Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
',r ,."",., ,0. '1"'" rr ""l".;"-D"…
',r ,0. '1" rr ""l"D" I DYDD I A U, Mehefin 15. Cyflwvnodd Arglwydd Beaumont erfyniad oddiwrth Gymdeithas yr Hen Ddcrwyddon, yn gofyn am estyniad eyfreithiau ysgrif Cymdeithasau Cleifion, &c., at eu cymdeithas hwy. Ardalydd Lansdownc a addawodd osod o flaen y ty y foru yr holl ohebiaeth âg Ysbaen ynghylch yr oerfelgarwch diweddar. Yna gohiriwyd y ty. DYDD GWENER, Mehefin IG. Bu ymddiddan rhwng yr arglwyddi mown perthynas i'r priodoldeb o attal, trwy dcloddf, i chwareuyddion tramor ymddangos yn chwareuchi (theatres) Llundain. Barnwyd yn well peidio. Arglvvydd Stanley a wnaeth sylw ar Ddeddfau'r Yd, gydag amnaid mai gweli fyddai cadw ychydig o dreth eto arno, er mwyn y cyllid Gwrthwynebid e; .urgiv/dd Grey, DYDD LLUN, Melirfin i9. Cyfarfu y ty o ran ffurf, ond ni wnatihant ddim. D Y D D LA U, Mehefin 22. Ardalydd LANSDOWNE, mewn atebiad i Arglwydd Stanley, a ddywedai, fod pob cyixinnch wladyddol rhwng y wlad hon ac Ysbaen wedi darfod, ac ar ol anfoniad ymaith y Cenadydd Ysbaenaidd, na dderbyniodd y wein- yddiaeth hon un ohebiaeth oddiwrth yr awdurdodau Ys- baenaidd.
TV Y UYFFREDJiN.
TV Y UYFFREDJiN. DYDD IA U, Mehefin 15. Mewn atebiad i ofyniad Mr. Banks, dywedai Arglwydd J. RUSSELL fod Cciuiadydd Ysbaen yn y wIaLl hon wedi ymadael oddiyma, nid oblegid ei alw adrcf gan ei lywod- raeth ei hun, ond o herwydd dymuniad y llywodraetli hon, a dracthwyd iddo yn ystod y gyfrinach ag cf yn achos y cweryl diweddar, Rhoddid yr holl gyfrinacli a'r ohebiaeth o flaen y ty yn fuan. Mr. STAFFORD a gynnygiai fod rhybudd newydd i ethol aeneddwyr yn cael ei anfon i Leicester oblegid fod yr etholiad diweddaf wedi ei dileu o herwydd llwgr- wobrwyaeth. Mr. FREWEN a ddywedodd fod ei deulu ef yn dal perthynas a Leicester er's llawer o flynyddoedd ei fod ef yn credu oddiwrth yr hyn a wyddai ei hun, ei bod yn un or bwrdeisdrefi mwyaf llvgredig yn y deyrnas. Yn y flwyddyn 1826 dywedai bod X66,000 wedi eu gwario rhwng y tri ymgeisydc1. Pan y cynnygiodd efe ei hun fel ymgeisydd yn 1839, efe a hyspysodd y byddai yn well ganddo golli ei etholiad na gwario un swllt mown lIwgr- wobrjyyaeth ae aeth yr etholiad yn ei erbyn oblegid fod ei gyfeisteddfod yn gommedd gweithredu fel y gwnelsid yn yr etholiad o'r blaen. Yr oedd of yn siarad teimlad y rhan barchusaf o drigolion Leicester pan y dywedai y dymunent i'r ysgrif-etholiad gael ei gohirio hyd nes y byddo y pleidleiswyr llygredig hyny wedi eu difreinio neu y dosparth etholiadol wedi ei ehangu, nes y byddai y fath fudr-wobrwyaeth yn anmhossibl. Yr oedd ef yn erbyn y cynnygiad. Mr. SEYMER a ddywedai y byddai yn burion i'r holl dystiolaeth yn erbyn yr etholiad diweddaf fod o'u blaenau, cyn dyfod i benderfyniad ar y mater. Arglwydd J. RUSSELL a sylwai fod rhesymau cedyrn yn erbyn y cynnygiad hwn, ac na byddai gweithredu felly, a gohirio