Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Y LLYFR DU. "I
Y LLYFR DU. I PEN. III.— TRAUL BRENINIAETH. I Pwrs cyfrin y Frenines, cyflogau gweision teulu- aidd, biliau masnachwyr, eluseni breiniol, &c. £ 392,165 Tal blynyddol y Tywysog Albert 30,000 Eto fel maes-lywydd a milwriad 8 000 Due Cumberland (Brenin Hanover) 21,000 Due Cambridge 27 OftO Duges Gloucester 16,000 Y Dywysoges Sophia 16,000 Adelaide, y Frenines Waddolog 100,000 Duges Kent 30,000 Leopold, Brenin Belgium 50,000 Y Tywysog George o Cambridge 6,000 Y Dywysoges Augusta Caroline o Cambridge. 3,000 [Cyflawnid y job ffiaidd hon yn 1843, ar yr achlysur o briodas y foneddiges a mab i ben- sioner ar elusen Lloegr, Prif Dduc Mecklen- berg Strelitz. Yr oedd ei dad yn nai i'r Frenines Caroline, ac am hyny rhaid i bobl Lloegr dalu pension iddo.] X699,1651 PALASAU, GERDDI, A PHARCIAU BRENINOL. Y draul flynyddol at gynnal a thrin y rhai hyn 70,000 Yn dangos traul uniongyrchol breniniaeth yn Lloegr yn £ 769,165 Y GWOBR-WEIS (PENSIONERS) BRENINOL. I I I una pan eiom yenydig pellach, m a gawn wedi eu rhwymo wrth odrau breninoliaeth (royally) lu o wobr- weis urddasol o bob math—o'r mammaethod a'r dawns- feistri i'r babanod breninol, i foneddigesau yr ystafelloedd gwely, prif ystafell-weis, a rhingyllwyr (ushers) y gwi'ail o bob lliwiau. Y mae gweision yr holl freninoedd treng- edig, heblaw eu bod wedi derbyn y cyflogau mwyaf gwas- traffus dros yspaid eu gwasanaeth, yn cael gwobr-dalion yn y dull esmwythaf, sefyn unig trwy roddi y bys swyddol yn llogell y wladwriaeth. Dyma yehydig o engreifftiau (jrweision y diweddar frenines Charlotte £ 3,8:13 Eto Brenin George III. 5,282 Eto Frenines Caroline. 421 Dysgawdwyr German, Ffrengaeg, ac Italian i'r Frenines Victoria. 250 Eto canu, miwsig, ac ysgrifenu, i'r un 300 Mrs. Bourdin, dysgawdres dawnsio i'r un 100 Sophia Wyndard, am wasanaeth i'r teulu breninol 200 Tywysog Mecklenberg Strelitz. 2,000 [Derbynia y wobr yn unig am ei fod yn nai i'r Frenines Charlotte Dugnid y pension iddo yn 1798 a dangosai Mr. Hume fod y pension hwn yn unig wedi ychwanegu X335,000 at y ddyled wladol j Augusta E. D'Este, merch ir di weddar Ddue Sussex 1,000 Col. Syr A. D'Este, yn ychwanegol at ei gyflog fel rnilwriad 467 Pump o ferched William IV. o Mrs. Jordan, a phob un yn brïod, X500 yr un. 2,500 [Caniatäwyd y gwobrwyon hyn gan Sior IV., yr hwn oedd yn dra haelionus i'w blant bastardd- aidd ei hun, y rhai sydd erbyn hyn wedi derbyn agos i gan' mil o bunnau ] Augusta Arbuthnot, am wasanaeth i Sior III. 100 Arabella Bouverie, am wasanaeth ei gwr i Sior IV. 300 Augusta loudenell, am wasanaeth yn y teulu breninol. 202 Baroness Cathcart, yr hon fu ysgolfeistres yn y teulu. 