Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

-NEWYDDION" CYMREIG. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION" CYMREIG. I CAPEL PATL MALI" LIVE ri'OOL.- Nos Fercher di, weddnf cynaiiwyd cyfarfod dirwestol yn y capel uchod, llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. William Jones, Piunibe street. Wedi i'r llywydd agor y cyfarfod a dywedyd ychydig o eiriau yn dra phwrpasol, galwyd ar y cor dan lywyddiad Ivlr. David Lloyd i ganu ton gynulleidfaol, yr hyn a wnaethant, yn ganolig, ond mae yn debyg fod yr amgylchiadau yn y rhai yr o«?d'lynt yn esgns dros hyny, gan nad oedd ond ych- ydig o'r nifer wedi ymgasghi yn nghyd. Galwyd yn gyntaf ar Mr. William Humphreys i areithio, yr byn B wneth mewn dull medrus a chanmoladwy wedi hyny canodd y cor "Dunkirk" (ton gynulleidfaol), ac arcithiodd Mr. Hoger Jones (Alarch Glan Conwy), ei destyn oedd yr hen ddiareb Gymreig—"Y ci a Jaddo ddefaid a grogir," felly y ci meddwdod yn lladd iechyd ac amgylchiadau dyn. Mae yn rhaid i ni feio ar yr araeth yma oherwydd ei meithder, ac hefyd nad oedd yr areithiwr yn trin ond pur ychydig ar ei destyn. Yna canodd y cor "Eheda, eheda," yn bur dda, oddieithr fod yr Air yn cael ei ganu yn glogyrnog ac anystwyth, ac nid oedd ylleisiau yn cordio yn dda yn yr ail ran. Wedi hyny g,-ti %N,vd ar Capt. Evanss Porthmadoc, yr hwn n areithiodd ychydig yn ol ei ddull difyr arferol. Diweddwyd y cyfarfod gan Mr. John Evans, a cbanodd y cor Hail smiling morn." Drwg genym weled y blaenoriaid eglwysig mor gysg- lyd yn nghylch v symudiacl canmoladwy hwn nid oedd yn y cyfarfod ond un o honynt, a drwg genym ddweyd, ychydig o wrandawyr. Cvmerwch gysur, ewch yn mlaen.-Gterandaivr. LLUNDAIN.— Dydd Mawrth diweddaf gadawodd aelodau chwech o'r ysgolicn Sabbothol Cymreig ddinas y tair milfil "am y Rye House, swydd Hert ford, He y cawsant bawb eu gwala a'u gweddill o'r hjyi a ddymunai eu calonau. Yn y ty yr oedd He i'r Bynafiaethwr i foddio ei gywreinrwydd gyda chynull iad o hen lestri ac arfau, ac ystafell y bradwyr a'r dseargelloedd, yn nghyda chasgliad o hen arluniau. Yn y gerddi yr oedd lie i'r anianyddwr gael syllu ar ei hoffus bethau, ac yn y caeau ac ar yr afon yr oedd He i'r rhai a geisient ddifyrweh ei gael, ac y mae yn dda'genym alia adrodd er yr holl chwareu, rhedeg, neidio, marchogaeth, a rhwyfo, na ddi^wyddodd nn ddamwain anngbysuros i neb o'r cwmni. Cyfri6d fod yno oddeutu wyth cant; yr elw i fyned at gronfa y capelydd. Buan y caffom y fath ddiwrnod eto medd- Gohebydd. GOGLEDD. LLANDRILLO, MEIRIO.N.-CyManfa yr Annibymoyr. -Cynaliodd yr Annibynwyr yn sir Feirionydd eu eymanfa flynyddol yn Llandrillo, ar ddydd Mercher dydd Ian, yr 17eg a'r 18fed cynfisol. Cynaiiwyd cynadleddan yn mha rai y cytunwyd ar benderfyn- iadau cysylltiedig A'r enwad yn y sir. Traddodwyd pregethau gan y Parchn. R. Hughes, Trallwm, R. Thomas, Bangor, E. Williams, Dinas, J. Owen, Llan- egryD, C. Jones, Dolgellau, J. Jones, Abermaw, H. James, Llansantffraid, a D. Morgan, Llanfvllin. Yn y dyffryn prydferth hwnw yr oedd yn hrydferth gwel- ed "tyrfa yn cadw gwyl," y rhai a wnaent i'r mynydd oedd oddiamsrylch adseinio "llais llawenydd a ,Ihon." Yr oedd y pregethan, rai o honyrt,yn nodedig iawn am cn nerth a'u heffethioldeb, ae ymddangosai y dorf luosog fel yn teim!o y dyddordeb mwyaf yn yr hyn a draethid. BHODDLAN. Cynaliwyd gwledd flynyddol cym- deithas