Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

ETA DELTA AT IEUAN GWYNEDD.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ETA DELTA AT IEUAN GWYNEDD. Fy ANWYL GYFAILL,-Ryw bryd y flwyddyn o'r blaen, ysgrifenais ychydig linellau yn nghylch addysg i'r Cymry, pa rai a ymddangosasant yn Nysyedydd Chewfror diweddaf. Barnu yr oeddwn fod ein hysgrifenwyr talentog a doniol yn rhedeg i eithafion, megys mewn ysbryd plaid, felly yntrin y pwnc braidd yn ochrog a rbagbleidiol; a chy- merais yr hyfdra i ddefnyddio eich enw yn barchus, debygid, fel y canlyn:—" Pwy sydd trwy y wlad yn parchu Ieuan Gwynedd, ac ereill o'r un farn ag ef, yn fwy na myfi? Ond yn y mater hwn nid wyf yn cydweled: nis gallaf ganfod cymaint o niwaid, nac o anghysondeb, i'r Anghydffurfwyr gwirioneddol a gwreiddiol dderbyn eymhorth sen- eddol." A dyma yr unig frawddeg gyfeiriedig atoch yn fy ysgrifau. Nid oedd genyf un bwriad i glwyto eich teimladau, ond tybio fod genyf havl i farnu ychydig yn wahanol yn nghylch pwnc yr oes, a bod yn ddichonadwy i bobl dda fyned i eithafion, neu pimgymeryd. Ond yn yr un mis (Chwefror) daefnoch allan yn fy erbyn i faes yr Amserau, yn gas a chwerw, feddyliwyf, fel i'm clwyfo a'm dlio, yn hytrach nac i'm goleuo. Yna ysgrifenais ychydig o linellau fel esboniad ac am- ddiffyniad, a daethant allan yn Nysgedydd Mai. Ylla, wele lythyryn drachefn oddiwrthych yn yr Amserau, (nid yn y Dysgedydd, fel y dylasech,) yn cynwys pedwar-ar-bymtheg o nodiadau! pa rai ydynt annheg, pigog, angharedig, allymdost iawn, leddyliwn yn sicr. Ymddengys i mi ac ereill mai eich amcan yd- oedd clwyfo fy nheimladau ac iselu fy nghymeriad, yn fwy na dim arall. Gwael ae annheilwng fel yr wyf, cefais yr anrhydedd o annerch y Cymry, trwy wahanol gyhoeddiadau misol, ail-argraffu, a chyhoeddi traethodau, er ys tua chwarter cant o flynyddau; bron, pryd yr oeddych chwi, frawd, yn eich cryd. Fy nghyfaill, dylasech fod yn fwy caredig, ac felly ad-dalu am y caredigrwydtl a ddangosais tuag atoch chwi yn nechreu eich bywyd eyhoeddus. A chofiwch o hyd, fod llawer iawn i ddywedyd gan rai dynion call etto gyda golwg ar addysg i blant tlodion mewn ysgolion dyddiol, fel mater gwladol; ac fod yn rhinwedd mawr, os nad yn ddyledswydd arbenig ar seneddwyr y deyrnas gyfranu o arian y deyrnas at gyraedd y cyfryw addysg, er mwyn cael y tlodion yn well dynion rhesyrnol a deiliaid-er attal troseddau, ac felly yr arbedid traul arianol gyda yr holl g"reharai-i a chospi. Ond yr wyf yn rhoddi y mater heibio. 'Ni ddadleuaf mwy a chwi, ydych yn rhagori arnaf mewn dawn. Ond goddefwch un sylw caredig oddiwrthyf. Wedi clywed fwy nag unwaith eich bod yn dyner a gwan o iechyd, yn gorfod rhoddi y swydd uchelaf yn y byd, ac wedi hyny clywed eich bod yn analluog i gyflawni gwaith mawr a pharcli- us yu Llundain, buaswn yn dysgwyl cael eich ys- grifau oil yn anadlu cariad—yn llawn o ysbryd cref'ydd—ausyddion amlwg o dduwioldeb ddiam- heuol, ac iniaa sanctaidd. Ond Duw a wyr beth ydych chwi a minau, frawd. Ond pa fodd bynag, cefais fy siomi yn fawr yn eich ysgrifau Cymraeg a Saesonaeg. Yn eich llythyrau at Brif Weinidog ein Brenines, a'ch rhai Cymraeg, buaswn I, yn un, yn hoffi o'm calon pe buasent yn fwy gostyngedig, efangylaidd, ac fel o ysbryd mwy sanctaidd. Yn ol fy nhyb fy hun, buasent felly yn fwy grymus, teilwng o weinidog Ymneillduol, ac yn fwy o anrhydedd a gogoniant i Grist. Ond chwi a wellewch; nid ydych ond ieuanc etto.- Eich brawd yn Nghrist, Mehefin 5, 1848. -L^TA DELTA.

CERDDORIAETH.

GUANO.

IADDYSG YN RHYMNEY.-

AT OLYGWYR YR AMSERAU.

[No title]

COFFEE o'rTYFIAD RHAGORAF;…

[No title]

I NEWYDDIADUR YR HEN FFARMWR.