389 David Davies, am wasanaeth i William IV. 938 W. J. and John Dundas, am wasanaeth eu tad i Sior IV 233 Charlotte Ernst, am fod ei thaid wedi dyfod drosodd i Loegr gyda Sior 11 113 Arglwydd Falkland, am briodi merch i Wm. IV. 184 Ann Hayman, is-lywyddes i'r diweddar Dywysog Cymru 266 Elizabeth a Sophia Hayton 101 Ei Uchder Breninol Landgravine Hesse Homberg, perthynas i'r teulu breninol j qqq Thos. Jordan, gwas i'r diweddar Dywysog Cymru 78 Lady Robert Ker, am wasanaeth i'r tenlu breninol 276 Parch. W. Kuper, athraw Allmanaidd i'r Dywys- oges Charlotte 400 Augusta Nocolay, ei thad yn feddyg i Dywysog Cymru 100 Myles O'Reilly, (nid oes neb a wyr am ba beth) 222 Catherine Pelham, un o ferched ystafell-wely y Frenines Caroline 233 Ann Scott, merch i physygwr i Sior IV. 250 Amelia Sherkin, gwasanaethyddes i'r Dywysoges Charlotte. 102 Richard Shirley, yr hwn fu gerbydwr i'r un 67 Parch. A. Starkey, yr hwn a fu athraw i'r un 400 leulu Sydney, plant i un o ferched William IV. 500 Ardalyddes Westmeath, yr hon fu yn foneddiges ystafell-wely i'r Frenines Waddoledig. 386 Y oyfan (er nad yw ond rhan fechan) L2;i, 193 CYFLOGAU UCH-WEISION Y FRENINOLIAETH. Yr Arglwydd Ytaellyd (Chamberlain) £ 2 000 Yr Arglwydd Distain (Steward) s'orto Meistr y Ceffylau 2'000 Meistr yr Iyrch-helgwn r?c?o??" .i WOO Mejstr yTylwyth Is-ystafellydd Trysoryddy Tyiwyth.?.?. 904 Cyfaj-chwyliwryrunrhyw  Prif Farchwr (Equerry) 1 qq<i Pedwar Isfarclwyr ( £ 750 yr un). Vooo Meistres y Gwisgoedd '5qq Wyth 0 Foneddigesau yr Ystafen-wely.?.?;? 4,000 wyth o Rïanod o Anrhydedd (Maids ol Honour) 3/2 0 Wyth 0 Arglwyddi at Alwad .???;?:? H? Wyth 0 Farchweis at Alwad 2*685 X31,391 "XT 1 i mae iraui ceroydwyr rhag-farchogwyr, a phedestrwyr y Frenines yn unig yn X12,563, neu 0 fewn £ 4,000 i holl draulllywodraeth weinyddol yr Unol Daleithiau! Der- bynia yr wyth Arglwydd at Alwad (Lords in Waitina) swm mwy na thai blynyddol Arlywydd yr Unol Daleith- iau x mae y cyfrifon canlynol yn dra hynod TRAUL ARGLWYDD DISTAIN (NEU BEN COGYDD) Y TEULU BRENINOL AM UN FLWYDDYN. (CiVil list.) £ ara £ 2,050 Ymenyn, caws, ba- cwn, ac wyau 4,976 Laeth a hufen ] 473 Cig-fwyd. 9,472 Ednogion (poultry) 3,633 Pysgod 1,979 Groceries. 4,644 olewon 1^793 Ffrwythydd a chy- ,,793 ffeithyrau (confec- tionary) 1,741 Llysieu 487 Gwin 4,850 T Gwirodydd, &c. 1,843 X Cwrw a bir £ 2,811 Canwyllau Cwyr ] ,977 Canwyllau Gwer. 679 Lampau 4,660 Tanwydd 6,846 Papyr, llyfrau, &c. 824 Turn-waith. 379 Efydd-waith 890 China, gwydr, &c. 1,328 Lliain. 1,085 Golchi Ui'ein. bwrdd 3, i 30 Llestri arian 355 X63,907 Byddai hyn ya ddigon i brynu tua ?eJa!? mil ar tM," plwdwar c(M? 0 gwtreU o win, am bum' swllt yr hun! Nid oes yma, poed fyno, ddim dirwest. fathyma ddigon i gael dwy jil a thri chant o alwyni o wirod, yn ol 16s. y galwyn. Wfft i'w bariaeth J Gellid a'r swm hwn brynu un mil ar ddeg-ar-ugain, d:iu gant a deg-ar- ugain o alwyni, digon i foddi Pharao a'i lu! Fel hyn y gwastreffir arian trefh-dalwyr gwasgedig Prydain Fawr
TEYRNAS NEFOEDD.I
