Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YR WYTITNOS, I

NODIADAtJ CREFYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAtJ CREFYDDOL. Sylwasom mewn erthygl arall ar y cynhwrf a gymerodd le yn ddiweddar yn Belgium, pa uu oedd yn eflFaith achosion crefyddol, neu eglwyig, yu fwy nft dim arall; Ctfynctil yr ychydig nodiadau ychwanegol sydd genym i'w gwneyd yn yr erthygl hon at faterion ag sydd yn dal per- thynas fwy uniongyrchol t'n gwlad ein hunain. Ychydig a feddyliem, er ya ychydig fisoedd yn 01, pan yn sylwi.mewn "congl" arall, ar erthygl dra rhagorol gan *Mr. Isaac Taylor, yn y "North British Eevieu, fod yn yr ysgrif i)ono ddefnydd v fath ystorm. Erbyn hyn y mae y North British -un o'r rhai galluocaf on chwarterolion, wedi peidio, a hyny yn benaf, yr ydym yn dlall, oher wydd sylwadau Mr. Taylor. Er ys dros chwarter canrif yu ol ysgrifenai y Aleud;Vy o- Cingar- anadnabyddus awdwr y "Natural History oj EshtftusKtsift a'r "Saturday Et-eizing," y pryd hwnw-fel y canlyn am "esboniwr cyfundraethol" yr ysgrytliyi-ati- v lluniwr duwinyddiaeth gyfundraethol yn condci: n'o annuwioldeb yr am heuwr; ac ymcld-.n^oSa ful yn cytneryd safle yn y pellder eitiuif oddiwrth y fath ryfyg. Y mae ei ryfy-g ef o fath gwahanol; ond y mae y dybiaeth -y gau dybiaeth ar ba un yr adeilada, yn han- fodol yr un a'r eiddo yr arriheutft; oiteroytld mae V cyfuiidraethWr a'r amlleiiwr yn cychwvn eu nesboniad or ysgrytbyr gyda'r egwyddor honedig —Na ddylai fod dim mewn datguddiad ag nas gellir dangos oi gyfatebiaeth a'i berthynasau i bob rhan arall o dduwinyddiaeth. Nis gall y naill na'r Ilall otldpf ir hyn nad d yn hwylus i'w le ordeiniedig yn eu hathroniaeth ond mae y ddau yn defnyddio mcddion hollol wahanol i wneyd i ffordd a'r hyn sydd anhywaith yn yr ysgrythvr. Cvmera yr amheuwr y ffordd hawdd o osod o'r neilldu bob peth o'r fath ond mae y cyfundrefnwr, gyda mwy o barch, mae yn wir, ond nid gyda mwy o wyleidd-dra, tra yn cadw holl ddefnyddiau yr ysgrythyr, yn rhoddi peiriant an orchfygol ei reSymeg ar waith ac Hid oe6 dittl yn | alluog i wrthaefyll .nerth a phwysau y peirian- waith hwn. Nid oes dim yn abl i gadw ei ffurf gyntefig ar ol myned dany gwasgiad arddansodd- 01 hwn. Ac alien y daw duwinyddiaeth gyfun- draethol !-nid duwinyddiaeth arddunol a dirgel- edig yr ysgrythyrau, oiid yr eiddo y gadair bro- ffefyddol. Yn y cyfamser, y mae ysgrifenwyr ysprydoledig yr ysgrythyrau, yn ddistaw, eto yn eglur, trwy eu harddull a'u trefn, yn proffesu nad ydynt hwy yn cyflwyno ond elfenau gwahaniadol o'r ddwyfol wyddoniaeth a phob un, yn ei ddull ei hun, yn cydnabod—" 0 ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn prophwydo." Ceir ami gyffyrdd- iad ar taixt bwn gail Mr. Taylor yn ei weithiau dyIynol-ÿn ei Enthusiasm, ei Fanaticism, ei Ancient Christianity, ei Spiritual Despotism, ei Wesley and Methodism a dychwela ato gyda nerth mawr yn ei lyfr diweddaf-Tlte Restoration of Belief, pa un, fel y cyntaf, a'i cododd i enwog- rwydd, sydd yn ddienw, ac wedi creu cynhwrf nid bychail yn y tyd crefyddol. Cyffyrdda hefyd, gyda Haw led drom, &r yr un pwnc yn ei erthygl ar Dr. Chalmers. Yr egwyddor y dadleua efe drosti ydyw-y dylid darllen y Beit' fel pob llyfr arall, yn ei oleuni ei hun—hyny ywi chwilio pa beth y mae efe yn ei ddywedyd a rhoddi credin- iaeth gyflawn, unplyg i'w holl wirioneddau, heb ymofyn pa fodd y cydsaif hyny