gyfeillgar y meibion a'r merched ar yr 20fed o'r mis diweddaf; blaenorid y ddwy gymdeithas gan seindorf (band) cyflogedig yn ei gorymdaith i, ac yn ol o gapel y Bedyddwyr. Dechreuwyd y moddion trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Morgans, Dolgell- au. Pregethwyd ar yr achlysur gan Mr. Pritchard, Dinbycb, Wedi pregeth ddyddorol ae addysgiadol ar nalur a dyben undeb, yn nghyda'r lies sydd yn deilliaw oddiwrth hyny, aeth y dynion i gymeryd ciniaw danteithiol a barotowyd ar eu cyfer gan Mr. Thomas Jones, Mariner's Arms, a pharotowyd te blasus i'r merched gan Mr. P. Campbell, White Horse. Arfer y gymdeithas er ei sefydliad cyntaf oedd myned i lan y plwyf ar ddiwrnod y gylchwyl, ond rhyw fodd nen gilydd syrtbiodd yspryd diwygiad ar y gymdeitbas y waith bon, fel y maent wedi pen- derfynu cael o hyn allan bregeth gan rhyw bregeth- wr Ymneillduol teilwng i'r amgylchiad. Lewis Davies. CYXANFA TR ANNIBYNWYR SIR GAERNARFON.—Cy- naliwyd y gymanfa hon yn Bethel, ger Caernarfon' ar yr 17eg a'r ISfed cynfisol. Preuethodd Y. Ilarelin- Thomas, Birkenhead, Roberts, Pentievoelas, Wil" liams, Brymbo, Griffiths, Abertawe, Griffiths, Caer- Rybi, Rees, Liverpool, Edwards, Aberdar, Morgans' Sammah, Mathews, Castellnedd, a Morris, Dryn- gwran. RHYL.—Gwthio llorif] i'r mor—Dydd Iau ymgyfarfu canoedd o bobl yn y Foryd, Rhyl, i edrych ar whiad o llong "Baltic," Cadben Jones. Yr oeddid wedi ffhelu ei chael i'r dwfr ddydd Mercher oherwydd rhyw ddigwyddiad. Enwyd y llong gan Miss Jones, merch Mr. Jones yr adeiladydd, Liverpool, a llithrodd yn brydferth i sianel y VOIjd, yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth. Dyma y llong gyntaf a adeiladwyd yn y Rhyl, ond nid yw yn debyg o fod y ddiweddaf, gan fod y gwaith o adeiladn liongau yn debyg o gael ci ddwyn yn mlaen yma gyda bywiogrwydd mawr. FFLINT.—Ba gan yr Odyddion wyl fawr yn y Ile hwn, cafodd rhai o bonynt bregeth yn yr eglwys gan y Parch. H. Parry, a'r lleill ofFeren yn eglwys Babyddol St. Mary gan rai o dadau Parchedig Pantasa. CYMANFA T MAIN, MEIFOD, L)IALDWYN.-Cynall* wyld y gymanfa hon Mehefin lleg a'r 12fed bu y gyna 11- edd am 2 dydd lau, y Parch. W. Griffiths, Caergybi, yn gadeirydd, a'r Parch. D. Evans, Penarth, yn ys- grifenydd. Penderfynwyd y pethau canlynol:- I Fod y gymanfa y flwyddyn nesaf i fod yn Sammah, Cem- maes. 2 Fod y Parch. D. Evans, Penarth, i fod yn ysgrifenydd y sir yn lie y Parch. S. Roberts, G.C. 3 Fod llythyr o gymeradwyaeth i gael ei roddi i'r I>arch. Joseph Jones, Sardis, Llanwddyn, ar ei Bjniudiad i Bristol. 4 Fod adroddiad y Parch. H. Ames. Liansantffraid, o'i gasgliadau at gapel Llan. ernn yn foddhaol a derbyniol. 5 Fod egwyddorion a efcyBllunian y "National Newspaper League Co. saewttcysylltiad a'r "Dial" yn ganmoladwy ac yn deilwng o gefnogaeth. 6 Fod y gynadledd hon yn dymano datgan eu cydymdeimlad dwysaf A'r hybarch Mr. Morgan, o Lanfyllin, yn ngwyueb amgylchiadau heDaint ac afiechfd, y rhai sydd wedi ei osod dan yr 4lgearheidrwydd i roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny, ac o jherwydd ei aberthau mawrion, ei lafur diflino, a'i ffyddlondeb parhaol yn Dgwaith ei Argl- vydd mewn cysylltiad a'r enwad y perthyna iddo, yn cjdwybodol farnu ei fod yn wrthddrych o'r fath deil- yngaf i dderbyn tysdeb gyhoeddus oddiar law yr onwad hwnw, ac yn ymrwymo i egniol gydweithredu «r .dwyn oddiamgylch yr amcan uchod. 