TEYRNAS NEFOEDD. I (O'r Traethodydd am Ebrill, 1848.) Peth digon cyffi-edin ydyw i gyfnewidiadau y byd hwn effeithio i raddau ar ei breswylwyr; ac mae ein meddyliau mov agored i dderbyn argraff- iadau oddiwrth ei helyntion, ag ydyw ein cyrff oddiwrth gyfnewidiadau yr bin. Mae y cysylltiad sydd rby ngoi-n a'r byd a'i drigolion yn gyfrwng manteisiol iddo hefyd effeithio ar ein crefydd; onide, ni byddai unrhyw amgylchiad yn brofedig- aeth i ni; ac ni buasai raid ein rhybuddio i wylio na gweddio, yn wyneb dim mwy na'u. gilydd. Felly mae y cyffroadau sydd mewn llawer o deyrn- asoedd y byd yn peri son a meddwl am deyrnas yr Arglwydd lesu. Nid yn unig deiliaid hon, eithr eraill hefyd, ie, ei gelynion, rai prydiau, a glywir yn siarad llawer am dani. Ond dysgwylir i garedigion Brenin Sion feddwl mwy am ei enw a'i achos ef na neb eraill. A dylent fod ar eu gwyliadwriaetb, gan ymdrechu gwybod yr amserau, a pheth a ddylai Israel wneuthur. Mae deiliaid teyrnas Crist bob amser dan rwymau i ddwyn teyrnged o addoliad iddo; ac y mae pawb o honynt fel eu gilydd i wisgo holl arfogaeth Duw, fel y gallont wrthsefyll cynllwynion diafol. Ond, ar ryw brydiau, rhaid amddiffyn ei deyrnas ef yn gyffredinol, heblaw amddifFyn bawb ei hun yn bersonol; yn enwedig pan y byddo yrnosod arni gan elynion cyhoedd, neu ynte ddrygau yn magu o'i mewn, y rhai fydd yn debygol o'i niweidio. Felly, mewn rhai manau, mae breninoedd y ddaear yn ymosod, a'r llywodraethwyr yn yrngyngbori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef yn y modd mwyaf cyhoedd. Ond tybiem fod y perygl yn fwy, pan bydd y cyfryw yn cynnyg ymuno a gweision yr Arglwydd i adeiladu ei dy a'i ddinas ef; fel y rhai hyny yn amser Nehemiah; ac yn enwedig os byddant yn ceisio arolygiad y gwaith i'w dwylaw eu hunain, ac efallai rhai 0 feibion Judah mewn cynghrair a'r cyfryw, ac yn ceisio eu dwyn i mewn. Yr oeddym er ys blyn- eddau yn ymdrechu yn erbyn tywyllwch ac eilun- addoliaeth mewn gwledydd pell, er helaethu ter- fynau teyrnas y Gwaredwr; ond yn bresennol, mae perygl yn ymddangos yn nes atom, trwy fod yr awdurdodau gwladol yn ychwanegu eu hymyr- aeth a chrefydd, a bwriad yn cael ei amlygu gan amryw i waddoli pob enwad o Gristionogion. Gallwn dybied fod amryw o'r gwyr da ac anrhyd- eddus, a amcanant fel hyn, yn ddigon diniweid yn eu bwriad, fel Brenin Gerar gynt; ond beth dal diniweidrwydd i'w ddadleu os ydyw Sara yn y perygl o gael ei halogi trwy hyny ? Ceir ami un tyner ei galon yn ofni i neb ddyrchafu ei arf yn erbyn ei uchafiaid nac unrhyw hen sefydliad. Ond os ydyw arfau yfilwriaeth, y rbai nid ydynt gnawdol," yn debyg o niweidio unrhyw hen sefydl- iad, paham y rhaid ei arbed? Ac os ydyw y perygl yn ymddangos fel yn ychwanegu, onid ydyw hyn yn ein rhoddi braidd dan fath o orfod i ymdrechu am ein rhyddid a'n hiawnderau yn fwy nag o'r blaen ? Tybygem fod y cysylltiad rhwng yr eglwys a'r Uywodraeth wladol wedi ei wneyd yn y dechreu oddiarllnwJbodaeth o natur teyrnas Crist; ac efallai fod hyn yn peri dadleu drosto ac ymgais at ei helaethu gan amryw eto. Gan hyny, ein dy- ledswydd ydyw dang-os i'r byd natur gwir