etholiad y lie, yn groes igyfansoddiad ein llyw- odraeth nag i arferiad o'r blaen. Ar ol cryn ddadl, rhanwyd y ty, pryd y gwrthodwyd y cynnygiad gan fwyafiaeth o 129 yn erbyn 6. Wedi hyny, symudwyd radd yn mlaen gydag ysgrif lechyd y Cyhoeddus. Yna eisteddodd y ty yn gyfeis- teddfod ar ysgrif yr Etholiadau Bwrdeisdrefol. DYDD GWENER, Mehefin 16. Bu cryn areithio gan Russell, Inglis, Bentinck, a D'ls- raeli mewn perthynas i'r ysgrif oedd gan y weinyddiaeth mewn bwriad gyda golwg ar yr India Orllewinol, sef i'r diben o gynnorthwyo perchenogion y planfeydd siwgr yno, pa rai ydynt bron a'a cwbl lethu oblegid y dyryswch mas- nachol diweddar yn dyfod arnynt yn nghwt masnach rydd. Y mae y weinyddiaeth yn liunio rhoi ychydig dreth ar y siwgr tramor, er mwyn eu ffafrio hwy, a rhoi benthyg rhyw X500,000 iddynt, i'w helpu trwy eu caledi presanol. Symudwyd gam yn mlaen gyda Deddfau Llongwriaeth, sef, trwy ymffurfio yn gyfeisteddfod arno. Yna bu tipyn o ysgarmes lied warthus rhwng rhai o'n cynnrychiolwyr urddasol. Yr oedd un o honynt, o'r enw Mr. Hudson, yn drystfawr ac afreolus, megis dan effeith- iau diodydd meddwol. Cwynid gan yr hybarch Hume o herwydd yr anmhri- odoldeb o ddyfod i'r ty yn y fath gyflwr. Atebai y cyntaf (Hudson) fod Hume yn rhygybyddlyd i fyned i wledd, neu i ro'i ciniaw i gyfaill a bu cryn ffrwgwd rhwng ein seneddwyr parchedig DYDD LLUN, Mehefin 19. Dechreuodd y ddadl mewn perthynas i gynnorthwy i'r India Orllewinol. Areithiodd, yn erbyn cynllun y weinyddiaeth, Mr. Ellice, Syr J. Packington, Syr E. Buxton, Mr. Seymor, Mr. Hume ac o blaid yr ysgrif, Canghellydd y Drysorfa. Darllenwyd ysgrif yr Iechyd Cyhoeddus y drydedd waith, a phasiodd y ty. DYDD MA WRTH, Mehefin 20. I Ar ol cyflwyno rhifedi mawr o eirchion o blaid diwygiad, Cyfodai Mr. HUME, ac a gynnygiail "Nad yw y ty hwn yh cynnrychioli yn deg na phoblogaeth, na meddian- nau, na llafur y wlad ac o herwydd hyny fod anfodd- lonrwydd mawr yn meddyliau y bob! a bod yn angen- rheidiol, gan hyny, estyn y pleidleisiad i bob ty annedd fod pleidleisio i fod yn ddirgel fod parhad y senedd i fod yn ddim hwy na thair blynedd a bod i'r aelodau gael eu dosparthu yn fwy cyfartal i'r boblogaeth." Areithiai yn rymus o blaid ei gynnygiad. Dangosai fod yn berygl oedi iawnderau y bobl, yn agwedd bresenol y cyfandir. Fod camddarlunio y bobl yn y senedd, yn waeth na bod heb eu cynnrychioli. Fod yn bresenol bump o bob chwech o ddeiliaid y goron (oedd mewn oed) heb eu cyn- nrychioli. Dywedai y byddai i'w gynllun ef chwanegu dau filiwn at bleidleiswyr y deyrnas, ac felly cadarnhau wmeefydiiadau. Chwanegai at bcdwar pen ci gynnygiad uit araU, sef- na byddai y cymhwysder meddiannol yn angenrhoiaiolyn y cynnrychiolydd seneddol. Dibenodd araetlvo oddeutu dwy awr trwy rybuddio y weinyddiaeth tCs ty o'r perygl o oedi diwygiadau rhesymol a chyfiawn. Mr. DRUMMOND a areithiodd yn erbyn, gan ddadleu na wnai