7 Fod y pononau canlynol i yraffnrfio yn bwyllgor er dwyn oddiamgylch y cyfryw ddvben,—Trysorydd.R.Tibbott, Y,sw. Tsgrifenyddion, Parch. D. Evans, Penartb, a II. C. R. Jones, LlanfyIlin; Executive Committee, Parchn. W. Roberts, Penybontfawr, H. James, Llan. •antffraid, E. Thomas, Meifod, R. Hnghes, Welsh- pool, E. Joues, Ysw., Rhiwius Am 0 dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. M. D. Morgans, Wolrer- liapipton, a phregethodd y Parcbn. W. Jenkins' Brynmawr, a R. Thomas, Bangor. A 9 yr ail ddydd, yn y boreu, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. H. Morgans, Sammah, a phregethodd y Parchn. W. Griffiths, Caergybi, a J. Jones, Machynlleth, (yn Saesoneg;, a D. Griffiths, Bethel, ger Caernarfon. AM 2 dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Wil- liams, Aberhosat), a phregethodd y Parcbn. W. Jenkins, a R. Thomas, Bangor. Am 0 decbreuwyd gan y Parch. D. Evans, Penarth, a phregethodd y Parchn. W. Griffiths, Caergybi, a D. Griffiths Bethel. Yr oedd v gymanfa yn llnosog ac yn boblogsidd iawn, y pregethau yn efengylaidd, ymarferol, doniol, a nerthol, a chafwyd caredigrwydd anarferol gan eg- lwyswyr, Trefnyddion Callinaidd, a Wesleyaid. Hyderwn y gwelir effeithiau dymunol ar ol y gymanfa er argyboeddi y difraw a'r anystyriol, ac adeiladaeth a ohynydd cyffredinol yr eglwysi. LLASFSCHELL, MON.—Cynalwyd cymanfa dda gan yr Annibynwyr yn y 1113 hwn ddydd Iau a dydd Gwener, yr lBred a'r llleg o Fehefin. Y noson gyntaf preg- ethodd y Parchn. Jones, Penmotfa, a Rees, Liverpool. Yr ail ddydd, am G y boreu, yn y capsl, y Parchn. Williams, Wrexham, ac Ellis, Brithdir; am JO, ar y maes, y Parchn. Stephens, Dwygyfylchi, a Rees, Liverpool; am 2 y Parcbn. Edwards, Aberdar, Mor. gans, Samah, ac Ellis, Brithdir; am 6 ar y maesy Parchn. Thomas, Birkenhead, Roberts, Pentrefoelas, a Roberts, Caernafoa. Yr oedd y pregethau yn rym- us, y gwrando yn astud, a thipyn o arwydd fod y gwlith nefol yn disgvn.—Gicilym Teqog. CYXANFA Y BEDYDDWYR CAERGYBI. — Bedyddwyr Mon a gynaliosant eu eymanfa flynyddol eleni yn Nghaeraybi, 1Iehcfin 2Hain a 2lain. Am 2 o'rgloch y prydnawn cyntaf cynnliwwl cynadledd, pan yr ceJd gweii'.idogion a'r cenadon oddiwrth y gwahanol eu. lwysi yna yn fcrydlon, ac mewn llawn yspryd gweithio. Cafwyd ar ddeall fod heddweh a chaviad yn ilynti trwy yr eglwysi, a bod yr achos, er yn raddcl, ar ei gynydd. Deailv.n y bydd y gymanfa nesaf ar yr amser arferol yn Amlwch Am 6 ymgasglodd tyrfa luosog ar v rones er bwys y dref, pryd y dechrenodd 7 Parch. Hugh Wiiliams, Amlweb, trwy ddarllen a gweddio, a phregethodd y Pilrchn. David Evans, Drefnewyad, a Thomas Rees Davie3, Llansantffraid. Dydl Mercher am 0 y boru, yn y capei, dechreuodd y Parch. Thomas Hughes, Penssrn, a phregethodd y Parchn. John Dav:es, Llynlleifiad, a Robert Roberts, Tabernacle, Merthyr. Am haner awr wedi wyth bu cynadledd gan y gweinidogion a'r cenadon YD y cape]. Am 10 ar y maes, dechreuodd y Parch. David Tho- mas, Llangefni, a phregethodd y Parchn. John Phillip3 Williams, Blaenywaen, a John Pritchard Llangollen am 2 eto ar j maes, dechreuodd y Parch. Henry Morgan, Dolgellau, a phregetliodd y Parchn. Davi-i R. Jones, Rumney, a David Evans, Drefnew- ydd fivn 0 drachefn ar y maes, dechreuodd y Parch. Ezeciel Jou-rs, Rhydwyn, a phregethodd y Parchn. Ijevi Thomas, Arberth, a John Phillips Williams, I