyfni, oddiar Matth. xvi. 26. Am ddau, pregethodd y Parch. WiUiam Hughes, Llan- rwst, oddiar Esai liii. 11, a'r Parch. Robert Hughes, Gaerwen, oddiar loan xii. 32. Am chwech, pregethodd y Parch. William Hughes, oddiar Salm xxxix. 13, a'r Parch. John Jones, oddiar Zech. ix. 12. Yr oedd y cyfarfod drwyddo oil yn hynod ragorol. Pregethid gyda nerth, gwrandawid gyda symlrwydd, ac yr oedd y capel eang yn orlawn o wrandawyr. WAEDDGRUG Ychydig ddyddiau yn ol aeth Mr. Kent, teisenydd, gyda'i weithiwr i'r meusydd i gasglu penau hopys i'w harfer fel llysiau. Wedi iddynt gasglu yr hyn a dybient yn ddigonol, dychwelasant adref, ac wedi iddynt fynu eu cogyddio, bwytasant yn helaeth o honynt. Yn fuan wedi'n cymerwyd hwynt ill dau yn bur glaf gan y Geri Frytanaidd, ac ar ol ing dirfawr am bedwar niwrnod buont ill dau farw. Ym- ddengys eu bod wedi camgymeryd y llysieuyn, ac mai rhawn y march (Belladonna, deadly nightshade) oedd ganddynt. GWRECSAM.— Y mae y Gymdeitbas er gwrthwynebu y Dreth Eglwys yn y dref hon wedi cyhoeddi anerchiad at y Treth-dalwyr yn cynnwys ei gwrthwynebiad iddi, ac yn galw arnynt fel dynion yn cam crefydd a chyf- iawnder i beidio ei harosod. Dywed yr anerchiad mai peth rhwng dyn a'i grewr ydyw crefydd fod gorfodaeth i dalu at grefydd plaid yn ymosodiad ar ryddyd crefyddol; yn orfaelaeth mewn crefydd, yr hyn yw y gwaethaf o bob gorfaelaeth yn anghyson ag egwyddorion cristionogaeth, yr hwn a ymwrthyd hyd yn nod a rhith o anghyfiawnder; yn ddarostyngiad i'r cyfryw sydd yn derbyn y trais; ac yn waradwydd i Eglwyswyr yn gymaint a'i fod yn gyhoeddiad i'r byd nad oes ganddynt gariad digonol i gynnal eu hachos heb orfodi ereill i dalu trwy drais yr hyn na wnant hwy o serch. Y mae yr anerchiad yn rhy faith genym i'w gyhoeddi air yn nghair, ond y mae wedi ei gyfansoddi yn dirion er yn gadarn, a diau y caiff argrafF ar feddyl- iau a chydwybodau heb gwbl ymgaledu. CONWY.- Y mae eiddo yn bresenol yn cael ei gludo ar y reilffordd o Gaerlleon. Derbyniodd rhai masnach- wyr yn y dref hon eiddo o Lundain yn mhen dau ddiwrnod ar ol anfon yr archiad am dano AMLWCH.—Ymddengys nad yw trigolion Mdn yn gwbl foddlon i'r Hen Ffarmwr eu rhoddi "yn eiddo i'r Saeson, yn oes oesoedd." Y maent yn dechreu ymysgwyd oddiwrth syrthineb ag oedd yn ymddangos i bobl bellenig yn anesbonadwy. Yr oedd y llyfrau gleision" wedi rhoddi y fath ddarluniad o'u moesau, a chlerigwyr parchedig wedi cyhoeddi y fath garictor gwaradwyddus iddynt, fel yr oedd eu dystawrwydd yn ymddangos i bobl, heb wybod yn amgen, eu bod yn euog o'r hyn a osodid wrth eu drysau. Ond bellach, y maent, (wedi cymeryd cryn dipyn o amser i ystyried) yn dechreu gweithredu er amddiffyn eu nodwedd foesol a chrefyddol. Cynnaliwyd cyfarfod yn y dref hon yn nghapel y Bedyddwyr, pan yr anerchwyd cynnulleidfa luosog gan y Parch. John Roberts, Llan- gefni, a llaw-nodwyd y gofeb at ei Mawrhydi gan luaws mawr. CAERFTRDDIN Yn y mis diweddaf cynnaliwyd trengholiad yn mhlwyf Llanfihangel-Aberbyddich ar gorff Jane Michael, yr hon fu farw dan effaith gwenwyn. Enw ei gwr oedd Thomas Michael. Nid oedd wedi bod yn briod ond pedwar mis. Yr oedd yn aros gartref gyda'i thad mewn fferm o'r enw Carreg-gynan- las, ac yr oedd ei gwr hefyd yn aros gartref gyda'i dad yntau, nes iddynt gael fferm gyfaddas i fyned iddi. Yr oeddynt yn dra serchus o'u gilydd, ac ymddangosai amgylchiadau o'u blaen yn ffafriol. Ar y nawfed o'r mis diweddaf aeth ei thad oddicartref i arwerthiant cyhoeddus, ac yn ei absenoldeb ymaflodd yn y cyfleus- dra i lyncu dognaid o arsenic, cymerwyd hi yn bur glaf mej-n canlyniad, a chan ei bod yn parau felly, anfonwyd am feddyg dranoeth, yr hwn a ddywedai yn union ei bod wedi cymeryd gwenwyn. Arferwyd pob moddion er ei hachub, ond yn ofer, oblegyd bu farw yn mhen ychydig ddyddiau. CAE RN ARF ON.