a rhyw dybiau, neu gyfundraethau a ffurflasem ni i ni ein buoain yn flaenorol. gan gredu bob amser mai o ran" yr oedd yn bosibl rhoddi datguddiad o wirionedd- au ysprydol i ni, ac mai o ran y mae yn bosibl i ninau eu dirnad. Beiai y Dr. yn vsgafn, ac yntau yn gweithredu mor egniol a llwyddianus yn ol yr inductive method mewn atbroniaeth, am na buasai yn dilyn yr un drefn yn ffyddiog yn ei ymchwiliad ar ol gwirioneddau ysprydol crefydd a siaradai yn bur rymus a hyawdl, yn ol ei arfer, ar ragoriaethau a manteision y drefn hono. Teimlodd llawer o Ddoctoriaid Ysgotland oddiwrth yr ysgrif; a siaradodd amryw o honynt yn ei herbyn. Gwnaeth Dr. Cunningham yr erthygl yn destyn ei anerchiad olaf i'r efrydwyr ddiwedd y term diweddaf. Y mae yn digwydd braidd yn hynod fod Mr. Isaac Taylor, yr hwn y mae ei olygiadau wedi dyfod mor wrthodedig ar y pryd presenol, yn digwydd bod, er ys ugain mlynedd yn ol, yn cael ei ddwyn yn mlaen gan yr un bobl- ag ydynt yn awr yn ei gondemnio, fel ymgeisydd "union-gred" am gadair Rhesymeg yn Mhrif- ysgol Edinburgh, ac nad oedd gan y cawraidd Syr William Hamilton, os ydym yn cofio yn gywir, ddim ond 4 o bIcidleisiau yn ychwaneg nag ef yn yr ymdrechfa hono. Anfoddhaol i ymddiriedolwyr a thanvsgrifwyr coleg Manchester y mae pamphled amddiffyniad- ol Dr. Davidson yn troi allan a'r canlyniad yw, fod dirprwyaeth wedi cael ei phenodi i fyned at y Doctor, i wasgu arno y dymunoldeb o roddi ei swydd fel prif athraw y coleg i fyny. Xid llawer o ffordd sydd oddiwrth y pwnc hwn at un o'i gyfathrach ag sydd newydd ei roddi o flaen ein cydwladwyr, sef y cynvgiad o iMOO o wobr am y Traethawd goreu ar Brophwydoliaeth- au y Beibl. Deallwn fod rhai brodyr gweiniaid a thyner eu teimladau yn ofni fod drwg yn llechu yn y cynygiad bwn. Feallai fod ond anturiwn feddwl, pa faint bynag o ddrwg a all fod yn Ilechu ynddo, fod yn bosibl ei wneyd yn foddion i gyn- yrchu mwy o dda nag o ddrwg. Mae yn bosibi— a'n barn ni ydyw-fod athrawiaethau cyfeiliornus a niweidiol yn cael eu dysgu gan Dr De Wette, a Dr. Bunsen, ie, a chan Mri. Coleridge, Jowett a a. Macnaught, Dr. Davidson (yn gystal a Dr. Tregeiles) a'n cydwladwr galluog y Parch. Row- land Williams ond beth er hyny ? nid ydyw yn canlyn, mewn un modd, mai dyledswydd pob dyn union-gred ydyw ymgadw oddiwrth y pwnc. Y mae pob ymchwiliad gonest, Ilaftirus, amynedd- gar a ffyddiog am y gwirionedd yn sicr o'i wobr. Byddai yn fuddiol dal mewn cof hefyd mai nid trwy gadw byth a hefyd ar ryw un sefyllfan, y ceir golwg ar amryfal ranau a phrydferthion teml gwirionedd. Yn awr, tra y mae dysgeidiaeth a Beibl-feirniadaeth yn ffynu yn ein mysg, hyderwll. y bydd ein prif ysgolorion a'n meddylwyr yn ym afaelyd yn y pwnc hwn, ae yn cyfansoddi rhyw- beth arno a fydd yn anthydedd i'r genedl, yn werth ei ddarllen a'i chwilio gan brif ddynion yr oes, ie, a'i gyfieithu er budd i bobl yr Almaen. Tra gyda dysgeidiaeth mewn cysylltiad a chrefydd, yr ydym yn ymyl pwncyn bychan a ddygwyd dan sylw dosbarth Iluosog o'n cydwlad- wyr yn y dref hon er ys ychydig adyddiau yn ol, sef sefydliad Cronfa o ^20,000 tuag at gynaliaeth Athrofa y Metbodistiaid Calfinaidd yn y Bala Da genym ddeall fod yr enwad parchus hwn yn Ngogleddbarth y Dywysogaeth a threfydd Lloegr, wedi penderfynu o'r diwedd i osod eu hathrofa yn deg a sefydlog ar yr egwyddor wirfoddol, yn lie ar dreth, fel y mae wedi bod yn ystod