Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

- - - =----'-GALLDYCHYMYG…

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFRIFIAETII HYNOD.—Gwnaed y cyfrifiaeth gan- lynol gan ysgrifenydd cywrain yn nghylch ugain mlyn- edd yn ol:-Cyfrifir poblogaeth y ddaear i 800,000,000. Os ydyw cenedlaeth yn parhau 30 mlynedd, yna, yn yr yspaid hwnw, genir a bydd marw 800,000,000; 0 gan- lyniad, y mae 73,059 yn dyoddefmarwolaeth bob dydd, 3,044 bob awr, 51 bob munud, ac, arswydus meddwl, agos i un bob eiliad! O'r boblogaeth hon 0 800,000,000, tybir fod 481,000,000 yn Baganiaid, 140,000,000 yn Fahometaniaid, 9,000,000 yn Iuddewon; 170,000,000 yn unig ydynt Gristionogion, o ba rai y mae 120,000,000 yn Gatholiciaid. NID OES NEB 0 HONOM YN BYW IDDO EI HUN. —Y mae Duw wedi ysgrifenu ar y blodeuyn sydd yn pereiddio yr awyr, ar yr awel sydd yn siglo y blodeuyn hwnw ar ei gy. ff ary dyferynau gwlaw sydd yn chwyddo yr afon gref, ar y defnynau gwlith sydd yn adfywio y frigyn lleiaf o fwswgl sydd yn codi ei ben yn y diffaetli- wch, ar y cefnfor sydd yn siglo pob nofiedydd yn ei ystafelloedd, ar bob cragen arluniedig sydd yn cysgu yn ogofeydd y dyfnder, cystal ag ar yr haul galluog sydd yn cynhesu ac yn lloni y miliynau 0 greaduriaid sydd yn byw yn ei oleuni-ar y cwbl y mae wedi ys- grifenu, Nid oes neb 0 honom yn byw iddo ei hun. Parch. Dr. Todd. MEDDYGINIAETH Y DWFR OER.-Merch ieuangc o'r enw Warwick, yn byw yn Barnard Castle, a gerydd- wyd gan ei thad pan oedd hi yn feddw digiodd yn aruthr, a dywedodd yr ai hi i ymfoddi i'r afon; a ffwrdd a hi tua'r dwfr. Aeth ei chwaer ar ei hoi; ond pan aeth yr wrones i'r afon, cymerodd ofal am fyned i le digon bus; a phan tuag at ben ei glin yn y dwfr, gorweddodd i lawr. Rhedodd dau ddyn ieuangc i'r afon ar ei hoi; a phan welsant mai cogio boddi yr oedd, ymaflasant ynddi, a rhoisant iddi drochfa dda ar ei chefn i'r afon lawer gwaith drosodd. Wedi hyny rhoisant hi ar y lan, a gyrasant hi gartref, ac ymddang- osai yn bur foddlon i gael ei hachub rhag boddi. Yr oedd yn berffaith sobr pan gyrhaeddodd gartref.