unrhyw gyfnewidiadau gwladyddol ddim lleihau trueni y werir. Arglwydd J. RUSSELL a wrthwynebai y cynnygiad. Dechreuodd trwy ddibrisio yr crfyniadau a gyfUvynid i'r ty, a'r cyfaifodydd mawrion diwygiadol a gynhaliwyd mewn amrywiol fanau. Dadleuai mai y Siartr, os dim, ac nid cynllun Mr. Hume, oedd y wlad yn ei ddymuno. Dywedai fod y cyfansoddiad gwladyddol wedi gweithio yn bur hapus hyd yn hyn, ac y byddai yn beryglus cyff- wrdd (ig ef. Canmolai ysgrif y diwygiad 1832. Haerai fod Ty y Cyffredin yn gwir gynnrychioli y wlad er hyny, a bod y ty wedi profi ei hun yn alluog ac yn barod i bob symudiad gwir dda. Yn olaf. os oedd eisiau diwygiadau pellach, mai nid dyma yr amser priodol i'w gwneyd, ond yn arafdeg, ac ar ol i'r terfysgoedd presenol ddarfod. Areithiodd Mr. W. J. Fox yn ardderchog a grymus o blaid y cynnygiad. Dangosai nad oedd y werin yn bre- senol ond megis caethion mewn gwlad a ehvid yn rhvdd. Dadleuai fod y werin, o ran gwybodaeth, yn gymhwys i gael y pleidlais. A hacrai y tueddai y diwygiadau hyn i leihau llygredigaeth, i buro ac urddasoli y senedd, ac i gadarnhnu y deyrnas, trwy greu undeb a gwladgarvvch yn ci dciliaid, i wrthsefyll pob ymosodiadau allanol. Yna areithiai Mr. D'ISRAELI am ddwy awr yn erbyn. Hacrai mai cynllun y canolradd ac nid yr iselradd ydoedd, ac nad oedd dim nulleb rhyngcldynt. Dywedai mai ysbryd diwygiad oedd yn dyrysu y byd. Haerai mai y bonedd- igion oedd naturiol a chymhwys arweinyddion y bobl, a llawer o bctlsau cyffelyb. Yna gohiriwyd y ty. I DYDD MERCHER, Mehefin 24. Bu amryw faterion o sylw Ueol ger bron y ty ni I byddaieuhadroddynddifyriGymry. I DYDD IAU, Mehefin 25. Parhawyd y ddadi am Drcth y Siwgr a chynnorthwy i'r India Orllewinol. Areithiwyd yn erbyn cynllun y weinyddiaeth gan Mr. Gladstone, ac (j'i blaid gan Mr. Wilson, a gohiriwyd y ddadl eilwaith.
I FFRAINC.
I FFRAINC. Megis yr oedd yn y dechreu," felly y mae yn parhau yn Ffrainc aflonydd. Y mae y Uywodnieth a'r Senedd yn awr yn cael eu dychrynu gan fwgan newydd yn mherson y Tywysog Louis Napoleon, nai y diweddar Napoleon Buonaparte. Y mae enw yr hen arvvr etto yn swyn i fyrddiynau yn Ffrainc. Y mae y tywysog uchod wedi gwneyd cais ddwywaith o'r blaen am goron Ffrainc, ond ceisiadau go eiddil oeddent—yn dibenu mewn carchariad ac aUtudiaeth. Y mae pedair neu bump o wahanol ddosparthiadau wedi ei ddewis ef, gyda mwyafrifau mawrion, yn gynnrychiolydd seneddol iddynt. Y werin hwytbau ydynt yn dechreu rhwygo yr awyr ft bloeddiadau, "Byw fyddo Napoleon," a Byw fyddo yr Ymerawdwr Napoleon." Dydd Llun, y 12fed, ymddangosodd papyr newydd yn Paris, dan yr enw Y Napoleon. Bu ambell ysgarmes fechan rhwng y N apoleoniaid a'r milwyr dinasol. Yr oedd gwahanol chwedlau ar led; rhai yn ofni fod y werin-lywodraeth, ar ol y cwb!, ar gael ei llyncu i fynu mewn unbenaeth ymerodrol; ereill yn dyweyd y dewisid Louis Napoleon yn Llywydd y Senedd, &c. Haerai Jerome