Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

AT EtN GOHEBWYR.I

[No title]

FRIS HYSBY81ADAU.

AT EIN DOSPARTHWYR A'N IIDERBYNWYR.

YR AMSEBAU. -I

Y SBNEDD. I

FFRAINGC. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFRAINGC. I Ymddengys fod y genedl Ffrengig yn eithr- iad i ddynolryw yn gyffredinol. Ennillodd y genedl hon, o fewn rhyw bedwar mis yn ol, fwy o ryddid nag a gyrhaeddwyd gan un bob! er dechreu amser, am gan Ileied o bris. Caw- sant lywodraeth o'u dewlslad eu hunain- gweriniaeth ar y sylfaeui helaethaf: edrychid arnynt gyda chydymdeimlad, os nad o barch a chymeradwyaeth, gan y rhan iwyaf o wied- ydd y byd, a pha beth bynag a allai fed teimlad cuddiedig rhai o bennadunaid Ewrop tuag atyut, Hid oedd cymaint ag un yn elyn cyhoeddus iddynt. Cawsant addefiad o'r eg- wyddor o Meidleisiaeth gyffredinol, ac o hawl hollol ac anwadadwy y bobi i'w llywodraethu en hunam. Etholasant eti cynnrychiolwyr ar yr egwyddor hono; ac aethant yn miaeu i SurHo cyfausoddia.d newydd y llywodraeth. Derbyniwyd y newydd yma am gynlluu y cyfansoddiad newydd ddechreu yr wytlmos; ac ymhen deuddydd neu dri, dyma newydd drachefn fod y bobi a fuant mor Iwyddiannus i ifurno llywodraeth iddynt eu hunain, yn ol en mympwy eu hunain, yn codi mewn gwrthryfel arfog yn erbyn y galiu a grewyd gan eu hew- yllys ell hunain; a buant yn ymladd am dri diwrnod gyda'r fath nyrnigrwydd gwaedtyd, a'r fath drefn a medrusrwydd, ag y cymerodd holl rym tri chan' mil o nlwyr rheolaidd i'w gorfodi i roddi i fynu. Rhyw bobi ryfedd i'w y Ffrancod. Y mae y galanastra a gyflawn- asant yr wythnos ddiweddaf, ddyddiau lau, Gwener, a Sadwrn, ie, a'r Sabboth heiyd, yn ail i'r golygfeydd echryslawn a gyflawnwyd yn y chwildroad cyntaf. Dywed yr hysbysion diweddaraf o Paris iod y terfysgwyr wedi eu hymlid o'r ddinas, a'r milwyr yn eu herlid, gan eu IIadd wrth y cannoedd. Os yw y ter- fysgwyr hyny wedi eu gyru ymaith, y mae yn rby anhawdd dyweyd pa hyd y pery y tawel- wch. O'n rhan ni, nis gallwn weled un gobaith i lywodraethwyr presenol y bob] byth Iwyddo i gadw trefn arnynt. Y mae prif el- fenau gwir Iwyddiant a heddwch yn ddinygiol —parch i air ac addoliad Duw nid yw y Gymanfa, neu y Senedd, yn dangos y gradd Ileiar o barch i Sabboth yr Arglwydd. A'r penciwdawd ar y fyddin, Cavaignac, yw yr hwn a orchymynodd fogu yr Arabiaid yn Al- giers o fewn ychydig flynyddoedd yn oL Wrth ddarllen banes Ffraingc ierfysglyd ac aflonydd, nis gallwn lai na diolch ein bod yn ynys Prydain, ac o dan nawdd llywodraeth dirion Victoria.

NEWYDMON DIWEDDARAF.

Y LLYFB DU.