grefydd, a'r egwyddor y dylid ei dwyn yralaen yn ei grym. Mae mor angenrheidiol i ni ddeall natur teyrnas nefoedd, ag ydyw i ni wybod ei bod wedi dyfod i'n plith: a hyny nid yn unig yn ei pbertbynas a'i Brenin ac ai deiliaid, ond hefyd a theyrnasoedd y byd, neu yn hytrach, mor ddigyfathraeh ydyw hi ar rhai hyn. Camsyniad am deyrnas y Messiah a barodd i'r Iuddewon ei wrthod ef, er gwneuthur o hono gymaint o weithredoedd nerthol yn eu plith. Y genadwri gan loan Fedyddiwr oedd fod teyrnas nefoedd wedi nesau a'r hyn a roddwyd i'r apostolion i'w gyhoeddi, oedd ei bod wedi dyfod i blith y bobl y pregethent iddynt; a chyhoeddent yr Iesii o Nazareth, fel y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd." Eglurodd yr Arglwydd Iesu natur ei deyrnas trwy lawer o ddamhegion a chyffelybiaethau; a'r rhai hyny oil yn syml a chyffredin. Yn nechreuad ei weinidogaeth gy hoeddus, dangosodd pwy, a pha fath ydynt ddeil- iaid ei deyrnas ef; ac eglurodd ei deddfau, gan osod hunanymwadiad yn un o'i hegwyddorion sylfaenol. A sicrhawyd yr hyn a ddechreuwyd ei draethu trwy yr Arglwydd, gan y rhai a'i clywsant ef. Yr oedd hyn yn gwbl groes i ddysgwyliadau oesawl yr luddewon; ac ni allent oddef y fath siomedigaeth ag i un o ysbryd mor ostyngedig, ac ymddygiad mor ddirodres, ei broffesu ei hun yn anfonedig y Tad. Yr oedd llawer o anghysondeb rhwng ymddangosiad yr Arglwydd Iesu a'i hon iadau, yn enwedig i olwg y rhai oeddynt yn ei ddysgwyl mewn rhwysg a mawredd bydol: ond digon i gysoni y cwhl. oedd ei dystiolaeth ger bron Pilat, pan ddywedodd, Fy mreniniaeth i nid yw o'r byd hwn." Rhoddodd ein Harglwydd ddigon o reswm er profi gwirionedd y broffes dda hono a dywedai yr un peth ddwywaith, i ddangos mai peth o bwys ydyw iawn ddirnad natur ei frenin- iaeth ef. Wrth freniniaeth Crist yma yr ydym yn golygu ei eglwys ef; y dynion a roddwyd iddo ef allan o'r byd; y rhai a brynwyd oddiwrth ddynion yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen. Mae y rhai hyn yn y byd, ond nid ydynt o'r byd; megys nad oedd yntau ei hun o'r byd pan oedd yn trigo ymhlith dynion. Mae y broffes dda a dystiodd Crist am dano ei hun a'i freniniaeth, yn ein dysgu nad ydyw yr eiddo ef i fod yn debyg i deyrnasoedd y byd hwn, nac ychwaith i'w Uywodraeth mewn unrhyw gy- sylltiad a. hwy. Mae yr Arglwydd Iesu yn Frenin breninoedd ac yn Arglwydd arglwyddi; ond ni ystyrir y breninoedd na'r arglwyddi hyn yn ddeil- iaid o'i freniniaeth ysbrydol ef mwy na phobl eraill ie, pan edrychwn ar ein galwcdigaeth, cawn weled uad llawer o'r cyfryw a alwyd. Mae ef yn Dywysog breninoedd y ddaear; eithr nid yn yr un ystyr ag y mae yn Ben i'w eglwys. Megys na pheidiodd ein Gwaredwr a bod yn Fab Duw, pan y daeth yn fab dyn felly ni pheidiodd a'r awdurdod wreiddiol oedd ganddo fel y cyfryw, wrth godi a Uywodraethu ei eglwys. Mae cymaint o wahaniaeth rhwng dull yr Ar- glwydd Iesu yn llywodraethu y byd hwn, a'r modd mae yn teyrnasu yn ei eglwys, fel na