Blaenywaen. Yr oedd hon, yw y dywediad eyffredin, yn un o'r cymanfaoedd lluosocaf o bobl a ganfuwyd er ys llawer o flvnyJdan yn Mon. Bernir yn gytf. redin bod yno o OoGO i 10,0 "0 o ddynion wedi cwrdd ar y mfles i wrando geiriau bywyd tragwyddol. Tyst- ia gwahariol enwadau y dref, er fod y dorf yn gasgl- edig o wahanol fanau, na welsant fwv o weddeidd,dra wrth ddyfod, tra yn y dref, ac wrth ymadael, heb gellwair, nac argoelion yfed diodydd meddwol ar neb ond un, Gwyddel oedd hwnw, heb fod yn y gymanfa, rhwng y Priest ax ef i setlo ei dynged. Dygwyd y gymanfa yn mlaen yn y m i ■ areu. Yr oedd hon yn un o'r cymanfaoedd goreu vn pregethau, preg. ethu, gwrando, a d,1 n v 1 nei d. Cyflwyna y frawd- oliaeth y diolchg uv. resocaf i'r Chester & Holy- head Company am drains 2-had, i'r Meistri Rigley am ganiatau i'r gweithwyr sydd wrth y pier i ddyfod i wrando, ac yn neillduol i Dr. Walthew am roddi benthyg y maes yn rhad lie y cynaliwyd y gymanfa, i drigolion y dref o wahanol enwadau am eu lletygar wch a'u caredigrwydd i ddieilhriaid, ond yn benaf oil i Dduw am ei brcscnoldeb neillduol, a'i wenau ar y gymanfa.—J. L. BAN Gor,B wriedir gwneuthur llawer o amlygiadau o lawenydd yn y gymydogaeth hon nr yr achlysur o ddyfodiad George Sholto Douglas Pennant, Ysw., o Gastell y Penrhyn, i'w oed. Y mae pwyllgor wedi ei tfuifio i'r dyben, a llawer iawn o arian wedi eu tanysgrifio. LLANGEFNI, Mehefin 28, 18-)-i.-Cafodd y Parch. D. Rhys Jones, gweinidog y Bedyddwyr y Rumni, alwad unfrvdol oddiwrth eglwJs y Bedyddwyr yn Ebenezer, Llangefni, a theimlir gobaith pryderus y bydd i'r hen weinidog parchus ddod atom yn fuan.— Un o'r brodyr. DEHEUDIB. I CASTELLNEWYDD EMLYN.—,NOS Fercher yr 17eg o'r mis presenol, traddodwyd darlith ar Ofergoeledd Cymru," gan y Parch. J Thomas, Liverpool, yn nghapel Brynseion, ger Castellnewydd yn Emlyn; llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. Mr Price, Blaen- flos, gynt o Liverpool. Canodd cor y lie amryw anthemau ar yr achlysur. Trinodd y darlithiwr ei bwnj mewn modd poblogaidd iawn, ae yr oedd ryw gyfanrwydd neillduol yn y cwbl. Tair ffynonell gwy. bodaeth y sydd, meddai, profiad, casgliad, a thyst- ioaeth. Cawsom engreifftiau tarawgar ganddo ar y penau hyn. Arweiniodd ni yn naturiol at ei destyn, pa un a ranodd efe i bedwar dosprrth-dewiniaeth, swyngyfaredd, blaenarwyddion o ddigwyddiadau, ac ymrithiad ysbrydion. 0 dan y pen cyntaf daeth y dyn bysbys, o dan yr ail, rheibio, ffynon Elian (des- grifiad o ba un fuasai yn dderbyniol iawn i'r rhan fwyaf c'r gwrandawyr) o dan y trydydd, canwyllau cyrph, & o dan y pedwerydd pen, bwgan, bwcci, & Wrth iddo fyned dros y rhai hyn yn ei ddull darluniadol ef, yr oedd arwyddion amlwg i'w canfcd arnom mai plant ein tadau oeddem. Yna, addefai y darlithydd fodolaeth ysbrydion, dylanwad ysbrydion ar ddynion, a'r posibliwydd fod ysbrydion da yn cael P.u danfon, ac ysbrydion drwg yn cael eu goddef, i wneyd eu liymddangosiad i ddynion. Ond gofynai gyda phwys, fod y dyben yn cyfateb i'r moddion. Cawsom ecgreifftiau dyddorol ar y rhan hon o'r ddarlith; cyfarfyddai a'r holl honiadau ag oedd yn cael eu gwneyd mewn tair ffordd :-Y mae llawer yn dywedyd celwydd gyda'r dyben i dwyllo. Cafodd yr hen wrachod eu trin yn y fan hon, ac yr oedd y dar- lithiwr yn neillduol o ddifyrusyn ei ddull a'i faterion wrth eu hengreifftio. Y mae llawer yn dywedyd pethau a gredir