Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

- - - =----'-GALLDYCHYMYG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

= GALLDYCHYMYG LADD A GALL DYCIIYMYG IACHAU, Yn nhref fechan H-, yn G'iVmani, pre-nvyBai Haw- feddyg a chyfferydd parchus, o'r en-k;, Debsol" Yr oedd ganddo foneddwr ieuanc yn gwasanaethu ei brentisiaeth gydag ef, enw yr hwn oedd Alfred Williamson, Un boreu, pan oedd prentisiaeth Alfred wedi dirwyn i ben, daeth ei dad i'w gymeryd adref. Pan oeddynt ar gymeryd eu cenad, gofynai y tad i Mr. Dobson, a oedd ef yn sicr ei fod wedi dysgu i'w fab yr hyn oil yr oedd ei yn-feistr arno ei hunan. Ydwyf," ebe efe, bob peth 9nid un gyfrinach, yr hon a ddarganfyddais fy hunan, ac ar ba un y gosodaf bris mawr. Wei," ebe Mr. Williamson, pa bris ydych yn ei osod ami ? Deg penadur ar ugain ydyw y lleiaf a allaf yn bosibl ei ofyn," oedd yr ateb. Mr. Williamson, yn ewyllysio rhoddi i'w fab gymaint 0 wybodaeth ag a allai cyn iddo droi allan i'w deithiau, a dal- odd y swm gofynol yn ddi'oed. Wedi i Mr. Dobson dderbyn yr arian, agorodd ei ysgrif-gist, a chymerodd allan bapyryn bychan, wedi ei blygu yn ddillynaidd, ac ai rhoddodd i Mr. Williamson, yr hwn a'i hagoroddyn union,ac a ddarllenodd y geiriau—" Gall dychymyg ladd, a gall dyehymyg iachau." Pa beth ebe efe wrth Mr. Dobson, ai hon yw eich cyfrinach werthfawr ? "le, syr, dyna hi," ebe y cyff- erydd. Yna," ebe Mr. Williamson, gan daflu i lawr y papyryn, cymerwch ef yn ei ol, a dychwelwch i mi fy arian." Fy nhad," ebe Alfred, gan gymeryd i fynu y papyryn, deuwch ymaith gwelaf rywbeth mwy yn hyn nag y feddyliwch chwi," a thynodd ei dad allan o'r siop. Ychydig flynyddoedd wedi i hyn gymeryd lie, daeth crach-feddyg i'r petitref; ac wedi gosod i fynu ei esgynlawr, anfonodd ei was arno, wedi ei wisgo yn debyg i goeg-chwareuydd, i'r dyben 0 dynu sylw y bobl. Cy- gynted ag y cafodd gynnulleidfa dda, aeth ar yr esgynlawr ei hunan. Yn mysg y dorf, ac yn agos i'r esgynlawr, yr oedd Mr. Dobson, yn syllu ar y crach-feddyg trwy ei ys- bectol. Wedi ymddyddan o'r meddyg amser maith yn nghylch gwahanol faterion, dywedai ei fod, tra yn ym- deithio yn Germani, wedi dysgu cyfrinach werthfawr gan hen ieistr iddo, trwy ba un y gallai ddywcdyd yr amser pennodol y cymerid un yn glaf. Pan yn dywedyd hyn, edrychai yn mysg y dorf, a chan sefydlu ei lygaid ar Mr. Dobson, dywedai, Yn awrfoneddigesau a boneddigion, chwi a welwch nad oes un arwydd 0 salwch ar y bon- eddwr hwn," gan gyfcirio at Mr. Dobson. Wei, ynte, gadewch i mi ddyweyd i chwi, mai yn nghylch saith o'r gloch heno dechreua deimlo yn isel iawn ei ysbrydoedd, ac yfory cymerir ef yn glaf, a chyll ei awydd at fwyd; a threnydd caethiwir ef i'w wely ac yn mhen deng niwrnod, heb fy nghyr-,horta I, efe à fydd farw: felly, gadawaf ieh wi farnu drow^ h hunain pa no a yw fy' ngheiriau I yn wir ai peidlo." Y nOSOOl lionoi fel y dy- wedodd y meddyg, yn nghylch saitli o'r gloch, dechreuodd Mr. Dobson deimlo yn bur isel ei ysbrydoedd, a'r diwrnod canlynol bu yn sal iawn trwy'r boreu. Gan weled nad oedd yn gwellau dim, gofynai Mrs. Dobson iddo a oedd dim a allai gael a wnai les iddo. Nac oes," atebai ef; Yr wyf yn teimlo na's gall dim fy llesau ond yr hyn a rydd y crach-feddyg i mi." Danfonwyd am dano yn ddi- oed ac yn mhen ychydig amser efe a ddaeth. Syr," ebe Mr. Dobson, gyrais am danoch, am fy mod yn teimlo mai y chwi yw yr unig ddyn a all fy iachau." Wei," ebe y crach-feddyg, mi gymeraf arnaf eich iachau ar un ammod, a hyny yw, bod i chwi, os effeithiaf iachad trwy- adl, dalu i mi X 100, ac os ffaeliaf, fforffedaf £ 50." Wedi ychydig fargeinio, cytunodd Mr. Dobson a. hyn, a chyrner- odd y meddyg ei genad, ac yn fuan wedi'n anfonodd iddo rhywfaint o feddyginiaeth, yr hyn a gymerodd. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd mor iach ag y bu erioed a phan alwodd y meddyg am ei arian, gofynodd Mr. Dobson iddo pa swm a gymerai am fynegu y gyfrinach. Deg punt ar ugain ydyw y lleiaf a allaf yn bosibl ei ofyn," ebe y crach-feddyg." Talodd Mr. Dobson yr arian yn union. gan feddwl y gwnai ei ffortun 0 honi. Wedi derbyn yr arian, cymerai y meddyg o'i logell-lyfr bapyryn bychan, a thal-ysgrif am y ddau swm, ac a'u rhoddes i'r doctor, yr hwn a agorodd y papyryn yn union ond ni's gall geiriau ddarlunio y syndod a'r braw a ymsefydlodd ar ei wynebpryd pan ddarllcnodd y geiriau—" Gall dycliymyg ladd, a gall dychymyg iachau," a phan agorodd y tal-ysgrif, a'i gweled wedi ei harwyddo, ALFRED WILLIAMSON." CYF. MOESEN.

[No title]