byddai raid i neb gymysgu ei ddeddfau ef na'u camgymeryd. Ac eto mae y fath gysondeb rhyngddynt, fel mae yn amlwg mai yr un doethineb anfeidrol a luniodd y cwbl. Bydd Brenin S'ion, rai prydiau, yn defn- yddio ei awdurdod ar bob cnawd, er amddiffyn i'w bobl, pan na bydd rheswm na thynerwch yn Uwvddo, er peri iddynt gael eu hiawnderau; a phryd na phrisir gwialen ei nerth ef, yr hon a an- fonir allan o Sïon, mae'n dda fod ganddo y wialen haiarn i'w rhoddi ar warau y rhai na byddont synwyrol, ac na chymeront ddysg, er eu bod efallai yn freninoedd neu farnwyr y ddaear. Llwyr noetha Crist ei fwa, pryd y bydd amgylchiad ei eglwys yn galw am hyny, gan fod llwon y llwyth- au, sef ei gyfamod ef, yn sicrhau hyny iddynt; a gwae fydd i'w elynion ef pan wnelo hyny. Te- bygem ei glywed ef, trwy ei genadau, yn gofyn i Frenines Madagascar, fel i Sehon gynt, Gad i mi fyned trwy dy wlad di." Yn erbyn eilunaddol- iaeth a drygioni mae yn ymosod, gan fod yn llwyr ddiniwed i bob peth arall. Ac oni chaiff y ffordd yn rbydd, efallai y cymer feddiant o'r holl wlad, fel y darfu iddo wneyd a thir yr Ainoriaid. Defn- yddia yr Arglwydd Iesu benaduriaid y ddaear i ddwyn i ben ei amcanion pryd na bydd ganddynt hwy un dealltwriaeth am hyny, ond yn ymegnio dros eu dybenion halogedig eu huDain. Os bydd eisiau poenydiwr ar yr Aipht, caiff y dywysoges fod yn fammaeth iddo. Cymer Nebuchodonosor yn forthwyl at ei orchwylion, a Cyrus yn fugail i ddychwelyd y ddafad fu ar wasgar tuag adre. Cymer ei hawl i anfon cenadwr i lys Persia, heb yrngynghori a neb am hyny. A chaiff Harri yr Wythfed osod ei hun i fynu yn wrth-bab, er bwrw ymaith iau Rhufain, a rhwyddhau ffordd i ddiwyg- iad yn Mhrydain. Efe sydd yn dattod rhwymau breninoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt. Nid yw holl orwychder y byd yn ei olwg ef ond oferedd, ac ymffrost penaduriaid y llawr yn eu nerth a'u hawdurdod ond fel gwaith y plentyn a ymffrostiai yn y gwregys sydd at ewyllys ei fam i'w dynu pryd y gwelo yn dda. Mae y Bachgen a aned yn Bethlehem yn gallu chwareu a choronau teyrnasoedd y byd, fel cynnifer o deganau plant, gan eu rhoddi i'r neb y myno, a'u cymeryd ymaith fel y gwelo yn dda ei hun. Nid ein hamcan ydyw traethu ar hyn; ond cymerwn fantais, oddiwrth a adroddwyd, i ddywedyd wrth Sïon, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu ar bawb ac ar bob peth. Eithr am y freniniaeth y mae yr Arglwydd Iesu yn ymogoneddu ynddi fel ei briodoriaeth a'i hoff drigfan, nid yw o'r byd hwn. Nid ydyw ar gyn- llun teyrnasoedd y byd, nac ychwaith i ddwyn lie yr un o'r cyfryw. Nid oedd modd i'r breniniaetb- au a welodd Daniel gydsefyll; yr oedd y naill yn cael ei chodi ar draul dinystr y llall. Tebyg oedd- ynt i'r gwartheg hyny a welodd Pharaoh; y gul yn llyncu y fras. Ond ysbrydol ydyw teyrnas nefoedd, ac nid ar bethau o'r fath yma y mae yn ymddyrchafu i'w mawredd. Bydd i'r gareg fyned yn fynydd mawi a leinw y ddaear, ae heb falurio o'r ddaear