- Y mddengys fod amryw aelodal1 o Fwrdd Ffyrdd Ardalyddol Caerfyrddin yn barnu fod saith swllt yr wythnos yn gyflog Uawn ddigon i'r gweithwyr ar y ffyrdd. Gofynai un Mr. Good, gan fod bwsel o haidd yn costio pedwar a chwech o leiaf, pa fodd yr oedd y gweithiwr i dalu ei ardreth a phwr- casu pethau angenrheidiol ereill i'w deulu allan o saith swilt ? Cynnygiai ef godiad ar y cyflog, ond ni eiliwyd y cynnygiad gan neb. Yn ystod y ddadl dywedwyd nad oedd Mr. Lloyd Hall, a Mr. Beynon yn talu ond chwe' swllt yr wythnos i'w gweithwyr. Y Mr. Lloyd Hall hwn oedd y gwr boneddig a ddywedodd wrth y Prwywrs" nad oedd y Gymraeg ond iaith caethion. Ni wyddem yn iawn beth oedd yn ei feddwl wrth hyny, ond yn bresenol wedi gwybod mai chwe' swllt yr wythnos y mae efe yn ei roddi i weithwyr dianaf, yr ydym yn ei ddeall CAS'NEWYDD.-Cyflawnwyd llofruddiaeth erchyll yn y lie hwn ar y dydd Gwener olaf o'r mis diweddaf gan filwr Gwyddelig, o'r enw Mathias Kelly. Yroedd ganddo ddynes yn ei ganlynacyn cydfyw ag ef o'r enw Agnes Hill. Oddiar ryw ychydig anghydfod rhyngddynt, cymerodd ei ddryll llwythog yn ei law, annelodd ef yn bwyllog ati, a saethodd hi yn farw yn y fan. Cymerwyd ef i fynu yn ddioed, ac wedi ei ddwyn ger bron yr ynadon cyfaddefodd ei euogrwydd yn rhwydd. Y mae yn awr yn ngharchar yn aros ei brawf am y weithred ofnadwy.—Y dydd Gwener olaf o'r mis diweddaf aeth pont brydferth rheilffordd Deheudir Cymru, ger y Cas'newydd, ar dan, a difeth- wyd hi yn gwbl. Dechreuodd trwy wthirij. i mewn bollt eiriasboeth gan un o'r gweithwyr. Yn mhen pum' mynyd ar ol gwthiad y bollt yr oedd y bont ar ei hyd ar dan, a uigon prin y diangodd pedrolfen oedd yn dyfod dL3ti ar y pryd. Yr oedd dros chwe' chan' troedfedd o hyd, ac yn gynnwysedig o un bwa yn chwe' ugain troedfedd, ac o ddeg o fwaau ereill llai o faint. Fel hyn dinystriwyd o fewn ychydig fynydau waith ag oedd yn ffrwyth myfyrdod dwys i'w ddyfeisio, ac yn ffrwyth gofal mawt i'w weithio. Y mae y golled i'r cymerwr yn ugain mil o bunnau, gan nad oedd y bont wedi ei chyflwyno drosodd i'r cwmpeini. LLAN::)YBI.- Ychydig amser yn ol darfu ferch ieuanc yn y lie hwn, swydd Gaerfyrddin, roddi terfyn ar ei bywyd yn yr amgylchiadau a ganlyn. Ymddengys fod tri gwr ieuanc yn canlyn ar ei hoi ac am ennill ei llaw a'i chalon. Arferai ddywedyd fod un o honynt yn etholedig ei thad, arall yn etholedig ei mham, a'r llall yn etholedig ganddi hi ei hun. Cyn iddi gyflawni y weithred echrys, yr oedd wedi ymbriodi a'r gwr ieuanc a alwai yn etholedig ei mham. Pan yr oeddynt ar fyned i fyw i'w ty eu hunain, pwrcasodd wenwyn, ac i'r dyben o roddi prawf ar ei nerth, rhoddodd beth o hono i asgelliaid, a boddlonwyd hi yn fuan ei fod yn farwol. Wedi hyny gwnaeth deisen gan roddi peth o'r gwenwyn yn ei defnydd, a rhoddodd hi i'w gwr i'w fwyta. Caf- odd ef drugaredd, gwaredwyd ei fywyd, ac y mae yn awr allan o berygl. Pan we!odd hi fod ei bwriad dychrynllyd wedi aflwyddo, cymerodd beth o hono ei hunan, a gwnaeth ymgais i osod y ty ar dan yr un pryd. Fodd bynag llwyddwyd i atal dinystr yr elfen dan, ond cyflawnodd y gwenwyn ei waith arni hi, oblegyd bu farw yn dra buan. ABERYSTWYTH.—Anrhegwyd preswylwyr y dref hon ar y pummed o'r mis hwn a datlith odidog y Parch. William Rees, Llynlleifiad, ar Williams, Pant-y-celyn, yr hon a draddodwyd yn addoldy eang y Trefnyddion Calfinaidd, yr oedd gollyngiad i mewn trwy docynau o swllt, chwe cheiniog, a thair ceiniog yr un, yr elw i fyned at wasanaeth y sefydliad teilwng yr Ysgol Gvmreig Mud a Byddar. Parodd enwogrwydd y ddarlith i dyrfa luosog ymgasglu ynghyd, brithid yr oriel a rhai o brif foneddigion y dref. Disgwylid pethau mawr yn y cyfarfod, ond aeth tu hwnt i'r holl ddisgwyliadau. Ni welsom erioed ddarlithiwr am gymaint o amser yn meddiannu-ei gynnulleidfa yn fwy llwyr; yr oedd ei ddull goleu a grymus, a'i hyawdledd anarferol, yn eu cadwyno i wrando arno, a phawb am y mwyaf astud yn talu y sylw manylaf i faterion y ddarlith. Portreiadwyd oes, athrylith, a chyfansodd- iadau digymar y gwron Cymreig, yn brydferth a di-