Buonaparte, un arall o'r teulu, yn y sen- edd, nad oedd Louis, o'i ran ei hun, yn amcanu at ddim o'r fath, ac mae ereill oedd yn cynhyrfu yn ei enw, ac heb ei genad. Rhybuddiai Lamar- tine y Senedd o fwriad y weinyddiaeth i ddwyn i mewn ysgrif er sicrhau alltudiaeth Louis Napole. on. Yr un noswaith cariwyd ysgrif yn arwyddo ymddiried y senedd yn y weinyddiaeth, ac yn can- iattau 100,000 o francs yn fisol at draul eu cyfeis- teddfod. Tranoeth bu dadl fawr i benderfynu pa un a dderbynid Louis Napoleon i'r senedd yn ol ei etholiad ai peidio. Yn nghorph y cyflafaredd, traethid nad oedd ganddo fwriadau ar y goron, ond mai gwerin-lywodraethwr ydoedd. Dywedid hefyd y byddai ei wrthodiad yn gwneyd gwr mwy o hono nag oedd mewn gwirionedd, ac nad oedd achos yn y byd i'w ofni. Y diwedd a fu pender- fynu, gan îwyafrif mawr, ei dderbyn yn aelod sen- eddol i'w plith. Gan fod hyn yn groes i ddymuniad y weinyddiaeth, y mae y penderfyniad, yn enwedig gyda'r fath fwyafiaeth, yn gryn ergyd iddynt. Dywedir fod y Prince de Joinville, mab diweddar frenin Ffrainc, wedi cael 28,000 o bleidleisiau i fod yn gynnrychiolydd seneddol yn Paris. Y mae Ffrainc wedi anfon gwrthdystiad, mewn iaith gref, at lywodraeth Prwssia, yn erbyn uniad un rhan o Poland a'r undeb Germanaidd. Rhif y masnachwyr yn Paris oedd wedi methu, yn niwedd mis Ebrill, oedd 1,500; y maent yn awr yn agos i 6,000. Y mae pum' punt a deugain y cant wedi ei chwanegu at y trethi arferol, gan y weinyddiaeth ragddarbodol, i gyfarfod a'u hanghenion; ond y mae helynt mawr mewn amryw ranau o'r wlad wrth geisio eu hel, a'r treth-gasglwyr yn gorfod ffoi. Tra yr oedd y senedd yn gynnyrfiedig gan yr helynt yn achos etholiad Louis Napoleon, darfu i'r gwr hwnw roddi esmwythad, trwy anfon llythyr i ddyweyd ei fod yn rhoi i fynu yr anrhydedd a osodwyd arno trwy ei etholiad. Ei resymau oedd oblegid fod rhai yn haeru iddo ei enill trwy ddichell ac er mwyn peidio aflonyddu y deyrnas. Bucryn dawelwch, mewn cymhariaeth, ar ol yr hyspysiad hwn. Ond y mae terfysgoedd wedi bod mewn amryw fanau yn y taleithiau, ac ofnid iddynt dori allan eto yn y brif ddinas. Y mae cynllun y cyfansoddiad newydd wedi ei ddwyn allan gan y cyfeisteddfod a drefnwyd i'w ffurfio. Cynnygir ynddo fod llywydd i gael ei ddewis gan bleidlais yr holl ddeiliaid, i arcs yn ei swydd am bedair blynedd. Is-lywydd i'w ddewis gan v senedd, a'r senedd i fod yn gynmvysedig o saithJ cant a haner o aelodau. Nid oes ond un ty seneddol i fod, ond dewisir rhyw gynghorfa o ddeugain o'r aelodau, pa rai ydynt i barotoi cyn- lluniau i'w dwyn ger bron y ty. Y llywydd i ben- nodi y weinyddiaeth. Y gosp o farwolaeth i'w dileu, gyda golwg ar droseddau gwladyddol. Caeth-fasnach i gael ei dileu. Y wasg i fod yn ber- ffaith rydd. Pob crefydd i fod yn rhydd, a'r gweinidogion crefyddol o bob plaid i gael eu cynnal gan y llywodraeth. Addysg gyffredinol i bawb yn rhad, ond dan arolygiad