ond y delwau a'u perthynasau; oddi- eithr i ryw gyfansoddiadau fod yn y fath gysylltiad å'I' eilunod fel y ceisiant eu hamddiffyn. Pob pendefigaeth, awdurdod, a nerth, sydd raid i'r Arglwydd Iesu eu dileu, ydynt y cyfryw ag sydd yn ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth Duw, ac na fynant ufuddhau i efengyl ein Crist. Mae teyrnas nefoedd yn debyg i'r goleuni yn hyn fel pethau eraill. Mae hwnw yn llonaid y wlad ar ganol dydd heulog, ond nid ydyw yn dileu dim, er cael ei le, oddieithr y tywyllwch; ac yna, o angen- rheidrwydd, a y bwystfilod i'w llochesau, a phaid gweithredoedd y tywyllwch yn mhob man. Yr hyn a amcanwn ddangos yn yr ysgrif hon ydyw; Nad ydyw teyrnas yr Arglwydd Iesu i fod mewn cysylltiad a theyrnasoedd y byd hwn; neu, (fel y deallo pawb,) nad oes un Eglwys Wladol i fod dan oruchwyliaeth oleu yr efengyl. Nid ydym yn amcanu dysgu i neb dybied nad oes dynion gwir dda yn perthyn i eglwys felly, mwy nag y gwadwn fod rhai diras yn yr eglwysi puraf eu hathrawiaeth, lIymaf eu dysgyblaeth, a mwyaf efengylaidd eu trefn. Mae rhai sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol dan bob cyfundrefn, ac eraill heb fedru peidio a phechod, hyd yn nod dan arolyg- iaeth bersonol Mab Duw. Nid ydym ychwaith yn ymyraeth ag unrhyw drefn eglwysig, gan y cydnabyddwn nad oes neb yn gyfrifol i'w gilydd dros eu dewisiad yn hyny. Er Ityny, ystyriwn ein hiawnderau yn rhoddi i ni hawl i feirniadu, a thraetbu ein syniadau ar bob sefydliad ag y bydd- wn yn talu ato, pa un bynag ai yn wirfoddol ai ynte yn orfodol y byddwn yn gwneyd hyny. Hefyd, cymhellir ni i geisio dangos ein barn fel hyn am deyrnas nefoedd, gan y bwriad sydd gan amryw i roi cynnysgaeth wladol i bob enwad o Gristionogion, trwy dalu i'w gweinidogion. Nid oedd achos am hyny flyneddau yn ol, ond yn unig o herwydd y gorthrwm sydd yn hyny; eithr yn bresennol, mae y perygl o'n llwgr-wobri a'n harian ein hunain yn galw am ymdrech anghyffredin, gan fod y perygl yn un anghyffredin a dyeithr. Haerir gan lawer y derbyniai yr Ymneillduwyr dal gan y Uywodraeth mor awchus ag eraill pe caent gynnyg arno. Os felly, dylem weddio, "Nac arwain ni i brofedigaeth," a gwneyd ein goreu i'w gocliel hefyd, rhag y llygad-dynid ninnau, oblegid "gwobr a ddalla lygaid y rhai sy'n gweled." Am hyny, dylem weitbio pawb, hyd y gallom, i lwyr- ymwrthod a. gwobr anghyfiawnder, rhag y gallai y cynnygiad effeitbio arnom fel ar Balaam, yr hwn yn y dechreu a'i gwrthwynebai, eithr o'r diwedd a werthodd ei gydwybod, ac a beryglodd ei fywyd er ennill y wobr. Ond ni chydnabyddwn y perygl o'n hudo mor fawr ag y darlunir ef gan rai sydd yn anturio barnu arnom cyn cael cynnyg ar brofi eu haeriadau. Credwn, pe deuai rhyw brofiad tanllyd eto, y ceid dwy fil neu ychwaneg o rai na phlygent i unrhyw ddelw, mwy na'u brodyr yn amser Charles yr Ail. Yr oedd loan yn adna- byddus i'r archoffeiriad, a gwyddai ef ac eraill am gynniweirfa yr lesu gystal ag