ganddynt hwy, ond y maent yn cael eu twyllo. Dynion gweinion ac ofnus eu hysbryd. oedd oeddynt yn cael eu trin yn y fan hon. Y mae llawer o bethau hyncd yn cymeryd lie, yn annghyf- rifol ar y pryd, ond yn cael eu hesbonio gan an ser. Yr oed(I ei ffeithiau i eglurhau hyn yn ddyddorol iawn. Yna sylwodd ar pa fodd yr erlidiwyd yr ofer- goelion hyn o Gymru. Un moddion oedd y wasg Gymreig. Coffhaodd am Gomer a Brutus. Modd- ion arall oedd yr ysgol Sabbothol, a'r olaf a enwodd cedd dylanwad y pwlpud. Wrth derfynu dymunai y darlithiwr weled ofergoeledd yn cael ei gladdu (vn fyw, debygem), a'i gwyneb i waered, fel y crafai iddi hi ei hun ei bedd, fyth fyth yn ddyfpach, nes soddi i fythol ebargofiant. Yr oeddy capel yn orlawn a'r gwrandawiad yn astud. Defnyddir yr ehv er harddu ac addasu yr addoldy.—Prnfelvn. YSTr.AI)GY-,LAIS. -Diricest.Ymwelvvyd a'r He hwn prydnawn dydd Sadwrn wythnos i'r diwedd. af gan gorau dirwestol Cwmtwrch a'r Wernfawr, ar eu ffordd i gyfaifo 1 dirwestol a gynelid yn nghapel y Methodistiaid Calvinaidd Cwmgiedd. Wedi cyraedd y capel cymeradwywyd Mr. D. Williams i'r gadair ejlurodd ein bod wedi cael siomedigaeth yn yr ar eithiwr cyhoeddedig ond y gwnelid y goreu o'r gwaethaf, ac anerchwyd y cyfarCod yn bwrpasol iawn gan Meistri J. Richards a J. Howells. Canodd y corau, yn nghyda chor Cwmgiedd, "Teilwng yw'r Oen," (Handel), "Traetha fy nghalon," (0. Alawl, a'r Hafan ddymunol," a llawer o ddarnau eraill yn dda iawn, ac wedi taflu pob peth at eu gilydd, ystyr- iwn ei fod yn gyfarfod da. Talwyd diolchgartvch i'r corau am ymweled a ni, a therfynwyd trwy weddi.— Cledwyn. CYMANFA Y BEDYDDWYR YN MORGANWG.-Cynaiiwyd y gymanfa hon yn Nghwmafon ddydd Mawrth a dydd Mercher wythnos i'r diweddaf. Oddiwrth y cyfrifon ymddengys y pertbyn i'r gymanfa 84 o ganeli, 10 o orsafoedd, 70 o weinidogion, 45 o ysgol- ion Sul, 10,127 o ysgolorion, 1,329 o athrawon, ac 11,122 o aelo lau eglwysig, yr hyn sydd gynydd mawr ar yr enwad yn y sir yn ystod y flwyddyn. Heblaw y lluaws gweinidogion a bregethasant o gwmpas y lie, prcgetbodd y rhai canlynoI yn yr awyr agored: Y Parchn. Owen, Canton; Francis, Cowbridge; Jones, Tongwynlais; Evans, Hirwaun Thomas, Caerdydd; Jones, Merthyr Price, Aberdar Dr. Thomas, Pont, ypwl; Lloyd, Mert iyr; ac amryw eraill, i dyrfaoedd Uuosog ac astud.. YSTRAD dyma enw go anngbynefin i lawer o ddarllenwyr yr Amserau, ond y mae yn debyg o ddyfod yn fwy cynefin o hyn allan. Mae y Cwm yma wedi bod dros yr holl oesoedd a'r cenhedl- aethau sydd wedi myned heibio heb lawer o gyniwair trwyddo nid oedd un ffordd i fyned iddo nac o hono braidd, dim ond ffyrdd heb waith llaw, dros benau mynyddoedd, a rhyw hen ffordd gul gam sydd wedi bod yn rhyw fatho dramwyfa trwy waelod y cwm fel y sylwodd Mr. Harris, Merthyr, yn y Dinas yn ddiweddar wrth bregetbu yn ei ddull tarawiadol, ond priodol iddo ei bun, oddiwrth y geiriau "Myfi yw y ffordd," &c., Fe wyr pawb rywbeth am ffordd, ond chydig wyddoch chi yma am ffordd, wath 'does yma ddim un i'w chael." Ond yn awr y mae y cledrffyrdd wedi dechreu gwasanaethu ar drigolion y cwm unig ac annghysbell yma, a gweithfeydd newyddion mawr- ion yn cael eu hagor ynddo, a llawer iawn o ddynion a'u hwynebau tuag yno, "oblegyd lie byddo y gelain yno yr ymgasgl yr eryrod." Mae hyn wedi rhoddi lie i drigolion Cwmyrystrad i gredu fod rhyw fydoedd eraill heblaw eu byd bach hwyyn