y llywodraeth, &c., &c, Ar ol i ystorom Louis Napoleon fyned trosodd, bu y weinyddiaeth a'r senedd mewn ymdrechfa yn achos y gweithwyr sydd o hyd dan dal y llyw- odraeth. Y mae eu nifer yn 100,000 20,000 o honynt yn garcharorion a drwg-weithredwyr wedi en gollwng yn rhydd. Yr oedd y weinyddiaeth yn gofyn 3,000,000 o francs i'w cynnal; y senedd yn ffyrnig yn erbyn ond nid oedd i wneyd ond eu caniatau, neu ollwng y miloedd hyn yn fleidd- iaid ar hyd heolydd y brif ddinas. Y mae yma ddyryswch, ac y mae yn debyg nas deuir allan o hono heb dywallt gwaed. Y mae yr awdurdodau wedi penderfynu rhoi gwaith iddynt ar dasg ac nid wrth y dydd. Yn lie lleihau y mae trethi yn awr yn cael eu gosod ar holl angenrhcidiau bywyd yn Paris. Nid oes traul ar nwyddau masnachol a moethau i gael cyllid oddiwrthynt. Rhaid trethu angen- rheidiau cyffredin. Y mae byn oil yn ddyrys ddyrys.
C, E R MANI. I
C, E R MANI. I DENMARK A SCHLESWIG-HOLSTEIN.-Y mae cyfryngdod llywodraeth Brydain wedi llwyr fethu i ddwyn y rhyfel hwn i ben. Ymddengys fod y Daniaid yn cael cefnogaeth gan llwssia a Sweden i sefyll yn gadarn am eu honiadau. Tebygir y carir y rhyfel yn mlaen am amser maith yn egniol etto. Y mae y Daniaid yn orlawen oblegyd eu llwyddiant yn y rhyfel hycl yn hyn, a'r Prwssiaid braidd yn llwfr ac anmhenderfynol. Y mae y zel mwyaf yn y fyddin Danaidd. Yn Frankfort, lie cynnelir cynnadledd gorfforedig Germani, y mae penderfyniad wedi ei gario, fod yn rhaid myned yn mlaen a'r frwydr er mwyn anrhydedd a dyo- gelwch cyfansodiad y taleithiau cynghreiriol. Bu brwydr fechan, mewn lie a elwir Flensburg, ar y 5ed. Ymddengys mai yr Hanoveriaid, plaid Prwssia, a gawsant y gwaethaf, ond nid oedd yn fuddiigoliaeth o bwys.
PRWSSIA.
PRWSSIA. Y mae senedd Prwssia wedi pendenynu, gyda mwyafiaeth o 196 i 177, nad ellid ystyried yr hyn a gymerodd le yn mis Mawrth diweddaf yn chwyl- drocul, yn yr un ystyr a chwyldroad Ffrainc, ueu yr eiddo Lloegr yn 1688. Yr oedd y weinyddiaeth a'r bendefigaeth yn y mwyafiaeth; a haerant, er fod yr ymdrecli uchod wedi prysuro rhyw gyfnew- idiadau mawrion, etto y rhaid gwneyd y diwyg- iadau a ennillwyd yn ol cyfansoddiad a dcddfau blaenorol y wlad. Y mae cyff'ro a digter mawr yn mhlith y deiliaid oblegyd y penderfyniad hwn, oblegyd y mae yn gwneyd eu chwyldroad yn ddim gwell na rhyw ysgarmes gythryblus a diamcan. Y mae swyddogion dinasol y brif ddinas wedi ateb y penderfyniad uchod, gan honi yn gadarn i'r gwrth- wyneb; ac ofnir toriad allan gwrthryfelgar etto mewn canlyniad iddo.
A NVST R IA. i
A NVST R IA. Y mae Ymerawdwr Awstria yn parhau yn ei neillduaeth yn Innspruck. Y mae wedi crynhoi ei lys o'i amgylch yno, ac wedi gwahodd cenadon y llywodraethau tramor yno ato. Y mae wedi rhyw hanner addaw myned yn ol i'w brif ddincts yn fliari, cs gwnant hwy iawn-ymagweddu. Dywedir fod Vienna yn lied dawel, a dysgwylid yr ymerawdwr adref yn ol oddeutu y 26ain.