yr 20 mlynedd a aeth heibio o'i hoes Rhoddid yr achos gerbron y gwahanol gynulleidfaoedd yn y dref hon gan y Parchn. Dr. Edwards (prif athrawy sefydliadj, ac Edward Morgan, Dyff ryn,, i'r hwn y mae y gym- deithasfa wedi ymddiried y gorchwyl o gacglu y swm sydd mewn golwg. Atebai Dr. Edwards, i'n tyb ni, yn eglur, ddihoced, boddhaol a nerthol bob gwrthddadl ag sydd yn debyg o gyfodi yu meddyl iau dynion rhesymol yn erbyn yr amcan. Rhodd- ai fvnegitid tarawiadol ac effeithiol o'r modd y sefydlwyd yr athrofa ac v dygwyd hi yn mlaen hyd yn hyn a datganai yr hyder mwyaf difiuant yn y bobl a'r egwyddor wirfoddol, ond iddyut gaef chware teg Dadleuai Mr. Morgan yr achos gyda deheurwydd a gwres anarferol; hyderwn yn fawr y caniateir iddo fywyd a nerth i ddwyn allan faen penaf yr adail wir glodwiw hon y mae ei ddwylaw wedi ei sylfaenu. Anhawdd, yn holl wersyll Methodistiaeth, fuasai cael ei gyffelyb, anmhosibl fuasai cael ei well, at y gorchwyl gwir bwysig hwn. Deallwn gyda hyfrydwch fod egni anarferol yn cael ei wneuthuryn yr achos, a bod eisioes dros haner y swm mewn addewidion wedi eu cael. Y cam mwyaf a all cenedl ei wneutbur a hi ei bun ydyw gwneyd cam a'i ph wlpud; ac y mae yn llawn bryd i grefyddwyr Cymru-nid yn unig y Meth- odistiaid, ond yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a'r Weslevaid yr un modd—edrych a vdyw y pwlpud yn cael yr h\ n a haeddai oddiar en Haw. Ofnwn nad ydyw, a bod crefydd yn dioddef yn ddirfawr o'r herwydd mewn llawer lie. Ond, ychwaneg ar hyn ryw ddydd eto. Da gan ein calon weled yr eglwys esgobyddol yn ymysgwyd o ddifrif at ei gwaith—fod dynion difrifol, gwcithgar, haelfrydig- eu calonau yn ychwanegn ynddi o ddydd i ddydd—a bod y naill gerpyn ar ol y llall o'r hen rwymynau pabyddol a choelgreiyddol yn mha rai y bu hyd yma dros ei holl fywyd mewn caethiwed," yn cael eu taflu heibio. Yr oedd neuadd fawr Exeter yn orlawn o wrandawyr y nos Sabbathau diweddaf; a pbreg- ethau grymns a gwir efengylaidd yn cael eu tra- ddodi iddynt gan weinidogion perthynoli'r eglwys esgobyddol. Gweddiai Mr. Spurgeon yn y neuadd fawr yn ngerddi Surrey yn ddifnfol am fenditb y nefoedd argynulliad a llafur ei frodyr yu Exeter Hall. Pa faint bynag o ddyled sydd ar grefydd yn Mrydain i'r Eglwys Sefydledig, y mae llawer ¡ iawn ar yr eglwys hono i'r Ymneillduwyr. Iddynt hwy y mae yn ddyledus am addysg grefyedol 1lawsr o'i gweinidogion mwyaf doniol a llafurus i'w hesiampl hwynt y mae yn ddyledus am ei Hysgolion Sabbathol a'i Chymdeithasau Cenhadol; ae iddynt hwy y mae yn ddyledus am y cynhyrfiad presenol i fyned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau ar ol y rbai nad ydynt yn dyfod i ymofyn am dani. Bydd y llafur hwn yn sicr o ddychwelyd yn ol yn fywyd ac iechyd ysprydol i'w mynwes eu hun » gwynfyd na enynai yr eiddigedd yn y naill neu y llall o honynt yn dclengwaith mwy niigerudo! fyth yn achos y miloedd sydd yn mnrw o eisiau addysg, er pob peth, yn nghyrtiau a cliulion heol- ydcl trefydd poblogaidd ein gwlad.

J ETHOLIAD 9TB GAERFYRDDIN.…

ICYLCHWYL HANDEL.

FFRAINC.- I

-AMERICA. -I

ITALI. I

1 TWRCI.

YSPAEN.

I RWSIA.

[No title]

I IBARDDONIAETH. i

Family Notices

, -Z-  IHAINT YR ANIFEILIAID.

I AMRYWIAETHAU.

[No title]

MARCHNADOEDD A FFEIRIAU CYMRU.

MARCHNAD LLUNDAIN

CANOLBRISIAU YMHERODROL 4.

MARCHNAD GWLAN LIVJtRPOOL,…

MARCHNAD YR YD LIVERPOOL,…

LONDON CATTLE MARKET.