Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

YR OFFETEIAD PABAIDD versus…

AT EIN GOHEBWYR. !

YR WYTHNOS. I

PABYDDIAETH YN Y SENEDD AC…

Y DRETH ;EGLWTS.____I

 NEWYDDIONCYMREIG.j ]

PRWSIA. I

AWSTRIA. I

AMERICA.I

Y MOR COCH. I

CHINA. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHINA. I Ymddengys fod Yeh, is-lywydd taleithiau de- heuol yr ymerodraeth yn bresenol yn Sou Tehe- King, pentref mawr o Konang Tcheou, oddeutu pymtheng milltir o Canton. Yr oedd wedi ym- gadarnhau mewn sefyllfa dda. Yr oedd ganddo fyddin o 30,000 o wyr, ac yr oedd yn chwanegu ati bob dydd trwy oaod trethi anarferel. Daeth yn wybyddus yn Hong Kong fod swyddog milwr- aidd Prydeinig, dau is-swyddog, rhai milwyr a morwyr wedi eu cymeryd yn garcharcrion yn mhrif orsaf Yeh, He yr oeddynt yn dioddef yn drwm, penderfynwyd agor cynadleddiad i geisio ganddo newid carcharorion yn eu ffafr hwy, a darfu i oruchwyliwr Tramor gymeryd y gorchwyl mewn llaw. Wedi i Yeh wrando ei gynygion, atebodd Yr ydych yn gofyn genyf gyfnewid y Saeson sydd yn fy meddiant, i'r nifer o 16 am ddwbl y nifer o ddeiliaid Chineaidd, yn mhlith y rhai y mae amryw swyddogion Tartaraidd, ac un o lywyddion y llongau ymerodrol. Yrwyf yn gwrthod. Nid oes arnaf eisiau eich carcharorion, a gellwch wneuthur tel y mynoch a hwy ond os ydych yn awyddus am gaelryr tinarbymtheg o Saeson, ac os oes genych y modwou angenrheid- iol i geisio am danynt, cewch wybod fy mwriadau yforu. Trodd allan wedi hyny mai pris eu goll- yngiad ydoedd 400 o piastres yr un, ond rhodd- odd is gwyddog Yeh bris uwch er mwyn cael rhan o'r arian iddo ei hun. Talwyd yr arian, a goll- ynwyd y dynion yn rhydd heb wneuthur niwaid iddynt. Cymerth peth anhyfryd le yn Foo choo Foo, porthladd ar yr afon Min, y brif tarchnadfa am de du. Clywodd yr is-lywydd fod yn groes i'w orchymyn lawer o drafnidiaeth yn cael ei wneuthur yno, ac aufonodd gwmni o'i warcheid- waid yno ar ddydd marchnad, cymerasant i fynu amryw fasnachwyr Chineaidd, a ll.osgasant gryn lawer o nwyddau perthynol i'r Saeson.

AMRYWIAETHATJ. I

[No title]

[No title]

MARCHNADOEDD A FFEIRIAU CYMRU.

___MARCHNAD LLUNDAIN-

CANOLBRISIAU YMHERODROI,

LIVERPOOL WOOL MARKET, MAY…

MARCHNAD YR YD LIVERPOOL,

LONDON CATTLE MARKET.