Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

LLAVVEB lUEWN ItHVUKJ. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLAVVEB lUEWN ItHVUKJ. I Dywedir fod naw o longau rhyfel mawrion yn dal wyth gant a hanner o fagnelau ac agos i chwe' mil o swyddogion a dwylaw yn awr yn y llongbyith yn Mhrydain yn segura. Peryglus iawn ar ol segurdod ar dir, i'r morwyr druain gael clefyd y mor pan y gelwir arnynt gychwyn ymaith. Mor rad ydyw y cig yn Port Phillip fel y mae ber- wydd gweryn Melbourne yn cyhoeddi ei fod yn gwerthu coesau defaid braf am chwe' cheiniog yr uii a dywedir hefyd ei fod yn cael cryn drafferth i gyfarfod a chws- meriaid hyd yn nod am y pris hyny. Y mae yn Mhrydain Fawr ddwy filiwn o ysgoleigion ysgol Sabbothol, yn cael eu dysgu gan ddau cant-a-hanner o filodd o athrawon ac athrawesau. Cyflwynodd pwyllgor bennodedig o senedd talaith Caerefrog Newydd adroddiad o'i barn unfrydol y dylid dileu cosp marwolaeth am droseddau. Y mae gan Brydain Fawr chwe' ugain o filiynau o eulunaddolwyr o dan ei llywodraeth. Y peth ynfytaf yn y byd ydyw ymgrymu o flaen y goludog nes bod yn analluog i sefyll yn syth o flaen dyn gonest. Adeiladodd y Pab Adrian goleg yn Louvaine, a pharodd i ysgrif gael ei gosod ar ei byrth mewn Ilyth- yrenau aur Utrecht am plannodd, Louvaine a'm dyfrhaodd, ond Caesar a roddodd y cynnydd." I geryddu y ffolineb ysgrifenodd rhywun o danodd Ni wnaeth Duw ddim yma." Cyhoeddir fod amryw offeiriaid yn esgobaeth Llan- elwy yn ymdrechu a'u lioll egni i babyddio eu plwyf- olion. Fel yr oedd clerigwr yn myned i gladdu corffyn, daeth gwraig i fynu ato, pan ar ganol y gwatanaeth, ac a'i tynodd gerfydd ei lawes. Syr! syr y mae arnaf eisiau siarad a chwi." H Byddwch cystal ag aros, wraig, hyd oni ddarfyddaf." Na, syr, y mae'n rhaid i mi siarad a chwi yn union." "W el, ynte, pa beth ydyw'r mater ? 1, Wel, syr, yr ydych yn myned i gladdu dyn a fu farw o'r frech wen yn ymyl fy ngwr tlawd, yr hwn ni chafodd ef erioed." Y mae fy syllddrych, (telescope,) rhywfodd, yn fy ngalluogi i edrych yn ol i amser mynedol, am fod genyf reswm da i gasglu bod yn rhaid i rai o'r ser sefydlog a ddarganfyddais drwy ei offerynoldeb gael eu creu ddwy filiwn o flynyddau yn ol.-Dr. Herschel. Cyfrifir fod pob cwningen wyllt ar fferm yn costio i'r ffermwr o leiaf ddimai y dydd mewn ymborth, heb son am y difrod a wna. Dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, cafwyd y Parch. E. Spencer, perthynas i larll Spencer, yn farw yn y bwa (arch) o dan yr Adelphi Theatre, Llundain. Bu farw y boneddwr parchedig trwy feddwdod. Plant, pan yn ieuanc, a sathrant ar fysedd traed eu rhïeni; pan yn hen, ar eu calonau. Trwyddedir calon dynes "i gludo ddim rhagor nag un oddifewn. Er fod dyn heb arian yn dlawd, y mae dyn heb ddim ond arian yn dlotach. Dywed dïareb Ysbaenaidd-Andwya Iuddewon eu hunain yn eu pasg; Mooriaid yn eu pnodasau Crist- ionogion yn eu cyfraith-gwynion. Gadewch i mi eich gweled yn beiddio gwneyd," fel y dywedai y wraig wrth ei gwr pan ddywedodd wrthi ei fod am ymdaflu. i'r afon. CAOS- Twmpath anferth o ddim, heb ua lIe i'w roddi. Yr olwg ar feddwyn ydyw y bregeth oreu yn erbyn y drygioni hwnw o'r un a bregethwyd erioed arno. Nid oes yr un awr o'r dydd yn mha un y bydd dyn mor hoffo weled ei wraig wedi ymwisgo gyda dillyn- rwydd a phan y gedy ei hystafell-wely ac eistedd i lawr at foreufwyd.-Mrs. Eliis. Syrthiodd Mr. Wockagenikedewegbitnigenstorben i lawr y grisiau y diwrnod o'r blaen, a thorodd ei enw yn dri darn. Rhyw amser yn ol cofrestrwyd genedigaeth plentyn yn rhandir Everton gyda'r enwau bedydd canlynol:- Teresa, Juana, Josefa, Blasa, Maria, De las Mercedes, Francisca, Xavier. Dyn trwsgwl, pan yn ymgynyg at dori gwydd, a'i gollyngodd ar y llawr. "Y na, yn awr," ebai ei wraig, "yr ydym wedi colli ein ciniaw." "0, nac ydym, fy anwylyd," atebai yntau, "y mae yn ddigon diogel, o ran mae fy nhroed genyf arni." 11 Dychweliad melus," meddai'r gwr, pan y taflodd y wraig y bowl siwgwr ato. Pa beth ydyw dim ? Hosen di-droed heb goes. Dywedai Americanwr unwaith fod ganddo was negro- aidd mor ddu, fel y gwnai darn o charcoal 61 gwyn arno. Yr oedd dau Wyddel yn rhodiana yn y Zoological Gardens, Dublin, pan y safasant i edrych ar arth. Bid siwr," ebai un o honynt, "Ilid ewyllysiwn gyfarfod a haner dwsin o'r rhai hyn yn rhedeg ar fy ol. Pan oedd cyfreithiwr ar fedr cyflwyno gofyneb am gostau, erfyniodd ei ddvledwr, pobydd, arno "ei wneyd mor ysgafn ag y gallai." "Ah! ebe'r cyfreithiwr, dyna beth ellwch chwi ddyweyd wrth eich foreman, ond nid dyna'r ffordd y byddaf/i yn gwneyd fy mara.

[No title]

Family Notices

[No title]

LIVERPOOL, Dydd Mawrth, Mehefin…

[No title]

CANOL-BRIS Y GRAWN, Mehefin…

IPRISIAU CYNNYRCH AMAETHYDDOL.

I - MARCHNDNIFEILIAID, Mehefin…

I MARCHNAD Y GWLAN.

IMARCHNAD LLUNDAIN.

IMARCHNAD Y DEULUYDDES.

-PRICES CURRENT, LIVERPOOL,…

I PRICES OF METALS.

-. LIVERPOOL TIMBER MARKET.

IHIGH WATER IN LIVERPOOL.111.I