bodoli, a bod rbyw luaws o drigolion yn cyfaneddu yn rhywle y tuhwnt i derfyngylch Cwmyrystrad, a bod chwaneg nac un iaith ar y d daear, a hod mwy na dwy neu dair o bleidiau crefyddol yn bod yn y byd. Mae yn wir fod Llan yr eglwys wladol yn Nghwmyrystrad er ys oes- oedd a chenhedlaethau lawer, ac hen achos gan y Bedyddwyr yno hefyd ond yn bresenol y mae yma amryw o Annibynwy* a Methodistiaid wedi dyfod i breswylio, ac heb un He i addoli, na gweinidogaeth gyson cbwaitb. Mae yn wir fod boneddwr haelfrydig, percheneg gwaith glo Gelligaled, wedi adeiladn ty coed ar ei draul ei hun, ao wedi ei roddi i'r Annibyn- wyr a'r Methodistiai I i gynal moddion gras ynddo mor amled ag y gallont, ac wedi eu hanrhegu a llyfr- au at wasanaeth yr ysgol Sul; dymunem iddo bob llwydd yn y byd hwn, no yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol. Yr ydym wedi cael lie i ddeall fod yr Annibynwyr wedi dechreu hwylio at gael capel, mae y tir wedi ei gael ganddynt; flC y müC rhyw siarad rhwng cwsg ac effro yn mysg y Methodistiaid am hyny hefyd, ond beth yw yr achos eu bod mor araf yn ei gylch ? Geliir bod yn siwr fod gwir augen am wneyd, a bod yn llawn bryd i ddechreu gwneyd rhywbeth ballacb. Mae yn weith ei goffao fod gwr cyfrifol yn byw yn yr ardal wedi dweyd fod tir i'w gael at adeiladu capal i'r Methodistiaid, ac ar delerau rhesymol, ac y bydd iddo roddi Ilety i bregethwr a'i anifail mor fynych ag y mynont; onid ces yma ddrws wedi agor o led y pen ? a phaham na chynorthwyir ni yn fuan ? Y Sabboth diweddaf oedd un o'r Sflb. bothau mwyaf dymunol a gawsom wedi dyfody ma, ac yr oedd yn un o'r rhai goreu a gawsom yn ein bywyd o ran hyny; yr oeddem wedi cael addewil ■}fin Mr. 11. Saunders, Aberdar, i ddyfod atom, ac yu 01 ei addewid fe ddaeth, er gwneyd aberth. Y bore un 10 adroddodd ysgol fechan y Jl;) y 4edd bennod II o'r Hvfforddwr, a phregeth yn y ty coed. Erbyn 2 daeth ysgol y Dinas yn llu banerog dan ganu nes lad.-einio yr holl fro, as ar y maes fe gyna'iwyd math o gvrnanfa fechan yn yr awyr agareiid, ac yr oedd ma lawer yn gwrando na welwyd mo honynt yma o'r hlaen. Holwyd ae atebwvd yr Med bennod o'r Flyfforddwr yn rhaorol, yr oedd yr holi a'r ateb i bwrpas, ac agwedd pawb yn tystio eu hod wrth eu bodd. ac yr oedd llawer grudd sych wedi cael eu gwJvchu gan ddagrau cyn diwedd y cyfarfod. Yn yr hwvr drachefn, ar y maes, cawsom bregeth a'i thu- 3dd i'n cysuro wrth feddwl ein bod gydag achos sydd yn sicr o lwyddo a rayne 1 yn benmoliant ar y ddaei-r. Aeth ysgol y Dinas atfref dan ga.nu, gan adael tyst iolaeth dda ar eu hoi nad *oedd cvmaint ag un o honynt yn addoiwyr Bacchus. Yr Arglwydd a'u bea dithio.-Tyst. LLANARTII.—Ystorom d(lychrynilyd o fellt a tharan att-Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf ymwelwyd a'r cymydogaetliau hyn gan ystorom ddychrynllyd o fellt a tharanau. Parliaodd o haner dydd ddydd Sadwrn hyd oddeutu 6 o'r gloch lore Sul. Yr oedd y mellt mor amled, a'r taranau mor agored hyd nes oedd yn wir ofnawy. Cafwvd cryn lawer o golledion gan y mellt a chan y llifeiriant. Dywedir fod pump neu chwech o dai yn y Ceinewydd wedi cael niwed gan y mellt. Daeth mellteii i mewn i dy bychan gerllaw Dyhewyd o'r enw Penvbont trwy dalcen y ty. Llo3g wyd ysgubor berthynol i David Jones, Pentre, Bron- fre, gerllaw Neuaddlwyd, a'r hyn oedd yndli yn ulw. A pheth gwaeth na'r un o'r pethau crybwylledig, lladd wyd bachgenvn bychan, hugail yr Alltgoch, Llanwenog, gan fellten. Y mae liawer o hen bobl yn .dweyd nas gwelsant ystorm mor angerddol yn parhau c'yhyd eriood.Ifichael. MERTHYR TYDFIL.