yntau; eithr nid yr un o honynt a aeth at yr offeiriaid heblaw yr Iscariot, ac ni chlywsom ei fod ef, druan, yn adna byddus iddynt hyd onid aeth i wneyd masnach a hwy. Mae cysylltiad teyrnas nefoedd a theyrnasoedd y byd hwn yn anefengylaidd, ac yn beth sydd wedi ei brofi yn niweidiol yn ei natur a'i ganlyniadau. Dangosodd yr Arglwydd Iesu mai nid yn farn- wr nac yn rhanwr ar ddynion yn y byd hwn yr oedd ef wedi cael ei osod; a phryd na allasai ryddhau y wraig hono yn ol cyfraith Moses, nac ychwaith ei chondemnio yn ol cyfraith Caesar, dangosodd ei hun yn Arglwydd cydwybod, gan godi hon yn ei blaid, er ei bod yn ngwersyll ei elynion. Rhoddodd ein Hiachawdwr esiampl o utudd-dod i bob dynol ordinhad, er, ar yr un pi-yd, y proffesai ei hun uwchlaw pob gofynion a phrof- odd ei fod felly trwy drethu trigolion y dyfnder; a chymaint y mae yn ei geisio gan Caesar, fel pob dyn, ydyw talu yr eiddo Duw iddo yntau. Nid oedd ein Harglwydd fel y cy"reithiwr gynt yn rhwymo beichiau i eraill, y rhai na fynai eu dwyn ei hun. A'i reol ef i ni, mewn aohosion nad oes gair o gyfraith benodol arnynt, ydyw, "Fel yr ewyllysioch wneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy Wei, gadael llonydd i awdurdodau y ddaear y mae ef; yna gallwn weled mai dyna mae yntau yn ewyllysio gael ganddynt hwythau, set' llonydd i drin ei achos fel y gwelo efe yn oreu ei hun. Nid ydyw Crist- ionogaeth yn ymyryd a sefyllfaoedd bydol dynion, eithr yn eu gwella yn y lleoedd y gosodwyd hwynt: ond os bydd rhyw swydd neu urdd sydd ynddi ei hun yn bechadurs, nid oes eisiau i neb weinyddu hono. Ond, os bydd eisiau, caiff Cornelius fodyn ganwriad, er bod yn Gristion; caiffSergius Paulus fod yn rhaglaw, wedi ei droi i'r ffydd, fel o'r blaen; a chaiff teulu Caesar eu cydnabod gyda'r rhai penaf o'r saint o ran eu caredigrwydd, er na chlyw- som fod yr ufl o honynt wedi gadael y llys. Mae pob llywodraeth dda i ofalu am les pawb yn ddiwahaniaeth, gan amddiffyn eu personau, eu henwau, a'u meddiannau, fel pe na byddai erefydd o un math o fewn y byd ac o'r ochr arall, mae gwir grefydd yn gwneyd yr hyn a allai llywodraeth dda ei ofyn trwy ddysgu pawb sydd yn ei meddu i garu Duw a'i holl galon, a'i gymydog fel efe ei hun; yna gallai pawb fod yn lied gysurus, pa un bynag ai uchel ai isel fydd ei radd yn y byd. Dylem ystyried teyrnas nefoedd ynrhyoruchel i'w defnyddio gan yr awdurdodau bydol er peri ofn ac ufudd-dod ymhlith y deiliaid; a tlirais ofnadwy ydyw ei harfer felly. Ac nid oes ami hkhau chwaith eisieu milwyr llog gan neb o deyrnasoedd y byd hwn, am fod euddiad ei chryfder hi yn y gwirioneddau mae yn eu cyhoeddi, ynghyda dy- laawad yr Ysbryd Glan trwy y rhai hyny. Mae yn anhawdd penderfynu pa un ydyw yr Iraafcllug- rwydd a'r digywilydd-dra mwyaf, ai gwaith y llyw- odraethau gwladol yn ymyraeth a chrefydd y deil- iaid, ynte cais egiwysi ar osod y Uywodraeth yn dreth-gasglydd iddynt hwy. Pe gorfyddai arnom ddangos hyny o farn sydd