HANOVER. I
HANOVER. I Y mae Brenin Hanover, er mwyn dychrynu y diwygwyr talgryf yn mhlith ei ddeiliaid, wedi bygwth etto rho'i i fynu ei orsedd. I bwy y byddai y golled, tybed ?
ITALI.
ITALI. Y mae rheolau cyfansoddiad newydd Venice yn gofyn fod y pleidleisydd yn 21, a'r aelod seneddol yn 25 oed. Y mae taleithiau Modena, Reggio, a Guastalla, wedi ymuno a Piedmont. Y mae cyhoeddiad o ysgymundod cenedlol wedi ei ro'i allan yn y taleithiau Pabaidd yn erbyn y bradwyr a'r gwrthgilwyr o Naples. Gorchymynir hwynt i warth a dirmyg, fel rhai gwrthodedig gan yr Hollalluog. Y mae llywodraeth ragddarbodol Venice yn ys- tyried y priodoldeb o ymuno a thaleithiau ereill Itali Uwchaf, dan goron Charles Albert. Oddeutu y 4ydd a'r 5ed o'r mis hwn yr oedd yr Awstriaid yn lled-gilio yn ol, ond nid oedd un frwydr benderfynol yn ddiweddar.
YSBAEN. I
YSBAEN. I Dywedir fod gan Frenines Ysbaen obaith eti- fedd. Y mae wedi ysgrifenu llythyr â'i llaw ei hun at Frenines Brydain, yn achos yr helynt a'r cweryl yn nghylch cenadwr Lloegr yno, Sir H. Bulwer. Traetha y frenines y dymuniadau gwres- ocaf am barhad cyfeillgarwcli J hwng Ysbaen a Lloegr; a haera nad oedd yn yr ymddygiad uchod ddim dyben na bwriad gan lywodraeth Ysbaen i ro'i sarhad ar Loegr, ond i'r gwrthwyneb. Y mae Isturitz, cenadydd Ysbaen yn Lloegr, wedi ym- adael.
AMERICA OGLEDDOL. I
AMERICA OGLEDDOL. I Y mae telerau yr heddwch rhwng Mexico a'r Unol Daleithiau etto heb eu llwyr sefydlu. Y mae cyftro mawr yn y Taleithiau yn yr olwg ar etholiad y llywydd. Y mae ymdrech mawr yn myned yn mlaen yn awr yn New York am lythyr-doll rad. Yn Yucatan y mae tywallt gwaed yn parhau— yr Indiaid yn dibrisio pob telerau, ac yn cigyddio y sefydlwyr. Yn Canada y mae cynhwrf yn myned yn mlaen am ddatgysylltiad yr undeb rhwng Canada Uwchaf ac Isaf. Y mae Nova Scotia yn erfyn am gyfan- soddiad mwy rhydd a theg.
[No title]
Dywedir fod 300,000 o filwyr Rwssia wedi eu I crynhoi yn Poland. Y mae newyddiaduron Sydney yn bysbysu am lofruddiad tri o genadon o Loegr, yn ynys St. Christoral, gan y brodorion, yn mis Medi diweddaf. Wedi eu marwolaethu, torwyd eu cyyff i fynu, a bwytawyd hwynt gan y barbariaid. Y mae gwrthryfel wedi tori allan yn mhlith y caethion ar blanfa siwgr eang yn Pernarnbuco, yn America Ddeheuol. Yr oedd dwy gatrawd o filwyr wedi eu gorchfygu gan y terfysgwyr. Yr oeddid yn ofni ymgodiad cyffredmol a gwerin-lywodraethol.
