Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

-ilm11 -J. IAT Y WZ','Tr "I).…

Advertising

NEWYDDION CYMBEIG.

YR AGERDDLONor "GREAT EASTERN"…

nGYNYGIAD AM GYNADLEDD GYFFREDINOL…

[No title]

I CYNRYCHIOLAETH SIR GAERFYRDDIN.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNRYCHIOLAETH SIR GAERFYRDDIN. At Olygydd yr Amserau. Syr,— Gan fod yr adeg wedi dynesu pan y bydd yn rhaid i etholwyr y sir ucbod i ddewis aelod i'w cyn- rychioli yn y senedd yn lie y diweddar Mr. Saunders Davies. A chan fod dau ym-eisydd wedi dyfod i'r maes, sef Mr. J. Lloyd Davies a D. Pugh, Yswain, hyderaf, Syr, y caniatewch i mi wneyd ychydig sylw- adau arnynt er mwyn rhoddi gwell mantais iddynt i wybod pa fodd i ymddwyn yn yr amgylchiad. Mae pawb yn hysbys fod Mr. John Lloyd Davies wedi bod yn cynrychioli bwrdeisdrefi Aberteifi, ac wedi ei droi allan wedi hyny fel un annghymwys ac annlieilwng i'w cynrychioli yn y senedd. Ac yn mhlith rhesymau cedyrn ereill ag oedd ganddynt am roddi y sach iddo mae y ffaith a ganlyn :—Fe addaw- odd Mr. J. L. Davies, wrth yr etholwyr, mae'n debyg, yn ddifrifol, os dyrhwelent ef i'r senedd, y gwnai bleidleisio yn y modd mwyaf penderfynol dros ddi- ddymiad y dreth eglwys. Ond mae yn debyg mai cyn y briodas" oedd hyn. Pan ddaeth mesur can- moladwy Syr W. Clay i fwrdd Ty y Cyffredin, pwy oedd yno ond Mr. J. L. Davies mewn llawn arfogaeth yn gwrthwynebu y mesur gyda'r haerllugrwydd mwy- af! Ie,y dyn a ymrwymodd wrthYmneillduwyr swydd Aberteifi i wneyd ei oreu drostynt I Y dyn ag oedd wedi llwyddo cael ganddynt i'w anfon i'r senedd trwy eu seboni a'u twyllo a'r ystoriau yslic a rhodresgar fel un o ddiwygwyr y 19eg ganrif! Chwi welsoch anerchiad Mr. J. Llovd Davies yn mhapurau Caerfyrddin, cyn braidd i gorph eich cyf aill Mr. Saunders Davies gwbl oeri! yn eich hysbysu ei fod yn bwriadu "sefyll" dros y sir. Bostia yn fawr yn hono. Y 'FE ydoedd y cwbl yn hono, a cbwithau yn DDIM. Os ydyw yr anerchiad slip s-op hono i fod yn safon neu brawf o'i athrylith, o'i dalent, neu o'i fedrusrwydd fel dyn o gymbwysderau a gallu- oedd i'n cynrychioli yn Nhy y Cyffredin. Wfft! Wfft i'r fath beth ddywedaf fi Gobeithaf y daw boneddigion sir Gaerfyrddin yn miaen fel un gwr, oblegyd mor briodol y gellir dy wedyd, 0 undeb, tydi bia'r nerth Bydded iddynt ddyfod allan fel 11a banerog!—fel arfoglui roddi gwrthwynebiad uniongyrchol a phenderfynol iddo. Bydded iddynt bleidleisio dros David Pugh, Yswain, yr hwn, fel y gwyddont, sydd mor uchel ei gymeriad yn y wlad fel DYN ac fel GWLADGARWB — fel cyfaill calon i bob symudiad ag sydd yn debyg o lesoli ei gydgenedl-wedi llanw sefyllfaoedd anrhydeddus ac urddasol yn y sir, yn mhlith ereill wedi gwasanaethu am flynyddau fel cadeirydd y Sesiwn Chwarterol. Gwr ydyw Mr. Pugh nad oes gan neb dynion ddim i'w ddweyd yn annymunol am ei gymeriad. Dyn ydyw bob modfedd o hono-cudd neu gyhoedd. Wrth wrthod Mr. John Lloyd Davies fe ddengys etholwyr goleuedig sir Gaerfyrddin i'r byd eu bod yn amddiffynwyr cysondeb a rhinwedd, a'u hawliau cyffredinol. Ac wrth bleidleisio dros D. Pugh, Yswain-y talentog—y dysgedig—y gwladgarwr a'r boneddwr drwyddo hwnw, chwi fyddwch yn eglur ddangos i'r wlad eich bod am helaethu cysuron dyn- oliaeth, am Iwyddo sefyllfa gymdeithasol a moesol y byd, am weled rhinwedd yn blodeuo, a'ch bod am ddyn o dalentau gorddysglaer, o egwyddorion rhydd. garol i'ch cynrychioli yn senedd Prydain Fawr. Cofiwch bleidleisio dros PCGR. Gobeithio, Mr. Golygydd, y bydd genych chwithau air i'w ddweyd yn eich erthygl olygyddol ar y pwnc. Ydwyf, yr eiddoch yn ffyddlawn, GWILYM.

- - - - - - - - - AT J. ROBERTS,…

Y PEDAIR SCRIW.

DYFYNION O'R "LIBERATOR."

I HUNANLADDIAD YN NGHONWY.

AMRYW IAETH A U.