Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

,.- - YR AMSERAU.

Tit em #oljebtuj>r,

AT EIN DOSPARTHWYR A'N DERB…

-_-__- -_ - -__- -__- \ AT…

POST-OFFICE ORDERS, &c. I

! PRIS HYSBYSIADAU.

I -'-Y LLYFR DU.

DRYCH Y BYD.....I

A OE-D3 LIVERPOOL MRWN PERYGL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A OE-D3 LIVERPOOL MRWN PERYGL ? I Yr oedd llawer yn meddwl fod yr ynadon yn gweithredu oddiar ofnau disail, yn y dar- pariadau helaeth a wnaethant er cadw hedd- wch y dref hon: ond y mae profion newydd bobdydd yn dangos fod ganddynt y seiliau cadarnaf i'w hofnau, a'u bod wedi gweithredu yn ddoeth yn y mesurau a fabwysiadwyd ganddynt. Yn awr, gan fod amcanion dryg- ionus V clvbwyr cynghreiriol hyn wedi eu I hattal, gellir dyweyd fod y maer a'r ynadon yn meddu tystiolaethau ysgrifenedig anwad- adwy, o fwriad y clybwyr yn y dref hon i! gydweithredu a'r gwrthryfelwyr yn Iwerddon, I ac mewn parthau erei'?l o'r wiad hon. Yr oeddynt yn barod i danio y dref, i ymosod ar y prif adeiladau, ae i arg au CbarriCade) yr beolydd, wrth archiad y cynghrair yn I werdd- on. Y mae enwau llawer o ddynion tra ad- nabyddus yn y dref yn gysylitiedig a'r cyd- fradwriaethecbryslawn yma. Yr oedd yrtia bedwar-ar-ddeg o'r clybiau. neu'r cymdeilh- asau, bradwraidd hyn, a phob un o honynt mewn cymundeb a gohebiaeth a'r cyngbrair yn Dublin, yn anfon cenadau yno, ac i 1\1,1n-1 chester, a threfydd mawrion ereiU L1oegr, i ymgynghori yn nhylch dwyn yn mlaen eu bwriadau dinysttiol. Yr oedd ganddynt eu pvvyllgorau arfol, a'u pwyllgorau trefniadol, ii ac yr oeddynt wedi darlunellu (mapped) yr beolydd allan, n barod, gyda llawer o fedr- usrwydd, er dwyn yn mlaen eu symudiadau j rbyfelgar. Y mae yn amiwg, gan hyny, fod Liverpool mewn perygl o'r fath waethaf. Ond y mae yn byfryd genym allu dyweyd, fod dichellion a brad y clybiau enbyd hyn. yn sicr o gael eu rhwystro, ac y caiff hedwch YD 91cl, 0 11, y dref ac uwchafiaetb y gyfraith eu cadw yn ddifylcbau. Y mae gwarantau allan i ddal Dr. Reynolds, ac amryw ereill o bnf flaenor- iaid y fyddin ddu o deriysgwyr a hyderir y bydclant yn ngafael y gyfraith "yn fuan. Y mae tawelwcb ac iawn-drefn pertlaith yn I teyrnasu yn ein tref; a phob graddau oi trigolion, yn Saeson, yn Gymry, yn Scotiaid, a llawer o'r Gwyddelod hefyd, o un gaion au o un enaid am amddiffyn bywydau, medd- iannau, a chysuron eu gilydd. Gwir yw fod yma rym milwraidd cryf gerllaw; ond mor wir a byny, na fydd dim angenrheidrwydd am eu gwasanaeth bellach, gan fod llochesau y terfysgwyr wedi eu chwalu.

I fiehnitotfton SitocWaraf.

[No title]