NeUipddion CTartrefoI*
NeUipddion CTartrefoI* I GYMREIG. CYMANFA MOIT.—Cynnelir cymanfa flynyddol yr Annibynwyr yn Mon eleni yn Llanerchymedd, ar ddydd- iau Iau a Gwener, Gorphenhafl3 a 14.-J. ROBERTS. BRYNSIENCYN.—-Dvdd Iau Derchafael, rhoddes yr Odyddion eu presenoldeb yn y pentref hwn a'r gymyd. ogaeth. Ffurfiasant yn orymdaith, a blaenorid hwy gan deulu yn chwareu offerynau cerdd: yr olwg arnynt oedd yn hardd. Anrhegwyd eu Lodge a phresenoldeb W. B. Hughes, Ysw., A.S,, a chyfranodd yn haelionus tuag at ddwyn traul y dydd N. O. NiWBwncn.—Dydd Hun y Suigwyn diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod pregethu gan y Methodistiaid Wesleyaidd yn y dref hon. Y brodyr canlynol a salas- ant i fynu yn gyhoeddus i draddodi y genadwri cfengyl- aidd ;-E(tward Jones a Griffith lioberts, Pwllheli; a John Roberts, Llangollen. Yr oedd y brodyr Hugh Thomas ac Owen Evans, Llangefni, yn bresenol. Yr oedd y pregethau yn rhagorol, a'r hin yn hyfryd, a dangoswyd caredigrwydd nid bychan gan y gymydog- aeth tuag at y dieithriaid. MARWOLAETH DDISVMWTH.—Ceredigion. — Y mae yn gofus gan lawer yn y Dywysogaeth am yr ys- torm o fellt a tharanau a gymerodd le ddydd Sabboth, yr 2fed o Ebrill diweddaf; a hefyd bod dwy fuwch i Timothy James, Liaethdy, plwyf Cilcennin, swydd Aberteifi, wedi eu Hadd gan y mellt yn y beudy. Ond y mae yr ergyd trymaf etto i'w hadrodd boreu dydd Gwener, y 9fed o'r mis hwn, cododd Timothy James o'i wely, oddiwrth ei anwyl wraig, yn iach a siriol fel arfer- ol, i fyned at ei orchwyl, gan gymeryd rhaw yn ei law a dechreu gwasgaru y calch yn y cae ond prin y taft- odd ddwy rawiad neu dair, cyn iddo syrthio yn farw yn y fan Gwelwyd ef gyntaf gan ei forwyn yn gorwedd ar ei gefn yn y cae hysbysodd i'w meistress, ac aeth- ant ato mor fuan ag y gallent, ond ni chaed yr arwydd lleiaf o fywyd ynddo, gan fod y wreichionen fywiol wedi ehedeg i fyd yr ysbrydoedd. Ynghanol ein bywyd yr ydym mewn angau." Fel hyn y eollwyd o'n mysg un o'r dynion mwyaf diniwed o fewn y plwyf-parotaf i ddiwallu y tlawd a'r anghenog. Tranoeth, cynnaliwyd trengholiad ar y corff, a dychwelwyd y rbeithfarn o farwolaeth trwy ymweliad Duw. Y dyd,d Llun can- lyno), ymgynnullodd tyrfa luosog o'i gyfeillion a'i ber- thynasau i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Traddod- wyd pregeth hynod o briodol ar yr achlysur galarus, oddiar Esai xl. 6-8. Ei oed ydoedd 58 mlynedd.— Un o'r rheithwyr. WAEDDGROG.—Cynnaliwyd cyfarfod pregethu gan y Trefnyddion Wesleyaidd, yn y Waeddgrug, Mehefin II, a chymerodd y brodyr canlynol ran yn y gwasan- actli :-Mr. W. Dykins, Waeddgrug; Mr. D. Wil- liams, Newmarket; Mr. R. Williams, Bagillt; Mr. J. Ellis, Liverpool; Parch. J. Harris, (A.) Waeddgrug; O. Parry, Liverppol. Casghvyd yn yr oedraon udeunaw punt,a swllt. Y dydd canlynol cynnaHwyd cyfarfod te; a thrwy garedigrwydd cyfeillion yr achos, rhoddwyd yr elfenau am ddim; a'r elw a gaed oddiwrtho ydoedd tair punt ar ugain, yr hyn, gyda'r swm uchod, a wna y cyfanswm o X41. Is. Yr oedd y cynnulliad ar yr ach- lysur yn fawr iawn, ac ni welwyd braidd erioed fwy o sobrwydd ac astudrwydd yn gwrando. Tystiai cannoedd fod Duw yn rhoddi arwyddion o'i foddlonrwydd ar bob rhan o'r gwaith. Bydd hir a melus goffa am y gwir- ioneddau pwysfawr a syml a draddodwyd yn y cyfarfod hwn.