—Difjrwch.—Yr hyn sydd yn tynu sylw ac yn synu trigolion ein tref yr wythnos hon yw ffugwyrthiau Madame Bo-co, y Ddewinies e iwog. Mae yma er nos Lun (22ain) ac i harhau hyd nos Sadwrn o ieiaf. Cynorthwyir hi yn nyddor- iad y cynulliadau gan y Poffeswr Millar ar y chwi- hanogl, a Miss Kemble yn dadg;inu ei dewis gerddi. Mae yn ddiau fod llawer o fedrusrwydd a thalent ragorol yn amlygedig yn nghampau y foneddiges uchod, a llawer o'i chylFolyb, yn y ddwy ystlen, a fynych ymwelant a'n trefi, a phe cymhwysid hwynt at orchwylion defnydrJi01, gallai y cyfryw fod yn fen. dithiol i gymdeithas r. 1 fel y maent, os nad ydynt yn niweidiol, maent }d ddiles hollol, feddylem ni. MERTHYR TYDFIL. Arddangosfct.- Hyfforddir y cyhoedd gan hysqysleni mawrion ar y muriau, ac yn ffenestri maelfeydd y dreffod arddangosfa ddof adarol, llysieuol, a blodeuol, i'w chynal eleni yn Nghae y Post office ar y 19eg o Awst. Mae cyfres fawr o wobrwyon yn gynygiedig i'r neb a ragorb yn meith- riniad y gwrthddrychau a nodir, mewn anifeiliaeth, ilysieuaeth, &c. Hai ati, gymydogion, gall hyn fod yn lies personol a chymdeithasol. i MERTHYR TYDFIL.—Gwibdaith.—Mynegir i ni fod gwibdaith oddiyma i Landeilo, swydd Gaerfyrddin, gan ddirwestwyr y gymydogaeth ar y 6ed o'r ltiis presenol; y tal yw 3s. 6c. Os oes bwriad gan neb am dro i'r wlad eleni, yn awr am dani os ydyfch yn earn gweddeidd dra a golygfeydd swynol. CASTELL, LLWYNDAJFYDD.—Cynaiiwyd cyfarfod cy. hoeddus yn ysgoldy y lie hwn Meh. 22ain, mewn cysylltiad a sefydiiad cymdithas lenyddol i'r gymyd- ogaeth cynygiwyd a chefnogwyd y Parch. E. Jones, Llandissiliogogo, i'r gadair gan Mri. Evan Evans, Ysguborfawr, a J. Parry, Ffynonlefrith, yr hwn a agorodd v cyfarfod mewn araeth synwyrlawn a phwr- pasol ar ddyben sefydiiad y gymdeithas, yn nghyda'r lies a ellid ddisgwyl i ddeilliaw oddiwrthi trwy ych- ydig ymroad, ffyddlondeb, a chydweithiediad ar ran yr aelodau a'r swyddogion. Yna galwodd ar ddau o aelodau cymdeithas lenydrlol y Ceinewydd i anerch y dyfarfod, sef Mri. D. H. Davies, druggist, a D. Timothy, draper, yr hyn a wnaethant er mawr ddi- fyrwch y cyiarfnd y cyntaf ar Gyfeillgarwch a'r olaf ar "Genfigen." Ynnesafdarllenoddyeadeirydd y rheolau er mwyn cael cydsyniad y cyfarfod iddynt. Ymrestrodd lluaws yn aelodau o honi. Hyderwn y bydd y cyfarfod hwn yn ddechrenad na bydd diwedd arno yn fuan. Teimlwn awydd i'w llongyfarch yn newisiad eu llywydd, sef cadeirydd y cyfarfod uchod. Nid yn fynych y cyfarfyddir a chlerigwr mor rydd- garol a gweithgar a Mr. Jones. Pe yr efelyehid ef gan ei frodyr yn y weinidogaeth byddai eu parch yn llawer nwch yn ddiau. CEINEWYDD.—Ymwelwyd a'r lie hwn a'r gymydog- aeth ddydd Sadwrn Meh. 20fed ag ystorm ddychryn- llyd o fellt a tharanau, yn nghyda llifogydd mawrion na welwyd eu cyffelyb braidd yn nghof dynion. Tor- odd y inellt i mewn i amryw o dai yn y dref gan ddinystrio a dryllio y ffordd y cerddent—tori gwydr y ffenestri, dryllio y gwydrddrychau a llestri, yn nghyd a hollti a thyllu y muriau cerig-, a lluchio y llechau oddiar benau y tai yn deilchioo. Y dynion cryflon a mwyaf anystyriol yn gwelwi gan ofn. Parhaodd braidd yn ddiatal am oddeutu 12 awr. Y tai a gaw sant niweidia o bwys oeddynt eiddo Capt. J. Phillips, Marys," a Capt. John Davies, "Llaethlyw," y Pros- pect House, London House, a'r Morfagwyn. Ond yn ffodus, trwy ofal Rhagluiaeth, ni dderbyniodd neb o'r preswylwyr un niwed o bwys, mwy na chael eu dychrynu. ABERTEIFI.