Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

R U M N I.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

R U M N I. Mr. Gol.—Y mae rhyw leferydd, fel y gwyddoeb, yn dyfod o bob dinas, tref, a phentref, ar ryw brydiau, ac y mae y lleferydd yn wahanol iawn ar wahanol amserau ac achlysuron. Mae yn wir y clywir Hef ambell foneddwr yn erbyn trais a gorthrwm ei gyd. foneddwyr; ond lief y tlawd a glywir fyoyehaf yn erbyn y bonedd ffroenuchel, gorthrymus, a threisiol. Y mae y tywydd sych presenol wedi achlysuro i gri y tlawd ymddyrchafa i fyoy yn erbyn ymddygiadau meistriaid gwaith haiam Rumni. Y maent yn ym. ddwyn yn dra annheilwng o'u gweithwyr tlodion, y rhai nad oes ganddynt at en cynaliaeth ond a enill- ant trwy chwys eu hwynebau. Y peth a duedda i'w niweidio yn fwyaf uniongyrohol yw y "stop dwr" parhaus sydd yma; yckvdig iawn o ddyddiau heb wlaw, a wna Rumni mor ddiddwfr fel y bydd y pyllau haiarn a glo yn gorfod sefyll, ac amryw ganoedd o'r gweitbwyr heb un moddion cynaliaeth. Pe buasai yn annichonadwy cael digonedd o ddwfr yma, ni bu- asai le i'w beio; ond nid felly y mae. Dywedir nad oes ac linell y gweithiau haiarn Ie hawddacb i gael digonedd o d wfr, ac eto nid oes un man mor ddiffvgiol yn hyu a Rumni. Dywed y dyn- ion mwyaf cyfarwydd a phethau o'r fath y gellid, gyda'r rhwyddineb mwyaf, wa,yd llyn yn nghwr uchaf y Cwm, digon i gynwyB cytlawoder o ddwfr at y gwaith am chwe mis. Yn enw rheswm, gau fod hyn yn ddichonadwy, ac nid yn unig liyny, ond yn hawdd, paham nad e!id yn nl,hyd a'r gorcbwyl o adeiladu gwrthglawdd ar unwaitb, er ffarfio llyn a fyddai yn ddigoo o adnoddau i'r holl waith ar adeg o sychder fel y presenol. Os ded yn sych am bythef- | nos yn rhagor bydd yn golled i'r Cwrnni o lawer o ( ganoedd o bunau, canys nid peth bach yw (Jiffodd cynifer o ffwrneisi ag sydd yma. Ond anaTil iawn y mae y gwaith tan ar slop mewn cyferbyniad i'r gweithiau mwn a glo; canys y maent yn goUwnj y dwfr o bo.) llyn perthynol i'r pyllau at y gwaith tan pan y bydd yn debyg i barhau arc dipyn yn sych; ac felly nid yw sychder yn goiled i'r Cwmni nes v bydd y gwaiTh tan ar stop, trwy fod cyflawnder o fwn yn stoc wrtb gefa- bol) :rr.s-?r. Ond dyn a helpo I y mwnwyr tlodion, cant hwy fyw fel y gallont, ac nid yw eu gallu ond bychan iawn os na chant waith I felly y mae y mawr anchrefn hwn ya taflu ugeiniau i lawor o deuluoedd yn nghwm Humni i ddyled, -flodi, a dyryswch dibendraw; canys nid hawdd yw i deu-1 luoedd lluosog ddyfod ar eu traed mewn amser byr, wedi unwaith golli en rheol gyffredin o fyw. Trwy y difaterwch mawr hwn y mae llawer nid yn unig yn cael eu cadw yn isel, ond yn suddo yn ddyfnach ddyfnach i dlodi ae annhrefn bvwioliaethol; canys cyn y bvddant wedi ymuni&wni ar ol bod dan bwa un sychder, daw un arall arnynt ac ychwanega y pwn. Yn awr, fy nghydweithwvr, gofynaf i chwi (canys arnoch chwi y gorpbwys hyn i raddau mawr;, Pa hyd eto y goddefwch y gorthrymder hwn ? Gob- eithiaf eich bod oil yn un liais, yn barod i ateb, "Dim yn hwy." Os ydych, dangosweh hyny drwy gymell eich gilydd i ddyfod yn nghyd ryw noswaith i ryw fan cyfleus er ffurfio rhyw gynllun a fyddo yn debyg o effeithio ar y meistri i'r fath raddau ag i gael gan. ddynt symud y drwg hwn ymaith, trwy wneyd llvn mawr a fyddo yn ateb i angen y gwaith. Goddefwch i mi gynyg cynllun i gael hyn oddiamgyieh. Dyma fe. Ymgynulled y mwnwyr a'r glowyr i'r ysgoldy Brutanaidd ar Twyn Carno, dyweder ar nos Lun y Bed o Orphenaf nesaf; ac areithied y rhai mwyaf doniol o honoch ar deilyngdod y pwoe, ac yna ysgrif- ened pob un ei enw i lawr fel yn gefnogydd i'r sy- madiad, a threfner deiseb ddestlus yn enwau y gweithwyr oil, yn datgan eu dymuniad am i'r perch enogion wneyd Hyn yn ddioed fel na bo yr annghysur hwn yn blino gweithwyr Rumni mwyach. Yna eyf. lwyner y ddeiseb i un o'r perchenogion, os gellir, neu ynte, i'r prif oruehwyliwr. Mewn gobaith y gwnewch ymdrech buan y gorphwys yr eiddoch yn serchog. GWEITHTWR TYLAWD. I

--DYFFRYN LLA.NRWST. I

CYFARFOD LLENYDDOL ABERTEIFI.…

[No title]

OLIVER CROMWELL.

[No title]

GOHEBIAETHAU.

[No title]

CYSTADLEUAETH GERDDOROL CYFARFOD…

[No title]

J. LLOYD DA VIES, YSWAIN.

ICYFRIFIADAU A THWYLLIADAU…

ETHOLIAD SWYDD CAERFYRDDIN.I