genym ar hyn, braidd nad ystyriem anghysondeb yr eglwys yn waeth ac yn wrthunach nag un orrnes ellir arfer ami hi gan un ddynol ordinhad. Pwy fyddai yn foddlawn i dalu i arall am wasanaeth na chaiff un arolygiad arno, neu dalu at unrhyw sefydliad na oddefir iddo bleidleisio yn ei achos? Dygwyddodd i ryw Gymro gwledig fyned i weled senedd-dai Prydain, ac yn ol dyfod allan gofynai cyfaill iddo, Onid oeddych wedi synu ar y fath adeiladau gorwych ? Na, nid cymaiut," ebe yntau, eithr y peth a wnaeth i mi ryfeddu fwyaf oedd clywed esgob, yn NhY'r Arglwyddi, yn siarad ar achos rhyw borth- ladd yn Scotland ac anffyddiwr, yn y ty arall, yn trafod ar wneyd esgob yn Manchester." Mae yr anghraifft hon yn dangos anghysondeb gwrthun yn y ddwy ochr; ac ni ellir dysgwyl pethau amgen na'r fath anghenfilaeth yn gynnyrch y fath briodas anachaidd ag sydd rhwng yr eglwys a'r wladwr- iaeth yn mhob oes ac yn mhob gwlad. Rhaid mai yr eglwys fydd fwyaf ar ei cholled yn y gyf- athrach annaturiol hon, os colled y cyfrifir rhyw- beth heblaw amddifadu o feddiannau bydol; oblegid hi sydd o'r gwaedoliaeth uchaf, a'r gyn- nysgaeth fwyaf ar ei medr; ond gresyn ei gweled wedi ei darostwng mor isel, os yw ei dinasfraiot yn y nefoedd. Nid llawer o ennill i'r wlad chwaith all fod ei chysylltiad hithau a'r eglwys; oblegid drud i'w cadw a fydd yr uchelradd yn fynych. Haws fyddai genym ateb yn gadarnhaol yr hyn a ofynwyd i Job—" A elli di hela ysglyfaeth i'r Hew, neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod ? nag anturio ar geisio diwallu eglwys wedi colli archwaeth at fara y bywyd; rhag na byddo dim a'i boddia ond gwaed y saint, a gwaed merthyron Iesu, am mai felly y gofynodd y fath cyn hyn. Ofer dysgwyl daioni o beth sy'n ddrwg yn ei natur; ac os dygwydd i'n anghyfiawnder ni ddallu rhai, fel y tybiont ei fod yn canmawl cyfiawnder Duw, ni all hyny fod o hir barhad, ac nid ydyw chwaith yn gwneuthur yr anghyfiawnder iymryn gwell. Felly, edrychwn ar waith y llywodraeth ddaearol yn ymyraeth a theyrnas neloedd, ac ai deiliaid, mor anghyfiawn a gwaith y Ffrancod trahaus yn aflonyddu ar Tahiti dawel. Ac nid oes gan Nicholas un hawl i lywodraethu ar gydwybod y Rwssiaid, mwy nag a fedd i gymbell ei grefydd a'i warogaeth ar Victoria a'i deiliaid yn Mhrydain. (Tw orphen yn ein nesaf.)
I -" EGLWYS Y DYN TLA WD."
I EGLWYS Y DYN TLA WD." Gellir ammeu yn deg pa un a oes dosparth o ddynion yn fwy twylledig, os nad yn dwyllodrus, na chlerigwyr eglwys y Uywodraeth. Feleglui-had o wirionedd y gosodiad hwn, y Mae wedi myned yn arferiad yn ddiweddar, gyda rliaii luosog a dy- lanwadol o lionynt, i Illw eu heglwys yn ^Eglwys y Dyn Tlmvd." Yn awr, pe dywedasid hyn gan Ymneillduwr, y mae yn sicr y buasid yn ei ystyr- ied yn beth pur debyg i enllib, yn cael ei adrodd mewn ffurf o wawdiaith. Ond boed i ni, modd bynag, ystyried ychydig ar weithredoedd yr eglwys bon, fel y gwelom pa mor bell mae ganddi bawl i'r enwad Eglwys y Dyn Tlauid