-Sonid llawer yn y dref hon er ys amser am ganu Aberystwyth." Awyddid yn fawr gael clywed cllr cerddorol y Tubernacl yn canu, oddiar y dybiaeth ei fod yn un o'r corau goreu yn y Dywys- ogaeth. O'r diwedd cafodd y dymuniad ei gyflawni. Talodd y cor ymweJiad ag Aberteifi a cliynaliwyd dau gyngherdd yn y Town Hall ganddynt, nos Iau a nos Wener, y 25ain a'r 26ain o Fehefin, dan lywydd iaeth Mr. Daniel Jones, nid oeddynt yn bwriadu aros ond un noswaith, ond ar ol eu clywed gwnaed cais taer arnynt i aros dros un noswaith yn rhagor, ac felly y bu.ac os oedd ycanuyn dda y noswaith gyntaf, creawn ei tod yn llawer gwell yr ail drachefn. Llyw- yddid y cyfarfod nos lau gan Mr. David Davies, Pen- morfa, mewn dull difyrus dros ben, nid ydym yn cofio gweled gwell cadeirydd mewn cyfarlod erioed. Llanwai y cyfryngau rhwng y canu a'i ddywediadau hynodol, weithiau yn gywir ac weithiau yn wallus, nes cadw y gynullei ifa luosog yo y teimladau mwyaf cysurus dros yr holl amser. Canodd y cor y darnau canlynol :-The King shall rejoice (Handel), Lord, for thy Tender mercies' sake (Tarrants), Who comes S3 dark (Trio, Dr. Calcott), Traetha fy nghalon (J. Owen) 0 thou that tell est good tidings to Zion (Handel),God is goneup( Mozart), Lift up your heads (Handel), In native worth (Haydn), Achieved is the glorious works (Haydn), Can ymorwr (I D. Jones), He gave them hailstones for rain (Handel), Hear my prayer, 0 God (J. Kent), Can Debora a Barac (J. Owen), Behold the Lamb of God (Handel), 0 sing un+o the Lord (Dr. Clark), Aelwyd fy Mam, In Jewry is God known (Dr. Clark), On thee each Jiving sotil awaits (Haydn), The Heavens are telling (Hvdn), Thou shall break them (Handel) Halelujah Chorus (Handel), ac amryw eraill; ac yn wir nid ydym yn cofio gweled cynulleidfa yn cael ei bod,dhau yn well erioed. Ni bu ymweliad y cor a'r dref yn foddion mewn un modd i'w darostwng, ond i'w dyrchafu yn fawr. Tystia pawb fod y canu yn tra rbagori ar ddim a glywsant erioed yn y parthau hyn, er fod yma rai corau rhagorol i'w cael. Carem gael ymweliad yn fuan eto. Llwyddiant a hir oes iddynt.-Teid. HIRWAUN.-Prydnawn dydd Mawrth y 23ain o Fe- hefin rhoddwyd yr ergyd fwyaf a fu yn y gymydogaeth hon erioed, er rhyddhan y graig gerig calch at was- anaeth y ffwrneisiau sydd yn y lie hwn, eiddo F. Crawshay, Ysw., trwy ofterynoliaeth 10,000 o bwysau, neu bum tunell o bylor a roddwyd mewn ystafell yn yn y graig. Bernir ei bod wedi rhyddhau o saith i wyth mil o dunelli o gerig; mae wadi eu taflu yn garnedd ar draws eu gilydd nes llanw y chwarel, fel y gall dyn ei gerdded o'r gwaelod i'r top, yr hwn sydd yn dair Hath a deugain o uchder. ac yn gan Hath o hyd. Mae yr olygfa yn rhyfeddol arno i'r sawl nad ydynt yn arferol a gweled pethau o'r fath. Yn y prydnawn bwn yr oedd canoedd o ymwelwyr, yn mhlith pa rai yr oedd Francis Crawshay, Ysw., John Bird, Ysw., y boneddigion George Kirkouse, Nicholas Allen, Ysw., David Jones, Ysw., William Powell, Ysw., ac amrayw eraill o foneddigion nad oeddwn yn eu had nabod.- Cliwarelwr.

,AMAETHYDDIAETH.

j BARDDONIAETH.

Family Notices

INODIADAU CREFYDDOL.I

ICYLCHWYL HANDEL.''-