—Gohebydd. LLANLLECHYD, ARFON.—Cynnaliwyd cyfarfod pregethu yn nghapel Jerusalem, Llanllechid, gan y Trefnyddion Calfinaidd, dydd Sabboth a dydd Llun, Mehefin yr lleg a'r 12fed, pryd y cymerodd y gweini- dogion a'r pregethwyr canlynol Tan yn ngwasanaeth y cyfarfodydd :-Morris Jones, Jerusalem W. Morris, Rhuddlan; W. Roberts, Caergybi; D. Rowlands, Mon; D. H. Thomas, Pont-y-twr; T. Hughes, Mach- ynlleth; R. Hughes, Gaerwen, Mon; David Rowlands, Bala; a W. Roberts, Amlwch. Yr oedd y cynnull- eidfaoedd yn lluosog, a'r pregethau yn oleu a nerthol. PEN MAIN, MYNWY.—Y mae yr eglwys gynnull- eidfaol luosog yn Penmain wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. E. Hughes, Treffynnon, i gymeryd yr ar- olygiaeth arnynt ac yr ydym yn deall fod Mr. Hughes wedi derbyn yr alwad, ac y bydd iddo yn fuan ddechreu ar ei weinidogaeth yn eu plith. Bydd ei symudiad o Dreffynnon yn achosi galar dwys i'r eglwys yno, yn gystal ag i'r ddwy gangen eglwys y gweinyddai iddynt; a theimlir colled ddirfawr ar ei ol gan y gymydogaeth, He y perchir ef yn fawr gan bawb. PFESTINIOG.-Ar noson y 13eg o'r mis hwn, cymerodd damwain angeuol le ar reilffordd Ffestiniog, i ddyn tlawd o'r enw John Jones, yr hwn oedd rhyw- fodd wedi crwydro ar y rheil, pryd y daeth rhes o wagenau lieibio, a lladdwyd ef yn y fan. BANGOR.- Y mae bys coch wedi ei osod ar awrlais yr eglwys gadeiriawl yn y ddinas hon, a'r llythyren G. arno, i ddynodi amser Greenwich, ar y wyneb gyferbyn a phalas yr esgob a'r deondy. Y mae y wyneb sydd gyferbyn a'r heol gyhoeddus wedi ei adael fel o'r blaen, i gamarwain y rhai a ymddiriedant yn ei gyfarwyddyd. CAERGYBt. Damwain Angeuol Wythnos i neith- iwr, (Meh. 21,) fel yr oedd Owen Hughes a William Thomas yn troi dyrwynai (winch), gyda dynion ereill, i godi dwfr-ddorau y graving-dock o'u lie, gorchfygwyd hwy gan y pwysau ar y dyrwynai, pryd y tarawodd yr handle O. Hughes ar ei ben, gan ei daflu drosyresgyn- lawr i ddyfndwr o ddeg llath, fel ag y bu farw yn y fan. Tarawyd W. Thomas gan yr handle arall, drylliwyd ei glyn, ac anafwyd ef i'r fath raddau, fel nas gallai ei gydweithwyr braidd ei gario i'w dy na bu yntau hefyd farw. Gadawodd Owen Hughes weddw a phedwar o blant, a William Thomas weddw ac un plentyn, i alaiu eu colled am danynt. LLAN.BIEILIS. -Damtvain Alaetlius.- Boreu ddydd Gwener diweddaf, yr oedd saith o chwarelwyr, a weith- ient yn nghloddfa llechau Dinorwig, yn myned mewn cwch dros y llyn at eu gwaith, fel y byddent arferol; a phan oeddynt tua haner y ffordd, pryd yr oedd y gwynt yn chwythu yn ddychrynllyd, dymchwelodd y cwch a'i wyneb yn isaf, nes yr oedd y saith yn nghanol y dyfn- der mawr. Cafodd un o honynt afael yn y cwch, a daliodd ei afael nes cael cymhorth o'r lan, ond boddwyd y chwech arall, sef tri o wyr a thri o fechgyn ieuaingc. Gwnaed pob ymdrech i gael y cyrff, ond nid oeddynt wedi eu cael pan anfonwyd yr hanes galarus atom.